Agenda item

Cyllideb Refeniw Cyllideb Ddrafft a CATC: Cynigion Terfynol 2023/24

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sydd yn amlygu’r prif faterion sy’n effeithio ar ddatblygu cyllideb y Cyngor am 2023/24 a’r Cynllun Ariannol Tymor Canol. 

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gytuno a’r cynigion fel y byddai modd cychwyn y broses ymgynghori ar gyllideb 2023/24. Byddid yn adrodd am ganlyniadau’r ymgynghoriad wrth y Cabinet yn Chwefror 2023, pan fyddwn ni fel Cabinet yn cytuno ar gyllideb derfynol fanwl a lefel treth y cyngor yn sgil hynny i’r Cyngor llawn.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet wneud y canlynol:

 

(i)            Cytuno ar y cynigion drafft i ymgynghori arnynt;

(ii)           Cymeradwyo gweithredu’r penderfyniadau dirprwyedig a osodir allan yn atodiad 3 ac atodiad 11 yr adroddiad yn syth, a

(iii)          Nodi’r sefyllfa o ddatblygu cyllideb gytbwys am 2023/24, a nodi y byddid yn adolygu ac yn cyfoesi’r sefyllfa rhwng nawr a’r Cabinet ym mis Chwefror pan gytunir ar y gyllideb derfynol.

 

Yn anffodus, y mae heriau penodol o ran paratoi’r gyllideb eleni. Nid yn unig y mae gofyniad i adeiladau ar amgylchiadau digynsail yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond wynebir ni hefyd â newid economaidd sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser. 

 

Mae’r her hon yn cael ei theimlo ledled y DU, ac y mae’r cyngor a’r trigolion yn wynebu pwysau ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen. Y mae chwyddiant uchel, cynnydd enfawr mewn biliau ynni, a mwy o alw am wasanaethau yn arwain at gryn bwysau ariannol, ac y mae’r Cyngor, yn gweld diffygion sylweddol yn y gyllideb dros y tymor byr a chanol.

 

Arweiniodd hyn at fwlch sylweddol yn y gyllideb o £27miliwn rhwng yr arian sydd ar gael i’w wario a’r hyn y mae angen i’r Cyngor ei wario.

 

Er bod Datganiad Hydref Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddai codiadau mewn cyllid dros y ddwy flynedd nesaf, yr oedd effaith costau cynyddol yn golygu bod bwlch yn y gyllideb o hyd.

 

Yr oedd hyn yn wir hyd yn oed â chaniatáu am y ffaith fod Llywodraeth Cymru, ar 14 Rhagfyr, wedi cadarnhau y byddai cynnydd o 8.9% mewn cyllid craidd i’r Cyngor, oedd yn setliad gwell o gymharu â’r ffigwr dangosol am y setliad a roddwyd  flwyddyn yn ôl.

 

Y mae’r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys bob blwyddyn. Yr oedd angen felly ystyried yr holl ddewisiadau posib i ymdrin â’r blwch yn y gyllideb o £27m yn 2023/24. Y mae hyn yn erbyn cefndir o arbedion sylweddol i’r gyllideb dros y ddegawd ddiwethaf o lymder.

 

Yn gyffredinol, mae’r gyllideb drafft yn cynnwys buddsoddiad o £45m yn 2023/24 a £94m dros gyfnod y cynllun ariannol tymor-canol, er bod 77% o hyn i dalu am godiadau mewn tâl a chynnydd mewn chwyddiant. Soniodd yr Arweinydd yn benodol am y meysydd buddsoddi lle’r oedd yr angen fwyaf. Dymuniad yr Arweinydd oedd i’r Cyngor feddu ar yr adnoddau ychwanegol i fuddsoddi mewn llawer maes arall, ond y gwir yw nad yw hyn yn ddewis gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i ni.

 

Y mae ysgolion yn wynebu llawer o bwysau oherwydd chwyddiant a chynnydd mewn costau. Fel y dywedwyd nifer o weithiau o’r blaen, y mae’r Cabinet wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion a bydd yn parhau i’w gwarchod cyhyd ag y bo modd. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y dewis i aros am gyhoeddi’r drafft o setliad i lywodraeth leol ar 14 Rhagfyr, cyn cyhoeddi’r cynigion drafft ar gyfer ysgolion, yn y gobaith y byddai setliad mwy cadarnhaol yn hwyluso gwell gwarchodaeth.

 

Fodd bynnag, er bod y setliad drafft yn fwy cadarnhaol na’r hyn a ragwelwyd i ddechrau, yr oedd maint yr her ariannol a wynebwyd yn golygu nad oedd gwarchod ysgolion yn gyfan gwbl rhag yr angen i gyfrannu tuag at fwlch cyllideb y Cyngor yn 2023/24. Yr oedd y Cabinet yn cynnig felly y dylai ysgolion gyfrannu tuag at gyfran o’r pwysau a nodwyd  yn eu cyswllt hwy.

 

O ganlyniad, byddid yn ymgynghori ar gynnig lle byddai’r Cyngor yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion i dalu am gost effaith y cynnydd yn nifer y disgyblion, a  50% o’r pwysau cysylltiedig â chyflogau. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ysgolion ysgwyddo gweddill y pwysau cyflogau ac unrhyw gostau eraill mewn costau oherwydd chwyddiant. Fodd bynnag, yr oedd hefyd yn golygu y byddai gwerth y gyllideb ysgolion yn ei chyfanrwydd yn cynyddu o gymharu â’r gyllideb bresennol.

 

Yr oedd y Cabinet, fel y mae yn wastad, yn awyddus i gael adborth gan ysgolion, ac anogodd gynrychiolwyr  ysgolion unigol a grwpiau i gymryd rhan yn y broses ymgynghori, a rhoi eu barn am y cynigion yn y cyfarfod hwn. Yr oedd y Cabinet wedi ymrwymo i wrando ar y farn fyddai’n cael ei rhoi gerbron a rhoi ystyriaeth cyn penderfynu ar gynigion terfynol ym mis Chwefror 2023.

 

O ran Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd:

 

(i)            Yr oedd y gyllideb hon yn bwriadu buddsoddi dros £4 miliwn mewn gofal cymdeithasol yn 2023/24 a bron i £5.5 miliwn dros y tymor canol i helpu i gefnogi’r rhai mwyaf bregus

 

(ii)           Darperir £3.5 miliwn i gefnogi cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru i sicrhau na fyddai neb yn cysgu allan yng Nghasnewydd, a pharhau i roi llawer iawn o gefnogaeth i gysgwyr allan yn dilyn y pandemig a dod o hyd i lety i lawer o unigolion a theuluoedd oedd mewn sefyllfa anodd. Byddai’r buddsoddiad hwn yn galluogi’r Cyngor i barhau â hyn.

 

Byddai manylion y buddsoddiadau yn cael eu cytuno yn y gyllideb derfynol yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Chwefror,  a byddai’r Cabinet yn ystyried adborth o’r ymgynghori, gyda diddordeb arbennig mewn clywed barn am y meysydd blaenoriaeth allweddol, sef ysgolion, gofal cymdeithasol, a digartrefedd, yn ogystal ag adborth ar fuddsoddiadau penodol yn y gyllideb. 

 

Wedi caniatáu am y buddsoddiadau a amlinellwyd uchod a’r cynnydd mewn cyllid dangosol a amlinellwyd gan LlC flwyddyn yn ôl, yr oedd bwlch sylweddol o hyd rhwng y costau a amcangyfrifwyd a’r arian oedd ar gael. Ystyriodd y Cabinet ddewisiadau ar gyfer ymdrin â’r bwlch hwn, gan gynnwys cynnydd pellach mewn Treth Cyngor ac arbedion ar draws holl wasanaethau’r cyngor.

 

Yr oedd y sefyllfa a’r ffigyrau a osodwyd allan yn yr adroddiad yn seiliedig ar gynnydd o 9.5% yn 2023/24.  I roi’r cyd-destun, mae 9.5% yn gynnydd wythnosol o £1.55 - £2.07 i eiddo ym Mandiau A i C, sef y bandiau mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd.

 

Mae’n hysbys fod treth cyngor Casnewydd yn isel o gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru, gan gynhyrchu 23% o incwm y Cyngor. Y mae cyfradd gyfartalog treth y cyngor hwn 15% yn is na’r cyfartaledd Cymreig, a hyd yn oed gyda chynnydd o 9.5% y flwyddyn nesaf, byddai treth y cyngor yn dal yn is na’r rhan fwyaf (os nad y cyfan) o’r awdurdodau cyfagos, hyd yn oed petai eu cynnydd hwy yn llai.

Mae’r argyfwng ariannol parhaus yn achosi caledi ariannol a heriau i drigolion a busnesau yn y ddinas, a bydd hyn wrth galon ystyriaethau wrth gynllunio cyllideb y flwyddyn nesaf. Fel pob cyngor ledled Cymru a gweddill y DU, mae Casnewydd yn wynebu ei her ariannol ddigynsail ei hun.

 

Wedi caniatáu am gynnydd o 9.5% mewn Treth Cyngor, a’r hyn a amlinellwyd yn gynharach ynghylch ysgolion, erys bwlch gweddilliol yn y gyllideb. Ystyriwyd amrywiaeth o arbedion, a chytunwyd ar gyfanswm o £11.6m i’r cyhoedd ymgynghori arno.

 

Manylwyd am y cynigion hyn yn yr atodiadau i’r adroddiad a’u hadlewyrchu mewn adolygiad trylwyr o holl wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys swyddogaethau swyddfa gefn, a gwasanaethau rheng flaen.

 

Yr oedd yn bwysig pwysleisio nad proses hawdd mo hon, ac na chymerwyd y penderfyniadau a arweiniodd at y set hon o gynigion yn ysgafn. 

 

I gloi, y mae £27miliwn yn gyfran sylweddol o gyfanswm ein cyllideb o £343 miliwn, oherwydd bod y Cyngor, fel aelwydydd, yn dal i wynebu cynnydd mewn prisiau a bod cost cyflwyno gwasanaethau yn uwch, gan effeithio ar bopeth o ysgolion i oleuo strydoedd.

 

Gyda dwy ran o dair o’r gyllideb yn talu am ysgolion,  addysg a gofal cymdeithasol, yr oedd y Cyngor yn benderfynol o sicrhau parhau i gyflwyno gwasanaethau hollol hanfodol i’r rhai mwyaf bregus a’r sawl oedd angen help yn y cyfnod anodd hwn.

 

Fodd bynnag, gyda rhagolygon economaidd difrifol yn parhau, ychydig iawn o ddewis sydd gan y Cyngor. Nid y Cyngor na’r bobl y mae’n eu gwasanaethu a greodd y sefyllfa hon, ond rhaid oedd i’r Cyngor wneud y dewisiadau anodd hyn.

 

Yr oedd y Cabinet felly wedi ymrwymo i edrych yn fanwl ac yn ofalus ar yr ymatebion i’r gyllideb ddrafft hon wrth iddynt ffurfio’r gyllideb derfynol ym mis Chwefror. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

·         Tynnodd y Cynghorydd Davies sylw at y ffaith fod LlC £1.2Bn yn waeth eu byd nag y buont dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yr oedd yn ddiolchgar am y cyllid ychwanegol a’i gwnaeth yn bosib gwneud setliad i’r ysgolion. Yr ydym yn eu cefnogi ac am bwysleisio fod y Cabinet yma i wrando arnynt. Yr oedd y pwysau allweddol ar gostau staff. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y cynnydd o 9.5% yn y Dreth Cyngor ac eisiau atgoffa trigolion fod gennym gynllun gostyngiad treth cyngor, oedd ar gael i’r sawl oedd ar lwfans cefnogi cyflogaeth, credyd pensiwn a chymorth incwm.

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Harvey y bu’r Cabinet yn edrych yn fanwl ar y gyllideb ers mis Medi. Dogfen ymgynghori oedd hon, ac yr oedd y Cabinet yn gwrando ar drigolion ac eisiau eu hymateb. Byddai’r Cyngor yn gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi trigolion.  Yr oedd y cyngor yn rhedeg dros 800 o wasanaethau, ond yn gwneud hyn ar adnoddau cyfyngedig iawn.

 

·         Tynnodd y Cynghorydd Clarke sylw at y ffaith fod pethau’n anodd iawn ar hyn o bryd, ac yr oedd eisiau sicrhau trigolion Casnewydd ein bod ni yn gyngor sy’n gwrando, a’i bod yn bwysig felly clywed barn y trigolion, ac yr oedd yn gobeithio y buasent yn cymryd rhan.

 

·         Ychwanegodd y Cynghorydd Lacey y byddai’r Cabinet yn cefnogi teuluoedd a busnesau yng Nghasnewydd ac yr oedd felly’n cefnogi’r cynnig a byddai’n croesawu sylwadau gan y cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad.

 

·         Diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r staff gofal cymdeithasol am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac adleisiodd sylwadau cydweithwyr fod yn rhaid i bobl Casnewydd ddod yn rhan o hyn a chyfrannu at yr ymgynghoriad.

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Forsey, er bod pwysau ariannol, fod y Cyngor yn gweithio i wella’r amgylchedd yng Nghasnewydd trwy’r newidiadau a gynigiwyd yn yr adroddiad.

 

·         Ychwanegodd y Cynghorydd Batrouni fod pob cyngor yn y DU yn teimlo effaith cynnydd mewn costau byw oherwydd graddfa’r toriadau.

 

·         Pwysleisiodd y Cynghorydd Marshall fod y Cyngor yn ymboeni am drigolion ac eisiau eu cefnogi, gan gynnwys trwy wasanaethau cymdeithasol ac addysg. Anogodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol y trigolion i fynegi eu barn, gan bwysleisio y deuwn drwy hyn diolch i waith caled staff y Cyngor.

 

Diolchodd yr Arweinydd i gydweithwyr yn y Cabinet am eu cyfraniadau tuag at y cynigion a amlinellwyd yn y gyllideb ac am eu cefnogaeth gyson.

 

Penderfyniad:

 

1.Cytunodd y Cabinet ar y cynigion drafft a ganlyn i’r cyhoedd ymgynghori arnynt:

i)              Cynigion am arbedion y gyllideb yn Atodiad 2 (tabl o grynhoad) ac Atodiad 10 (cynigion manwl).

ii)             Fel man cychwyn, byddid yn ymgynghori ar gynnydd o 9.5% yn nhreth y cyngor, sef cynnydd wythnosol o £1.55 - £2.07 i eiddo ym Mandiau A i C, y bandiau mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd, a osodir allan ym mharagraffau 3.12 i 3.15.

iii)           Ffioedd a thaliadau arfaethedig yn Atodiad 5.

iv)           Buddsoddiadau’r gyllideb a ddangosir yn Atodiad 1

v)            Y cynigion penodol am ysgolion a amlinellwyd yn llafar yn y cyfarfod (h.y., fod y Cyngor yn darparu cyllid i ymdrin â phwysau cysylltiedig â nifer disgyblion, a 50% o bwysau cysylltiedig â thâl).

 

2.  Cymeradwyodd y Cabinet:

vi)           I weithredu’r penderfyniadau dirprwyedig yn Atodiad 3 (tabl o grynhoad) ac Atodiad 11 (cynigion manwl) gan y Penaethiaid Gwasanaethau yn syth, yn dilyn prosesau penderfynu arferol y Cyngor.

 

3.  Nododd y Cabinet:

vii)          Y sefyllfa o ran datblygu cyllideb gytbwys am 2023/24, gan nodi y byddai’r sefyllfa yn destun adolygu a chyfoesi cyson rhwng nawr a’r Cabinet ym mis Chwefror pryd y byddid yn penderfynu ar y gyllideb derfynol.

viii)         Y sefyllfa bresennol o ran datblygu ‘Cynllun Trawsnewid’ i’r Cyngor a sylwadau’r Pennaeth Cyllid am bwysigrwydd hynny yng nghyswllt yr her yn y tymor canol/hir i’r gyllideb a chyfrannu at sefyllfa ariannol gynaliadwy i wasanaethau.

ix)           Fod angen mwy o waith yn benodol i adolygu a rheoli agweddau ariannol rhai risgiau allweddol yn 2023/24.

 

Dogfennau ategol: