Agenda item

Diweddariad am y Gofrestr Risg Gorfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad i roi cyfoesiad am Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwarter dau (1 Gorffennaf hyd 30 Medi 2022).

 

Gofynnwydi aelodau’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a pharhau i fonitro’r risgiau hyn a’r camau a gymerwyd i ymdrin â’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yroedd Polisi Rheoli Risg y Cyngor a’r GofrestrRisg Gorfforaethol yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’r swyddogion i nodi, rheoli a monitro yn effeithiol y risgiau hynny fyddai’n atal y Cabinet rhag cyrraedd ei flaenoriaethau strategol ac i gyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai’radroddiadrisg Chwarter dau hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ym mis Ionawr 2023 i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’r trefniadau llywodraethiant.

 

Arderfyn chwarter dau, yr oedd gan Gyngor Casnewydd 42 risg wedi eu cofnodi ar draws unarddeg maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Mae’rrisgiau y tybir fel y rhai mwyaf arwyddocaol i gyflwyno Cynllun Corfforaethol a gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu rhoi ar GofrestrRisg Gorfforaethol yCyngor i’w monitro. 

 

Arderfyn chwarter dau, cofnodwyd 14 risg ar y GofrestrRisg Gorfforaethol.

·         Wyth Risg Difrifol (15 i 25);

·         Chwe Risg  Mawr (saith i 14);

 

O gymharu â chwarter un, nid oedd unrhyw risgiau newydd a/neu rai a godwyd, a chaewyd dau risg.

 

Yroedd deg risg ar yr un sgôr ag yn chwarter un.

 

Cynyddoddsgôr tri risg, ac aeth un i lawr ar y GofrestrRisg Gorfforaethol.

 

Gyda sgôr risg wedi codi o 20 i 25, yr oedd cryn alw ar wasanaethau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd ac yn y chwarter olaf, yr oedd Gwasanaethau Plant  Casnewydd wedi gorfod rhoi mesurau ar waith i reoli’r cynnydd yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd o’u canolfan ddiogelu. 

 

Yroedd pwysau hefyd ar y staff, rheoli eu lefelau salwch a recriwtio i swyddi gwag.

 

Yroedd y gwasanaeth yn gweithio er mwyn sicrhau blaenoriaeth o’r rhai oedd fwyaf bregus ac yn wynebu risg, a hyn trwy asesiadau risg a sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu cyflwyno.   

 

Cynyddoddsgôr risg Cyllideb Tymor-Canol y Cyngor o 12 i 20, fel y crybwyllwyd eisoes yn y Cabinet, oherwydd bod y Cyngor yn wynebu bwlch cyllideb sylweddol yn ei Gynllun Ariannol Tymor-Canol.

 

Yroedd Adroddiad Cyllid y Cabinet a chyflwyno cynigion y gyllideb yn dangos y camau y mae’r Cyngor yn gymryd i adnabod arbedion ar draws meysydd gwasanaeth er mwyn lleihau effaith y bwlch cyllideb. 

 

ByddaiCyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori â’r cyhoedd ar gynigion y gyllideb ac yn ystyried yr adborth gan y cyhoedd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol yn y Flwyddyn Newydd.

 

Y mae effaith bosib seibr-ymosodiadau yn dal yn amlwg; gostyngodd y sgôr risg o 16 i 12.  Trwy gydol y flwyddyn, bu gwasanaeth TG Cyngor Casnewydd (dan arweiniad y Cyd-Wasanaeth Adnoddau) yn cynnal profion, yn monitro ac yn adrodd am ymosodiadau ar systemau’r Cyngor. 

Yroedd gan y Cyngor fesurau i reoli seibr-ymosodiadau ac i reoli unrhyw achosion o dorri systemau, gan gynnwys hyfforddiant i staff ac aelodau.

 

Fel y nodwyd yn risg cyllideb Tymor Canol y Cyngor, cafwyd effaith hefyd ar ysgolion ledled Casnewydd, gyda’r sgôr risg yn cynyddu o naw i 12 oherwydd pwysau chwyddiant, ac yr oedd mwy o risg y byddai rhai ysgolion mewn sefyllfa o ddiffyg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Yroedd y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion a’u cyrff llywodraethol i adnabod a chefnogi ysgolion a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol a rhoi’r camau angenrheidiol ar waith i liniaru’r effeithiau.

 

Arderfyn chwarter 2, ar sail y wybodaeth a ddarparwyd, cytunodd y Cyngor i gau dwy risg, pandemig Covid-19 a risg trosi wedi gadael yr UE. 

 

Yroeddem yn cydnabod fod Covid yn dal i gael effaith ar y trigolion ac y mae ein tîm Argyfyngau Sifil ynghyd a phartneriaid mewn Iechyd a Llywodraeth Cymru yn dal i fonitro ei effaith ar draws cymunedau a gwasanaethau allweddol. 

 

Y mae llawer o wasanaethau yng Nghyngor Dinas Casnewydd bellach yn rheoli ei effeithiau trwy AD cyson, a threfniadau busnes fel arfer iechyd a diogelwch. 

 

Rhoddwyd y gorau i drefniadau argyfwng Aur rhanbarthol a lleol i adlewyrchu’r sefyllfa hon. 

 

Cytunwyd felly i gau’r risg hon ar derfyn Chwarter 2. 

 

Ersi’r Du adael yr Undeb Ewropeaidd, y mae llawer o’r trefniadau sydd ar waith y tu hwnt i reolaeth Cyngor Casnewydd i raddau helaeth. 

 

Fel rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr ydym yn parhau i roi ein sylwadau ac ymateb i unrhyw newidiadau yn y dyfodol i drefniadau wedi gadael yr UE wrth iddynt ymddangos.

 

I ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghasnewydd, yr ydym wedi ymrwymo o hyd i gefnogi’r cymunedau hynny a’r trigolion y byddai croeso iddynt o hyd i fyw yng Nghasnewydd.  Mae ein tîm Cydlynu Cymunedol a phartneriaid eraill yn parhau i gefnogi dinasyddion yr UE gydag unrhyw gyngor a chyfarwyddyd, ac yn dal i ddathlu a hyrwyddo’r manteision y mae gwahanol ddiwylliannau yn roi i Ddinas Casnewydd. 

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Soniodd y Cynghorydd Davies am y tair risg gysylltiedig ag Addysg, a thra byddent yn dal yn oren, byddai’r Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnal yn gweithio’n galed gyda’r tîm ysgolion gan y byddai effaith y gyllideb yn rhoi pwysau mawr ar ysgolion, yn enwedig ar leoliadau allsirol. Yr oedd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar ysgolion.  Yr oedd yn bwysig felly canolbwyntio ar gadw’r risg o hyn yn isel. Yr oedd yr Aelod Cabinet hefyd yn adleisio sylwadau’r Arweinydd fod croeso i bawb yn ninas Casnewydd fel dinas noddfa.

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Marshall at wasanaethau ar y cyd, ac mewn cyfarfodydd briffio gyda gwasanaethau oedolion, byddai’r Cabinet yn dal i ganoli ar fannau lle gellid lleihau’r risg bob cyfle a geid.

 

·         Yroedd y Cynghorydd Hughes yn cefnogi’r sylwadau am wasanaethau oedolion, a hefyd fater cydlynu cymunedol, gan ddweud ei fod wedi ymweld â marchnad gymunedol  Hwngaraidd yng Nghasnewydd, a gweld fod eu plant yn siarad Cymraeg a’u bod wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd, a bod eu diwylliant wedi cael effaith gadarnhaol. Yr oedd yn bleser eu gweld yn dathlu eu diwylliant.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys y cyfoesiad am chwarter dau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Dogfennau ategol: