Agenda item

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Yreitem nesaf ar yr agenda a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yroedd gan y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr dynodedig dros Wasanaethau Cymdeithasol, ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cyngor.

 

Rhaidi’r adroddiad osod allan asesiad personol ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyni ei swyddogaethau gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis a aeth heibio.

 

Yroedd yr adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod 2021 i 2022 ac wedi ei osod allan yn y fformat a nodwyd dan y canllawiau.

 

Gwahoddoddyr Arweinydd y Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol i ddweud ychydig o eiriau.

 

Crybwyllodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol waith caled y staff oedd yn dal i roi gwasanaeth i ddinasyddion bregus ar waethaf yr amgylchiadau heriol. Dylem ymfalchïo yn ein cydweithwyr a’r gwaith maent yn wneud. Diolchodd y  Cyfarwyddwr Strategol i’r Arweinydd am y cyfle i siarad.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, yr oedd y Cyngor wedi gweld ailstrwythuro ein tîm Uwch-reoli a phenodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol parhaol. Wrth gwrs, effeithiwyd yn enfawr ar gyflwyno gofal cymdeithasol yn 2021 2022, yn gyntaf gan covid a chyfyngiadau’r pandemig, ac yn fuan wedyn, problemau costau byw.

 

 

Ychwanegoddyr Arweinydd hefyd fod staff ar draws yr holl Wasanaethau Cymdeithasol yn parhau i roi’r rhan fwyaf o’u darpariaethau wyneb yn wyneb, er yn manteisio ar weithio hybrid mewn rhai meysydd allweddol. Yr ydym yn parhau i ddysgu a gwella arferion o ran y dull hwn o weithio.

 

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Nododd y Cynghorydd Hughes mai adroddiad ôl-weithredol oedd hwn, a dymunodd ymddeoliad hapus i Chris Humphries. Yr oedd gan y gwasanaethau cymdeithasol dîm rheoli eithriadol oedd yn cwrdd â heriau’r pandemig yn ogystal â’r newidiadau strwythurol. Y mae’r maes gwasanaeth yn dal i gadw trigolion Casnewydd yn ddiogel, ac yr oedd yr Aelod Cabinet felly’n teimlo bod yr adroddiad hwn yn amlygu eu rhagoriaeth. Byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn dal i wynebu mwy fyth o alwadau, ac yr oedd y staff yn glod i’r ddinas. Diolchodd y  Cynghorydd Hughes hefyd i’r Cynghorydd Cockeram, y cyn-Aelod Cabinet, yn ogystal â Sally-Ann Jenkins, y Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol gan gydnabod ei gwaith caled a’i chyfraniad i bob rhan o’r ddinas.

 

·         Diolchodd y Cynghorydd Marshall i’r Arweinydd am y gefnogaeth ariannol ychwanegol o ran y newidiadau a ddigwyddodd adeg yr adroddiad. Teimlai’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol fod yr Arweinydd yn iawn i dynnu sylw at y mentrau arloesol yn y gwasanaeth, megis y gwaith Babi a Fi, oedd yn arfer da yng Nghasnewydd.  Yr oedd yr adroddiad yn glir, mawl, agored a thryloyw, a diolchodd i’r Cyfarwyddwr, y rheolwyr a’r holl staff am eu parodrwydd i helpu eraill yn ystod covid, gan sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal, tra’n dal i arloesi.

 

Diolchoddyr Arweinydd i’r holl staff am eu gwaith caled a’u gofal cyson.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

 

a)    Nodi adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

b)    Gwneudsylwadau am gynnwys adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ategol: