Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Cofnodion:

Yr oedd tri chwestiwn ysgrifenedig i Aelodau’r Cabinet:

 

Cwestiwn 1: Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

 

Cynghorydd Mark Howells:

Fel rhan o’r pwyllgor cynllunio ers f’ethol eleni, daeth yn amlwg fod cynnydd mewn ceisiadau cynllunio i droi eiddo yn TA.

 

Rwy’n siwr y bydd yr Aelod Cabinet yn cytuno mai’r rhain yw’r ceisiadau mwyaf dadleuol sy’n denu’r mwyaf o feirniadaeth gyhoeddus, ac os na chânt eu hystyried yn ofalus, y gallant greu cryn broblemau mewn cymunedau lleol. Mae gwrthdaro yn aml yn codi rhwng barn y cyhoedd, barn ac ystyriaethau Aelodau, a barn Swyddogion y Cyngor yn unol â chyfyngiadau deddfwriaethol. Y mis hwn yn unig, daeth cais gerbron y pwyllgor oedd yn ddadleuol, ac yr oedd  anghydweld rhwng Swyddogion ac Aelodau am yr agwedd iawn i’w chymryd.

 

Nid yw’r canllaw cynllunio atodol am TA yn help. Daeth i rym yn 2017 ac y mae wedi hen ddyddio a heb  ddal i fyny â newidiadau yn y gyfraith ar dai a chynllunio ers hynny. Nid yw’n cynrychioli barn yr Aelodau yn gyffredinol, ac ategir hyn ymhellach gan gefnogaeth drawsbleidiol yn y pwyllgor cynllunio ar y materion hyn.

 

Sylwaf fod adroddiad y Cabinet ar 11 Ionawr ynghylch yr amserlenni i gyflwyno’r CDLl heb gynnwys unrhyw wir ymrwymiad i newid y CCA oherwydd cyfyngiadau amser. O ystyried y problemau ynghylch TA, a theimladau cryf y cyhoedd yn eu cylch, fy nadl i yw na all y CCA am TA aros tan ar ôl 2026 i gael eu cyfoesi, ac y dylid edrych ac ymgynghori arnynt fel mater o frys er mwyn darparu gwell fframwaith i bennu’r ceisiadau hyn sydd yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn ymdrechu i fod yn gyngor sy’n gwrando.

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet felly ymrwymo i gyfarwyddo’r Swyddogion i gyfoesi’r CCA am y modd mae’r cyngor hwn yn delio â throsi i TA rhag blaen?

 

Ymateb y Cynghorydd James Clarke:

Rydym yn cydnabod y gall ceisiadau cynllunio am TA yn aml fod yn ddadleuol. Yn wir, gall TA sy’n cael eu rheoli’n wael a lle mae llawer ohonynt gyda’i gilydd arwain at broblemau sy’n effeithio ar drigolion lleol, ac yn aml y tenantiaid eu hunain. Fodd bynnag,  rhaid i ni gofio hefyd y gall TA sy’n cael eu rheoli’n dda integreiddio’n dda gyda’r gymuned leol a’u bod yn aml yn gyfle i gartrefu amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl ifanc broffesiynol. Felly dylid gochel rhag pardduo pob TA.

 

O ran y datganiad fod cynnydd mewn ceisiadau am TA, hoffwn gadarnhau nad yw hyn yn wir. Dengys y cofnodion cynllunio fod 30 cais wedi eu pennu yn 2020/21, 21 cais yn 2021/22 ac 16 cais yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rwy’n tybio mai’r hyn a wêl y Cyng. Howells fel aelod sydd newydd ei ethol yw nifer uchel o gyfeiriadau i’r Pwyllgor Cynllunio, a chamddehongli hyn fel cynnydd mewn ceisiadau fel y cyfryw.

 

Fel cyn-aelod o’r Pwyllgor Cynllunio ac yn awr fel yr Aelod Cabinet  sy’n gyfrifol am Gynllunio, rwy’n gyfarwydd iawn â phryderon aelodau a’u hofnau ynghylch problemau posib a all TA eu hachosi. Fodd bynnag, nid wyf yn credu mai Canllaw Cynllunio Ategol (CCA) newydd neu wedi ei gyfoesi yw’r ateb; erfyn ydyw i helpu i wneud penderfyniadau, sy’n ganllaw yn unig ac yn seiliedig ar dystiolaeth o angen ac effaith. Yn sicr, nid yw’n gyfrwng i adlewyrchu barn Aelodau eu hunain am fath arbennig o gynnig nad ydynt hwy’n digwydd ei hoffi. Mae’n rhoi canllaw ychwanegol ar y prif bolisi neu bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Fel y g?yr y Cynghorydd Howells eisoes o’r hyfforddiant manwl a chyson a dderbyniodd fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, rhaid i bob penderfyniad am ddatblygu gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu.  Mae Polisi H8 y Cynllun Datblygu yn glir iawn am y meini prawf y mae’n rhaid i gynigion am TA eu hateb, sef yr angen i sicrhau nad oes niwed i gymeriad yr adeilad a’r ardal, nad oes gormodedd o TA mewn un ardal, y darperir insiwleiddio digonol rhag s?n, a bod digon o fwynderau ar gyfer y preswylwyr yn y dyfodol. Ni allwn wrthod ceisiadau ar sail “nad ydym yn eu hoffi”. Rhaid cymryd penderfyniad mesuredig ar sail tystiolaeth, ac yn bersonol, yr oeddwn i’n falch o weld dadl agored a bywiog rhwng y Pwyllgor Cynllunio a Swyddogion yn y Pwyllgor Cynllunio y mis hwn, a oedd yn bennaf yn seiliedig ar dystiolaeth.

 

Yn ei gwestiwn, mae’r Cynghorydd Howells yn cadarnhau ei fod yn ymwybodol o adolygiad y CDLL sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n falch gennyf ddweud ein bod ar y cam dewisiadau twf, a bod y Cabinet yn ddiweddar wedi cymeradwyo adroddiad y gallwch ei weld arlein sy’n caniatau i ni ymgynghori â’n trigolion a rhanddeiliaid am sut yr hoffent hwy weld Casnewydd yn tyfu ac yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod. Fel rhan o adolygiad y CDLL, mae’n llawer mwy priodol ac effeithiol i ni adolygu polisi H8 yn hytrach na chynhyrchu mwy o ganllawiau.

 

Bydd yn gysur i chi ddeall ein bod eisoes yn gweithio ar hyn, a bod y  Cyngor wedi comisiynu darn o ymchwil a ddylai fod wedi ei gwblhau erbyn yr haf. Bydd y gwaith hwn yn dechrau adeiladu’r sylfaen o dystiolaeth sydd arnom ei angen i fod yn sail i’r polisïau yn y  CDLl newydd. Fel y gwyddom oll, bydd unrhyw bolisi newydd yn y CDLl yn cael ei archwilio gan  Arolygydd a benodir gan Lywodraeth Cymru a bydd angen i’r dystiolaeth fydd yn cefnogi unrhyw bolisi newydd, gan gynnwys polisi newydd ar TA, fod yn gadarn. Byddwn hefyd yn ymwneud â phartneriaid megis Heddlu Gwent ac yn adolygu cwynion a wneir am wasanaethau eraill y Cyngor er mwyn casglu’r holl dystiolaeth sydd ar gael. Mae ymgynghori â thrigolion, Aelodau a rhanddeiliaid wrth galon proses adolygu’r CDLl, a buaswn yn croesawu ymwneud y Cynghorydd Howells â’r adolygiad o’r polisi TA ac unrhyw bolisi arall y teimla nad yw’n rhoi iddo’r canlyniad mae ei eisiau. Yr ydym yn hapus i ystyried pob awgrym ac adborth. 

 

Mewn gwirionedd, fe wn fod yma rai cynghorwyr heddiw sydd wedi byw mewn TA. Felly dylid gochel rhag pardduo pob TA. O ran y datganiad fod cynnydd mewn ceisiadau am TA, hoffwn gadarnhau nad yw hyn yn wir.

Dengys y cofnodion cynllunio fod 30 cais wedi eu pennu yn 2020/21, 21 cais yn 2021/22 ac 16 cais yn y flwyddyn ariannol bresennol.  Rwy’n tybio mai’r hyn a wêl y Cyng. Howells fel aelod sydd newydd ei ethol yw nifer uchel o gyfeiriadau i’r Pwyllgor Cynllunio, a chamddehongli hyn fel cynnydd mewn ceisiadau fel y cyfryw.

 

Fel cyn-aelod o’r Pwyllgor Cynllunio ac yn awr fel yr Aelod Cabinet  sy’n gyfrifol am Gynllunio, rwy’n gyfarwydd iawn â phryderon aelodau a’u hofnau ynghylch problemau posib a all TA eu hachosi.

 

Cwestiwn Atodol:

 

Er nad cwestiwn atodol oedd hwn, dymunai’r Cynghorydd Howells ddatgan nad oedd yn erbyn TA ond ei fod yn teimlo y dylid cael canllawiau priodol am bennu TA yng Nghasnewydd a’i fod eisiau gwneud hyn yn glir yn y cofnod.

 

Cwestiwn 2: Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth

 

Cynghorydd Mark Howells:

 

Cefndir:

Yn 2022 cyn yr etholiadau am gynghorau lleol, cyhoeddodd y weinyddiaeth Lafur fuddsoddiad cyfalaf o 2.5m mewn Parciau. Ysgrifennais e-bost atoch ym Mehefin 2022 yn gofyn am fanylion am sut y bydd yr arian yn cael ei wario, a’ch ateb oedd:

 

Yr ydym wrthi’n trefnu seminar i’r holl aelodau am y maes gwasanaeth hwn. Bydd hyn yn helpu’r Aelodau etholedig i ymgyfarwyddo â chyfrifoldebau ac ymrwymiadau’r lefel gwasanaeth. Credaf y bydd hyn o gymorth arbennig i Aelodau sydd newydd eu hethol.

Cytunodd y weinyddiaeth cyn hyn i gynnydd yn y gyllideb cynnal a chadw, yn ychwanegol at y buddsoddiad cyfalaf pellach o £2.5m y cytunodd y Cabinet iddo. Eto, dylai’r seminar helpu i roi gwell dealltwriaeth o’r cyd-destun a’r blaenoriaethau.

 

Petae gennych unrhyw gwestiynau pellach wedi’r seminar, buaswn yn hapus i drefnu cyfarfod.”

 

Hyd y gwn i, ni chynhaliwyd unrhyw seminar o’r fath.

 

Yn fy nghwestiwn atoch ym mis Medi, a’ch ateb ysgrifenedig ar 3 Hydref, dywedasoch wrthyf fod y “buddsoddiad yn cynnwys mannau chwarae a mynwentydd ac y defnyddir yr arian i wneud gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni dros gyfnod o 2 flynedd.” Hwn oedd y tro cyntaf i mi a chydweithwyr eraill ac aelodau’r cyhoedd glywed am hyn.

 

Ysgrifennais atoch eto yn dilyn yr ymateb hwnnw yn gofyn am gyfarfod i drafod cyllideb y parciau, ond yn anffodus, gwrthod a wnaethoch. Yn eich e-bost ar 13 Hydref 2022.

 

O graffu pellach ar adroddiadau a chofnodion y Cabinet, nodir:

 

Yn y cyfarfod Cabinet ar 13 Gorffennaf 2022, crybwyllodd yr Arweinydd “bwysigrwydd y 2.5m i barciau a mannau agored – hefyd, neilltuwyd £300k o gyllid parhaol dros 2 flynedd i gynnal mannau chwarae a chyfarpar.”

 

Yn y cyfarfod Cabinet ar 12 Hydref, paratowyd adroddiad cyfalaf, ac ymddengys bod y cyllid yn awr wedi ei rannu am y tro cyntaf, gyda £700k i barciau am 22/23 a £500k am 22/23 i fynwentydd. Clustnodwyd £900k ymhellach am 23/24 i fynwentydd a £400k i barciau.

 

Ym mhapurau’r gyllideb i’r Cabinet yn Rhagfyr 2022, cadarnheir fod y Cabinet wedi ychwanegu £700k o gyllideb yn unig i welliannau i barciau, ac y rhagfynegir mai dim ond £46k gaiff ei wario erbyn diwedd blwyddyn ariannol end 22/23. Mae hyn ar waethaf y ffaith i chi fy hysbysu, mewn ateb i ‘nghwestiwn, fod y rhan fwyaf o’r gwaith wrthi’n cael ei dendro.

 

Cwestiwn:

A yw’r weinyddiaeth Lafur hon am fuddsoddi yn ein mannau gwyrdd a’n parciau, ynteu a oedd y cyhoeddiad am fuddsoddi £2.5m wedi’i wneud yn gyfleus yn union cyn etholiadau diwethaf y cyngor, sef dim ond addewid ffug adeg etholiad mewn gwirionedd? 

 

Pam na wariwyd unrhyw arian cyfalaf i wella ein parciau yn 2022 pan fod yr angen yn fawr ac yn amlwg i ddinasyddion Casnewydd?

 

Pam eich bod yna ?r yn ymgynghori ar osod taliadau parcio ar y mannau hynny, wnaiff ddim ond troi pobl ymaith o’u defnyddio?

 

A wnewch chi gytuno i gwrdd â mi a’m cydweithwyr yn y ward i weithio allan sut y gallwn wario peth o’r cyllid buddsoddi mewn parciau ar brosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein hetholwyr yn lleol?

 

Ymateb y Cynghorydd Yvonne Forsey:

 

Fel y dywedwyd yn f’ateb blaenorol wrthych, rhaglen 2-flynedd yw’r buddsoddiad cyfalaf o £2.5M ar gyfer parciau a mynwentydd y cytunodd y Cabinet arno. Mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu ar sail canlyniadau rhaglen archwilio flynyddol.

 

Fel y dywedwyd eisoes, mae ymwneud â’r trigolion yn elfen allweddol o’r gwaith hwn, er mwyn sicrhau bod y gymuned leol yn ymwneud yn ddigonol ag unrhyw waith adnewyddu sy’n digwydd. Yn ddiweddar, rydym wedi penodi swyddog ymwneud ac y mae’r gwaith tendro am gontractwyr yn digwydd.

 

Cytunwyd ar gyfarfod rhwng Aelodau ward Lliswerry a’r uwch-reolwr sydd â gofal am barciau gyda chi ym mis Tachwedd. Cynhaliwyd y seminar i’r holl aelodau ar 4 Awst 2022.

 

Gyda lefelau digynsail presennol chwyddiant a’r pwysau ar gyllidebau, rhaid i’r cyngor gynyddu ei incwm i dalu am wasanaethau mewn parciau, mannau agored a safleoedd cefn gwlad. Mae’n helpu i gynnal swyddi, gweithgareddau a gwasanaethau y mae’r cyhoedd yn dibynnu arnynt am hamdden ac adloniant ffurfiol ac anffurfiol.

 

Mae’r cynnig presennol yn ymestyn y cynllun codi tâl sydd eisoes mewn bodolaeth ym Mharc Belle Vue, Parc Tredegar a Fourteen Locks, heb unrhyw gynnydd o’r blynyddoedd blaenorol, ac a fu’n llwyddiannus i helpu i gynnal a chadw’r asedau.

 

Mae’r taliadau arfaethedig yn hynod isel o gymharu â chost rhedeg cerbyd modur.

 

Cwestiwn 3: Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau

 

Cynghorydd Ray Mogford:

 

Unwaith eto, profodd Bishton a Langstone, ynghyd â rhannau eraill o Ddwyrain Casnewydd lifogydd difrifol dros y penwythnos.

 

Beth mae’r Aelod Cabinet a’r weinyddiaeth hon yn wneud i sicrhau y bydd y llifogydd cyson hyn, sydd, mae’n debyg, yn gysylltiedig â newid hinsawdd, yn cael eu datrys unwaith ac am byth o safbwynt strategol?

 

Ymateb y Cynghorydd Laura Lacey:

O safbwynt strategol, Cyngor Dinas Casnewydd yw’r Awdurdod Lleol Llifogydd Arweiniol dros Gasnewydd ac y mae’n gweithio’n agos gyda’r holl awdurdodau rheoli llifogydd allweddol i reoli’r risg leol o lifogydd ledled y ddinas.

 

Mae ein Cynllun Lleol Rheoli Risg Llifogydd yn gosod allan sut y byddwn yn rheoli llifogydd o ffynonellau lleol fel mai’r cymunedau sydd mewn mwyaf o berygl fydd yn elw a fwyaf.

 

Wrth wneud hynny, mae’r cynllun yn dwyn ymlaen yr amcanion a’r camau a osodir allan yn  Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd yr awdurdod.

 

Byddwch yn ymwybodol fod y ddwy gymuned a grybwyllir yn eich cwestiwn yn cael eu hystyried yn y cynllun.

 

Nid yw ffynonellau llifddyfroedd yn wastad dan reolaeth Cyngor Dinas Casnewydd fel yr Awdurdod Llifogydd Arweiniol. Felly, rydym yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru, D?r Cymru a thirfeddianwyr lleol sydd oll â chyfrifoldebau rheoli d?r yn nwyrain Casnewydd.

 

Gallaf gadarnhau yr effeithiwyd mewn rhyw ffordd ar yr holl lifogydd a ddigwyddodd yn ddiweddar gan un neu fwy o berchenogion asedau trydydd parti, ac y mae’r swyddogion yn atgoffa’r perchenogion o’u dyletswyddau dan ddeddfwriaeth rheoli llifogydd, gan weithio gyda hwy i ddatrys y problemau a nodwyd.

 

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol, serch hynny, y bydd terfyn yn wastad ar gynhwysedd unrhyw system ddraenio, yn enwedig o gofio’r glaw trwm diweddar, a brofwyd ledled y wlad ac sy’n debyg o ddigwydd yn amlach oherwydd newid hinsawdd.