Cofnodion:
Gwahoddedigion:
- Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid
- Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid
- Janice Dent – Rheolwr Polisi a Phartneriaethau
- Nicola Dance – Uwch-swyddog Polisi a Phartneriaethau
Cyflwynodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau’r adroddiad i’r pwyllgor ac esboniodd yr amserlen a fydd yn arwain at gyhoeddi’r adroddiad ym mis Mai 2023. Mynegodd y gobaith y bydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod o’r cyngor llawn a gynhelir ym mis Chwefror 2023. Gofynnwyd i'r pwyllgor dderbyn a nodi datblygiad pwyllgor craffu rhanbarthol newydd a fydd yn bwrw ymlaen â'r dyletswyddau o dan adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac argymell bod y cyngor llawn yn cymeradwyo’r trefniadau hyn a'u mabwysiadu.
Unwaith y bydd y Pwyllgor Craffu Rhanbarthol wedi'i sefydlu, bydd angen i'r aelodau ystyried y cylch gorchwyl ar gyfer craffu partneriaethau, a fydd yn cynnwys Casnewydd Ddiogelach a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Casnewydd. Cyfeiriwyd yr aelodau at dudalennau 23-26 ar gyfer y cylch gorchwyl, ac fe’u hatgoffwyd mai Casnewydd yn Un yw’r gr?p cyflawni lleol o hyd gan fod angen craffu ar lefel leol yn ogystal â lefel ranbarthol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Os cytunir i fynd â'r mater ger bron y cyngor llawn i'w fabwysiadu, byddai dau aelod yn cael eu henwebu i fod ar y pwyllgor. Dywedwyd wrth yr aelodau mai eu tasg fyddai ystyried pa mor hyderus ydynt fod aelodaeth Gwent o gymorth i Gasnewydd.
Gofynnodd yr aelodau’r canlynol:
· Teimlai'r cadeirydd y byddai'n ddefnyddiol arsylwi ar ba waith sy'n mynd rhagddo yn rhanbarthol ac y dylai'r swyddogion gyflwyno'r darganfyddiadau i'r pwyllgor er gwybodaeth.
Roedd Pennaeth y Gwasanaeth am bwysleisio bod hyn yn rhoi'r cyfle i'r pwyllgor ailystyried y cylch gorchwyl a datgysylltu partneriaethau diogelwch cymunedol a allai fod o dan yr ymbarél ac edrych ar faterion lleol eraill.
· Ceisiodd aelod pwyllgor gael eglurhad i p'un a fyddai'r gynrychiolaeth ar gyfer Casnewydd yn cael ei chylchdro yn y cyfarfodydd rhanbarthol.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth, pe bai gan aelod farn, y dylai ei rhannu yn y cyfarfod presennol. Dywedwyd wrth yr aelodau mai penderfyniad y cyngor fyddai hwnnw fel y gallai'r holl aelodau benderfynu.
Yn ychwanegol i hyn, roedd yr aelod yn gwerthfawrogi bod angen ystyried cyfyngiadau amser a bod rhaid iddynt fod â meddwl agored yngl?n â lleoliad y cyfarfod, a chytunodd Pennaeth y Gwasanaeth fod lleoliad y cyfarfod yn bwysig.
· Dywedodd yr aelodau, os bydd y bwrdd yn cylchdroi, y gellid cynnal cyfarfodydd dros Microsoft Teams i osgoi teithiau hir, ond roeddent yn cwestiynu pa mor effeithiol fyddai hynny.
Diolchodd aelodau'r pwyllgor i'r holl swyddogion am eu hamser a'u cyflwyniad.
Casgliadau
- Nododd y pwyllgor ddatblygiad y Pwyllgor Craffu Rhanbarthol, a chytunwyd y dylid mynd â'r mater gerbron cyfarfod o’r cyngor llawn ym mis Chwefror 2023 i'w fabwysiadu, a chytunwyd ar y cylch gorchwyl. Yn y cylch gorchwyl, dymunai'r aelodau nodi y dylai pob cyfarfod gael ei gynnig ar ffurf hybrid dros Teams o leiaf, fel y gallai aelodau o wahanol awdurdodau lleol fynychu'r cyfarfod os na allant deithio. Teimlai'r pwyllgor y byddai hyn yn cefnogi'r agenda newid hinsawdd, yn ogystal â chefnogi'r cyfranogiad gorau gan aelodau'r Pwyllgor Craffu Rhanbarthol.
- Dywedodd y pwyllgor y dylai'r Pwyllgor Craffu Rhanbarthol ganolbwyntio'n glir ar effeithiolrwydd y cynllun cyffredinol a mewnbwn pob un i'r gwaith o gefnogi a gwella effeithiolrwydd darpariaeth leol.
Dogfennau ategol: