Cofnodion:
Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybod i’r cydweithwyr fod gan y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol dynodedig, ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cyngor.
Yroedd yr adroddiad yn gosod allan asesiad personol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor o’r perfformiad o ran cyflawni ei swyddogaethau gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis a aeth heibio. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â’r cyfnod 2021/22 ac fe’i gosodwyd allan yn y fformat a nodwyd yn y canllawiau.
Yn ystod y cyfnod hwn, gwelodd y Cyngor ail-strwythuro ei dîm Uwch-Reoli a phenodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol parhaol. Daeth cyflwyno gofal cymdeithasol yn ystod 2021 a 2022 yn drwm dan ddau ddylanwad: Covid yn gyntaf a chyfyngiadau’r pandemig, a phroblemau costau byw yn dod yn dynn ar eu sodlau.
Yng ngoleuni cyfyngiadau penodol 2021-22, yr oedd yr adroddiad yn adlewyrchu heriau a newidiadau’r cyfnod. Ar waethaf y problemau lu a wynebwyd, yr oedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol.
Yroedd staff ar draws yr holl Wasanaethau Cymdeithasol yn dal i gyflwyno’r rhan fwyaf o’r darpariaethau, ac yn manteisio ar weithio hybrid mewn rhai meysydd allweddol. Y mae manteision y math hwn o weithio yn parhau i wella a chyfoethogi arferion.
Yroedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o nodi, ar waethaf anawsterau 2021-2022, fod staff y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu edrych y tu hwnt i’r galwadau cyson a hefyd yn gallu cyflwyno gwasanaethau arloesol oedd yn dal i ddatblygu.
Eiliodd y Cynghorydd Marshall yr adroddiad.
SylwadauCynghorwyr:
§ Y Cynghorydd Cockeram oedd yr aelod cabinet pan gwblhawyd adroddia for 2021/22. Arweinwyr y tîm oedd Sally-Ann Jenkins a Chris Humphries. Bu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd o nerth i nerth. Er hynny, yr oedd rhai problemau, megis y diffyg mewn cyllid a welwyd hefyd mewn cyflogau am ofal cartref. Yr oedd yr Aelod Llywyddol yn siomedig mai dim ond pedwar neges o ganmoliaeth a dderbyniodd y gwasanaethau cymdeithasol yn y flwyddyn gyfan o gymharu â chynghorau eraill. Rhaid oedd cofnodi canmoliaeth fyddai’r awdurdod yn dderbyn, a dywedodd nad adlewyrchiad ar y staff oedd y diffyg canmoliaeth.
§ Cytunodd y Cynghorydd Hughes â barn yr Aelod Llywyddol, ac ategodd ddiolchiadau’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cynghorydd Cockeram a’r cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Chris Humphries, gan obeithio ei bod yn mwynhau ei hymddeoliad. Yr oedd yn swydd anodd, yn enwedig yn ystod y pandemig. Aethai’r staff y tu hwnt i’w dyletswyddau i roi gofal i drigolion y ddinas., gan ymaddasu’n fuan a pharhau yn arloesol o ran eu hymatebion, er eu bod dan bwysau enbyd. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r swyddogion am ddwyn yr adroddiad i’r cyngor.
§ Ategodd y Cynghorydd Marshall y diolchiadau i’r swyddogion am eu cymorth cyson, yn enwedig wrth ddod allan o Covid. Daliodd y staff i gyflwyno gwasanaeth rhagorol ar ran y Cyngor. Ymunodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol â’i gydweithwyr i ddiolch i’r Cynghorydd Cockeram a’r swyddogion am eu gwaith caled a’u cyfraniadau.
Penderfynwyd:
Derbyniodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, 2021 i 2022.
Dogfennau ategol: