Agenda item

Cynllun Ariannol y Gronfa Integreiddio Ranbarthol

Cofnodion:

Yreitem nesaf ar yr agenda a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd adroddiad yn amlinellu’r rhwymedigaethau ariannol yn deillio o’r cynnig i leihau Cronfa Integreiddio Ranbarthol Gwent, gan ddisgrifio sut y sefydlwyd y gronfa fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu i arwain a chefnogi trawsnewid mewn gofal cymdeithasol ac iechyd ar draws y sector cyhoeddus.

 

Sefydlwyd y Gronfa Integreiddio Ranbarthol fel rhaglen bum-mlynedd i greu newid cadarnhaol ac arloesedd er mwyn gwella gwasanaethau i’n dinasyddion mwyaf bregus. Yr oedd cyfanswm y Gronfa Integreiddio Ranbarthol  yr un fath am y pum mlynedd gyfan, ond y cynnig oedd ei lleihau er mwyn rhyddhau arian bob blwyddyn i brosiectau newydd tra bod prosiectau a gyllidwyd yn flaenorol yn cael eu prif-ffrydio.

 

Foddbynnag, yr oedd y gronfa yn olynydd i raglenni blaenorol a gyllidwyd gan grantiau y Gronfa Gofal Integredig.

 

Yroedd llawer o’r rhaglenni yr arferid eu cyllido gan y Gronfa Gofal Integredig ac a gyllidir yn awr gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol yn hanfodol er mwyn parhau i gyflwyno gofal cymdeithasol yn ddiogel i wasanaethau plant ac oedolion.

 

Ymysgrhai o’r amryfal wasanaethau a gefnogir gan y gronfa y mae gwasanaethau ymyriad cynnar i bobl â dementia, cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, gofal Gwarcheidwaeth Arbennig a gwelyau camu i fyny / camu i lawr.

 

Y mae llawer o’r gwasanaethau yn cael eu rheoli a’u rhedeg yn rhanbarthol, ond y mae gwasanaethau ar gyfer ein trigolion ni yn unig yn derbyn cyfanswm o £2,049,655 mewn Cyllid Rhanbarthol Integredig. Yn 2023/2024, blwyddyn gyntaf y lleihau, bydd yn rhaid i ni sicrhau £396,719 er mwyn cynnal y gwasanaethau presennol.

 

Yroedd cydweithwyr yn y Cabinet yn cefnogi’r uchelgais i allu parhau i gyflwyno arloesedd a sicrhau bod gwersi cadarnhaol yn rhan allweddol o gyflwyno ein gwasanaethau. Byddai’r cynnig i leihau’r cyllid yn raddol yn fecanwaith i ryddhau carian grantiau wedi treialu modelau newydd fel cynlluniau peilot.

 

Gwaetha’rmodd, byddai’r newid yn y rhagolygon ariannol  yn golygu y byddai mabwysiadu’r lleihau graddol yn golygu diwedd ar wasanaethau allweddol gan na fyddai modd i ni eu cyllido o gyllidebau eraill.

 

Y mae pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn rhoi ystyriaeth i’r trefniadau lleihau graddol presennol a’r heriau y mae model o’r fath yn gynrychioli. Y mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent yn ceisio barn y partneriaid er mwyn dod i gytundeb.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Soniodd y Cynghorydd Hughes, sy’n cynrychioli’r Cabinet ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, fod Casnewydd yn dal wedi ymrwymo i amcanion y GIR a’r cynnydd sylweddol a wnaed eisoes. Yr ydym eisiau gweld newid trawsnewidiol yn digwydd ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol er budd dinasyddion Cymru, Casnewydd a rhanbarth Gwent. Bu cryn newidiadau economaidd ers sefydlu’r gronfa, oedd wedi dod a heriau o ran gweithredu’r lleihau. Yr ofn oedd y byddai hyn yn tanseilio’r galwadau craidd ac elfennau o’r ddarpariaeth. Bydd lleihau’r arian yn raddol yn 2023/24 yn cael effaith ar wasanaethau craidd ac yn rhoi mwy o heriau ar gyllideb y gwasanaethau cymdeithasol. Agwedd allweddol o’r adroddiad oedd bod y cynnig i leihau mewn perygl o danseilio ein llwyddiannau hyd yma. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn croesawu ymdrechion yr AS i ddod o hyd i ateb. Yr oedd Tîm Arweinyddiaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ail-drafod ac yn ceisio adolygu amodau’r grant ac yr oedd yr Aelod Cabinet yn cefnogi penderfyniad y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac yn argymell mai dyma fyddai’r safbwynt i ni ei gymryd fel Cyngor at y dyfodol. Yr oedd teimlad unfrydol ym Mwrdd Rhanbarthol Gwent, yr awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd, ac yr oedd yr Aelod Cabinet felly’n cefnogi’r argymhellion a wnaed.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn :

 

a)     Ystyriedrhwymedigaethau ariannol ac oblygiadau’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol a’r model o leihau’r cyllid yn raddol.

b)     Yng ngoleuni’r heriau ariannol sylweddol y byddai’r trefniadau lleihau arfaethedig yn osod ar yr Awdurdod Lleol, fod y Cabinet yn cefnogi arweinwyr y BPR i geisio adolygu amodau’r grant.

Dogfennau ategol: