Agenda item

Cynlluniau Meysydd Gwasanaeth 2022-24

Cofnodion:

Gwasanaethau Plant 

 

Gwahoddwyd: 

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol- Sally Jenkins  Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc- Natalie Poyner 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. 

 

Cwestiynau: 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am y Tîm Rhyngwladol gan nad oedd unrhyw amcanion lles na dyddiad a ragwelwyd ar gyfer cwblhau. 

       Yroedd y tîm hwn yn cael ei ddatblygu oherwydd y nifer fawr o geiswyr lloches sy’n cyrraedd y porthladd, yn aros mewn gwestai, ac yn symud ymlaen. Mae eraill yn cyrraedd ar hap. Yr oedd rhai teuluoedd Heb Allu Cyrchu Arian Cyhoeddus, ac y mae gan yr awdurdod ddyletswydd i’w cynnal. Felly, roedd angen tîm i gefnogi’r anghenion hyn, ond ni fyddai hyn yn costio’n ychwanegol oherwydd bod y Swyddfa Gartref yn darparu arian ar gyfer pob plentyn sy’n ceisio lloches. 

       Cadarnhawydfod fformat gwahanol i’r adroddiad yn cael ei anfon i’r Pwyllgor a bod y Tîm Rhyngwladol  yn dod dan Amcan Lles 3. 

Llongyfarchodd y Pwyllgor y gwasanaethau cymdeithasol am y modd maent yn cefnogi teuluoedd o Wcrain mew ffordd ardderchog. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ail-strwythuro’r Timau Amddiffyn Plant. 

 

       Yroedd 4 tîm Amddiffyn Plant o’r blaen, ond yr oedd galw cynyddol am gefnogi  rhai yn eu harddegau, a rhai pobl ifanc yn rhan o Gam-fanteisio ar Blant. Yr oedd Tîm newydd yn cael ei ddatblygu fyddai’n fwy dwys ac yn gweithio gyda phlant 10 oed a h?n, gyda llai o faich achosion i atal y plant hynny rhag mynd i ofal. Yr oedd Rheolwr Tîm eisoes yno, a byddai gweithwyr cymdeithasol sy’n uwch-ymarferwyr yn symud drosodd i’r tîm hwnnw. 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd llawer o ymwneud rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a Phenaethiaid ysgolion.

 

       Gwnaeth  tîm y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ymchwil yn ddiweddar oed dyn edrych ar batrymau ymddygiad trwy olrhain rhai pobl ifanc, ac yr oedd clwstwr yn Llanwern oedd yn gweithio gyda phlant bregus. Y canlyniad oed dy gwelwyd fod gan y bobl ifanc anawsterau iaith a lleferydd oedd yn heriol yn y blynyddoedd trosiannol. 

Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd canran y plant oedd yn aildroseddu 

 

       Nifer fach iawn o blant oedd yn cael eu cefnogi ar orchmynion yng Nghasnewyddyr oedd 17 i 18% yn gwneud gwaith ataliol gyda llawer o weithgareddau. Yng Nghasnewydd, mae proses o’r enw Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol sy’n mynd â’r plant hyn i Banel i’w hatal rhag cael eu masnachu, etc., a’u rheoli mewn ffordd fyddai’n eu hatal rhag aildroseddu. Yr oedd y pecyn cymorth hefyd yn cael ei adolygu gan y rheolwr gwasanaeth. 

       Cadarnhawyd y byddai’r tîm, wedi ei ailstrwythuro, yn gyflawn erbyn Mawrth 2023. 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd llawer o blant anabl mewn gofal. 

 

       Ychydigoedd mewn lleoliadau gofal. Mae gan y system 20-30 mewn gofal. Yr oedd rhai o’r rhain yno gyda chydsyniad y rhieni, a rhai gyda rhieni nad oedd yn gallu gofalu amdanynt oherwydd eu hanghenion eu hunain, felly roedd y plant hynny wedi eu hesgeuluso. Rhain yw’r plant gyda’r anghenion mwyaf cymhleth, ac nid oedd digon o lefydd. Hefyd, byddai’n rhaid i unrhyw ddarparwyr oedd yn gwneud elw o ofal maeth roi’r gorau i weithredu. Yr oedd y tîm yn dibynnu ar ddarparwyr i roi gofal i blant anabl,. Ac yr oeddent yn gweithio gyda Gweithredu dros Blant i ddatblygu darpariaeth breswyl. Cafwyd trafodaethau gyda’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol am gyllid cyfalaf i’n plant anabl ddychwelyd i Gasnewydd. Byddai disgwyl i’r ddarpariaeth bresennol roi’r gorau i weithredu.

Gofynnodd y Pwyllgor pa ganran o blant oedd y tu allan i Gasnewydd.

 

       Yroedd 20 o blant , rhai yn anabl, mewn gofal preswyl, gyda llawer mewn gofal maeth y tu allan i Gasnewydd. Lleolwyd rhai o’r plant  hyn yng Nghaerffili a Thorfaen mewn gofal maeth. Yr oedd tîm y Plant Anabl yn cefnogi 360 o blant i gyd, felly roedd y nifer yn fach. 

Holodd y Pwyllgor a oedd unrhyw leoliadau heb eu cofrestru. 

 

       Ar hyn o bryd yr oedd 3 o blant mewn lleoliadau heb eu cofrestru, gyda 2 leoliad wedi eu nodi i’r plant hyn fydd yn symud toc. 

       Dywedodd y Pwyllgor nad yw hyn yn foddhaol a gofyn a all y Pwyllgor gael adroddiad am wneud i ffwrdd â’r lleoliadau hyn.  

       Gofynnodd y Cyfarwyddwr Strategol am gyflwyno adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor fyddai’n esbonio hyn yn fanylach. Yr oedd y Tîm yn glir  eu bod yn gweithio Gydag Arolygiaeth Gofal Cymru o fewn y fframwaith. 

Gofynnodd y Pwyllgor am adawyr gofal ac a oedd tai yn cael eu darparu iddynt pan fyddent yn gadael gofal. 

 

       Cadarnhawydfod stoc fawr o lety gyda pheth cefnogaeth, a bod darparwyr eraill ar gael hefyd. Bu 2 ddarpariaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, un i rai 16-18 oed, un ddarpariaeth 24 awr, ac yr oedd y llall i rai 18+ er mwyn i’r rhai oedd yn gadael gofal drosi yn ddiwnïad. Yr oedd y tîm hefyd yn gweithio gyda Pobl, sef darpariaeth i rai 16-18 oed, ac yr oedd y  Rheolwr Gwasanaeth newydd hefyd am gynnig llety gyda chefnogaeth. 

Holodd y Pwyllgor a oedd y trosi yn brofiad da neu ddrwg i’r sawl oedd yn gadael gofal. 

 

       Yroedd hyn yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn, ond yr oedd y tîm yn gweithio gyda’r adran tai, CAB a Sgiliau Byw i’w paratoi ar gyfer y trosi. Yr oedd Panel Byw Annibynnol ar gael, lle’r oedd rhai 15+ yn cael eu cyfeirio er mwyn gwneud yn si?r bod yr holl ddewisiadau wedi eu trafod. Yr oedd gweithdai ar gael i sicrhau bod gan y bobl ifanc hyn sgiliau cyllid a choginio digonol. Yr oedd y tîm Pathway yng Nghasnewydd yn canoli ar edrych ar ôl gadawyr gofal yn unig.  

Gofynnodd y Pwyllgor am nifer cyfyngedig y dewisiadau llety oedd ar gael.

 

       Y gobaith oedd y byddai’r portffolio yn cynyddu wrth i adawyr gofal gael eu cefnogi wedi iddynt gyrraedd 18 oed, ac y mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r adran tai, gan ganolbwyntio ar lety mewn unedau sengl, ac yr oedd strategaeth tai ar y gweill. Er i’r adroddiad grybwyll dewisiadau cyfyngedig, yr oedd y stoc yn fawr o gymharu ag awdurdodau eraill. 

       Cafodd y rhai oedd yn gymwys am wasanaethau oedolion eu cysylltu â’r gwasanaethau hynny. Ni chafodd y plant hynny oedd dan 18 eu troi allan, ac fe’u cefnogwyd. 

Gofynnodd y Pwyllgor am y strategaeth ar ddarpariaeth breswyl i Rieni a Babanod. 

       Yr oedd awdurdodau lleol yn cael cais i wneud bidiau am arian er mwyn cael darpariaeth ar raddfa fechan fel y gallai mamau a’u babanod aros gyda’i gilydd. Cafodd hyn ei weld yma ac yng Nghaerffili lle’r oedd llawer o fenywod oedd angen cefnogaeth adeg geni. Yr oedd y tîm yn aros am y llythyr dyfarnu grant cyn gweld lle byddai angen gwario’r arian.  

Gofynnodd y Pwyllgor am brynu lle newydd neu ail-ddefnyddio rhywle ar gyfer darpariaeth breswyl i Rieni a Babanod. 

 

       Yr oedd trafodaethau’n digwydd ar hyn o bryd ynghylch a oedd rhywle yng Nghasnewydd y gellid ei ddefnyddio neu ei adnewyddu. Yn y cyfnod cynnar yr oedd y trafodaethau hyn, ac yr oedd gobaith am ddarpariaeth amlddisgyblaethol ac amlbwrpas. 

       Gofynnodd y Pwyllgor am ganlyniadau hyn, a chadarnhawyd y byddai’n mynd y tu hwnt i 2023 a’i fod yn fwy tebygol o gael ei gwblhau yn 2025. 

Gofynnodd y Pwyllgor am gyfanswm nifer y plant a dynnwyd oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, gyda 148 yn codi i 207, a nifer y plant oedd yn dod i ofal yn codi o 91 i 106, ac a oedd cydberthynas rhwng y ddau ffigwr? 

 

       Llemae plant mewn perygl o niwed arwyddocaol, cânt eu cefnogi ar gynllun gofal a chefnogaeth. Os bydd y risg yn gwaethygu, yna cânt eu gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Y dewis olaf oedd symud plant o’u cartrefi. Bu’r nifer cyffredinol yn sefydlog ers rhai blynyddoedd. Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion oedd yn cael eu cyfeirio; roedd teuluoedd mewn trafferthion oherwydd rhesymau cymhleth megis Covid, trais domestig a chostau byw. 

Gofynnodd y Pwyllgor am y risgiau a’r pwysau dros y ddwy flynedd nesaf. 

 

       Problem gweithlu oedd y brif broblem, ac nid i Gasnewydd yn unig. Yr oedd yn anodd denu pobl i broffesiwn gwaith cymdeithasol, a llawer o waith yn mynd rhagddo i gefnogi hyn. 

       Yr oedd gan deuluoedd mewn cymdeithas anghenion cymhleth, a hyn yn arwain at feichiau achos trwm. Yr oedd gwaith yn cael ei wneud gyda’r gwasanaeth Atal i gyfeirio teuluoedd ymaith oddi wrth ddarpariaethau statudol. 

Gofynnodd y Pwyllgor a holwyd Llywodraeth Cymru am gefnogaeth ariannol ychwanegol.

 

       Cytunwyd fod hyn ar yr agenda a hefyd ar agenda’r Cyfarwyddwyr a’r Penaethiaid Gwasanaeth.  

       

GwasanaethauOedolion

 

Gwahoddwyd: 

Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol- Sally Jenkins  Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol- Cynghorydd Jason Hughes

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad i’r Pwyllgor. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet  ei bod yn gyfnod anodd i weithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol, gyda phroblemau recriwtio ac ati; crybwyllwyd arbedion hefyd, oedd yn golygu pwysau ar wasanaethau ar lefel leol. 

 

Cwestiynau:

 

Gofynnodd y Pwyllgor am wasanaethau ysbytai a pha gefnogaeth mae’r gwasanaethau oedolion yn roi.

 

       Mae hwn yn wasanaeth helaeth, lle mae’r tîm yn gweithio gyda thîm yr ysbyty i wneud yn si?r fod y gwasanaethau gorau oll ar gael. Yr oedd y system hon dan bwysau enbyd gyda ffliw, ac yn sgil Covid. Pwysleisiwyd, wrth chwilio am ofal i bobl, mai’r nod oedd iddynt aros yn y gymuned, ac yr oedd hyn yn her fawr. Bu’r Aelod Cabinet hefyd yn bresennol yn y trafodaethau hynny. 

Gofynnodd y Pwyllgor am ysbyty’r Faenor a faint o drigolion Casnewydd oedd yn yr ysbyty hwnnw.

 

       Cadarnhawyd fod y tîm yn gweithio gyda holl ysbytai Gwent oherwydd bod cymaint o amrywiaeth o wasanaethau. Yr oedd y tîm yn ymwybodol o’r ffigwr hwn a gellid darparu data petai angen. Yr oed dy ffigwr yn newid o ddydd i ddydd, a chraffu’n digwydd yn rheolaidd. Mae angen cefnogi a chynorthwyo’r staff. 

Gofynnodd y Pwyllgor am Camu Lan Camu Lawr ac ehangu hyn. 

 

       Yroedd mynediad at hyn yn hynod bwysig. Yr oedd yn dibynnu ar gyrchu’r gwasanaethau therapi cywir, a byddid yn wastad yn ceisio ehangu’r gwasanaeth. 

Dywedodd y Pwyllgor fod dod â phlant yn ôl yn llwyddo: a allai hyn weithio i oedolion? 

 

       Cadarnhawydein bod yn edrych ar yr holl opsiynau, ond bod y farchnad yn wahanol i oedolion. Darparwr bychan lleol oedd yn cael ei ddefnyddio, yn wahanol i ddarparwyr plant, ac yr oedd yr heriau’n wahanol. Gydag oedolion, gofal tymor byr oedd yr angen mawr. Yr oedd nifer y darparwyr hefyd yn wahanol iawn, ac angen mwy o ddarpariaeth i oedolion. 

Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am y gwasanaeth Ambiwlans, a’r ciwio pan mai dim ond un tîm ambiwlans oedd yn cael ei neilltuo. 

 

       Yr oedd y tîm Ambiwlans yn gwneud hyn er mwyn sicrhau fod pobl yn gadael yr ysbyty yn gynt. Yr oedd y gweithlu yn her fawr: roedd yn bwysig sicrhau camau i dalu cyflog byw, ond yr oedd problemau’n dal, er hynny. 

Gofynnodd y Pwyllgor am bwysau ar y Bwrdd Iechyd i helpu.

 

       Yroedd manteision i’r naill ochr a’r llall i gael hyn yn iawn, ond nid oedd yn berffaith. Yr oed yn heriol iawn, gyda chydweithwyr y gwasanaeth Iechyd dan lawer o bwysau trwy’r flwyddyn. 

Gofynnodd y Pwyllgor a allai hyn gael ei gynnwys ar y rhaglen waith yn y dyfodol, ac i gyfarfod arbennig gael ei gynnull, gyda gwahoddiad i’r Bwrdd Iechyd.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd modd amlinellu sut i wella cyfathrebu.

 

       Esboniwyd bod yr wythnos Ddiogelu wedi ei chynnal yng nghyntedd y Ganolfan Ddinesig gyda chyfres o ddigwyddiadau i gyfathrebu yn ehangach. Defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo hyn. 

       Yroedd hyfforddiant ar gael i’r holl Aelodau a’r staff, a byddai hyn yn parhau. I’r Aelodau hynny sydd ar gyrff llywodraethol, mae ganddynt hwy gyfrifoldeb i ledaenu’r neges, ac y mae fforwm hefyd sydd yn cwrdd, a chyda’r wythnos Ddiogelu, gall pob asiantaethau gyrchu’r gweithgareddau, a deunyddiau’r Rhuban Gwyn yn cael eu rhoi i’r Aelodau. 

Gofynnodd y Pwyllgor am bryderon ynghylch teuluoedd y tu allan i’r awdurdod lleol a sut mae modd craffu i weld a oes ganddynt hwy broblemau diogelu. 

 

       Y mae hyn yn digwydd, ond mae’n brin. Mae teuluoedd yn cael eu cyfeirio a’u hasesu yn yr un modd, a gall rhai teuluoedd ddod i mewn o unrhyw ardal arall. Yr oedd diogelu yn cael ei gydnabod yn y sefyllfaoedd hyn, ac nid oedd yr awdurdod lleol yn osgoi eu cyfrifoldeb. Yr oedd tîm y gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o system TG ledled Cymru, y gellid mynd ati o unrhyw ran o Gymru. Byddid yn cysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol, ac yr oedd y tîm hefyd yn cydweithio’n agos â’r Heddlu. 

Holodd y Pwyllgor am aelodau etholedig oedd yn gysylltiedig â wardiau lleol, ac a oedd modd hwyluso hysbyseb trwy’r rhwydwaith lleol, gan fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb. 

 

Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am y ddarpariaeth i oedolion ag anawsterau dysgu. 

 

       Cadarnhawyd nad oedd y nifer yn uchel, ond y gwnaed llawer o waith ar fodelau o ofal, a phetai’r Pwyllgor yn cytuno, dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y byddai ei dîm yn dod yn ôl i’r Pwyllgor i gyflwyno’r gwaith hwn a dangos y camau mae’r plant hyn wedi’u gwneud nawr eu bod yn oedolion. 

Yr oedd y tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl lle’r oedd y modelau yn cynnig llety o ansawdd uchel.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am yr anhawster wrth ddod o hyd i staff. 

 

       Yroedd yn haws cael gweithwyr gan ei fod yn waith cyson, ond yr oedd problem o hyd. Soniwyd am waith gyda landlordiaid cofrestredig. Yr oedd y Rhaglen Dileu ar gyfer plant, nid gofal cymdeithasol i oedolion. 

Cadarnhawydwrth y Pwyllgor y byddai deddfwriaeth diogelu yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gofrestr risg y meysydd gwasanaeth, a chadarnhawyd mai ‘Oren’ oedd y risg ‘Amber’. 

 

       Dywedodd y Swyddog Craffu mai lliwiau’r risgiau oedd Coch, Oren, Melyn a Gwyrdd. 

 

Dogfennau ategol: