Agenda item

Monitor Cyllideb Refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i gydweithwyr, sef y cyfoesiad refeniw canol-tymor a gyflwynwyd i’r Cabinet ac esboniodd sefyllfa’r Awdurdod a ragwelwyd fel ar Hydref

 2022.

 

Yn erbyn cyllideb net o £343 miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw ym mis Hydref yn rhagweld gorwariant o £1.4 miliwn, sef llai na 0.5% o amrywiad yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y gorwariant hwn ar ôl defnyddio’r holl arian wrth gefn yn y gyllideb refeniw o £4.7 miliwn a gynhwyswyd yng nghyllideb refeniw 2022/23, fel y cytunodd y Cabinet arni ym mis Chwefror 2022.

 

Er bod cryn arian wedi ei neilltuo wrth gefn yn y gyllideb ar gyfer 2022/23 er mwyn mynd i’r afael a phroblemau wedi  covid, daeth problemau newydd i’r amlwg ers cytuno ar y gyllideb:

 

·         Mae cytundeb tâl yr NJC a’r athrawon y cytunwyd arnynt am 2022/23 yn uwch na’r hyn y gwnaed darpariaeth ynddynt (ar gyfartaledd +2.4% yn uwch i’r NJC a +1% yn uwch i athrawon)

·         Mwy o alw ac felly gorwariant ar gyllidebau tai yn benodol yng nghyswllt darpariaeth digartrefedd, a

·         Mwy o alw mewn gofal cymdeithasol i blant yn benodol o ran costau lleoliadau.

 

Fel y gwelir yn yr adroddiad a’i atodiadau, ynghyd ag effaith y dyfarniad tâl, esboniwyd y sefyllfa gyfredol fel a ganlyn:

 

·         Bu cryn orwariant mewn rhai meysydd galw allweddol a risgiau eraill yn dod i’r amlwg mewn meysydd gwasanaeth

·         Gwrthweithiwyd hyn yn rhannol gan arbedion yn erbyn (i) arian wrth gefn yn y gyllideb refeniw a oedd ar gael i’r Cyngor (ii) cynllun gostyngiad treth y Cyngor a (iii) cyllidebau eraill heb fod yn rhai gwasanaeth

 

Yr oedd rhai o feysydd yn yr Awdurdod yn adrodd am gryn orwariant yn erbyn gweithgareddau penodol. Yr oedd a wnelo’r gorwariant hwn â meysydd gweithgaredd oedd yn cael eu harwain gan y galw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol, ac felly yr oedd risg ymhlyg yn hyn y gallant newid petai lefelau galw yn newid o’r hyn a ragwelwyd ar hyn o bryd yn ystod gweddill y flwyddyn.

 

Ymysg y meysydd allweddol a gyfrannodd at y sefyllfa o £1.4 miliwn a ragwelwyd:

 

(i)            Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys lleoliadau plant mewn argyfwng ac allan o’r ardal. Cyfrannodd y ddwy ardal hon yn unig at orwariant o bron i £3.4 miliwn i sefyllfa gyffredinol y gwasanaeth.

(ii)           Cadarnhawyd effaith dyfarniad tâl yr NJC am 2022/2. Bydd y cynnydd cyfartalog i staff y Cyngor oddeutu 6.4% o gymharu â darpariaeth o ddim ond 4% yn y gyllideb. Yr oedd hyn yn orwariant a ragwelwyd o £2.4 miliwn i staff heb fod mewn ysgolion.

(iii)          Yr oedd cryn bwysau yn amlwg mewn Tai a Chymunedau, o ran digartrefedd. Rhagwelir gorwariant o £3.1 miliwn.  Y prif broblemau yw:

 

a.     Nifer fawr yr unigolion/aelwydydd mewn llety dros dro, sy’n arwydd o barhad y sefyllfa ers cyfnod Covid.

b.     Diffyg dewisiadau o lety addas sy’n arwain at ddefnydd arwyddocaol o westai a llety gwely a brecwast, sy’n costio llawer mwy na dewisiadau mwy traddodiadol.

c.     Y cap ar y cymhorthdal Budd-dal Tai a arweiniodd at gyfran yn unig o’r costau hyn yn cael eu talu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh).

 

(iv)          Yn ychwanegol at y risgiau hyn, daeth problemau yn ystod y flwyddyn i’r amlwg; parheir i gadw golwg fanwl arnynt. Yr oedd y rhain yn cynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig: Cludiant Addysg Arbennig ac AAA oedd yn rhagweld gorwariant o £370k oherwydd costau uwch y cwmnïau oherwydd chwyddiant, a diffyg o £186k mewn incwm o feysydd parcio. Y disgwyl oedd i’r gorwariant yn y meysydd hyn lle’r oedd risg yn ymddangos fod yn uwch na £500k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Yr oedd pwysau ychwanegol yn amlwg gyda chynnal y fflyd o ganlyniad i brisiau cynyddol tanwydd yn ogystal â chostau cynnal uwch.

 

(v)           Rhagwelwyd diffyg yn erbyn yr hyn a gyflwynwyd yn 2021/22 ac arbedion y flwyddyn flaenorol o £541k, yn bennaf oherwydd oedi cyn bwrw ymlaen â’r camau angenrheidiol. Yr oedd rhai o’r rhain yn ganlyniad i’r pandemig. Er bod lefel yr arbedion na lwyddwyd i’w gwneud yn y flwyddyn ariannol gyfredol wedi gwella a’i fod yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol, yr oedd angen o hyd i sicrhau bod yr holl arbedion yn cael eu cyflwyno, yn llawn, mor fuan ag sydd modd, a bydd y swyddogion yn parhau i weithredu i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflwyno y cyfle cyntaf a ddaw.

 

(vi)          Yr oedd tanwariant yn erbyn yr arian craidd wrth gefn ac arian arall wrth gefn dros dro wedi lliniaru yn erbyn gorwariant gan feysydd gwasanaeth. Dangoswyd y tanwariant a ragwelid o £4.7 miliwn yn erbyn cyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth. Hefyd, rhagwelwyd tanwariant o £2.3 miliwn yn erbyn cyllido cyfalaf, yn benodol ar log PFI a thros £1miliwn o arbedion a ragwelwyd yn erbyn cyllideb y cynllun gostyngiad treth cyngor.

 

Rhagwelwyd y byddai ysgolion yn gorwario £5.6miliwn, ac yr oedd cyfran o hyn wedi cynllunio ar ei gyfer, gan leihau arian wrth gefn yr ysgolion yn ôl y swm hwnnw. Yn ogystal ag effaith y dyfarniad tâl uwch o gymharu â’r cynnydd yn y gyllideb y caniatawyd amdano, yr oedd ysgolion yn tynnu ar wrth gefn a gronnwyd dros y ddwy flynedd a aeth heibio wrth iddynt symud i ddal i fyny â’r ddarpariaeth neu ei gryfhau wedi effeithiau Covid a dal i fyny â gwaith gwella a chynnal a chadw. 

 

Rhaid parhau i fonitro’r maes hwn yn gadarn, oherwydd nad oes yr un ysgolion wedi gosod cyllideb o ddiffyg, yr oedd ambell i ysgol wedi bod mewn diffyg yn ystod y flwyddyn yn dilyn effaith y dyfarniad tâl, a hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu rhagolygon fel ysgolion unigol.

 

Yn gyffredinol, yr oedd y sefyllfa bresennol ar falansau’r ysgolion yn well nac yn y blynyddoedd ariannol blaenorol. Er hynny, rhaid dal i graffu ar sefyllfa pob un yn fanwl a sicrhau bod cynlluniau adfer ar gael ac yn cael eu cyflwyno, rhag i bethau lithro’n ôl. Rhaid cydbwyso hyn â cheisio osgoi sefyllfa lle gallai’r balansau fod yn ormodol, a byddai hyn felly yn ystyriaeth allweddol wrth osod cyllidebau refeniw at y dyfodol ac adolygu’r cynllun ariannol tymor-canol. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

·         Ychwanegodd y Cynghorydd Davies nad oedd y Cabinet wedi rhagweld bod yn y sefyllfa ariannol hon, ond fod hyn wedi digwydd herwydd costau byw a chostau ynni, oedd wedi cynyddu ac wedi golygu mwy o alw am wasanaethau’r cyngor, yn ogystal â Brexit a’r pandemig.  Yr oedd y rhain yn ddigwyddiadau annisgwyl, ac yr oedd y Cynghorydd Davies yn falch fod y Cabinet yn rhoi blaenoriaeth i’r Cyngor.

 

·         Yr oedd y Cynghorydd Batrouni yn ystyried fod pwysau’r codiad cyflog wedi cael effaith ar y gyllideb; er hynny, yr oedd y staff yn ei haeddu, o ystyried eu hymdrechion dros y ddegawd ddiwethaf ac yn fwy diweddar yn ystod y pandemig.

 

Dywedodd yr Arweinydd hefyd, wrth symud ymlaen i ail hanner y flwyddyn ariannol, y byddai’r sefyllfa yn dal i newid, ac y byddai problemau a chyfleoedd newydd yn codi. Ar hyn o bryd, yr oedd yr hyn fyddai’n arwain at orwario unigol arwyddocaol yn hysbys, a’r gwerthoedd fyddai’n cael eu priodoli yn realistig.

 

Gostwng wnaeth y gorwariant yr adroddwyd amdano o gymharu â’r cyfoesiad diwethaf a roddwyd i’r Cabinet, ond er hynny, yr oedd yn dal yn achos pryder. Yr oedd yn bwysig, felly, i’r ymdrechion i adfer y sefyllfa i fod yn gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn yn parhau. I wneud hyn, gofynnwyd i wasanaethau leihau/atal gwario nad oedd yn angenrheidiol lle bynnag y bydd hyn yn bosib.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:      

§  Nodi sefyllfa gyffredinol y gyllideb a ragwelwyd, yn deillio o’r materion a gynhwysir yn yr adroddiad hwn a’r potensial o fod mewn sefyllfa o orwario ar derfyn y flwyddyn ariannol.

§  Cytuno y bydd y Prif Weithredwr a’r Bwrdd Gweithredol yn parhau i adolygu a herio rhagolygon meysydd gwasanaeth mewn ymdrech i reoli’r rhagolygon cyffredinol o fewn y gyllideb refeniw graidd, gan gynnwys arian wrth gefn yn y gyllideb refeniw. 

§  Nodi’r risgiau a welwyd yn yr adroddiad drwyddo draw ac yn sylwadau’r Pennaeth Cyllid, yn enwedig yng nghyswllt digartrefedd ac effeithiau parhaol y pandemig.

§  Nodi’r rhagolygon am symudiadau yn yr arian wrth gefn.

§  Nodi’r sefyllfa gyffredinol yng nghyswllt ysgolion o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, ond nodi hefyd y risgiau y gallai sefyllfa o ddiffyg godi yn y dyfodol pe nad bai cynllunio a rheoli ariannol da yn digwydd.

 

Gweithredu gan      

Aelodau Cabinet / Pennaeth Cyllid / Bwrdd Gweithredol:

 

·         Prif Weithredwr a’r Bwrdd Gweithredol i barhau i adolygu materion a arweiniodd at y sefyllfa bresennol, a, chyda’r Penaethiaid Gwasanaethau, parhau i gymryd camau cadarn i reoli rhagolygon cyffredinol yn unol â’r cyllidebau refeniw craidd sydd ar gael, gan gynnwys arian refeniw wrth gefn.

·         Trafododd Aelodau’r Cabinet ragolygon a materion ariannol yn eu meysydd portffolio, a chytuno ar gamau a argymhellwyd i’w dwyn yn ôl i fod yn unol â’r cyllidebau sydd ar gael, i’r graddau y mae hynny’n bosib.

·         Penaethiaid Gwasanaethau i gyflwyno’r arbedion y cytunwyd arnynt yng nghyllideb 2022/23 a’r flwyddyn flaenorol mor fuan ag sy’n ymarferol bosib, ond erbyn diwedd y flwyddyn ariannol fan bellaf.

·         Aelodau Cabinet a’r Penaethiaid Gwasanaethau i hyrwyddo a sicrhau rhagolygon cadarn ym mhob maes gwasanaeth.

 

Dogfennau ategol: