Cofnodion:
Y neges bwysig y mae'r Arweinydd am ei hanfon mewn perthynas â'r adroddiad uchod oedd annog preswylwyr a oedd yn ei chael hi'n anodd, i gysylltu â'r Cyngor a allai ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl dalu eu biliau a cheisio eu hatal rhag mynd i unrhyw anhawster ariannol.
Fel Cadeirydd Casnewydd yn Un roedd yr Arweinydd yn hyderus o bartneriaethau cryf y Cyngor ledled y ddinas, ac yn ei dro, ymrwymiad ac angerdd yr holl bartneriaid i wneud popeth o fewn eu gallu yn yr uwchgynhadledd costau byw a gynhaliwyd ym mis Tachwedd.
Parhaodd swyddogion y Cyngor i hwyluso digwyddiadau yn y gymuned ledled y ddinas gydag amrywiaeth o bartneriaid i roi cyngor ac arweiniad ar y cymorth sydd ar gael o ffynonellau lleol a chenedlaethol, yn ogystal â chefnogi mentrau Llywodraeth Cymru gan gynnwys mannau cynnes a Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi – roedd gan bob un gyfrifoldeb i gyfeirio preswylwyr i'r fenter hon.
Lansiodd Casnewydd ei mannau cynnes ym mis Rhagfyr ac roedd y cyngor yn darparu saith lle cynnes yn ei adeiladau ei hun, o dan stiwardiaeth y Cynghorydd Harvey, yr Aelod Cabinet dros y Gymunedau a Lles. Roeddem yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol a chymunedol a oedd ar hyn o bryd yn hwyluso naw arall, gyda thri arall yn lansio y mis hwn. Roedd y cyngor yn gweithio gyda GAVO i ddarparu cyllid i gefnogi rhedeg mannau cynnes a datblygu cynigion newydd gyda ffocws penodol ar ardaloedd nad oedd yn cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar wefan y cyngor.
Parhaodd cydweithwyr o bob rhan o'r cyngor i gefnogi pobl drwy'r Cynllun Cartrefi i Wcráin a Thîm Uwch-noddwyr Cymru. Roeddem mewn cyfnod pan oedd y ddau gynllun yn wynebu risg sylweddol wrth i'r trefniadau cynnal cychwynnol ddod i ben ac roedd y cyngor yn aros am gadarnhad a fyddai gwestai llety cychwynnol, a gaffaelwyd drwy'r cynllun uwch-noddwyr, yn cael eu hymestyn o fis Mawrth 2023. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd llywodraeth y DU newidiadau i'r drefn ariannu. Ni fyddai'r taliadau cymorth o £10.5k yn cael eu hymestyn a byddai taliadau ar gyfer newydd-ddyfodiaid yn cael eu gostwng i £5.9K. Byddai taliadau i ddarparwyr yn cynyddu o £350 y mis i £500 y mis ar ôl blwyddyn o gynnal. Byddai Awdurdodau Lleol yn Lloegr hefyd yn cael mynediad at gronfa gwerth £500 miliwn i brynu llety i bobl o Wcráin, ond ni chafodd hyn ei ymestyn i wledydd datganoledig.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
· Diolchodd y Cynghorydd Harvey i swyddogion am roi'r mannau cynnes ar waith mor brydlon.
· Ychwanegodd y Cynghorydd Davies fod y ddogfen yn canolbwyntio ar ddarpariaeth ysgolion o glybiau brecwast, banciau bwyd a banciau gwisg ysgol. Tynnodd y Dirprwy Arweinydd sylw hefyd at y diolch am athrawon a oedd yn creu pecynnau bwyd ar gyfer teuluoedd ac yn dosbarthu i'r teuluoedd hynny y nodwyd eu bod fwyaf mewn angen, yn enwedig yn ystod y Nadolig, gan ddarparu prydau Nadolig. Roedd y Cynghorydd Davies yn ddiolchgar bod staff wedi cymryd yr amser i wneud hyn.
· Roedd y Cynghorydd Hughes yn ymweld yn rheolaidd ag eglwys gymunedol yng Nghaerllion a ffurfiodd brosiect o'r enw Isca Haven ym mis Tachwedd. Roedd y prosiect yn cefnogi pobl yn y gymuned mewn angen. Ni fyddai hyn wedi digwydd heb y partneriaethau cryf yn y gymuned, yr eglwys, banciau bwyd a'r Cyngor. Roedd y cyfuniad o gymorth i'r gr?p ac roedd yn bwysig felly pwysleisio mai ymdrech tîm oedd yn gwneud gwahaniaeth. Diolchodd yr Aelod Cabinet i bawb a ddaeth yn rhan o'r prosiect.
Amlygodd yr arweinydd elfen bwysig hyn a'i bod hefyd yn bwysig cydnabod rôl yr aelodau etholedig o fewn eu wardiau.
· Soniodd y Cynghorydd Marshall ei bod yn wych gweld aelodau'r gymuned, gan gynnwys busnesau, staff a phreswylwyr yn helpu dros gyfnod y Nadolig ac yn cwrdd a chyfarch pobl. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet hefyd na ddylai preswylwyr fod â chywilydd i gysylltu â'r Cyngor os oedd angen cymorth arnynt. Roedd cysylltwyr cymunedol hefyd ar waith i roi cyngor a darparwyd mannau cynnes, daeth y rhain â phobl unig at ei gilydd i ffurfio cyfeillgarwch yn y gymuned. Roedd staff yr ysgol hefyd yn gymorth enfawr yn y gymuned yn ogystal â staff mewn hybiau lleol.
· Ychwanegodd y Cynghorydd Clarke ei bod yn anodd i Gasnewydd a diolchodd i'r Arweinydd am ei chefnogaeth. Ategodd yr Aelod Cabinet hefyd sylwadau'r Cynghorydd Marshall, os oedd preswylwyr yn poeni ac angen help, bod y Cyngor yno i'w cefnogi ac i ofalu amdanynt.
· Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at yr effaith a gafodd yr argyfwng costau byw ac adleisio sylwadau cydweithwyr ynghylch partneriaethau cymunedol. Trafodwyd yr atebion hirdymor yn yr eitemau agenda blaenorol a byddai'r eitemau blaenorol hyn yn diogelu rhag adegau fel hyn yn ein heconomi ac yn ein gwneud yn fwy gwydn.
Diolchodd yr arweinydd i'r holl gydweithwyr am roi o’u hamser i ystyried a darllen yr adroddiad. Adlewyrchodd yr Arweinydd hefyd ar y cyfraniad a wnaeth swyddogion a'u hymrwymiad ar draws yr awdurdod cyfan. Rhoesant eu hamser eu hunain i gefnogi preswylwyr Casnewydd ac roedd ganddynt enghreifftiau gwych lle’r aethant y tu hwnt i’r disgwyl i gefnogi preswylwyr. Roeddem yn ffodus bod swyddogion wedi ymrwymo'n llwyr i wasanaeth cyhoeddus i ddarparu ar gyfer pobl Casnewydd.
Penderfyniad:
Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgarwch y Cyngor i ymateb i'r ffactorau allanol ar gymunedau, busnesau a gwasanaethau cyngor Casnewydd.
Dogfennau ategol: