Agenda item

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent - Cynllun Llesiant Drafft 2023-2028

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol

-       Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid

-       Janice Dent – Rheolwr Polisi a Phartneriaethau

-       Nicola Dance – Uwch-swyddog Polisi a Phartneriaethau

 

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y tîm polisi i'r pwyllgor a rhoddodd drosolwg byr o gefndir y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Trafododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y saith amcan llesiant, ac eglurodd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys aelodau o ystod o gyrff cyhoeddus. O safbwynt Casnewydd, yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yw’r cynrychiolwyr sydd ar y bwrdd ac sy'n sicrhau eu bod yn cael eu clywed ar lefel Gwent. Rhoddodd y swyddog sicrwydd i'r pwyllgor fod ymgysylltiad da â phartneriaid.

 

Aeth y swyddog dros yr amserlen ymgynghori 12 wythnos ar gyfer y cynllun, gan egluro y byddai’r fersiwn terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer ei fabwysiadu a’i gymeradwyo ym mis Chwefror 2023. Bydd yr adroddiad wedyn yn cael ei gwblhau a'i gyfieithu cyn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2023, gyda’r amcanion newydd yn dod i rym o fis Mehefin 2023 ymlaen. Mae Partneriaeth Casnewydd yn Un yn parhau â’i gwaith o gyflawni’r cynllun llesiant presennol ar gyfer 2019-23, a bydd yn gyfrifol am y gwaith o gyflawni amcanion llesiant Gwent yn lleol o fis Mehefin 2023 ymlaen drwy gynllun gweithredu lleol.

 

Gofynnodd y pwyllgor y canlynol:

         Yn Amcan 2 y cynllun, teimlai’r pwyllgor y byddai rhoi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gam a fyddai'n cael ei groesawu, gan gynnwys sut y bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn mesur ac yn monitro gwelliannau a’r cynnydd a wnaed.

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau mai dyna’r math o wybodaeth y mae angen iddynt ei bwydo’n ôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w hystyried ar gyfer y cynlluniau terfynol, ac ar gyfer edrych arni o safbwynt Casnewydd.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth yn cydnabod bod trafod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig, gan ei fod yn nodi materion na all un partner yn unig eu datrys. Crybwyllwyd enghraifft ble mae sectorau eraill, megis y sector tai a'r sector mannau gwyrdd, i gyd yn cydweithio’n barod i gefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’r cynllun yn ymwneud â’r gwaith a allai fod o gymorth i wahanol gyrff ac yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud fel gr?p i helpu gwahanol fentrau. Gwaith tîm y bartneriaeth yw nodi’r hyn sy’n bwysig.

 

         Teimlai aelod, pe bai'r cynllun yn un generig gydag ond un cymhelliad i bawb, na fyddai'n gweithio gan fod rhanbarth Gwent yn cynnwys rhannau amrywiol. Dywedodd yr aelod fod angen iddynt feddwl am genedlaethau’r dyfodol, a mynegodd ei bryder am yr angen i ddiogelu’r dyfodol yng Nghasnewydd i’w cadw’n gydnerth rhag newid hinsawdd, gan eu bod yn wynebu heriau gwahanol i ranbarthau eraill megis y Cymoedd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau at bwynt a gododd yn y cyflwyniad yngl?n â sut y caiff y gwaith ei rannu ac y bydd yr asesiad o anghenion a gynhaliwyd ar draws Gwent yn cael ei fwydo i mewn i'r themâu. Mae angen i faterion lleol gael eu cynnwys yn y cynllun llesiant, a rhoddodd sicrwydd i’r pwyllgor fod y partneriaid yn edrych ar sut mae’r amcanion wedi'u bwydo i mewn i’r cynllun llesiant.

 

         Gofynnodd yr aelod i’r swyddogion beth yw lleoliad cyffredinol y cynllun llifogydd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau’r pwyllgor at Amcan 3 wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Eglurwyd ei bod yn thema drosfwaol sydd wedi’i bwydo i mewn o Gasnewydd a bod angen iddynt fod yn fwy penodol yn y ffordd y maent yn ymateb i’r angen hwnnw gan fod pawb yn cael eu heffeithio mewn ffordd wahanol gan newid hinsawdd. Bydd y cynlluniau unigol yn edrych ar hynny, ond caiff ei fwydo i mewn gan y cyfryngau eraill, felly mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Mae gan y cyngor gynllun rhanbarthol a lleol cyflawn sy'n bodloni anghenion pob ardal awdurdod lleol.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth yn gwerthfawrogi ei bod yn anodd gweld anghenion lleol yn cael eu diwallu mewn cynllun rhanbarthol, ond eglurodd, mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau eu bod yn cael eu gweld a'u clywed gan mai partneriaeth ranbarthol oedd hon. Nodwyd nad yw hyn yn diddymu gwaith pwysig Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r trafodaethau yn parhau yn rhai cadarnhaol, ond maent yn trafod beth arall y gellid ei wneud ar y cyd wrth iddynt wynebu toriadau.

 

         Gofynnodd y pwyllgor i’r partneriaid dynnu sylw at waith blaenorol llwyddiannus yr Athro Marmot.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y cafwyd canlyniadau cadarnhaol yn ardal Manceinion Fwyaf ac ardal Swydd Gaer. Mae eu canlyniadau yn rhai y gall y partneriaid a'r swyddogion ddysgu ohonynt. Maent wedi addasu ychydig ar y gwaith fel y gall fodloni'r gofynion yn y rhanbarth, ac amlygwyd sut mae Arweinydd y Cyngor yn ymwneud yn helaeth â'r prosiect. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaeth ei fod yn teimlo bod egwyddorion Marmot o fudd i Gasnewydd; maent yn ystyried sut mae tlodi’n effeithio ar lesiant a iechyd, a chan eu bod wedi'u sylfaenu ar dystiolaeth, gall eu helpu yn eu gwaith.

 

         Nododd aelod y ddwy lefel, sef y lefel ranbarthol a'r lefel leol, a gofynnodd a fyddai'r amcanion cyffredinol, y mae angen gweithredu arnynt, yn cael eu cyflawni gan adrannau gwasanaeth yr awdurdod lleol, megis addysg.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y byddent mewn rhai achosion a bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn llywodraethu'n drosfwaol dros Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent. Ond nodwyd mai'r cynghorau oedd yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflenwad yn lleol gyda chraffu lleol.

 

         Mynegodd aelod o’r pwyllgor ei bryder ynghylch y cynllun gweithredu ariannol yn cael ei rannu ar draws ardal ehangach, a gofynnodd am rôl Casnewydd yn Un yn y gr?p – er enghraifft, mewn trafodaethau, a ydynt yn lleisio barn ac yn uchel eu llais, a holodd a fyddai mwy o gyfyngiadau ar Gasnewydd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau nad oes cyllideb ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol a bod y cyfan sydd ganddynt yn aros yng Nghasnewydd. Mae Casnewydd yn Un yn lleisio barn, ac mae gan bob awdurdod lleol statws cyfartal ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae gan Casnewydd yn Un eu gwaith eu hunain, ond dim ond rhan o waith Gwent yw hwnnw, a sicrhawyd yr aelodau bod cytundebau eraill yn bodoli.

 

Aeth y swyddog ymlaen i dynnu sylw at y budd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn ei gynnig, a bod ganddynt gorff trosfwaol ble mae sgyrsiau sy’n ymwneud â pha mor effeithiol yw’r bartneriaeth ranbarthol yn parhau. Pwysleisiwyd eu bod yn cynnal trafodaethau agored ynghylch y materion nad ydynt yn cytuno arnynt, ond maent yn dod ag ef i gonsensws a gaiff ei arwain ar sail gydweithredol.

 

         Nododd aelod pwyllgor fod angen gweithredu ar unwaith ar lawer o faterion lleol yn hytrach na thrafod strategaethau. Ymhelaethodd yr aelod drwy ofyn p'un a ydynt wedi ymgorffori mecanwaith argyfwng ac, os nad ydynt, a ellid ei ymgorffori.

 

Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau eu bod yn parhau i symud yn eu blaenau gyda’u cynllun llesiant eu hunain wrth iddynt ddatblygu’r cynllun rhanbarthol. Dros y misoedd diwethaf, cynhaliodd yr arweinydd uwchgynhadledd costau byw, er enghraifft, a chynhaliodd swyddogion sioeau teithiol yng Nghasnewydd mewn partneriaeth i weld sut y gallant gefnogi’r preswylwyr. Sicrhawyd yr aelodau nad oes dim wedi dod i ben gan eu bod yn cefnogi'r cynllun lleol, a bod llawer o waith yn mynd rhagddo. Mae grwpiau gorchwyl a gorffen a digwyddiadau cymunedol i gyd wedi'u cynnwys o ganlyniad i'r sefyllfa o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol a'r hyn y gall y cyngor ei wneud ar hyn o bryd.

 

         Teimlai'r aelod pwyllgor y gallai llawer o drigolion sy'n dibynnu ar y cyngor fod yn wynebu amddifadedd mawr a'i bod yn annhebygol y byddent wedi cwblhau holiadur yr ymgynghoriad. Gofynnodd yr aelod i’r partneriaid beth yw eu cynlluniau ar gyfer ymgynghori â’r grwpiau anodd eu cyrraedd.

 

Soniodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod gr?p cyfathrebu ac ymgysylltu wedi'i greu ochr yn ochr â'r gwaith hwn gyda chymunedau a bo swyddogion yn ymwneud ag ef. Er enghraifft, pan drefnwyd y digwyddiad Chwarae yn y Parc yn ystod yr haf, roedd y tîm yn cefnogi pobl i gwblhau ymgynghoriad wyneb yn wyneb er mwyn casglu safbwyntiau. Mae cynllun ymgysylltu yn bodoli sy’n trafod dulliau o ymgysylltu â’r cymunedau y maent yn cael trafferth ymgysylltu â nhw.

 

         Aeth aelod ymlaen i ofyn i swyddogion i ba raddau y maent yn disgwyl i arferion da gael eu rhannu.

 

Amlygodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y ffaith mai'r brif uchelgais o fod yn cydweithio yw rhannu adnoddau a defnyddio'r adnoddau sydd ganddynt mewn modd effeithiol. Nodwyd mai dyna yw ethos Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a bod y partneriaid wedi cytuno i roi’r dull hwn ar waith yn rhanbarthol.

 

         Nododd aelod pwyllgor ei bod yn naturiol i bobl fod yn cymharu eu hunain ag eraill. Wrth edrych ar ardaloedd eraill, mae Casnewydd yn wahanol iawn i ardaloedd eraill am amryw o resymau, a theimlai y dylai'r cyngor amlygu manteision y bartneriaeth i bobl Casnewydd. Dylid gwneud hyn gan y gallai'r trigolion fod yn edrych ar yr hyn y mae Casnewydd yn ei roi yn hytrach na'r hyn sydd o fudd iddo o'r gwaith.

 

Cydnabu’r Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid fod y ffaith bod Casnewydd yn wahanol iawn i'r ardaloedd eraill yng Ngwent yn broblem arall, gan fod ardaloedd eraill yn debycach i'w gilydd o'u cymharu â Chasnewydd. 

 

         Roedd aelod pwyllgor eisiau canmol y gwaith partneriaeth ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu, sydd wedi denu llawer o bobl. Gellir adlewyrchu'r gwaith hwnnw ar draws ardaloedd eraill a helpu pobl i weld y gwaith sy'n mynd rhagddo.

 

Casgliadau

-        Dymunai'r pwyllgor ddiolch i'r swyddogion am eu presenoldeb a'r cyflwyniad manwl, a ddarparodd ddealltwriaeth dda o sut y bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn gweithio.

 

-         Yn Amcan 2 y cynllun, teimlai’r pwyllgor y byddai rhoi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gam a fyddai'n cael ei groesawu, gan gynnwys sut y bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn mesur ac yn monitro gwelliannau a’r cynnydd a wnaed.

 

-         Yn Amcan 3, er bod yr adroddiad yn cyfeirio at effeithiau hinsawdd sy’n newid, gan gynnwys digwyddiadau tywydd mwy eithafol, teimlai’r pwyllgor y dylid sôn mwy am berygl llifogydd ac ymateb i’r math hwn o ddigwyddiad brys gan fod hwn yn faes a fyddai’n effeithio’n benodol ar Gasnewydd.

 

-         Archwiliodd aelodau’r pwyllgor fanteision y trefniant partneriaeth o ran deilliannau a rhannu adnoddau a'r arferion gorau, a gofynnwyd am eglurhad gan swyddogion ar y trefniadau ariannu sy’n sail i hyn, gan obeithio y byddant yn deg ac yn dryloyw.

 

-         Gofynnodd y pwyllgor a ellid darparu enghreifftiau o rannu arferion da yn y dyfodol i ddangos yr allbwn cadarnhaol hwn o weithio mewn partneriaeth.

 

-         Er eu bod yn gwerthfawrogi bod y cynllun llesiant wedi'i greu yn seiliedig ar asesiad o anghenion ar gyfer Casnewydd a'r ardaloedd eraill, dywedodd yr aelodau fod demograffeg a daearyddiaeth Casnewydd yn wahanol o'u cymharu ag ardaloedd eraill y bwrdd, a bod rhaid i ofynion Casnewydd gael cynrychiolaeth ddigonol a theg. Mynegodd y pwyllgor ei ddisgwyliad bod angen i'r cyngor barhau i gynllunio a chraffu yn lleol drwy drefniadau llywodraethu.

 

-        Roedd y pwyllgor yn falch o glywed am lefel y gwaith ymgynghori sy'n mynd rhagddo rhwng y tîm partneriaethau a thrigolion Casnewydd. Roedd yr aelodau'n dymuno hyrwyddo ymgynghoriad sy'n cynnwys holl drigolion Casnewydd. Rhoddodd yr adroddiad holiadur fel enghraifft o'r broses ymgynghori, ac ysgogodd yr aelodau y swyddogion i egluro'r sianelau eraill ar gyfer casglu barn ac adborth. Teimlai aelodau y gallai fod yn anoddach ymgysylltu â rhai grwpiau ac y byddent yn llai tebygol o gwblhau holiadur ar-lein. Roedd yr aelodau'n dymuno pwysleisio'r angen am ymgynghoriad cynhwysol sy'n ceisio ymgysylltu'n weithredol â thrigolion a allai gael eu hanwybyddu wrth ymgysylltu’n ddigidol.

 

-        Nododd y pwyllgor gynnwys yr arolwg a chadarnhaodd ei fod yn fodlon ar yr amcanion a'r camau.

 

-        Holodd yr aelodau sut y penderfynwyd mai Blaenau Gwent fyddai'r awdurdod lleol arweiniol cyntaf, a sut y byddai Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn penderfynu ar yr awdurdod arweiniol nesaf.

Dogfennau ategol: