Agenda item

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad cydymffurfio i gadarnhau bod y gweithgareddau Trysorlys yn cyd-fynd â’r Strategaeth Trysorlys a ystyriwyd ac a osodwyd gan yr Aelodau.

 

Ei bwrpas oedd rhoi gwybod i’r Cabinet am weithgareddau trysorlys a wnaed yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2022 tan ddiwedd Medi 2022 a chadarnhau, (ac eithrio am fod yn agored i amrywiadau mewn cyfraddau llog), y parheir i gadw at yr holl ddangosyddion trysorlys a darbodus.

 

Cyflwynwydyr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a’i gadarnhau ganddynt i’w ystyried gennym ni yn y Cabinet, a’r Cyngor yn y pen draw.

 

Yroedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth a ganlyn:

 

·                Atgoffa am y strategaeth trysorlys y cytunwyd arni

·                Manylion am weithgaredd benthyca a buddsoddi

·                Ystyriaethaueconomaidd ehangach, e.e., y pandemig, hinsawdd economaidd

·                Cyfoesiadar god Rhyngwladol y Trysorlys ar gyllid buddsoddi masnachol

·                Gorffengydag archwiliad o weithgaredd yn erbyn perfformiad, gan gadarnhau cydymffurfio

 

O ran yr agwedd fenthyca, amlygodd yr adroddiad fod benthyca, fel ar 30 Medi 2022, yn £140.6m, gostyngiad o £1.5m o gymharu â lefelau 2021-22 levels.

 

Yroedd y gostyngiad hwn wedi ei achosi yn bennaf gan ein benthyciadau Rhanddaliadau Cyfartal y Prifswm (EIP), oedd yn talu’r prifswm yn ôl dros einioes y benthyciad (ac o’r herwydd yn denu llai o gostau llog), fel dewis arall yn lle ein benthyciadau aeddfedu lle’r ad-delir y prifswm ar ddiwrnod olaf y benthyciad.

 

Dywedodd y swyddogion wrth y Cabinet, wrth i gyfraddau llog godi, mae’n debyg y bydd ein benthyciadau LOBO (Cynnig sawl sy’n rhoi benthyg cynnig y sawl sy’n benthyca) yn cael eu galw i mewn. Ystyr hyn yw bod y sawl sy’n rhoi benthyg yn gofyn am newid cyfraddau y cyfleusterau hyn tuag i fyny, a’r benthyciwr (y Cyngor) naill ai’n derbyn y gyfradd uwch neu yn ad-dalu’r ddyled. Ni wnaed unrhyw geisiadau o’r fath yn hanner cyntaf 2022-23, ond petaent yn cael eu gwneud yn ail hanner y flwyddyn, oni fyddai digon o gymhelliant i dderbyn y newid yn y gyfradd llog, yr oedd y swyddogion yn rhagweld y byddai benthyca mwy traddodiadol yn cymryd eu lle yn y man.

 

Y mae’r rhagolygon gwariant cyfalaf cyfredol yn golygu peth llithriad, felly nid oedd disgwyl y byddai angen  cymryd mwy o fenthyciadau tymor-hir yn y flwyddyn ariannol hon, er nad oedd hynny’n cau allan ystyried benthyca allanol petai’r sefyllfa yn fanteisiol fel  ffordd o warchod er mwyn rheoli risgiau cyfraddau llog, gan gydnabod fod rheidrwydd ar y Cyngor o hyd i fenthyca yn y tymor hwy. Byddai unrhyw benderfyniad i wneud hyn yn cael ei wneud yn unol â chyngor gan ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor ac yn unig lle byddai budd ariannol clir o wneud hynny.

 

O ran buddsoddiadau, yr oedd lefel y buddsoddiadau ar 30 Medi yn £50m, gan ostwng o £8.2m ers canlyniad 2021-22, wrth i ni ddefnyddio adnoddau o’r fath fel dewis mwy cost-effeithiol i drefnu benthyca allanol newydd. 

 

Rhagwelwyd y byddai lefelau buddsoddi yn parhau i ostwng yn ystod 2022/23 fel dewis yn lle benthyca nes i ni yn y pen draw gyrraedd isafswm balans o £10m, fyddai’n dal i gael ei fuddsoddi er mwyn cydymffurfio â MiFIDII.  (Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol a  Deilliadau). 

 

Yroedd y farchnad yn disgwyl i gyfraddau llog ddechrau dychwelyd i lefelau mwy traddodiadol yn chwarter olaf 2022-23, ac felly yr oedd yn synhwyrol osgoi gwneud unrhyw benderfyniadau am fenthyca tymor-hir yn y tymor byr tra bod cyfraddau yn uwch na’r hyn fyddai’n debygol y flwyddyn nesaf.

 

Yragwedd hon oedd conglfaen benthyca mewnol effeithiol, a hyd yn oed mewn amgylchedd o gyfraddau llog yn cynyddu, yr oedd cost benthyca o’r newydd yn dal yn ddrutach nac unrhyw elw cynyddol ar fuddsoddiadau, felly yr oedd yn dal yn synhwyrol i ni ddefnyddio’r balansau arian dros ben oedd gennym eisoes fel dewis yn lle trefnu benthyca newydd.

 

Yragwedd olaf i’r Cabinet ystyried oedd y Dangosyddion Cynghgorus. Y mae’r Awdurdod yn mesur ac yn rheoli pa mor agored ydyw i risgiau rheoli trysorlys trwy ddefnyddio gwahanol ddangosyddion sydd i’w gweld yn Atodiad B.  Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’r Dangosyddion Cynghorus a osodwyd am 2022/23, ac eithrio am un metrig penodol a fwriadwyd i amlygu’r risg i lefelau llog a dderbynnir o fuddsoddiadau petai cyfraddau llog ar y cyfan yn disgyn o 1%. 

 

Esboniodd y swyddogion yn yr adroddiad mai pwrpas y dangosydd arbennig hwnnw oedd amlygu o faint yr oedd y Cyngor yn cyllidebu y byddai lefelau incwm yn dioddef o unrhyw gwymp mewn cyfraddau llog. Yr oedd y gwyriad yn fwy arwyddocaol na’r targed  am i lefel y buddsoddiadau fod yn uwch, a chrëwyd argraff ffug oherwydd bod cyfraddau llog yn codi ar hyn o bryd. Ond petaent yn dychwelyd i lefelau hanesyddol (nad oedd yn cael ei ragweld yn y tymor byr), ni fyddai risg o hyd i gyllid y Cyngor yn y flwyddyn ariannol hon, oherwydd bod mwy o incwm na’r disgwyl yn dod o logau. Yr oedd y swyddogion yn ymwybodol y byddai angen cadw llygad barcud ar y risg wrth nesáu at 2023/24, os bydau lefelau buddsoddi a chyfraddau llog am ostwng.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at y newyddion diweddar fod cyfradd chwyddiant yn America yn is na’r hyn yr oedd y marchnadoedd wedi ragweld, gan arwain at dybiaeth y byddai cyfraddau llog yn gostwng. O ran strategaeth benthyca tymor byr, yr oedd yn ymddangos y gallai pethau newid yn 2023 o gofio maint yr ofnau am ddirwasgiad posib. Byddai’n ddoeth felly gwneud y mwyaf o fenthyca mewnol yn awr ac edrych ar fenthyca tymor hir wrth i Brydain geisio hybu ei heconomi.

 

Penderfyniad:

 

Nododd y Cabinet yr adroddiad ar weithgareddau rheoli trysorlys yn hanner cyntaf y cyfnod 2022-23 a rhoi sylwadau am yr adroddiad i’w cynnwys yn yr adroddiad wedi hynny i’r Cyngor.

Dogfennau ategol: