Agenda item

2023-24 Cynigion Drafft y Gyllideb a Chynllun Ariannol Tymor Canol

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

-       Meirion Rushworth – Pennaeth Cyllid

-       David Walton – Pennaeth Tai a Chymunedau

-       Silvia Gonzalez-Lopez – Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd

-       Stephen Jarrett – Pennaeth Seilwaith

-       Elizabeth Bryant – Pennaeth Cyfraith a Safonau

-       Tracey Brooks – Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd

-       Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid

-       Alastair Hopkins - Uwchbartner Busnes Cyllid

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg byr o broses y gyllideb, a dweud y bu newid ar hyn o bryd i adlewyrchu lefel yr arbedion. Roedd bwlch o £2 filiwn yn y gyllideb llynedd. Ym mis Chwefror 2022 roedd y CATC yn dangos bwlch o £2 filiwn yn y gyllideb, ac yng Ngwanwyn 2022 cynyddodd chwyddiant, a chafwyd cynnydd yn ogystal mewn costau bwyd a thanwydd, ynghyd â heriau i’r gyllideb megis Tai a Digartrefedd, gyda Gofal Cymdeithasol hefyd yn fater o bwys, a newidiodd y sefyllfa.

 

Yr  oedd adroddiad yr Aelod Cabinet yn dangos y symudiadau, gyda chyflogau yn cynyddu o £6 miliwn. Roedd cynnydd o £18 miliwn o ran chwyddiant contractau, gydag ynni yn rhan fawr o hynny; cododd prisiau nwy, ac roedd chwyddiant hefyd mewn contractau Gofal Cymdeithasol. Roedd pwysau ar y gyllideb Gofal Cymdeithasol, ac angen £3.5 miliwn am Faes Tai a Digartrefedd. Roedd targedau cyllideb am bob maes, a chyflwynwyd gwerth £12miliwn o arbedion mewn cyllidebau yma i’r Pwyllgor. Cadarnhawyd y Grant Cymorth Refeniw (GCR) ym mis Rhagfyr 2022 ac roedd bwlch y gyllideb yn £16 miliwn, gyda’r cynnydd yn y GCR tua 9%. Ymgynghorwyd ar 50% o gynigion y gyllideb, a gwnaed y 50% oedd weddill dan Awdurdod Dirprwyedig.

 

HC2324/01 – Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu Cymunedol Oedolion

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys newid i’r gwasanaethau gydag arbediad o £110,000 am y flwyddyn ariannol gyntaf, a £15,000 yn y flwyddyn ddilynol. Bwriedir hefyd gwtogi ar oriau agor llyfrgelloedd, gyda Llyfrgelloedd y T?-Du a Betts yn cau am ddiwrnod, gostyngiad yn oriau agor Llyfrgell Malpas, ac ail-lunio Llyfrgell Pilgwenlli gyda gofod llai. Byddid yn arbed mewn meysydd eraill hefyd, megis lleihau oriau staff a mwy o fuddsoddiad mewn benthyca digidol.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Beth fydd swyddogaeth y Llyfrgell Ganolog, ac a fydd gwasanaethau eraill yn cael eu hintegreiddio?

 

Cadarnhawyd y byddai’r Llyfrgell Ganolog yn dod yn hwb cymunedol ac yn bwynt cydgordio, er bod y newidiadau ehangach hynny yn benderfyniadau blaenorol i newid gwasanaethau, heb gysylltiad â’r cynigion hyn.

 

·         Beth fydd yn digwydd i’r staff yr effeithir arnynt, ac a fyddant yn dod yn rhan o wasanaethau eraill?

 

Cadarnhawyd mai cynnig oedd hwn i newid y ffordd y defnyddir yr adeilad, a defnyddio’r staff yn fwy hyblyg.

 

·         Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 10 lle’r oedd arbediad o £110,000 ym mlwyddyn 1, a gwerth £88,000 o gostau yn yr arbediad hwnnw. Beth yw’r swm net?

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod arbediad cylchol yn holl gynigion y gyllideb, felly byddai’r gost unwaith-am-byth yn erbyn yr arbediad cylchol o £110,000 bob blwyddyn.

 

HC2324/02 – Lleihau cefnogaeth ariannol i gynllun Shop Mobility yn 2023-24

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor , sef gostwng y gefnogaeth ariannol i gynllun Shop Mobility o £17,000 i £10,000.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·        Holodd Aelod am werth y cynllun hwn a’r budd i ganol y ddinas ac o ran galluogi pobl i ddod allan, a sut yr edrychid ar hyn, gan mai swm bychan oedd yn cael ei arbed. 

 

Esboniwyd fod y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn cael ei archwilio, a bod modd gwneud arbedion mewn swyddogaethau anstatudol.

·       A fydd hyn yn golygu y daw’r gwasanaeth i ben, neu a fydd rhywun arall yn ei ddarparu?

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod angen i ni gydnabod, er mwyn gwneud yr arbedion angenrheidiol, fod yn rhaid i ni edrych ar y cyllidebau anstatudol hyn. Nid rhoi’r gorau i’r gwasanaeth yw’r bwriad, ond mae hwn yn gydran o’r cyllid mae Shop Mobility yn dderbyn ar hyn o bryd.

 

·         Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ddata am sut y defnyddiwyd y gwasanaeth, gyda’r cwymp mewn traffig yng nghanol y ddinas oherwydd y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y gellid darparu’r data hwn yn nes ymlaen i’r Pwyllgor a bod ymgynghori ehangach yn digwydd hefyd gyda’r cyhoedd.

 

·        Holwyd ynghylch y buddsoddiad o £3.5 miliwn i ddarpariaeth Digartrefedd, ac a oedd y refeniw wedi ei gloi i mewn am bob blwyddyn.

 

Cadarnhawyd y byddai’r ffigwr hwn yn cael ei gloi am bob blwyddyn oherwydd bod y sefyllfa cyn ac ar ôl Covid yn hollol wahanol.

 

·        Gwnaeth Aelod sylw am aelwydydd oedd yn dal mewn llety dros dro, gan holi a fyddai’r sefyllfa yn gwella.

 

Esboniodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod angen edrych ar y system Tai yn ei chyfanrwydd, gyda mwy o ddatblygiadau yn y ddinas. Roedd cynllun i ymwneud â’r sector rhentu preifat i gynyddu’r cyflenwad, i edrych ar bobl mewn llety dros dro, a’r problemau eraill oedd yn eu hwynebu. Roedd prosiect ar y gweill i ddatblygu trosi’n sydyn i ail-gartrefu. Roedd hyn oll yn heriol iawn ac fe gymerai amser i roi’r holl adnoddau ar waith.

 

·         Faint oedd y cyllid wedi cynyddu ers Covid?

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod grantiau Tai Cymdeithasol wedi cynyddu ers Covid,  a bod grant ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gael, a chyllid cyfalaf arall. Grantiau oedd y cyllid hwn lle na chytunwyd eto sut i’w dosbarthu, ac roedd hyn yn gryn her. Gofynnodd Aelod wedyn a oedd y swm sylfaenol wedi cynyddu, ac a oedd modd ei ategu. Dywedwyd mai cyfuniad o ffactorau oedd yma, gan i gostau ym mlynyddoedd Covid gael eu talu gan Lywodraeth Cymru, ac felly roedd angen cryn ail-addasu.

 

·         Gwnaeth Aelod y sylw mai’r £3.5miliwn yw’r lleiafswm y mae’n rhaid dod o hyd iddo.

 

Esboniodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod yr arian ychwanegol wedi caniatáu i’r Cyngor gyflawni eu dyletswydd statudol sydd wedi ehangu, a chyda phroblemau cyflenwi yn y ddinas, fod mwy o bobl yn gorfod cael llety dros dro. Gofynnodd y Pwyllgor am gael adroddiad ar y dyletswyddau statudol o ran Tai, a chytunodd y Cyfarwyddwr Strategol a’r Pennaeth Tai a Chymunedau i hyn.

 

·         Holodd y Pwyllgor am y buddsoddiad o £11,000 ar gyfer Swyddog Digartrefedd. Ai swydd newydd yw hon?

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai ar gyfer swydd newydd yr oedd yr arian hwn, wedi’i chyllido am 9 mis, fyddai’n dod â ni at ddiwedd y flwyddyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol mai buddsoddiad a wnaed llynedd oedd hyn, ac sy’n ymddangos yn awr fel rhan o fuddsoddiad am eleni.

 

EPP2324/02 – Ail-strwythuro’r Gwasanaeth Warden Diogelwch Cymunedol

Rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys arbediad o £169,000 y flwyddyn.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Ai dileu’r gwasanaeth yw hyn?

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd y gwasanaeth yn aros, ac mai’r cynnig oedd lleihau’r gwasanaeth i hanner nifer y staff oedd gan y gwasanaeth cynt. Bydd y gwasanaeth yn dal am 7 diwrnod yr wythnos, ond gyda llai o oriau a llai o ymwneud wyneb yn wyneb.

 

-       A wyddom ni beth yw’r oriau brig? Bydd yn rhaid cael rhywun yno ar yr adegau hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol ein bod yn gwybod, fod adroddiadau wedi eu gwneud a bod y rhan fwyaf o waith y gwasanaeth Wardeniaid yn anstatudol, sy’n faes y gellir ei leihau. Ymgynghorwyd â’r staff i drafod sut i wneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon. Dywedodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd y bydd yn edrych ar y data ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen, yn seiliedig ar y ceisiadau a gaiff y gwasanaeth.

 

·         A ydym yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i gyfryngu ar faterion y gall y Wardeniaid Diogelwch Cymunedol ymwneud â hwy? A ydych wedi siarad â hwy i weld a fuasent yn cyfrannu at y gwasanaeth?

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor ein bod yn gwneud hyn, a’n bod yn edrych eto ar ein sgyrsiau gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig am eu cyfraniadau. Mae hyn yn fodel sy’n gweithio’n dda eisoes gyda Gorfodi Gwastraff. Hyd yma, y Cyngor sy’n cyllido’r gwasanaeth, ond mae hyn yn rhywbeth y gallai landlordiaid cymdeithasol gyfrannu ato yn y dyfodol.

 

·        Mynegodd yr Aelodau siom o weld gostyngiad mewn gwasanaethau, ond dywedwyd y gallai hyn fod yn gyfle i weithio’n fwy effeithiol gyda phartneriaid. Gwnaed y sylw hefyd nad yw Rhentu Doeth Cymru fel petaent yn gwneud llawer ynghylch problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac y dylent ymwneud mwy. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol, er bod y gwasanaeth yn ceisio gwneud arbedion cyllidebol gyda’r gostyngiadau arfaethedig, na ddylai hyn arwain at ostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth.

 

EPP2324/04 – Cynyddu ffioedd a thaliadau yn y Gwasanaethau Amgylchedd a Hamdden

Rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef cyflwyno ffioedd a thaliadau uwch am y gwasanaethau a ddarperid gan Amgylchedd a Hamdden, gan gynnwys gwasanaethau Parciau, Mynwentydd, Cefn Gwlad a Thiroedd, lle gwelodd yr Awdurdod godiadau sylweddol yn y gadwyn gyflenwi naill ai o ran prynu nwyddau, neu gostau rhedeg megis cynnal a chadw, ynni neu danwydd, a’u bod wedi gorfod pasio’r rhain ymlaen i’r cwsmeriaid. Bu cynnydd mewn taliadau hefyd lle mae’r rhain wedi cael eu meincnodi yn erbyn darpariaeth gwasanaethau mewn mannau eraill yn yr awdurdod a/neu awdurdodau lleol cyfagos.

 

·         Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw sylwadau na chwestiynau am yr eitem hon.

 

EPP2324/05 – Cyflwyno taliadau parcio i bedwar o feysydd parcio parciau a chefn gwlad

Rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef gosod mesuryddion talu ac arddangos yn Glebelands, pwynt gwylio Christchurch, Morgan’s Pond (ger Lôn Bettws), a Lôn Bettws (gyferbyn ag Ysgol Uwchradd Casnewydd).

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         A fyddai modd arbed £50,000 petai pobl yn talu ffioedd?

 

Cadarnhawyd fod hyn wedi ei gynnwys a bod trwsio cyfarpar wedi cael ei ystyried.

 

·        Gwnaeth Aelod y sylw fod rhai o’r peiriannau parcio wedi eu gorchuddio cyn hyn am iddynt gael eu torri neu eu fandaleiddio.

 

Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd y tîm yn ymwybodol ohono, a bydd symudiad tuag at daliadau cerdyn ac ap talu, i’w defnyddio i dalu am barcio, ac amrywiad ar y model gyda thâl bychan ar y Cyngor, felly roedd rhaid ystyried y materion hyn. Roedd darpariaeth ar gyfer taliadau nad oedd i gael eu pasio ymlaen i’r trigolion.

 

·        Gwnaeth Aelod sylw am y bwriad i gloi’r ardaloedd dan sylw gyda’r nos; er enghraifft, ardal y Bettws, gan fod y parciau mwy yn cael eu cloi gyda’r nos.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y taliadau i’w cymhwyso rhwng 8am- 5pm, nid am 24 awr.

 

·        Dywedodd Aelod nad oedd yn cefnogi’r cynnig hwn oherwydd ei fod yn agos i fannau gwyrdd, ond roedd am ystyried timau chwaraeon ieuenctid oedd yn defnyddio’r parciau. Roedd hyn yn broblem yn y Glebelands, a byddai’n wych gweld eithriad yma.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau mai’r taliadau oedd £1 am ddwy awr a £3 am hyd at 5 awr, felly roedd y tîm yn ceisio cadw taliadau i lawr.

 

·        Gwnaeth Aelod sylw am effaith parcio ar drigolion mewn strydoedd gerllaw, a gofynnodd beth oedd y rhagfynegiadau ariannol ar gyfer pob maes parcio, a faint o ymwelwyr a ddisgwylid. 

 

Cadarnhawyd y bu llawer o sgyrsiau am hyn, ac er y codwyd pryderon, ni fu unrhyw ddadleoli.

 

·        Gwnaeth Aelod y sylw y bu adroddiadau am geir oedd wedi cael eu taro ar Ffordd Waterloo wrth yrru, oherwydd bod ceir yn parcio ar ddwy ochr y stryd.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod hyn yn broblem anodd, ond byddai’r parc yn cael ei gadw ar agor; y dewis arall oedd cau’r parc, ac nid oeddent eisiau hyn. Edrychwyd ar ddadansoddiad o’r costau, a bod cynnig ynghylch ochr wahanol.

 

·        Gwnaeth Aelod y sylw fod mwy o geir wedi eu parcio ar yr ochr nag yn y maes parcio, a’i bod yn bwysig ein bod yn gwrando ar farn y cymdogion. Gofynnwyd hefyd a oedd unrhyw elw ar y buddsoddiad, ac o ran y meysydd parcio llai, pryd y byddai’r taliadau yn dod ag elw.

 

Nodwyd y byddai dadansoddiad i’r Pwyllgor yn help, ac y ceid hyn am flwyddyn gyntaf yr arbedion. Wedi’r flwyddyn gyntaf ar ôl hyn, roedd yn amrywio o un maes parcio i’r llall, megis incwm y flwyddyn o £50,000, heb gynnwys unrhyw gostau cynnal blynyddol. 

 

·        Gofynnodd Aelod am gymorthdaliadau i bobl sy’n defnyddio’r ganolfan hamdden am 2 awr am ddim - pwy oedd yn rhoi’r cymhorthdal?

 

Esboniwyd bod maes parcio Kingsway yn wahanol am ei fod ar brydles hir, a bod rhai cytundebau hanesyddol gyda rhai busnesau oedd yn amrywio; mewn mannau eraill, roedd rhai meysydd oedd â gofodau busnes, felly roedd nifer o gonsesiynau.

 

EPP2324/06 – Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref – Codi am wastraff heb fod yn wastraff cartref

Rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, lle mae’n rhaid i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) dderbyn gwastraff cartref am ddim, oherwydd bod cost casglu ac ailgylchu / gwaredu yn cael ei gwrdd trwy’r Dreth Cyngor. Er nad oes rhaid iddynt, mae Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn derbyn gwastraff adeiladu a deunyddiau DIY yn y CAGC gan fod trigolion fel arfer yn cynhyrchu’r deunyddiau hyn. Mae taliadau ychwanegol yn dod i ran y Cyngor i drin ac ailgylchu’r mathau hyn o wastraff, a chynigir ffi fechan i wneud iawn am y costau hyn. Byddai ffioedd mewn grym o 1 Ebrill 2023, sy’n daladwy adeg archebu apwyntiad i ddod i’r CAGC trwy’r system archebu bresennol.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         A oedd modd ailgylchu’r eitemau hyn a’u gwerthu i adeiladwyr fel rwbel?

 

Cadarnhawyd bod yr holl ddeunydd hwn yn cael ei ailgylchu a bod proses i wneud hyn. Am bob math o ddeunydd - rwbel, ac ati - roedd incwm bychan, ond roedd llawer o ddeunydd cymysg, oedd yn costio. Mae’r cyfarpar, sgipiau etc. oll yn derbyn incwm, ac y cymerwyd hyn i ystyriaeth.

 

·        Gofynnodd Aelod a oedd gennym systemau i wneud hyn, ac a oedd y staff yno i wirio beth oedd pobl yn ddod i mewn.

 

Nodwyd fod y trigolion yn dilyn y rheolau, a bod y safle’n cael ei monitro. Gofynnwyd i bobl ddod â gwastraff i mewn, a chodwyd tâl adeg archebu. Nid oedd prisio fesul maint bag: defnyddir pwysau cyfartalog.

 

·        A oedd disgwyliad y byddai cost gwastraff masnachol yn codi, ac a oedd nifer y teithiau yr oedd pobl yn wneud yn cael ei gofnodi i ymchwilio i hyn.

 

Cyn cyflwyno’r system, roedd yn anodd rhagweld pwy oedd yn dod i’r safle, ac roedd mwy o bobl yn dod. Nid oedd terfyn ar nifer yr adegau y gallai pobl ddefnyddio’r safle. Roedd yn wasanaeth ar gael am ddim, ac roedd gwastraff yn cael ei ddidol, felly ni chafodd hyn ei ystyried, ond byddai modd ei wneud petai angen.

 

·         A feddyliwyd am gynnydd mewn tipio anghyfreithlon?

 

Cadarnhawyd nad oedd unrhyw dystiolaeth o dipio anghyfreithlon, a bod systemau wedi eu cyflwyno ledled y wlad, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn cydymffurfio.

 

·        A fyddai tâl yn cael ei wneud cyn dod i’r safle, a phetai modd ailgylchu eitem, a fyddai modd cael ad-daliad am yr eitem hon? Hefyd, petai rhywun yn gwneud camgymeriad, sut byddai hyn yn cael ei gywiro?

 

Dywedwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried.

 

·         Pa faint o ddeunyddiau oedd yn cael ei ragweld, ac a oedd graddfa lithro o gost?

 

Gofynnwyd i drigolion asesu hyd adeg archebu, ac roedd tâl felly – er enghraifft, fesul pob  teiar car.

 

·        Pwy sy’n casglu deunydd a dipiwyd yn anghyfreithlon ar dir cyhoeddus, ac a oedd llawer o ymholiadau gan drigolion am hyn? A oedd y gallu ar gael i drin pob cais, ac a oedd yn hyblyg?

 

Cadarnhawyd fod y Cyngor yn symud ymaith wastraff ar ffyrdd cyhoeddus ac yn ymchwilio a chymryd camau gorfodi lle’r oedd angen. Yr her oedd tir heb fod ym meddiant y Cyngor, a lle nad oedd tirfeddianwyr preifat yn clirio eu tiroedd eu hunain.

 

EPP2324/08 – Tâl am finiau newydd (gwastraff gweddilliol)

Rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef i godi tâl ar drigolion sy’n gofyn am finiau newydd gwastraff gweddilliol. Byddai hyn yn dod i rym ar Ebrill 2023.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·        Ai un ffî yw hon neu a yw’n destun prawf modd?

 

Un ffî sy’n adlewyrchu’r costau gweinyddu cysylltiedig â’r gweithgaredd hwn activity.

 

·        Beth petaent wedi cael eu dwyn neu eu difrodi gan bobl ifanc, fel cael eu rhoi ar dân: a oes unrhyw ddisgresiwn?

 

Roedd rhyw elfen o hyn, e.e., bin cymunedol, ond yn gyffredinol, mater i ddeiliaid y t? oedd edrych ar ôl y bin.

 

·        Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ystyriaeth am finiau gafodd eu dwyn ac a oedd unrhyw gynlluniau i edrych ar hyn.

Nodwyd mai’r her oedd gwybod pwy oedd wir angen bin newydd; a gafodd ei ddwyn mewn gwirionedd?.

 

·        Gofynnodd Aelod am y taliadau ac atebolrwydd lle dygwyd 2 fin o’r tu allan i’r drws ffrynt, a bod preswylydd arall wedi cwyno fod y biniau wedi eu torri gan y gweithwyr wrth eu casglu. Oedd unrhyw fath o gymorth i’r trigolion hyn?

 

Esboniwyd fod camerâu ar y lorïau, a bod y gweithwyr yn cael eu hannog i fod yn ofalus wrth drin y biniau, er bod damweiniau yn digwydd. Os felly, ni fyddai disgwyl i drigolion dalu am rai newydd. Mewn achosion eraill, mater i’r trigolion fyddai gofalu am y bin.

 

EPP2324/09 – Casglu Gwastraff Gweddilliol o’r Cartref a Gwastraff Gardd – Casgliadau bob 3 Wythnos

Rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef i symud o gasgliadau gwastraff gweddilliol o’r cartref a gwastraff gardd bob yn ail wythnos i bob 3 wythnos, er mwyn lleihau costau a chynyddu’r gyfradd ailgylchu i 70% erbyn 2025.

           

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Gwnaeth Aelod sylw am helpu trigolion i ailgylchu mwy, a gofynnodd am esboniad am yr hyn oedd y tu ôl i’r cynnig hwn.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau ei bod yn bwysig iawn ailgylchu, a bod targedau ailgylchu i gwrdd â hwy. Weithiau, nid oedd gan y trigolion yr holl wybodaeth i ailgylchu’n iawn, a chynhaliwyd astudiaethau i weld beth oedd ym miniau pobl. Bob 5 mlynedd, byddai’r Cyngor yn rhoi adroddiad am gynnwys biliau olwyn, ac roedd llawer o Gynghorau yn gwneud hyn eisoes. Cafwyd cynnydd mawr mewn ailgylchu. 20 mlynedd yn ôl, 6% oedd y gyfradd ailgylchu ac yn awr, mae’n 67%. Pan fyddwn yn codi deunydd ailgylchu cymysg, mae’n costio llawer i’w waredu. Dywed y targedau statudol fod yn rhaid i’r Cyngor, erbyn 2024/25, gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70%. Os na fyddai’n gwneud hyn, byddai’n rhaid i’r Cyngor dalu £200 yn ychwanegol am y gwastraff dros ben. Mae casgliadau cyfredol yn dal i gynnwys deunyddiau lle nad yw’r trigolion wedi eu hailgylchu. Mae’n fater o newid y ffordd y mae pobl yn trin gwastraff.

 

·        A fydd cefnogaeth addysgol ar gael i ategu’r newid hwn?

 

Bwriadwn gychwyn hyn fel prawf bychan i ddechrau i weld sut mae’n gweithio cyn ei gyflwyno yn ehangach.

 

·        Gofynnodd Aelod a ystyriwyd costau ariannol tipio anghyfreithlon, gan mai Casnewydd oedd yr awdurdod lleol gwaethaf  am glirio wedi tipio anghyfreithlon. Bu llawer o ddeunyddiau cymysg yn y biniau, a dim llawer o ostyngiad. Mae angen cynyddu ailgylchu a newid ymddygiad.

 

Nid yw’r tipio anghyfreithlon y bydd y Cyngor yn delio ag ef fel arfer yn cael ei wneud gan drigolion ac mae’r holl dipio anghyfreithlon yn cael ei gofnodi, a dyna pam mae’r swm mor uchel. Os yw rhywun yn cael trafferth gyda gwastraff, mae help ar gael, a gall y Cyngor gwrdd â’r trigolion hynny. Mae angen codi ymwybyddiaeth.

·        A oes gennym strategaeth gwastraff?

 

Cadarnhawyd fod strategaeth a pholisi gwastraff ar gael ers 3 blynedd.

 

·        Gofynnodd Aelod am aelwydydd lle’r oedd llawer o bobl, ac a fyddid yn edrych ar hyn yng nghyswllt biniau cymunedol, y gallai cymdogion eu llenwi gydag eitemau na ddylai fod yno.

 

Roedd y Cyngor yn barod i fod yn deg ar hyn, a gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a landlordiaid preifat i weld sut i wella casgliadau biniau mewn blociau o fflatiau.

 

·         Cadarnhaodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd na fyddid yn colli swyddi o’r tîm. Yr ydym yn cynyddu rowndiau ailgylchu yn yr un modd â rowndiau casglu gwastraff, a bydd rhai o’r gostyngiadau mewn swyddi sydd eisoes yn wag.

 

·        Gofynnodd Aelod a allai’r Cyngor dalu Wastesavers i wneud hyn, ac a edrychwyd ar y contract hwn i wneud yn si?r ei fod yn rhoi gwasanaeth da.

 

 

Cadarnhawyd y byddid yn edrych ar hyn fel rhan o strategaeth gwastraff y Cyngor.

 

·        Gwnaeth Aelod sylw am y problemau gyda biniau cymunedol a’r taliadau oedd yn cael eu pasio ymlaen i’r trigolion. Nodwyd fod y biniau hyn yn cael eu rheoli’n fwy llwyddiannus ar y cyfandir lle’r oedd gwasanaeth talu wrth fynd, a’r gwastraff yn cael ei dagio, ond nad oedd hyn yn cael ei ddefnyddio yn y DU. Roedd angen agwedd gyffredin i ddatrys y broblem, gyda dadansoddiad penodol o bob lleoliad, felly roedd nifer o bethau y gellid eu gwneud.

 

·        Os ewch i siopau dramor, mae gan lawer ohonynt ddewisiadau cyflwyno ailgylchu am dâl. A yw Llywodraeth y DU am wneud rhywbeth tebyg, ac a fyddai hynny yn gostwng ein cyfraddau ailgylchu?

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol fod hwn yn gynnig ar gyfer Cymru a Lloegr a byddai systemau’n casglu hyn ar raddfa fwy.  Yr her yw y byddai’n targedu eitemau ailgylchu gwerth uchel ac roedd angen i awdurdodau lleol ddeall manylion y cynnig hwn.

 

·         Gofynnodd Aelod, pe na chyrhaeddiad y targed, a fyddai cynnydd o 1% mewn treth cyngor.

 

Cadarnhawyd fod tâl amgylcheddol am hyn, gan na allai defnyddwyr ddal at i ddefnyddio a thaflu pethau ymaith.

 

INF2324/02 - Newidiadau i Arferion a Gweithdrefnau

Rhoddodd y Pennaeth Seilwaith drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys y gostyngiad yn y Gwasanaeth Gweithredol Rheoli D?r a Draenio i ddau weithiwr CLlA ac un cerbyd, a hefyd gostwng y gwasanaeth gwagio gwlïau i 2 weithiwr CLlA ac un cerbyd.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Lle gwnaed gwelliannau eraill i gael y gostyngiad hwn?

 

Cadarnhawyd fod y Cyngor yn cyflawni’r swyddogaeth fel yr oeddem gyda newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau, a newid i 12 o amserlenni misol. 

 

·         A fyddid yn ystyried buddsoddi i liniaru llifogydd oherwydd bod pryder am ffyrdd yn gorlifo a draeniau’n cael eu rhwystro. Beth fyddai effaith hyn ar y cynnig?

 

Dywedwyd fod gennym weithwyr eraill i’w defnyddio ar sail ad hoc yn ystod tywydd garw, er y byddai’r gallu i wneud gwaith arall yn lleihau yn sgil hynny yn ystod y cyfnodau hynny. Fodd bynnag, rhaid gwneud arbedion ac mae’n cael ei gynnig fel dewis, a’r effaith fydd gwasanaeth llai.

 

·         A oes unrhyw ddewisiadau i weithio gyda phartneriaid i liniaru hyn?

 

Dywedwyd ein bod yn sôn am briffyrdd a fabwysiadwyd, sy’n gyfrifoldeb i ni.

 

·         Gwnaed sylwadau am amodau tywydd eithafol – mae’r llifogydd diweddar ar Ffordd Malpas wedi digwydd gyda’r lefelau cyfredol o gynnal a chadw, felly oni fydd mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol? A wnaethpwyd cymhariaeth rhwng gyrru tîm allan i ddelio â hyn a chymryd camau fel rhan o waith arferol clirio gwlïau?

 

Dywedwyd ei bod yn anodd mesur hyn, gan nad yw’r holl lifogydd yn cael eu hachosi gan rywbeth nad yw’r Cyngor yn wneud neu ddim yn wneud. Fodd bynnag, ni sydd yn aml yn gorfod delio â’r effeithiau. Mae cyfeirio ein timau ein hunain yn arwain at gost cyfle yn hytrach nag un ariannol.

 

·         A ydym wedi edrych i mewn i gydweithio gydag awdurdodau lleol gerllaw i geisio lliniaru ein costau?

 

Dywed, o’n gwybodaeth gan gydweithwyr mewn awdurdodau lleol eraill, nad oes ganddynt o raid y gallu i gynnal trefniadau ar y cyd. Byddai hyn yn heriol i’w reoli, yn enwedig yn ystod tywydd garw, gan y byddai blaenoriaethu yn bwysig iawn. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn edrych i mewn iddo yn y dyfodol.

 

·         A ydym wedi adolygu ein contractau gyda darparwyr allanol i asesu unrhyw ffiniau amser ymateb fyddai o help i ni?

 

Dywedwyd nad oes gennym gontractau tymor hir, a’i bod yn farchnad i’r gwerthwr, sydd yn her i’w rheoli. O ran ymateb cynghorau i ddigwyddiadau penodol, rhaid i ni allu symud yn gyflym a defnyddio staff dan amodau anodd, a chystadlu ar yr un pryd gydag awdurdodau lleol eraill sydd angen yr un gwasanaethau ar yr un pryd.

 

INF2324/04 - Diffodd Goleuadau Stryd 00:00 i 06:00 (ac eithrio mewn safleoedd lle’r oedd perygl i ddiogelwch) a Lleihau Cynnal a Chadw

 

Rhoddodd y Pennaeth Seilwaith drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef, ac eithrio am safleoedd lle’r oedd perygl i ddiogelwch, fel y nodwyd gan archwiliadau diogelwch y ffyrdd, y bydd yr holl oleuadau stryd ledled y ddinas yn cael eu diffodd rhwng hanner nos a 06:00 er mwyn gwneud arbedion ynni ac allyriadau carbon. Yna rhoddodd y Pennaeth Seilwaith drosolwg o’r cynnig Lleihau Cynnal a Chadw, sef gostwng y gyllideb cynnal a chadw adweithiol (£365k yn 2022/23) o £100k i wneud arbedion ar y lefelau cynnal a chadw blynyddol. Bydd angen cynnal adolygiad cynhwysfawr o sut yr ydym yn rheoli risg ein hasedau, er mwyn sicrhau mai dim ond gwaith cynnal risg isel / effaith isel sy’n cael ei ohirio.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·       Dywedodd Aelod mai dyma’r maes mwyaf dadleuol, gyda thrigolion yn mynegi llawer o bryder. Roeddent yn pryderu am ddiogelwch a throsedd ac anhrefn, a allai gael cryn effaith ar ansawdd eu bywydau. Argymhellodd yr Aelod adolygu’r cynnig hwn oherwydd yr effaith wirioneddol ar y trigolion.

 

·        Pa ystyriaethau a roddwyd i feysydd diogelwch, fyddai’n arbed £300,000.

 

Cadarnhawyd fod rhagdybiaeth wedi ei wneud o’r hyn oedd yn bodoli oherwydd gwybodaeth am y rhwydwaith, a bod modd newid yr amcangyfrif am ganran y lefel uchaf, gydag asesiad manwl i’w wneud o ardaloedd. Roedd yn seiliedig hefyd ar asesiadau ALl eraill, a oedd yn cynnwys bandiau diogelwch. Mae asesiad mwy manwl ar y gweill, er mwyn dod i benderfyniad terfynol.

 

·         Gwnaeth Aelod sylw am y 50% o’r goleuadau gaiff eu diffodd, a sut i wella diogelwch trigolion?

 

Roedd y cynnig yn edrych yn bennaf ar yr hanner arall, ac o ran cydbwysedd diogelwch, yr oed dhyn yn gymysg, ond mae Cynghorau eraill wedi gwneud yr un peth. Nid oedd hwn yn swyddogaeth statudol, felly roedd gan y Cyngor ddisgresiwn, ac fe fyddai’r goleuadau ymlaen tan hanner nos. Gofynnodd Aelod a oedd rheidrwydd cyfreithiol i oleuo cyffyrdd?  Cadarnhawyd fod y Cyngor yn goleuo cyffyrdd a chylchfannau am eu bod yn llefydd prysur.

 

·        Dywedodd Aelod fod y cynnig hwn yn siomedig oherwydd i gyllid gael ei ddarparu i Wella Diogelwch Menywod a Merched mewn ardaloedd risg-uchel; bydd y goleuadau hyn yn awr yn cael eu diffodd dan y mesurau hyn. Ai gwastraff arian fyddai hyn yn awr? Roedd yr Aelod hefyd yn gobeithio y byddai’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i nodi unrhyw bryderon diogelwch, gan fod y canfyddiad am ddiogelwch hefyd yn bwysig.

 

·         A fydd y goleuadau stryd yn cael eu diffodd am hanner nos bob nos, neu a fydd yn digwydd yn hwyrach ar benwythnosau?

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y byddant yn cael eu gosod ar gyfer hanner nos, ac na fydd amrywio. Nid yw peirianwaith y switsys yn caniatáu amrywio dyddiol; gellir sicrhau’r Pwyllgor hyn. Gwnaeth Aelodau sylwadau wedyn fod llawer o weithwyr yn cychwyn am 6am, felly mae’n debyg y byddant yn teithio i’r gwaith yn y tywyllwch, ac efallai y bydd angen eu troi ymlaen yn gynt.

 

·         Gwnaeth Aelodau sylwadau am wahaniaethau tymhorol y gall fod angen eu hystyried, yn ogystal ag eiddo trwyddedig sydd yn cau yn hwyr - efallai y bydd angen ystyried hyn hefyd, gan y gallai arwain at fwy o droseddu. 

 

INF2324/05 - Ffioedd a Thaliadau – Cynyddu ffioedd o  10% yn hytrach na’r 4% safonol

Rhoddodd y Pennaeth Seilwaith drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef cynyddu’r ffioedd a’r taliadau a wneir gan y gwasanaeth Seilwaith i gyflawni eu dyletswyddau statudol uwchlaw’r gyfradd flynyddol safonol o 4% o gyfradd o 10% i gwrdd â chwyddiant. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn dal i gyflwyno gwasanaeth cynaliadwy trwy adennill yr holl gostau ddaw i’w rhan am swyddogaethau statudol a disgresiynol.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Gofynnodd Aelod a fyddai’r taliadau hyn yn deg o gymharu ag awdurdodau eraill, ac a fyddid yn ystyried dirwyon?

 

Cadarnhawyd fod Cyngor Casnewydd yn debyg i awdurdodau lleol eraill, yn fras. Cadarnhawyd hefyd fod y camerâu ar yr M4 a drowyd yn ôl ymlaen yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru a bod y ffioedd yn cael eu talu’n uniongyrchol iddynt hwy.

 

LS2324/03 - Gostwng lefelau Staffio yn y Gwasanaeth Cofrestru

Rhoddodd y Pennaeth Cyfraith a Safonau drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys gostwng lefelau staffio o 5 aelod o staff i 4.

Cyflwynwyd y ddarpariaeth trwy gynllun yr oedd yn rhaid cytuno arno gyda’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (SGG) sydd yn mynnu bod yn rhaid  i’r gwasanaeth fod â 5 aelod o staff. Byddai cais yn cael ei wneud i gymeradwyo gostyngiad yn nifer y cofrestryddion. Effaith y cynnig hwn fyddai gostwng nifer yr apwyntiadau fyddai ar gael. Roedd gan y gwasanaeth ddyletswydd statudol i gofrestru genedigaethau ymhen 42 diwrnod a 5 diwrnod am farwolaethau. Roedd Rheolwr y Gwasanaeth Cofrestru yn hapus y gallwn gwrdd â’r targedau hyn. Byddai gwasanaeth dyddiadur yn ei gwneud yn haws archebu apwyntiadau, a gallai pobl ganslo yn gynt, gan ryddhau mwy o apwyntiadau.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         Gofynnodd Aelod sut mae’r gwasanaeth yn cael ei fonitro ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyfraith a Safonau fod dangosyddion allweddol yn cael eu monitro yn chwarterol, a hyn yn cael ei adrodd wrth y SGG i wneud yn si?r fod y lefelau yn foddhaol. Roedd y rheolwr yn gwirio hyn yn rheolaidd, a’r targedau cyfredol oedd 98% sef y cyfnod amser oedd ei angen.

 

·         Gofynnodd Aelod am y gallu yn yr adeilad, gan gynnwys y ganolfan ddinesig, ac a oedd yn gost ddiangen cyflwyno’r gwasanaeth o un lle.

 

Edrychwyd ar yr arbedion refeniw, ac roedd y rhain yn fach iawn. Roedd y cynnig penodol yn cynnwys gweithredu’r system TG newydd, a byddai’r gwasanaeth yn cwrdd â’i dargedau. Byddid yn gwneud sylw am ddefnydd Asedau’r Cyngor yn nes ymlaen yn y cyfarfod.

 

FIN2324/01 - Gostwng amseroedd agor mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda symud at fwy o hunanwasanaeth

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys symud i wythnos 3-diwrnod am apwyntiadau. Ni ddylai’r gostyngiad yn nerbynfa’r Ganolfan Ddinesig gael unrhyw effaith, gan ei bod yn dal i agor yn hwyrach. Fe fyddai’r gostyngiad yn cael effaith ar staff.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Gwnaeth Aelod sylw am yr effaith ar bobl sy’n dibynnu ar y gwasanaeth wyneb-yn-wyneb sydd yn achos pryder.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid mai 3 diwrnod oedd y gostyngiad yn y cyfnod wyneb-yn-wyneb, ond byddai’r cynnig yn dal yno i’r bobl hynny, ond byddai’r gwasanaeth yn cadw meddwl agored am yr oriau agor ac ar rota’r staff, a byddai’n hapus i fod yn hyblyg.

 

·         Gofynnodd Aelod faint oedd yn defnyddio’r rhif cyffredinol fel rhif cyswllt, gan y gallai hyn gynyddu llif y galwadau i ddechrau.

 

Roedd y cynnig yn cynnwys datblygu’r tîm gwasanaeth Fy Nghyngor i’w gwneud yn hwylus i’r bobl hynny sydd eisiau ymwneud yn ddigidol, gyda chyllid am 2 flynedd i’r gwasanaeth hwn.

 

·         Gofynnodd Aelod am ddigideiddio lle mae mwy o bobl yn mynd ar-lein, a sut y byddwn yn eu tywys yn y tymor hir. A fyddwn ni’n ddigidol barod yn y tymor hir, a allai’r system ymdopi gyda newidiadau?

 

Nid oedd gwybodaeth am unrhyw broblemau gyda hyn, ac roedd y gwasanaeth yn cadw’r ganolfan gyswllt a galwadau ffôn ac yn datblygu’r system.

 

FIN2324/02 - Diffodd sianeli ffôn ac wyneb-yn-wyneb ar gyfer rhai trafodion

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef diffodd sianeli ffôn ac wyneb-yn-wyneb  i rai trafodion a lleihau adnoddau yn y tîm Gwasanaethau cwsmeriaid. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys arbediad ar y cyd gyda Digidol i ddiweddu’r contract am recordio galwadau yn y Ganolfan Gyswllt. Mae trafodion megis gwastraff swmpus a thipio anghyfreithlon wedi eu heithrio o’r rhestr hon. Bydd swydd hefyd yn cael ei chymryd allan o’r tîm.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Ai trwy i rywun golli swydd neu adael swydd yn wag y bydd y gostyngiad?

Peidio â llenwi swydd wag a wneir, ac ni fydd neb mewn perygl o golli ei swydd. Roedd trosiant uchel yn y tîm. Roedd staff llawn a 2 o bobl yn y tîm wedi cael swyddi newydd yn y Cyngor gan symud i dimau eraill, sy’n digwydd yn rheolaidd.

 

·         Trafodion dros y ffôn – ar ba wasanaethau yr effeithir, a sut yr ydych chi’n gwella’r gwasanaethau digidol hynny?

 

Cadarnhawyd, er mwyn gwella’r, y byddid yn cyllido 2 swydd am 2 flynedd yn y tîm gwasanaethau Fy Nghyngor, fydd yn canolbwyntio ar wella’r hyn a gynigir yn bresennol, ac ymestyn i fwy o drafodion digidol.

 

·         Holodd Aelod am ganslo’r contract recordio galwadau; sut y gwyddom faint o alwadau sy’n cael eu recordio ac y gwrandewir arnynt fel rhan o hyfforddi, yn ogystal â’u chwarae eto at ddibenion cyfreithiol? Hefyd, a oes unrhyw oblygiadau cyfreithiol i hyn?

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid y caiff y data hwn ei ddarparu yn nes ymlaen gan nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw oblygiadau cyfreithiol o beidio â recordio galwadau. Byddai’r gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid TG ac roedd heriau yn y gyllideb hon, ond roeddem eisiau rhoi amser i’r trigolion ddod i arfer â’r gwasanaeth newydd.

 

·         Gwnaeth Aelod sylw ar adroddiadau Cabinet a’r ategiad GCR a gyhoeddwyd yn y cyfarfod ei hun, gan y cadarnhawyd fod 2 elfen o arbed £5miliwn o arbedion Cabinet a £5miliwn o arbedion a ddirprwywyd. Gwnaed y sylw, petae gennym £11m yn ychwanegol, yna yn ddamcaniaethol, gallai’r cabinet ddirprwyo arbedion heb orfod gwneud mwy o arbedion a chodi treth y cyngor i wneud iawn am y gwahaniaeth.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr arbedion i ysgolion yn seiliedig ar 50% o bwysau mewn ysgolion- mae angen i ni edrych ar rai o’n rhagdybiaethau allweddol yng ngoleuni gwybodaeth newydd; mae angen ei fireinio ar bob cam. Er enghraifft, bydd angen adolygu rhagdybiaethau am dâl eto, ac maent yn debyg o fod yn uwch na’r disgwyl. Mae’r sefyllfa ynghylch tâl athrawon yn dal yn ansicr, ac efallai y bydd angen cynyddu tâl staff NJC. Er yr ymddengys bod bwlch, bydd angen i ni ystyried pwysau eraill ar y gyllideb cyn penderfynu ar ein cyllideb derfynol.

 

·         Gwnaeth Aelod y sylw fod yr adroddiad yn crybwyll arian wrth gefn sydd wedi ei glustnodi, ac a gynyddodd o £8m llynedd. Fel dewis olaf, mae’r arian wrth gefn yn gwneud iawn am y diffyg, ond mae hyn yn golygu na ellir eu defnyddio at y pwrpas y bwriadwyd, a rhaid dod o hyd i arian wrth gefn eto. Yn ddamcaniaethol, a allai’r Cabinet roi’r gorau i brosiect sydd ar y gweill a defnyddio’r arian hwnnw yn lle arbedion eraill neu godiadau mewn Treth Cyngor?

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod modd gwneud hyn, ond fel Pennaeth Cyllid, na fyddai’n argymell gwneud hyn gan mai cau bwlch am flwyddyn yn unig y byddai, ac y byddai’r un broblem yn codi yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rhaid i chi wedyn ddod o hyd i’r arbedion a rhoi arian wrth gefn yn ôl, sydd yn ddyblu, mewn ffordd.

 

N/A - Cynyddu’r codiad mewn treth cyngor o’r sylfaen ragdybiedig o  4% o 5.5% i 9.5%

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef cynyddu’r Dreth Cyngor Tax o’r sylfaen ragdybiedig o 4% o 5.5% i 9.5%. Dywedwyd wrth y Pwyllgor ei bod yn hysbys fod treth cyngor Casnewydd yn isel o gymharu ag eraill yng Nghymru, sy’n cynhyrchu oddeutu 23% o’n hincwm. Mae Casnewydd yn parhau i fod ag un o’r lefelau treth cyngor isaf yng Nghymru.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Gwnaeth Aelod sylw ei fod yn sylweddoli fod Casnewydd yn is na’r cyfartaledd, ond bod y cynnydd canrannol hwn ar y pryd yn anffodus, oherwydd costau byw a’r cynnydd mewn biliau ynni.

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid, ar gyfer Band A, fod y cynnydd yn £2 yr wythnos, ac nad oedd hyn yn llawer.

 

·         Gwnaeth Aelod sylw am y GCR ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac a oedd modd defnyddio hyn i ostwng treth y cyngor.

 

Dywedwyd mai mater i’r Cabinet benderfynu oedd lle i wario’r arian a gwneud yr argymhelliad i’r Cyngor.

 

·         A all unrhyw un wneud cyfraniad ychwanegol trwy Dreth y Cyngor os gallant eu fforddio?

 

Cadarnhawyd y Pennaeth Cyllid nad oes modd gwneud hyn dan reoliadau cyfredol Treth y Cyngor.

 

RED2324/01 - Ffî Rheoli Casnewydd Fyw

Rhoddodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, sef gostwng y ffî reoli flynyddol a delir i Gasnewydd Fyw i redeg gwasanaethau hamdden ledled y ddinas. Yn 2014 y cytundeb oedd lleihau’r cymhorthdal i ddim erbyn 2020. Y teimlad oedd bod gostyngiad o 10% yn gychwyn rhesymol ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Sut mae Casnewydd Fyw yn teimlo y bydd hyn yn cael effaith ar eu gwasanaeth?

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y bu ymgynghori llawn, ac y bu hyn yn rhan o’r cynllun busnes ers 2014. Ni ddywedwyd yn ffurfiol wrthym am unrhyw effaith uniongyrchol, ond gyda chau Canolfan Casnewydd, fe all fod rhai mesurau effeithlonrwydd.

 

·       Holodd Aelod am y blynyddoedd o gyllido ychwanegol ac a oedd modd hawlio rhywfaint yn ôl. 

Cadarnhawyd y bu 3 blynedd o gyllid ychwanegol a bod rhesymau cadarn dros beidio â’i ostwng cyn hyn.

 

·         A yw 10% yn ddigon ac a ddylem ni ofyn am fwy?

Nodwyd y byddai mwy yn ddelfrydol, ond gan gadw mewn cof mai busnes ydoedd sy’n darparu gwasanaeth. Byddai cynllunio yn digwydd gyda Chasnewydd Fyw, gyda’r bwriad o beidio gallu darparu cymhorthdal ar ryw bwynt.

           

·         Holodd Aelod am y canran o 10% ac a fu unrhyw ddadansoddiad.

 

Cadarnhawyd fod copi o’r cyfrifon wedi ei dderbyn a bod 10% yn cael ei ystyried yn rhesymol, o edrych ar y darlun a bod modd rheoli’r busnes.

 

·         Dywedodd Aelod fod angen i ni gydnabod beth mae rhai partneriaid yn wneud i ni. Mae gwerth i ddinasyddion yn y gwasanaeth hwn ac yr ydym yn arbed llawer iawn mewn ffyrdd eraill i’n dinasyddion.

 

Pobl, Polisi a Thrawsnewid – Gwybodaeth am asedau

Dywedodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid wrth y Pwyllgor, er nad oes gan ei maes gwasanaeth unrhyw gynigion am arbedion sy’n destun ymgynghori, fod arbedion wedi eu dirprwyo, yn ogystal â ffioedd a thaliadau sy’n destun ymgynghori. Roedd y taliadau hyn yn cynnwys cynyddu enwi a rhifo strydoedd, a llogi ystafelloedd yn y Ganolfan Ddinesig. Gwnaeth y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid sylw hefyd am ddefnydd y Cyngor o asedau oherwydd bod derbyniad cyfalaf mawr. Roedd yn bwysig ystyried barn y cyhoedd am resymoli asedau; er enghraifft, a oedd modd defnyddio adeiladau ar draws y ddinas yn fwy effeithiol, ac a ddylid cael llai o asedau? Cychwynnwyd ar brosiect i ddwyn hyn i gyd ynghyd.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Gofynnodd Aelod am rest o holl asedau’r Cyngor.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Craffu fod y cais hwn eisoes ar y rhestr ers y cyfarfod diwethaf. Pan fydd y prosiect wedi ei gwblhau, rhoddir y wybodaeth i’r Pwyllgor.

 

·         Gofynnodd Aelod am fuddsoddiad y gyllideb yng nghyswllt y cynnydd yn nhaliad contract Norse JV- o £89,000 am y gwasanaeth hwn eleni.

 

Cadarnhawyd mai dyma oedd swm codiad tâl yr NJC sy’n rhan o gytundeb y contract, ac mae’n swm a osodwyd o’r neilltu eisoes.

                                     

·         Holodd Aelod am y buddsoddiad Iechyd a Diogelwch, a holi ai swyddi newydd oedd y rhain.

 

Esboniwyd bod hyn yn rhan o ymrwymiad tymor hir i gryfhau trefniadau iechyd a diogelwch yn y Cyngor a bod y gwasanaeth wedi ei ail-strwythuro o’r herwydd. Mewn ateb i gwestiwn ynghylch a fyddai modd adleoli staff, mae hyn yn wastad yn ystyriaeth wrth recriwtio. Cadarnhawyd fod y buddsoddiad hwn am fwy nag un swydd.

                                     

·         A fydd cyfleoedd yma i staff sydd mewn perygl o golli eu swyddi?

 

Dywedwyd y byddwn, dan ein polisi sicrwydd swyddi, yn wastad am leihau swyddi gwag i ddechrau a chynnig cefnogaeth i staff a all fod mewn perygl o golli eu swyddi. Byddwn yn darparu’r strwythur i’r pwyllgor fel gwybodaeth ddilynol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am fod yn bresennol.

 

Casgliadau:

 

Sylwadau i’r Cabinet am y cynigion a ganlyn:

 

a)    Nododd y Pwyllgor y cynigion am y gyllideb sy’n berthnasol i’r Cyfarwyddiaethau Lle a Chorfforaethol, a chytunwyd i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

 

b)    Roedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau a ganlyn i’r Cabinet am y cynigion  yn y Gyfarwyddiaeth Lle a Chorfforaethol:


 

HC2324/01 - Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu Cymunedol Oedolion -      

Er bod hyn y tu allan i’r ymgynghoriad gan ei fod a wnelo a phenderfyniadau a wnaed eisoes, gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ynghylch lle bydd y gwasanaethau a gyd-leolir pan fydd y Llyfrgell Ganolog yn ail-agor.

 

HC2324/02 - Lleihau cefnogaeth ariannol i gynllun Shop Mobility yn 2023-24-      

Gofynnodd y Pwyllgor am y data sydd ar gael am yr effaith unigol ar ddefnyddwyr gwasanaeth a’r effaith a ddisgwylir ar fusnesau yng nghanol y ddinas. Argymhellodd yr Aelodau y dylid adolygu’r galw am y gwasanaeth cyn bwrw ymlaen â’r cynnig.

 

EPP2324/02 - Ail-strwythuro’r Gwasanaeth Warden Diogelwch Cymunedol

 

 

-       Dywedodd y Pwyllgor, er ei bod yn siomedig gweld gostyngiad posib yn y Gwasanaeth Wardeniaid, eu bod yn gweld cyfle i weithio’n fwy effeithiol gyda phartneriaid, gan gynnwys partneriaid statudol. Fodd bynnag, argymhellodd yr Aelodau na ddylid gwneud gostyngiadau cyn trafod gyda phartneriaid am gyfrannu tuag at gyllido’r gwasanaeth fel y gallai barhau ar lefelau cyfredol. Ystyriodd y Pwyllgor y gellid edrych i mewn i ddewisiadau eraill gyda phartneriaid, gan gynnwys LCC, i gynnal y ddarpariaeth.

 

EPP2324/04 - Cynyddu ffioedd a thaliadau yn y Gwasanaethau Amgylchedd a Hamdden

-       Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig am gynnydd mewn ffioedd a thaliadau yn y Gwasanaethau Amgylchedd a Hamdden; fodd bynnag, teimlai’r Aelodau y dylai’r cynnydd fod yn unol â’r un cynnydd yn y Dreth Cyngor yn hytrach na chwyddiant.

 

EPP2324/05 - Cyflwyno taliadau parcio i bedwar o feysydd parcio parciau a chefn gwlad

-       Dywedodd y Pwyllgor y carent i’r maes gwasanaeth ystyried y timau chwaraeon lleol sy’n defnyddio’r parciau, a fyddai’n broblem arbennig yn y Glebelands. Dywedodd yr Aelodau ei bod yn dda gweld eithriadau, mewn achosion fel y rhain trwy ymwneud â chlybiau pêl-droed lleol, oherwydd bod llawer o deuluoedd yn dioddef trwy’r cynnydd mewn costau byw.

 

-       Gofynnodd yr Aelodau  am ragamcanion ariannol ar gyfer pob maes parcio petae taliadau yn cael eu cyflwyno, seiliedig ar ddata hanesyddol am ddefnydd yn erbyn pob maes parcio yn y cynnig.

 

-       Gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o’r gost net a’r amserlenni ar gyfer elw ar y buddsoddiad.

 

-       Crybwyllodd y Pwyllgor bryderon am bwysau parcio mewn strydoedd cyfagos, yn enwedig os bydd pobl yn ceisio parcio gerllaw i osgoi talu, a hoffent i’r pwysau hyn gael eu hystyried, yn enwedig mewn ardaloedd lle’r oedd cyfyngiadau parcio, fel parcio i drigolion.

 

EPP2324/06 - Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref – Codi am wastraff heb fod yn wastraff cartref

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor am i’r maes gwasanaeth ystyried pa broses fyddai’n cael ei ddilyn i wneud ad-daliadau mewn amgylchiadau eithriadol pan fydd trigolion yn gwneud camgymeriad ar y ffurflenni archebu ar-lein.

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad am waredu offer ystafelloedd ymolchi, er enghraifft pan fyddai aelwydydd eisiau gwaredu ystafelloedd ymolchi cyfan; a fyddai’r tâl yn gymwys am yr eitemau hyn?

 

EPP2324/08 - Tâl am finiau newydd (gwastraff gweddilliol)

-       Holodd y Pwyllgor a oedd unrhyw ddisgresiwn yn y polisi arfaethedig, oherwydd bod yn rhaid i rai ardaloedd preswyl yng Nghasnewydd storio eu biniau gwastraff gweddilliol ar y stryd, a allai achosi problem gyda’u difrodi neu eu dwyn.

 

EPP2324/09 - Casglu Gwastraff Gweddilliol o’r Cartref a Gwastraff Gardd – Casgliadau bob 3 Wythnos

-       Teimlai mwyafrif y Pwyllgor na ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig hwn, gan ystyried mai mater o gyrraedd targedau ailgylchu oedd y cynnig hwn yn hytrach na chreu arbedion cyllidebol. Canfu’r Pwyllgor fod llawer o’r wybodaeth yn y cynnig ei hun yn ymwneud a chynyddu’r gyfradd ailgylchu ac annog mwy o ailgylchu; fodd bynnag, nodwyd y gallai methu â chyrraedd y targedau hyn fod ag oblygiadau ariannol pellach cysylltiedig â dirwyon perfformiad yn y blynyddoedd i ddod. Dywedodd yr Aelodau bod yr arbediad arfaethedig yn fychan, ond bod yr oblygiadau ariannol ehangach yn fwy na’r arbediad, gan y byddai’n annog tipio anghyfreithlon ledled y ddinas, ac y byddai’n rhaid i’r Cyngor ddefnyddio mwy o adnoddau i lannau ardaloedd.

 

-       Gwnaed y sylw, petai’r cynnig hwn yn mynd rhagddo, ei bod yn bwysig iawn i  drigolion wybod y gallai’r gwasanaeth ailgylchu ymdopi â swm ychwanegol yr ailgylchu fyddai’n dod, gan y gallai hyn wneud y cynnig yn fwy derbyniol i  drigolion. Dywedodd Aelodau hefyd y gallai’r ddarpariaeth gwasanaeth ailgylchu presennol elwa o adolygu a gwella. Byddai’n rhaid hefyd addysgu trigolion am yr hyn y gellid ei ailgylchu.

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor am adolygu’r ddarpariaeth i aelwydydd o fwy na 5 o bobl, gan nad ydynt ar hyn o bryd yn cyrraedd y trothwy i gael bin mawr; byddai casgliadau llai aml yn anodd i’r teuluoedd hyn ymdopi.

 

-       Roedd y Pwyllgor yn cydnabod trafferthion trigolion fflatiau sy’n rhannu biniau cymunedol, gan nad oes ganddynt reolaeth dros gymdogion sy’n gadael gwastraff. Cododd y Pwyllgor hefyd rai problemau o ran colli casgliadau bin mewn blociau cymunedol. Cytunodd yr Aelodau fod angen adolygu gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Rhentu Doeth Cymru er mwyn rheoli casgliadau biniau cymunedol a mannau ailgylchu yn fwy effeithiol.

 

INF2324/02 - Newidiadau i Arferion a Gweithdrefnau

-       Dywedodd y Pwyllgor y dylai’r Cyngor edrych i mewn i gydweithredu gydag awdurdodau lleol cyfagos i geisio lliniaru costau. Holodd yr Aelodau hefyd a oedd modd gweithio mewn partneriaeth gyda D?r Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd i weld a allant helpu i hwyluso mwy o agweddau o gadw cyfleusterau draenio i redeg yn llyfn.

 

-       Lleisiwyd pryder fod y tîm eisoes yn cael anhawster delio a llifogydd a draeniau wedi eu cau dan y ddarpariaeth bresennol, felly byddai llai o gerbydau a staff yn gwneud hyn yn anos fyth. Os bydd amodau’n gwaethygu gyda thywydd garw, gallai beryglu bywoliaeth a diogelwch trigolion. Mae llwybrau hanfodol yng nghanol y ddinas na ddylai gael eu rhwystro yn cael eu rhwystro’n aml, a rhaid iddynt fod yn glir fel y gall pobl fynd i’w gwaith, i gadw economi’r ddinas i fynd. Dywedodd yr Aelodau ei bod yn bwysig osgoi peryglu trigolion.

 

-       Lleisiwyd pryder am risgiau yswiriant. Petai’r Cyngor yn bwrw ymlaen â’r cynnig hwn, a bod difrod yn cael ei achosi i eiddo trigolion oherwydd y gwasanaeth annigonol, a fyddai’r Cyngor yn atebol  am y difrod? Lleisiwyd pryder hefyd y gallai’r Cyngor orfod gwario mwy o arian ar gontractwyr allanol, fyddai’n gwneud i ffwrdd ag unrhyw arbedion arfaethedig.

 

INF2324/04 - Diffodd Goleuadau Stryd 00:00 to 06:00 (ac eithrio mewn safleoedd lle’r oedd perygl i ddiogelwch) a Lleihau Cynnal a Chadw

-       Tra’n gwerthfawrogi’r arbedion yn y tymor hwy, argymhellodd y Pwyllgor na ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig hwn gan y byddai’r effaith a gâi llai o oleuadau ar bobl yn rhy fawr. Mynegwyd pryderon am ddiogelwch trigolion yn teithio i’r gwaith yn gynnar yn y bore, problemau diogelwch y ffordd, yn enwedig i yrwyr tacsis, ac y gallai cyfraddau troseddau, yn enwedig byrgleriaethau, gynyddu.

 

-       Petai’r cynnig yn cael ei dderbyn, gobeithiai’r Pwyllgor y byddai’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i asesu’r effeithiau fyddai’n cael eu hachosi, gan gynnwys canfyddiad y cyhoedd o ddiogelwch. Soniodd yr Aelodau am bwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid i nodi unrhyw broblemau yn awr ac yn y dyfodol, yn enwedig mewn mannau lle’r oedd eiddo trwyddedig, gan y gallai hyn gynyddu trosedd ac anhrefn.

 

-       Gwnaed y sylw fod y Cyngor cyn hyn wedi sicrhau cyllid i gefnogi diogelwch menywod a merched yn y ddinas, yn enwedig mewn mannau fel parciau, yn dilyn ymgynghori gyda’r trigolion, ac y bydd y goleuadau hyn yn awr yn cael eu diffodd dan y mesurau hyn. 

 

-       Holodd yr Aelodau a oedd modd ail-raglennu caledwedd y goleuadau i ddiffodd yn hwyrach ar nos Sadwrn a boreau Sul; er enghraifft, 2am yn lle hanner nos, a allai helpu diogelwch economi hwyr y nos. Roedd Aelodau hefyd eisiau nodi’r gwahaniaethau tymhorol o ran pryd i ddiffodd y goleuadau stryd a’u troi ymlaen.

 

INF2324/05 - Ffioedd a Thaliadau – Cynyddu ffioedd o  10% yn hytrach na’r 4% safonol

-       Argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r ffioedd a’r taliadau godi yn unol â’r cynnydd a gytunwyd yn Nhreth y Cyngor.

 

LS2324/03 - Gostwng lefelau Staffio yn y Gwasanaeth Cofrestru

-       Roedd y Pwyllgor yn hapus gyda’r cynnig hwn ar yr amod y gellir dal i gwrdd â’r targedau.

 

FIN2324/01 - Gostwng amseroedd agor mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda symud at fwy o hunan-wasanaeth

-       Teimlai’r Pwyllgor nad oedd ganddynt y wybodaeth lawn ar hyn o bryd i ddod i benderfyniad ar y cynnig hwn. Er nad yw ail-ddatblygu’r Llyfrgell Ganolog ac adleoli gwasanaethau o fewn cwmpas yr ymgynghoriad ar y gyllideb, ac y gwnaed y penderfyniad eisoes, teimlai’r Pwyllgor fod angen gweld sut olwg fyddai ar y gwasanaethau newydd yn y Llyfrgell Ganolog cyn dod i unrhyw benderfyniad ar amseroedd agor.

 

-       Barn y Pwyllgor oedd, tra bod yr oriau agor gwahanol yn ystyried trigolion gyda gwahanol ofynion o ran cyrchu’r gwasanaeth wyneb-yn-wyneb, y gallant beri dryswch i rai trigolion.

 

 

FIN2324/02 - Diffodd sianeli ffôn ac wyneb-yn-wyneb ar gyfer rhai trafodion

-       Crybwyllodd y Pwyllgor pa mor bwysig oedd i drigolion allu cyfathrebu gyda’r Cyngor. Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth ynghylch faint o alwadau a dderbynnir yn y Ganolfan Gyswllt sy’n cael eu recordio a gwrando arnynt fel rhan o hyfforddiant. Holodd yr Aelodau hefyd a oedd unrhyw oblygiadau cyfreithiol i ganslo’r contract recordio galwadau. Lleisiwyd pryder am amddiffyn staff rhag camdriniaeth os na fyddai galwadau’n cael eu recordio.

 

N/A - Cynyddu’r codiad mewn treth cyngor o’r sylfaen ragdybiedig o  4% o 5.5% to 9.5%

-       Argymhellodd y Pwyllgor y dylid adolygu’r cynnig hwn ac y dylai fod yn is, yng ngoleuni’r ffigwr is am y setliad drafft, gan ddeall ar yr un pryd nad yw’r ffigwr terfynol eto wedi ei gadarnhau.

 

RED2324/01 - Ffî Rheoli Casnewydd Fyw

-       Roedd y Pwyllgor yn hapus gyda’r cynnig hwn am arbedion, gan ddweud fod y gwasanaeth yn glir o ran ei argymhelliad y dylid gwneud mwy o waith i gefnogi Casnewydd Fyw i gynnal proses Cynllunio Busnes mwy ffurfiol.

 

Pobl, Polisi a Thrawsnewid – Gwybodaeth am asedau

Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r swyddogion am y wybodaeth a roddwyd. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd iddynt gael gwybodaeth am y strwythur diwygiedig Iechyd a Diogelwch, a hefyd pryd y ceir y rhestr derfynol o asedau cyfredol y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: