Agenda item

Adroddiad Chwe Misol ar Reoli'r Trysorlys - 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad, a amlygodd, fel ar 30 Medi 2022, fod benthyciadau yn £140.6m, gostyngiad o £1.5m o gymharu â lefelau union symiau 2021-22.

 

Achoswyd y gostyngiad hwn yn bennaf gan fenthyciadau Rhandaliadau Cyfartal y Prifswm (RhCP), oedd yn talu’r prif swm yn ôl dros einioes y benthyciad (ac o’r herwydd yn denu llai o gostau llog), fel dewis yn lle benthyciadau aeddfedrwydd y Cyngor lle byddai’r prif swm yn cael ei ad-dalu ar ddiwrnod terfynol y benthyciad.

 

Dywedodd y swyddogion, wrth i gyfraddau log godi, mai cynyddu hefyd wnaiff y tebygolrwydd y bydd ein benthyciadau Cynnig y Benthycwr Cynnig y Benthyciwr (CBCB) yn cael eu galw i mewn. Golygodd hyn fod y sawl a wnaeth y benthyciad wedi gofyn am newid cyfraddau’r cyfleusterau hyn tuag i fyny; mewn ymateb, gwnaeth y benthyciwr (y Cyngor) naill ai dderbyn y gyfradd uwch neu setlo’r ddyled.

 

Ni wnaed unrhyw geisiadau o’r fath i alw i mewn yn hanner cyntaf 2022-23, ond petaent yn cael eu gwneud  yn ail hanner y flwyddyn, rhagwelai’r swyddogion y buasai benthyciadau mwy traddodiadol yn cymryd eu lle yn y man, oni fyddai digon o gymhelliant i dderbyn y newid yn y gyfradd llog.

 

Yroedd y rhagolwg gwariant cyfalaf presennol yn golygu peth llithriad, felly ni ddisgwyliwyd y byddai angen cymryd mwy o fenthyciadau tymor-hir yn y flwyddyn ariannol hon. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cau allan ystyried benthyca allanol petai’r sefyllfa yn ffafriol, fel ffordd o reoli risgiau yn y gyfradd llog, gan gydnabod fod rheidrwydd i fenthyca yn y tymor hir ar y Cyngor o hyd. Byddai unrhyw benderfyniad i wneud hyn yn cael ei gymryd yn unol â chyngor gan ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor, ac yn unig lle byddai budd ariannol clir o wneud hynny.

Lefel y buddsoddiadau ar 30 Medi 2022 oedd £50m, a ostyngodd o £8.2m ers union symiau 2021-22, oherwydd bod y Cyngor yn defnyddio adnoddau o’r fath fel dewis mwy cost-effeithiol na threfnu benthyciadau allanol newydd. 

 

Rhagwelwydmai parhau i ostwng fyddai lefelau buddsoddi yn  ystod 2022/23 fel dewis yn lle benthyca, hyd nes y cyrhaeddir isafswm balans o £10m yn y pen draw, a fyddai’n dal i gael ei fuddsoddi er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Farchnad mewn Offerynnau Ariannol a ’r Gyfarwyddeb a Deilliadau (MiFIDII). 

 

Disgwyliadau’rfarchnad oedd y byddai cyfraddau llog yn dechrau dychwelyd i lefelau mwy traddodiadol yn chwarter olaf 2022-23, a doeth felly fyddai peidio â chymryd unrhyw benderfyniadau am fenthyca tymor-hir yn y tymor byr tra bod cyfraddau’n uwch na’r hyn maent yn debygol o fod y flwyddyn ganlynol.

 

Yragwedd hon yw conglfaen benthyca mewnol effeithiol; hyd yn oed pan fod cyfraddau llog yn codi, yr oedd cost benthyciadau newydd yn dal yn ddrutach nag unrhyw elw ar fuddsoddiadau. Felly, mae’n dal yn synhwyrol defnyddio balansau arian presennol y Cyngor yn hytrach na threfnu benthyciadau newydd.

 

Yragwedd olaf a ystyriwyd oedd y Dangosyddion Cynghorus. Yr oedd yr Awdurdod yn mesur ac yn rheoli pa mor agored oedd i risgiau rheoli trysorlys trwy ddefnyddio gwahanol ddangosyddion, sydd i’w gweld yn Atodiad B.  Cadarnhaodd yr adroddiad fod y  Cyngor yn dal i gydymffurfio â’r Dangosyddion Cynghorus a osodwyd am 2022/23, ac eithrio am un metrig penodol a fwriadwyd i amlygu’r risg i lefelau llog y byddid yn dderbyn o fuddsoddiadau, petai cyfraddau llog yn disgyn o 1%. 

 

Esboniodd y swyddogion yn yr adroddiad mai pwrpas y dangosyn arbennig hwnnw yw amlygu i ba raddau y byddai lefelau incwm y Cyngor y cyllidwyd amdanynt yn dioddef yn sgil unrhyw ostyngiad mewn cyfraddau llog.

 

Yroedd y gwyriad yn fwy arwyddocaol na’r targed oherwydd y gwnaed mwy o fuddsoddiadau. Rhoddodd hyn gamargraff am fod cyfraddau llog yn codi ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, petai’r cyfraddau llog hynny yn dychwelyd i lefelau hanesyddol, ni fyddai risg i gyllid y Cyngor yn y flwyddyn ariannol hon, oherwydd ein bod yn gwneud yn well na’r targed cyfredol am incwm o log. Yr oedd swyddogion yn ymwybodol y byddai angen cadw golwg fanylach ar y risg wrth nesáu at 2023/24, petai lefelau buddsoddi a chyfraddau llog yn gostwng. 

 

Eiliodd y Cynghorydd Batrouni yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Cadarnhaodd y Cyngor fod y gweithgareddau rheoli trysorlys a wnaed yn ystod hanner cyntaf 2022-23 yn gyson â fframwaith Strategaeth Trysorlys 2022-23 y cytunodd yr Aelodau ag ef. Gallai’r Cyngor fod yn fodlon fod arferion y Strategaeth wedi parhau’n ddarbodus  fel bod modd eu cymhwyso i ail hanner y flwyddyn, o gadw mewn cof yr ansefydlogrwydd nas rhagwelwyd mewn cyfraddau llog ac amgylchiadau economaidd rhyngwladol.

 

Dogfennau ategol: