Agenda item

Adroddiad Pwysau Allanol

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad uchod, sef ymateb y Cyngor i’r pwysau allanol oedd yn cael effaith ar eu gwasanaethau.

 

Mae’radroddiad yn rhoi trosolwg o’r effaith economaidd ehangach ar lefel y DU a Chymru ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2022.

 

Yroedd y sefyllfa yn heriol, ac y mae’n bwysig i bawb gydweithio gyda phartneriaid er mwyn gallu cynnal ein trigolion mwyaf bregus gymaint ag y gallwn. 

 

Yroedd cymunedau ledled Casnewydd yn wynebu pwysau ariannol digynsail oherwydd cynnydd mewn chwyddiant ym mhrisiau ynni, bwyd, morgeisi, rhent a chostau eraill i aelwydydd. 

 

Yn ychwanegol at hyn, yr oedd y sector cyhoeddus gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau, elusennau a mudiadau nid-am-elw hefyd yn wynebu costau cynyddol ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ran y gwasanaethau a ddarperir ac yn pasio’r costau hyn ymlaen i’r cwsmer. Rhagwelir y bydd mwy o heriau yn y gaeaf, a mwy o effaith ar gymunedau a busnesau. 

 

Diolchoddyr Arweinydd i’r staff am eu gwaith caled cyson. Y mae  Casnewydd yn ddinas noddfa a byddai’n rhoi cefnogaeth i’r sawl fydd ei angen.

 

Yroedd gan Gasnewydd hanes maith o groesawu pobl oedd yn chwilio am nodded, ac y mae’n parhau i gynnig lle diogel i’r sawl sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, ac y mae’r Cyngor yn llawn gefnogi cynlluniau Llywodraethau’r Du a Chymru i roi nodded ddiogel.

 

Yroedd hyn,  fodd bynnag, yn rhoi mwy o alw ar wasanaethau’r Cyngor ac yn enwedig ar y stoc tai preifat a gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Yroedd trigolion oedd yn cael anhawster felly’n cael eu hannog i gysylltu â’r Cyngor a fyddai’n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl dalu eu biliau a cheisio eu hatal rhag mynd i drafferthion ariannol. 

 

Yroedd gweithio gyda phartneriaid yn bwysig i gyrraedd y nod hwn. Fel Cadeirydd UnCasnewydd, yr oedd yr Arweinydd yn hyderus am y partneriaethau cryf ledled y ddinas, ac y mae ymrwymiad ac ymroddiad yr holl bartneriaid i wneud popeth yn eu gallu yn galonogol, fel y gwelwyd mewn uwch-gynhadledd costau byw ym mis Tachwedd, a gynhaliwyd gan yr Arweinydd.

 

Byddaiswyddogion yn parhau i hwyluso digwyddiadau cymunedol ledled y ddinas gydag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn rhoi cyngor a chyfarwyddyd arm y gefnogaeth sydd ar gael o ffynonellau lleol a chenedlaethol, a byddant yn parhau i gefnogi mentrau Llywodraeth Cymru gan gynnwys mannau cynnes a chymorth i hawlio’r hyn sy’n ddyledus

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·         Soniodd y Cynghorydd Davies am waith caled y gwirfoddolwyr oedd yn mynd â bwyd i’r rhai hynny yng Nghasnewydd oedd mewn angen. Gwnaeth y Cynghorydd Spencer Siôn Corn arbennig i blant yn ei ward.  Diolchodd yr Aelod Cabinet i ysgolion yng Nghasnewydd am weithio’n galed yn ogystal ag am ddarparu talebau bwyd ar gyfer prydau ysgol.

 

·         Soniodd y Cynghorydd Clarke ei fod ef a’r Arweinydd wedi ymweld ag Eglwys y Santes Fair ym Malpas ac wedi helpu gyda lapio anrhegion Nadolig. Yr oedd yn wych gweld y gwirfoddolwyr yn cefnogi’r gymuned, oed dyn gwneud i rywun deimlo’n wylaidd. Diolchodd yr Aelod Cabinet hefyd i’r gwirfoddolwyr yng Nghasnewydd.

 

·         Ychwanegodd y Cynghorydd Harvey fod y fyddin o wirfoddolwyr yng Nghasnewydd yn rhoi cefnogaeth eithriadol. Soniodd yr Aelod Cabinet dros Les Cymunedol am y staff yng Nghasnewydd oed dyn gweithio mor galed ac yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gofynnir iddynt wneud.

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at y modd y daeth Caerllion at ei gilydd i gefnogi elusennau lleol, gan grybwyll yr hwb yng Nghaerllion lle gallai pobl ddod i dderbyn gwybodaeth ariannol. Y mae gwaith gwirfoddol yng Nghasnewydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled y ddinas.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgaredd y Cyngor i ymateb i’r ffactorau allanol oedd yn effeithio ar gymunedau, busnesau a gwasanaethau cyngor Casnewydd.

Dogfennau ategol: