Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Croesawoddyr Aelod Llywyddol yr Uwch-Arolygydd Vicki Townsend, a roddodd gyfoesiad i aelodau’r cyngor am faterion yr Heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol y Dirprwy Arweinydd i annerch yr Uwch-Arolygydd Townsend.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i’r UA Townsend am ddod i’r cyngor llawn, a diolch yn benodol i’r Heddlu ar ran ei holl gydweithwyr yn y cyngor, ac yn enwedig y Prif Arolygydd John Davies am y wybodaeth a rannodd gyda’r cynghorwyr ar ddechrau’r Flwyddyn newydd. Yr oedd y llythyr newyddion a ddarparodd yn amlinellu’r blaenoriaethau daearyddol mewn wardiau, oedd yn llawn gwybodaeth ac o gymorth. Yr hyn a groesawyd yn arbennig oedd ei fwriad i gwrdd â’r holl gynghorwyr yn bersonol ym mis Chwefror, a fyddai’n gyfle da i leisio pryderon y trigolion ac i weithio gyda’r heddlu i leihau troseddau yn yr ardaloedd lleol. Yr oedd yn dda gwybod y cynhelid y cyfarfodydd hyn yn chwarterol yn y dyfodol, gan y byddai hyn yn cryfhau cysylltiadau gydag aelodau etholedig a’u tîm heddlu lleol.

 

Cyfeirioddyr adroddiad hefyd at waith campus Tîm Safonau Masnach y Cyngor sy’n gweithio’n agos gyda’r heddlu ac sydd wedi cael canlyniadau cadarnhaol: yr oedd angen nodi a chanmol hyn.

 

Cwestiynaui’r Heddlu a Godwyd gan y Cynghorwyr:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at orfodi’r terfyn cyflymdra 20mya ledled y ddinas, a gofynnodd a fyddai cynnal hyn yn effeithio ar adnoddau’r heddlu. Sicrhaodd yr Uwch-Arolygydd y Cynghorydd Evans na fyddai swyddogion rheng-flaen yn cael eu symud o ddyletswyddau eraill i drin materion gorfodi terfynau cyflymder.

 

§  Cyfleodd y Cynghorydd Al Nuaimi ei ddiolch hefyd i arolygwyr canol y ddinas oedd yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd, a dymunodd y gorau hefyd i Sean Conway oedd wedi gadael ei swydd, a chroesawodd Hannah Welty. Holodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr Uwch-Arolygydd am brosiect Angel y Cyllyll ac am adborth am effeithiolrwydd yr hyn oedd wedi ei osod yng nghanol y ddinas. Amlinellodd yr Uwch-Arolygydd yr adborth cadarnhaol ar Angel y Cyllyll, a pha mor dda yr oedd y gymuned yn ei dderbyn. Yr oedd y gwaith cyffredinol yn cael ei oruchwylio gan Matt Edwards, heddwas oedd yn gweithio ym mhencadlys yr heddlu  ac yn edrych ar yr effeithiau ehangach. Serch hynny, yr oedd yn rhy gynnar i roi adroddiad ar hyn o bryd, ond byddai modd rhoi cyfoesiad am ganfyddiadau’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf.

 

§  Fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, nododd y Cynghorydd M Howells y diffyg adborth gan yr heddlu i geisiadau cynllunio. Hefyd, wrth siarad â heddweision lleol, yn aml, nid ydynt yn ymwybodol o’r ceisiadau hyn a theimlent y gallant wneud cyfraniad. Holodd y Cyng. Howells sut y gallai’r cyngor a’r heddlu felly gydweithio i sicrhau gwell cyfathrebu yn y dyfodol, yn enwedig o ran ceisiadau am Dai Amlbreswyliaeth (TA). Cytunodd yr Uwch-Arolygydd yr hoffai’r heddlu fod yn rhan o’r ymgynghori ar geisiadau cynllunio; yn anffodus, yr oedd cyfleoedd wedi eu colli, ac awgrymodd y gallai hi a’r Cynghorydd Howells drefnu cyfarfod ar wahân i drafod y ffordd ymlaen.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Whitehead at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Bettws, yr ystyriai ef oedd yn cael ei gyflawni gan yr un troseddwyr. Holodd y Cyng. Whitehead a oedd proses  ddifrifoli ar gael i’r heddlu er mwyn iddynt ymweld â chartrefi. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd fod proses ddifrifoli yn wastad ar gael, gydag amrywiaeth o ddewisiadau sifil oedd wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus yn y gorffennol. Argymhellodd yr Uwch-Arolygydd Townsend y dylai’r cynghorydd godi’r materion hyn yn y cyfarfodydd misol gyda’r heddlu, os na wnaed adroddiad eisoes amdanynt wrth yr heddlu, gan y byddai hyn yn helpu i roi gorchymyn sifil neu ymchwiliad troseddol ar waith, pa un bynnag fyddai fwyaf addas dan yr amgylchiadau.

 

§  Holodd y Cynghorydd Morris am gyfoesiad am E-feiciau. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd fod Ymgyrchoedd Arbennig Cefnogi Plismona'r Ffyrdd (RPSSO) yn cynnal ymgyrch arbennig ar E-sgwteri ar draws Gwent gan gynnwys Casnewydd, ond nad oedd yn si?r am y ffigyrau am Gasnewydd. Fodd bynnag, cipiwyd nifer ohonynt, gan gynnwys tri o un arést penodol yn ardal Maesglas. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd, yn anffodus, fod E-sgwteri yn anodd i ddelio â hwy am nad ceir ar y ffordd oeddent, a heb fod yn ddigon cyflym i’w hatal ar droed. Fodd bynnag, yr oedd gan yr RPSSO set wahanol o sgiliau i allu delio a hwy, a byddai’r Uwch-Arolygydd yn edrych ar yr ystadegau ac yn gwneud yn si?r y byddent ar gael ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Batrouni i’r Uwch-Arolygydd am holl waith caled heddlu Casnewydd. Soniodd am y posibilrwydd y gallai’r gwaith rhyfeddol oedd yn cael ei wneud yn lleol gael ei danseilio gan Heddlu’r Metropolitan, a holodd a oedd unrhyw  ôl-effeithiau yn deillio o hyn. Yn ail, gofynnodd y, Cyng. Batrouni a allai’r diwylliant o amddiffyn swyddogion, yn enwedig yng nghyswllt yr hyn oedd menywod yn ddweud am yr heddlu yn manteisio arnynt, hefyd fod yn digwydd yng Ngwent.  Dywedodd yr Uwch-Arolygydd fod yr argymhellion a’r camau a gododd o’r hyn a ddigwyddodd yn Heddlu’r Metropolitan yn dangos fod gwersi i’w dysgu, ac y dylid gwreiddio’r gwersi hyn waeth beth oedd sefyllfa bresennol Gwent, er mwyn tawelu meddyliau’r cyhoedd. Yr oedd yn bwysig cofio hefyd mai ymchwiliad penodol i Heddlu’r Met oedd hwn .

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Marshall at gefnogaeth yr heddlu i daclo twyll ar-lein. Rai blynyddoedd yn ôl, roedd y Cynghorydd Marshall wedi lleisio pryderon am bobl yn cael eu twyllo dros y ffôn a negeseuon testun, nid ar y cyfryngau cymdeithasol, a holodd a allai’r heddlu hefyd anfon deunydd trwy’r post i rybuddio yn erbyn twyllwyr oedd yn defnyddio’r dulliau hyn. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd Thomas y cynhaliwyd cyfarfod  diweddar yn yr heddlu gan y Prif Arolygydd  Davies i ddweud sut i adnabod y trigolion mwyaf bregus o safbwynt twyllwyr, a pha gamau priodol i’w cymryd yn erbyn hyn. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd fod angen cefnogaeth o safbwynt partneriaeth yn hyn o beth, ac y byddai’n croesawu unrhyw syniadau am sut i gydweithio. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd, er bod y cyfryngau cymdeithasol yn wych i gyfathrebu, fod risg hefyd na fyddai rhai pobl yn y gymuned yn eu defnyddio, felly y byddai’n croesawu unrhyw gyfraniad am ffyrdd eraill o gyfathrebu.