Agenda item

Adroddiad Diogelu Blynyddol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd ar Adroddiad Blynyddol interim ar Ddiogelu. Gwerthusiad oedd yr adroddiad hwn o berfformiad yr Awdurdod Lleol gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.

 

Adroddiad interim oedd hwn oherwydd newidiadau yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Byddid yn cyflwyno adroddiad llawn i’r Cabinet yn gynnar y flwyddyn nesaf yn unol â’r canllawiau newydd.

 

Diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion bregus oedd y flaenoriaeth uchaf i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn gosod allan ddyletswydd ac ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu a hyrwyddo iechyd, lles a hawliau dynol oedolion a phlant sydd mewn perygl.

 

Yroedd yr adroddiad hwn yn asesu camau ac ymatebion rhagweithiol y  Cyngor o ran diogelu, ac fe’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu ar 30 Medi 2022. Cafwyd trafodaeth adeiladol a buddiol ar y cynnwys.

 

Nododdyr adroddiad yr heriau ar draws y Cyngor o ran diogelu oherwydd pwysau Covid a chyfyngiadau’r pandemig.

 

Gweloddyr Hwb Diogelu i Wasanaethau Plant gynnydd o 13.9% yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd yn ystod 2021/22. Yr oedd yn adlewyrchiad o’r problemau a gosodd mewn ysgolion, a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar ac ieuenctid ac i asiantaethau sy’n bartneriaid. I blant a theuluoedd, yr oedd agwedd effeithiol a chadarn at ddiogelu yn hanfodol, a gallai newid bywydau.

 

Arwaethaf y pwysau, yr oedd canlyniad yr hunanasesiad diogelu ar bob maes yn y Cyngor yn dangos lefel uchel iawn o gydymffurfio â’r gofynion statudol a phenderfyniadau i barhau i roi’r flaenoriaeth uchaf i ddiogelu ein holl ddinasyddion.

 

Yroedd yn dda nodi fod Canllawiau Diogelu Corfforaethol newydd Llywodraeth Cymru (Mawrth 2022) yn cynnwys erfyn Hunanasesu Diogelu Casnewydd fel model o arfer da. Yr oedd y canllawiau a gyhoeddwyd yn seiliedig ar themâu tebyg yn deillio o archwilio mewnol ac yn annog safoni peth o’r data perfformiad fel bod modd mesur yn haws pa mor bell yr aethpwyd fel meincnod gydag awdurdodau lleol eraill.

 

Nodwydyn yr adroddiad yr heriau o sicrhau bod yr holl staff, gwirfoddolwyr ac Aelodau yn cyrchu’r hyfforddiant ac yn ymwneud ag ef ym mhob maes diogelu. Dyma faes fyddai’n parhau i alw am ffocws a blaenoriaeth dros y flwyddyn i ddod.

 

Yroedd y Cyngor yn gweithio i sicrhau fod diogelu yn digwydd ym mhob maes gwasanaeth a bydd yn gweithio dros y flwyddyn i ddod gyda’r Canllawiau Diogelu Corfforaethol i sicrhau y parheir i gydymffurfio.

 

Eiliodd y Cynghorydd Marshall yr adroddiad.

 

Cynghorydd Comments:

 

§  Ystyriodd y Cynghorydd Cockeram ei bod yn bwysig i gydweithwyr nodi fod Adroddiad Diogelu Blynyddol Cyngor Dinas Casnewydd yn cael ei ystyried yn arfer da ledled Cymru, a diolchodd i’r swyddogion am eu holl waith.

 

§  Ategodd y Cynghorydd Marshall fod y mater hwn yn un o’r blaenoriaethau uchaf i Gasnewydd.  Amlygodd yr adroddiad ymdrechion y Cyngor fel rhan o’r ddyletswydd i amddiffyn plant a bod yn gyfrifol am eu hiechyd a’u lles. Yr oedd yn gadarnhaol hefyd fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio erfyn hunangyfeirio Cyngor Dinas Casnewydd. At y dyfodol, yr oedd heriau i ymdrin â hwy. Yr oedd gan Aelodau ddyletswydd i adrodd am bryderon diogelu, am mai hwy oedd llygaid a chlustiau’r gymuned. Hyd yn oed petai mater yn ymddangos yn ddibwys, gallai sefyllfa waethygu, felly roedd gallai adrodd am fân ddigwyddiadau arbed bywydau. Ar y sail hon, canmolodd y Cynghorydd Marshall yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Derbyniodd y Cyngor yr Adroddiad Diogelu Blynyddol (interim) gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.

 

Dogfennau ategol: