Agenda item

Cynllun Lles Gwent

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau am Gynllun Lles Gwent 2023-28, gan geisio sylwadau gan y Cabinet fel rhan o’r broses ymgynghori statudol.

 

Yr oedd gofyniad statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i Gyrff gwasanaethau Cyhoeddus gynhyrchu cynllun lles fyddai’n gosod allan amcanion sut i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd i gyfrannu at gyrraedd y saith Nod Llesiant Cenedlaethol

 

Ym mis Gorffennaf 2021 cytunwyd y dylai’r pump BGC lleol, gan gynnwys UnCasnewydd, uno i ffurfio BGC Gwent, a thrwy hynny gryfhau trefniadau partneriaeth ar draws y rhanbarth. Yr oedd y cynllun lles felly wedi ei seilio ar asesiadau angen ar draws Gwent gyfan, gan gynnwys chwe ardal leol Casnewydd

 

Fel cadeirydd partneriaeth UnCasnewydd, a ddaeth yn gr?p cyflwyno lleol, byddai’r Cyngor yn cydweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid i gyflwyno amcanion y cynllun terfynol yn rhanbarthol a lleol 

 

Dangosodd dadansoddiad mo’r asesiadau angen y tair thema allweddol yr oedd ein trigolion am eu blaenoriaethu, wedi eu grwpio dan yr amcanion drafft isod o’r ymgynghoriad:

·         Yr ydym eisiau creu Gwent deg a chyfartal i bawb

·         Yr ydym eisiau creu Gwent sydd â chymunedau cyfeillgar, diogel a hyderus

·         Yr ydym eisiau creu Gwent lle mae’r amgylchedd naturiol yn cael ei warchod a’i wella er mwyn cael y manteision lles mwyaf a rydd natur i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw cydweithwyr y Cabinet at bob un o’r amcanion drafft a’r camau cysylltiedig.

 

Caeodd y cyfnod 12-wythnos statudol o ymgynghori ar y cynllun drafft ar 31 Rhagfyr, ac wedi hynny byddai’n cael ei newid, a chyflwyno fersiwn derfynol i’r Cyngor i’w gymeradwyo a’i fabwysiadu ym mis Chwefror 2023. 

 

Byddai’n rhaid i bob sefydliad arall sy’n bartneriaid hefyd gytuno i’r Cynllun, ac y mae cytuno i gynllun terfynol BGC Gwent i ddigwydd ganol Ebrill 2023, a’i gyhoeddi ym Mai 2023.

 

Ochr yn ochr â hyn, yr oedd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid UnCasnewydd a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu’r cynllun gweithredu lleol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion penodol cymunedau ledled y ddinas.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

·         Paratôdd y Cynghorydd Batrouni ddau gwestiwn i’r Arweinydd am ba feysydd eraill y gallai cynghorau Gwent wella gwasanaethau.  Yng ngoleuni hyn, gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol a oeddem yn rhannu data, neu ddadansoddiad manwl o batrymau, neu ragolygon at y dyfodol gyda’n partneriaid, a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i gyrraedd yr amcanion. Rhoddwyd enghraifft, sef lleihau tlodi plant: dan bennawd rheoli perfformiad, crybwyllwyd sut yr oeddem yn gwneud cynnydd, ond nid oedd dim wedi ei nodi dan hyn, a theimlai’r Aelod Cabinet fod hwn yn bwynt allweddol ddylai gael ei gwblhau. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod hyn wedi ei grybwyll yng nghyfarfod Partneriaeth UnCasnewydd y diwrnod cyntaf, a bod y blaenoriaethau angen eu pwysleisio. Yr oedd yr amcan drafft cyntaf, sef creu Gwent deg a chyfartal, yn ymrwymiad uchelgeisiol iawn i’r holl bartneriaid ar draws BGC Gwent. Yr oedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Athro Syr Michael Marmot i edrych ar anghydraddoldeb gydol oes, oedd yn cael ei fonitro a’i gofnodi i weld sut y gellid gwella hyn. Yr oedd yn bwysig fod hyn yn cael ei gyflwyno, nid yn unig ledled Gwent ond yng Nghasnewydd.  Yr oedd Partneriaeth UnCasnewydd yn gryf iawn, ac yr oedd yr aelodau yn awyddus i sicrhau ein bod yn cyflwyno’r hyn sy’n iawn i Gasnewydd.  Yr oedd pum maes ymyriad, gyda pherfformiad yn cael ei fonitro yn eu herbyn. Yr oedd yn bwysig i ni gydnabod gwerth y data hwn, a phwysleisiwyd rôl partneriaid eraill y sector cyhoeddus megis Prosiect Jigsaw sy’n gweithio gyda’r Gwasanaeth Tân a Chyngor Dinas Casnewydd.  Mae hyn yn help i ni adnabod cartrefi bregus ledled Casnewydd a Sir Fynwy, ac yn dangos cystal y mae partneriaethau yn gweithio a sut y gallai hyn wneud gwahaniaeth.

 

·         Yr oedd y Cynghorydd Hughes yn cydnabod gwaith y sefydliad partneriaeth. Dylid cael amcanion nid yn unig ar gyfer y cynllun lles ond i gymdeithas gyfan. Yr oedd yn uchelgeisiol, ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gallai ac y dylai cymunedau fod. Yr oedd yr amcanion yn glodwiw ac yr oedd modd eu cyrraedd, gan wneud gwelliannau i’r gymuned. Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol am ei waith gyda’r Bwrdd Partneriaeth Lleol.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet yn:

 

a)            Adolygu a derbyn y drafft o Gynllun Lles Gwent i ymgynghori arno

b)            Argymell y fersiwn derfynol i’r Cyngor ar 28 Chwefror 2023 i’w gymeradwyo a’i fabwysiadu

 

Dogfennau ategol: