Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r cyllidebau cyfalaf wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ochr yn ochr â sefyllfa'r alldro a ragwelir ar ddiwedd mis Mawrth 2023.
Dyma oedd y trydydd adroddiad monitro cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2022/23.
Yr adroddiad diweddaraf a roddwyd i'r Cabinet oedd adroddiad Monitro ac Ychwanegiadau mis Hydref. Bu nifer o ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen ers hynny. Roedd a wnelo'r rhan fwyaf o'r rheiny â chynlluniau penodol wedi'u cyllido drwy grant. Mae'r rhain yn creu cyfanswm o £8.283m, a manylir arnynt yn Atodiad A. Roeddent yn effeithio ar amryw o flynyddoedd ariannol, gydag £1.4m wedi'i ychwanegu yn 2022/23.
Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r ychwanegiadau hyn i'r rhaglen.
Effaith net yr ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn fyddai cynyddu cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2022/23 i £89.8m.
Yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig o £89.8m yn 2022/23, rhagamcanwyd gwariant o £61.3m. Roedd yr amrywiant hwn o £28.5m yn cynnwys £27m o lithriant ac £1.5m o danwariant a gorwariant net “gwirioneddol".
Bu cynnydd o oddeutu £10m yn lefel y llithriant ers yr adroddiad diwethaf, oherwydd oedi a heriau ar draws cynlluniau amrywiol.
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, nid oedd ond angen i'r Cabinet nodi'r rhagolygon cyfredol o lithriant, yn hytrach na'i gymeradwyo. Yn lle hynny, roedd llithriant yn cael ei nodi ym mhob adroddiad monitro, a dim ond yn adroddiad terfynol y flwyddyn y byddai gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cyfanswm i'w drosglwyddo i'r blynyddoedd nesaf.
Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu'r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â'r hyblygrwydd cyfalaf, a oedd yn cynnwys:
· £57k o hyblygrwydd ar gyfer benthyg arian.
· £258k yn y gronfa gwariant cyfalaf (mae hyn yn cynnwys ymrwymiad posibl o £1.267m ar gyfer band B)
· £1.474m o dderbyniadau cyfalaf heb eu clustnodi
Roedd balans yr hyblygrwydd a oedd ar gael yn ystyriol o ymrwymiadau a oedd eisoes wedi'u hadlewyrchu yn y Rhaglen Gyfalaf, yn ogystal â chyllid ychwanegol dros dro i gynyddu cyfanswm amlen gyllido Band B i £90m. Roedd hynny'n golygu mai £1.789m oedd yr hyblygrwydd cyfalaf ar hyn o bryd.
Roedd angen rheoli a monitro cyfanswm yr hyblygrwydd hwn, a oedd wedi gostwng yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio pan fyddai angen ar gyfer y problemau mwyaf argyfyngus dros y tymor canolig.
Roedd yr heriau o'n blaenau ar hyn o bryd o ran costau cynyddol y diwydiant adeiladu a'r blaenoriaethau a oedd yn cystadlu â'i gilydd am adnoddau cyfalaf yn golygu bod yr angen hwn i fonitro a blaenoriaethu adnoddau'n ofalus yn fwy nag erioed.
Gan hynny, roedd angen manteisio ar gyfleoedd i wneud cyfraniadau untro i'r swm hyblygrwydd pan fyddent ar gael, er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gallu ymateb i bwysau a oedd yn dod i'r amlwg a sicrhau y gellid cyflawni'r rhaglen yn llawn.
Sylwadau Aelodau'r Cabinet:
§ Pwysleisiodd y Cynghorydd Batrouni fod y Cyngor yn dal i fuddsoddi yn y ddinas, ei gwasanaethau a'i hysgolion. Roedd y Cabinet wedi cynnwys £39m yn ychwanegol i'r ysgolion, yn ogystal â £18m i adfywio economi'r ddinas. Roedd y rhain yn ymrwymiad i brosiectau adfywio ac ysgolion yng Nghasnewydd.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet
1. Yn cymeradwyo'r ychwanegiadau i'r Rhaglen Gyfalaf a geisiwyd yn yr adroddiad (Atodiad A).
2. Yn nodi sefyllfa a ragwelwyd o ran yr alldro gwariant cyfalaf ar gyfer 2022/23.
Yn nodi'r adnoddau cyfalaf a oedd yn weddill ac ar gael ('yr hyblygrwydd') a'r defnydd clustnodedig o'r adnoddau hynny.
Dogfennau ategol: