Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad nesaf i'w gyd-aelodau, sef diweddariad refeniw chwarter tri i'r Cabinet yn esbonio'r rhagolygon cyfredol o sefyllfa'r Awdurdod ym mis Rhagfyr 2022.
Roedd yr adroddiad yn amlygu rhagolygon cyfredol cyllideb refeniw'r Cyngor a'r risgiau a'r cyfleoedd ariannol a oedd yn dod i'r amlwg.
Gofynnwyd i'r Cabinet:
(i) Nodi'r sefyllfa gyffredinol o ran rhagolygon y gyllideb a oedd yn deillio o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn, a'r elfennau o ansicrwydd a oedd yn weddill, a'r risgiau a oedd yn dal yn bresennol.
(ii) Cytuno y dylai'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd Gweithredol barhau i adolygu a herio rhagolygon meysydd gwasanaeth er mwyn ceisio rheoli'r rhagolygon cyffredinol o fewn y gyllideb refeniw craidd, gan gynnwys symiau wrth gefn y gyllideb refeniw.
(iii) Nodi'r risgiau allweddol a nodwyd drwy gydol yr adroddiad, yn enwedig yn gysylltiedig â lleoliadau digartrefedd a gofal cymdeithasol.
(iv) Nodi'r sefyllfa gyffredinol mewn perthynas ag ysgolion, o gymharu â'r blynyddoedd cynt, ond nodi hefyd y risg y gallai diffygion ymddangos mewn cyllidebau yn y dyfodol heb gynllunio a rheoli arian yn dda.
(v) Nodi'r newidiadau a ragwelwyd yn y cronfeydd wrth gefn.
(vi) Cymeradwyo dyrannu tanwariant 2021/22 a oedd yn dal heb ei ddyrannu yn yr alldro, fel y nodwyd yn adran 4 yr adroddiad, gan nodi lefel cronfeydd cyffredinol a chlustnodedig y Cyngor yn sgil hynny.
Yn erbyn cyllideb net o £343 miliwn, roedd sefyllfa refeniw mis Rhagfyr ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £1.1 miliwn, a oedd yn cynrychioli llai na 0.4% o amrywiant yn erbyn y gyllideb. Roedd y tanwariant hwn yn bodoli ar ôl defnyddio holl symiau wrth gefn y gyllideb refeniw, sef £4.7 miliwn a oedd wedi'i gynnwys yng nghyllideb refeniw 2022/23, fel y cytunwyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2022.
Er sefydlu'r symiau wrth gefn hyn ar gyfer y gyllideb ym mlwyddyn 2022/23 i ymdrin â phroblemau'n dilyn covid, cafwyd gorwariant sylweddol mewn rhai meysydd galw allweddol a risgiau eraill yn dod i'r amlwg o fewn meysydd gwasanaeth.
Gwrthbwyswyd y rhain yn erbyn (i) symiau wrth gefn y gyllideb refeniw a ddarparwyd i'r Cyngor (ii) cynllun gostyngiadau'r Dreth Gyngor a (iii) cyllidebau eraill heb fod yn gysylltiedig â gwasanaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Gwelwyd y sefyllfa a ragwelwyd yn gwella o £2.5 miliwn ers diweddariad diwethaf y Cabinet, yn bennaf yn sgil cyllid grant untro a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â chyllid dileu elw o ofal cymdeithasol plant a chyllid ar gyfer y dull Neb Heb Help o gefnogi pobl ddigartref. Er bod y cyllid grant ychwanegol yn cael ei groesawu, roedd y Cabinet yn ymwybodol o'r prif feysydd lle cafwyd gorwariant o fewn meysydd gwasanaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad a'i atodiadau.
Dyma rai o'r prif feysydd a oedd yn cyfrannu at y gorwariant o £5 miliwn a ragwelwyd o fewn meysydd gwasanaethu:
§ Cynnydd yn y galw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol, gan gynnwys lleoliadau brys i blant, a lleoliadau i blant y tu allan i'r ardal. Roedd y ddau faes hyn eu hunain yn cyfrannu gorwariant o fwy na £4 miliwn at sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau.
§ Effaith dyfarniad cyflog 2022/23 NJC - byddai'r cynnydd cyfartalog i staff y Cyngor oddeutu 6.4% o gymharu â'r ddarpariaeth o 4% yn y gyllideb. Roedd hyn yn golygu y bod gorwariant o £2.4 miliwn yn cael ei ragweld ar gyfer staff nad oeddent yn gweithio mewn ysgolion.
§ Roedd pwysau sylweddol yn amlwg o fewn Tai a Chymunedau, mewn perthynas â digartrefedd. Rhagwelwyd gorwariant o £1.9miliwn ar ôl dyfarnu'r cyllid grant ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
Dyma'r prif faterion:
a. Y nifer fawr o unigolion/aelwydydd sydd mewn llety dros dro, gan adlewyrchu parhad o'r sefyllfa a gafwyd yn ystod cyfnod Covid.
b. Diffyg opsiynau llety addas sy'n arwain at ddefnydd sylweddol o westai a llety gwely a brecwast ar gost llawer uwch nag opsiynau mwy traddodiadol.
c. Mae’r cap ar gymhorthdal Budd-dal Tai yn golygu mai ond cyfran o'r costau hyn sy'n cael eu talu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
§ Yn ogystal â'r risgiau parhaus hyn, roedd materion hefyd wedi dod i'r amlwg eleni a fyddai'n parhau i gael eu monitro'n agos. Ymhlith eraill, roedd y rhain yn cynnwys trafnidiaeth Addysg Arbennig ac AAA a oedd yn rhagweld gorwariant o £496k oherwydd cynnydd yng nghostau gweithredwyr oherwydd chwyddiant, a diffyg o £340k yn incwm meysydd parcio. Roedd disgwyl i'r gorwariant yn y meysydd hyn lle'r oedd risg yn dod i'r amlwg fynd heibio £800k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd pwysau pellach yn amlwg ym maes cynnal a chadw'r fflyd, yn sgil cynnydd mewn prisiau tanwydd a'r costau cynyddol yn gysylltiedig â chynnal a chadw.
§ Rhagwelwyd diffyg yn erbyn yr arbedion a gyflawnwyd yn 2021/22 a'r flwyddyn gynt o £541k, yn bennaf oherwydd oedi wrth weithredu'r camau angenrheidiol, a oedd yn deillio'n rhannol o'r pandemig.
Fodd bynnag, roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod disgwyl i'r holl arbedion a oedd heb eu cyflawni gael eu cyflawni'n llawn dros y flwyddyn ariannol nesaf, neu fod cynnig i ymdrin â nhw yn rhan o'r gyllideb ddrafft.
§ Roedd tanwariant yn erbyn y gyllideb refeniw craidd wrth gefn a symiau wrth gefn dros dro eraill yn lliniaru gorwariant mewn meysydd gwasanaeth. Dangoswyd rhagolygon o £4.7miliwn o danwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau. Yn ogystal â hynny, roedd tanwariant o £2.3 miliwn wedi'i ragweld yn erbyn cyllid cyfalaf, yn benodol ar log PFI, ac arbediad o bron i £1 miliwn wedi'i ragweld yn erbyn cyllideb cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Ar wahân, rhagamcanwyd y byddai gorwariant o £5.3 miliwn yn yr ysgolion. Roedd cyfran o'r swm hwn wedi'i gynllunio, a byddai cronfeydd wrth gefn yr ysgolion yn gostwng yn unol â'r gyfran honno. Yn ogystal ag effaith dyfarniad cyflog uwch o gymharu â'r cynnydd yn y gyllideb a ganiatawyd ar gyfer hynny, roedd ysgolion yn tynnu cronfeydd i lawr a oedd wedi cronni dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth iddynt weithredu er mwyn dal i fyny / cryfhau'r ddarpariaeth ar ôl effeithiau Covid, a dal i fyny ar welliannau cynnal a chadw / cysylltiedig.
Roedd angen parhau i fonitro'r maes hwn yn gadarn, oherwydd er nad oedd yr un ysgol wedi pennu diffyg i'w chyllideb, roedd ambell ysgol yn mynd i ddiffyg yn ystod y flwyddyn yn sgil adlewyrchu effaith y dyfarniad cyflog mewn rhagolygon ysgolion unigol.
At ei gilydd, roedd y sefyllfa bresennol o ran balansau'r ysgolion wedi gwella o gymharu â'r pryderon a welwyd yn y blynyddoedd ariannol blaenorol. Fodd bynnag, roedd yn dal angen craffu'n agos ar bob sefyllfa a sicrhau bod cynlluniau adfer wedi'u sefydlu ac yn cael eu cyflawni'n unol â'r bwriad er mwyn osgoi dychwelyd i'r sefyllfa flaenorol.
Mae'n rhaid taro cydbwysedd rhwng hyn a cheisio osgoi sefyllfa lle gallai cyllidebau gael eu hystyried yn ormodol, a byddai felly'n ystyriaeth allweddol wrth bennu cyllidebau refeniw yn y dyfodol ac wrth adolygu'r cynllun ariannol tymor canolig.
Gan fod y Cyngor yn nesáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd sicrwydd rhesymol ynghylch llawer o'r meysydd lle'r oedd gorwariant, ac roedd y gwerthoedd a briodolwyd yn realistig. Fel bob amser, serch hynny, roedd potensial i'r sefyllfa newid ac roedd y meysydd hyn yn parhau i gael eu monitro ym mlynyddoedd olaf y flwyddyn ariannol.
Er bod sefyllfa'r meysydd gwasanaeth wedi gwella ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau cyllid ychwanegol, ac ystyried yr heriau yr oeddent yn debygol o ymddangos yng nghyllideb 2023/24, roedd angen gostwng gorwariant mewn meysydd gwasanaeth eto, yn enwedig yn y meysydd allweddol a nodwyd. Yn ogystal â hynny, roedd angen rheoli unrhyw bwysau newydd o fewn adnoddau presennol hyd y bo hynny'n ymarferol.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa yn ystod y flwyddyn, roedd hi'n bwysig i wasanaethau ddeall unrhyw effeithiau tymor hwy yn sgil yr heriau o'u blaen, a nodi strategaethau i leihau'r effeithiau hynny hyd yr eithaf. Roedd hyn oherwydd bod y rhagolygon ar gyfer y tymor canolig eisoes yn heriol. Ni fyddai unrhyw broblemau ariannol pellach ond yn ychwanegu at yr her honno.
Sylwadau Aelodau'r Cabinet:
§ Teimlai'r Cynghorydd Marshall fod yr ychwanegiad hwn yn rhywbeth i'w groesawu a diolchodd i'r staff am eu gwaith caled a'u cyfraniad, gan mai Casnewydd oedd yr unig Gyngor yng Nghymru i dderbyn y cyllid.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd D Davies at y portffolio addysg mewn perthynas â'r defnydd o gronfeydd wrth gefn, lle'r oedd bwriad i wario £5.3M ar brosiectau cyfalaf a'r oedi mawr oherwydd covid, deunyddiau a chaniatâd cynllunio. Gyda hyn mewn golwg, nid oedd hyn yn golygu na fyddai'n cael ei fonitro'n ofalus gan yr ysgolion yn y dyfodol, yr oedd angen iddynt hefyd fod yn ddarbodus yn gysylltiedig â hyn.
§ Gwnaeth y Cynghorydd Batrouni ddau bwynt; roedd y refeniw'n gadarnhaol ar y cyfan, ond ni ddylem laesu dwylo, gan fod pwysau i'w weld mewn meysydd fel tai a gwasanaethau plant ac nid oedd unrhyw ateb byrdymor i hynny. Arian grant gan LlC oedd hyn, ac nid darpariaeth barhaus, felly roedd angen inni fod yn ddarbodus i sicrhau bod y problemau hirdymor yn cael eu datrys, nid yn unig yng Nghasnewydd ond ym mhob cyngor ar draws y wlad. Yn ail, er gwaethaf y gorwariant ar y gyllideb cyflogau, roeddem ni fel Cabinet yn falch ein bod wedi rhoi cynnydd cyfartalog o 6% yn gysylltiedig â chwyddiant, gan roi un o'r setliadau cyflog gorau i weithwyr Cyngor. Roedd yr Arweinydd yn gwerthfawrogi sylwadau'r Cynghorydd Batrouni, a mynegodd ymrwymiad y Cabinet i weision sifil yng Nghasnewydd.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet
§ Yn nodi'r sefyllfa gyffredinol o ran rhagolygon y gyllideb a oedd yn deillio o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn, a'r elfennau o ansicrwydd a oedd yn weddill, a'r risgiau a oedd yn dal yn bresennol.
§ Yn cytuno y dylai'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd Gweithredol barhau i adolygu a herio rhagolygon meysydd gwasanaeth er mwyn ceisio rheoli'r rhagolygon cyffredinol o fewn y gyllideb refeniw craidd, gan gynnwys symiau wrth gefn y gyllideb refeniw.
§ Yn nodi'r risgiau allweddol a nodwyd drwy'r holl adroddiad, yn enwedig risgiau'n gysylltiedig â lleoliadau digartrefedd a gofal cymdeithasol.
§ Yn nodi'r sefyllfa gyffredinol mewn perthynas â'r ysgolion, o'i chymharu â'r blynyddoedd cynt, ond hefyd yn nodi'r risg y gallai sefyllfaoedd o ddiffyg ddod i'r amlwg yn y dyfodol heb gynllunio a rheoli ariannol da.
§ Yn nodi'r symudiadau a ragwelwyd yn y cronfeydd wrth gefn.
§ Yn cymeradwyo dyrannu tanwariant 2021/22 a oedd yn dal heb ei ddyrannu yn yr alldro, fel y nodwyd yn adran 4 yr adroddiad, gan nodi lefel cronfeydd cyffredinol a chlustnodedig y Cyngor yn sgil hynny.
Gweithredu gan Aelodau Cabinet / Pennaeth Cyllid / Bwrdd Gweithredol:
§ Y Prif Weithredwr a'r Bwrdd Gweithredol i barhau i adolygu'r materion yn gysylltiedig â sefyllfa gyfredol y meysydd gwasanaeth a, chyda Phenaethiaid Gwasanaeth, i barhau i gymryd camau cadarn i reoli rhagolygon cyffredinol yn unol â'r cyllidebau refeniw craidd sydd ar gael.
§ Aelodau'r Cabinet i drafod rhagolygon a phroblemau ariannol yn eu meysydd portffolio a chytuno ar gamau a argymhellir i gysoni'r rheiny â'r cyllidebau sydd ar gael, hyd y bo modd.
§ Penaethiaid Gwasanaeth i gyflawni'r arbedion a gytunwyd yng nghyllideb 2022/23 a'r flwyddyn gynt hyd y bo'n ymarferol bosib, ond erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ar yr hwyraf.
§ Aelodau'r Cabinet a'r Penaethiaid Gwasanaeth i hyrwyddo a sicrhau rhagolygon cadarn drwy eu holl feysydd gwasanaeth.
Dogfennau ategol: