Agenda item

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys - 2023/24

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad blynyddol a oedd yn manylu ar gynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor, effaith ariannol y rheiny yn nhermau benthyca, a'r strategaeth fuddsoddi ar gyfer y flwyddyn.

 

Roedd hi'n bwysig nodi mai'r Cyngor llawn yn y pen draw fyddai'n cymeradwyo'r terfynau benthyca a'r dangosyddion darbodus yn yr adroddiad. Roedd gofyn i'r Cabinet, fodd bynnag, gymeradwyo'r rhaglen gyfalaf fanwl ei hun.

 

Roedd hi hefyd yn bwysig nodi bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hefyd wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod diweddaraf ac wedi rhoi sylwadau. Yn yr achos hwn, dim ond sylwadau i gefnogi'r strategaethau a gynigiwyd gan y Pwyllgor, ac nid oedd unrhyw bryderon wedi'u codi.

 

O ran yr adroddiad ei hun, tynnwyd sylw at nifer o bwyntiau allweddol:

 

§  Roedd y Cyngor yn cychwyn ar ffenestr rhaglen gyfalaf newydd, gyda'r rhaglen gyfredol yn dod i ben ym mis Mawrth eleni a rhaglen bum mlynedd newydd yn dod i rym o fis Ebrill.

 

§  Yn flaenorol, byddai'r rhaglen yn cael ei hadolygu bob pum mlynedd, ond y cynnig oedd newid i ddull treigl o reoli'r rhaglen gyfalaf, gan olygu y byddai'r rhaglen gyfan, a fforddiadwyedd benthyciadau, yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.

 

§  Byddai'r newid hwn yn ychwanegu mwy o hyblygrwydd wrth reoli'r rhaglen, ac i gyd-fynd â hyn roedd trefniadau llywodraethu cryfach yn cael eu cyflwyno, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

§  Oherwydd y cyd-destun ariannol hynod heriol, nid oedd y rhaglen arfaethedig ond yn cynnwys cynlluniau a oedd ar y gweill a chynlluniau a gymeradwywyd yn flaenorol, a oedd yn cael eu cario drosodd o'r rhaglen bresennol, a symiau blynyddol, a oedd yn cynnwys gweithgareddau fel cynnal asedau'n flynyddol ac adnewyddu fflyd.

 

§  Er nad oedd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu cynnwys, roedd hi'n dal i fod yn rhaglen sylweddol, yn enwedig ym mlynyddoedd 1 a 2, ac yn cynnwys nifer o gynlluniau blaenoriaeth uchel y Cabinet.

 

§  Oherwydd yr heriau'n gysylltiedig â fforddiadwyedd, nid oedd y strategaeth yn cynnwys unrhyw le i fenthyca o'r newydd, gan olygu nad oedd rhyw lawer o hyblygrwydd o ran cyfalaf (i'w ddefnyddio i ganlyn cynlluniau newydd neu dalu am gynnydd yng nghostau cynlluniau presennol). O ganlyniad i hynny, byddai angen achub ar bob cyfle i roi hwb i gyfalaf ychwanegol drwy ffynonellau untro er mwyn parhau i ymateb i bwysau a fyddai'n dod i'r amlwg wrth iddynt godi.

 

§  Er nad oedd unrhyw fenthyciadau newydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen hon, byddai benthyciadau a gymeradwywyd yn flaenorol yn cael eu hysgwyddo dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan gynyddu'r Gofyniad Cyllid Cyfalaf cyffredinol a lefel dyledion y Cyngor.

 

§  Roedd y terfynau benthyca a gynigiwyd yn cymryd hyn i ystyriaeth ac roedd canlyniad refeniw benthyca ychwanegol (ee llog taladwy ar fenthyciadau) eisoes wedi’i gynnwys yn y gyllideb, ar ôl buddsoddiad a wnaed i'r gyllideb yn 2021/22. Roedd y rhaglen a gynigiwyd felly yn fforddiadwy, yn ddarbodus ac yn gynaliadwy.

 

§  O ran Rheoli'r Trysorlys, roedd yr adroddiad yn manylu ar ddull y Cyngor o fenthyca a buddsoddi.

 

§  Roedd yn cadarnhau y byddai'r Cyngor yn canlyn strategaeth fenthyca fewnol, gan ddefnyddio adnoddau arian parod a oedd ar gael i ohirio benthyca allanol hyd o bo modd, ac ni fyddai ond yn trefnu i fenthyca cyn y byddai angen yn codi pan fyddai rheswm ariannol clir dros wneud hynny.

 

§  O ran buddsoddi, byddai'r Cyngor yn parhau i roi'r flaenoriaeth i sicrwydd, hylifedd ac arenillion, yn y drefn honno, gan daro cydbwysedd priodol rhwng risg ac arenillion.

 

§  Roedd angen balans buddsoddi isafswm o £10m a byddai buddsoddiadau tymor hwy, yn aml ag arenillion uwch, yn parhau i gael eu hystyried.

 

Roedd sylwadau'r Pennaeth Cyllid yn yr adroddiad cyflwyno yn ymdrin yn uniongyrchol â fforddiadwyedd, darbodusrwydd a chynaliadwyedd, ac yn cadarnhau bod y strategaeth a'r rhaglen arfaethedig yn bodloni'r holl feini prawf hynny.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Roedd y Cynghorydd D Davies yn croesawu'r strategaeth gyfalaf newydd a'i chyd-destun deng mlynedd gan fod cymaint o newid yn digwydd, roedd yr adolygiad blynyddol yn ffordd dda o symud ymlaen. Roedd hi'n newydd da hefyd y byddai Rhaglen Gyfalaf Band B yn cael ei chwblhau.

 

Penderfyniad:

 

Bod y Cabinet yn argymell y canlynol i'w cymeradwyo gan y Cyngor:

 

§  Y Strategaeth Gyfalaf (Atodiad 2), gan gynnwys y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig oddi mewn iddi (a ddangosir ar wahân yn Atodiad 1), a'r gofynion/terfynau benthyca sydd eu hangen i gyflawni'r rhaglen arfaethedig.

 

§  Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi a'r polisi Darpariaeth Refeniw Isafswm (DRI) ar gyfer 2023/24. (Atodiad 3)

 

Yn rhan o'r uchod, nododd y Cabinet:

 

§  Y ddyled gynyddol, a'r gost refeniw a oedd yn cyd-fynd â hyn, wrth gyflawni'r Rhaglen Gyfalaf newydd, a goblygiadau hyn dros y tymor byr a chanolig o ran fforddiadwyedd, darbodusrwydd a chynaliadwyedd.

 

§  Sylwadau'r Pennaeth Cyllid, sef bod angen cyfyngu benthyca i'r hyn sydd ei angen er mwyn cyllido cynlluniau parhaus a chynlluniau a gymeradwywyd yn flaenorol a ddygwyd ymlaen o'r Rhaglen Gyfalaf gyfredol yn unig, a'r dangosyddion darbodus a argymhellir ar derfynau benthyca er mwyn cyflawni hyn.

 

§  A gwneud sylwadau ar y cynnig i flaenoriaethu symiau cyllid blynyddol dros unrhyw gynlluniau newydd, onid oedd hynny'n amhosib i'w osgoi. 

 

Yr adborth a roddwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Ionawr 2023 (paragraff 5).

 

Dogfennau ategol: