Agenda item

Cyllideb Derfynol a CATC: Cynigion Terfynol - 2023/24

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd gynigion terfynol cyllideb y CATC ar gyfer 2023/24 Roedd yr adroddiad yn dilyn yr adroddiad a ystyriwyd yng nghyfarfod mis Rhagfyr, a gymeradwywyd fel sail ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y gyllideb ddrafft. Roedd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, ac roedd yr adroddiad yn amlinellu'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad, y newidiadau i ragdybiaethau cyllidebol a gafwyd yn y cyfamser, a'r cynigion terfynol er ystyriaeth. Dyma oedd un o adroddiadau pwysicaf y flwyddyn, ac roedd yn destun ystyriaeth ofalus, yn enwedig ac ystyried y cyd-destun ariannol yr oedd y Cyngor a'i breswylwyr yn gweithredu ynddo.

 

Esboniodd yr Arweinydd gefndir y cyllideb, gan ddweud bod yr adroddiad yn cynrychioli penllanw cyfnod hynod heriol, a ddechreuodd gydag ystyriaeth yn y Cabinet o'r goblygiadau wrth inni ddod allan o gyfnod gwaethaf pandemig Covid-19. Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd pryder ynghylch effeithiau parhaol y pandemig a chrëwyd cronfa wrth gefn dros dro ar gyfer Covid i liniaru peth o'r ansicrwydd o'n blaenau.

 

Fodd bynnag, roedd yr hyn a ddilynodd yn wahanol iawn i'r disgwyl - chwyddiant uchel oedd yr her fwyaf o flaen y Cyngor a'r economi ehangach. Arweiniodd hyn at ddyfarniadau cyflog llawer uwch nag a ragwelwyd, gan roi pwysau sylweddol yn ystod y flwyddyn ar gyllid, a phwysau parhaus yr oedd yn rhaid ei drafod yn rhan o'r gyllideb hon. Yn ogystal â hynny, roedd chwyddiant ynni ar lefel uwch nag erioed, gan effeithio ar gynlluniau'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd hyn nid yn unig yn cynnwys y costau a oedd yn cael eu hysgwyddo gan y Cyngor - roedd ei ddarparwyr gwasanaeth hefyd yn wynebu'r un pwysau, ac roedd hynny'n cael ei drosglwyddo i ni.

 

Roedd y galw am wasanaethau hefyd yn uchel, ac roedd pwysau sylweddol yn dod i'r amlwg mewn sawl maes. Roedd un enghraifft yn gysylltiedig â'r gwasanaethau digartrefedd, lle'r oedd y galw uchel parhaus am lety dros dro yn rhoi pwysau ariannol aruthrol ar y Cyngor. Roedd y gyllideb ddrafft hon yn mynd i'r afael â'r lefel gyfredol o wariant, sef £4 miliwn, ac yn ein galluogi i barhau i gefnogi rhai o'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein dinas. 

 

O ganlyniad i'r pwysau hyn, roedd ein hadroddiad fis Rhagfyr ar y gyllideb yn amlygu bwlch digynsail yn y gyllideb, ac amlinellwyd nifer o strategaethau er mwyn ceisio cau'r bwlch hwn, gan gynnwys cynnig i godi'r Dreth Gyngor ac arbedion gan yr holl wasanaethau. Yn y cyfarfod ei hun, amlinellwyd dull penodol gennym mewn perthynas â'r ysgolion, lle byddai'r Cyngor yn talu'r gost yn gysylltiedig â pheth o'r pwysau, a'r ysgolion eu hunain yn gorfod amsugno'r gweddill.

 

Y cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad oedd y rhai a oedd yn sail i'r ymgynghoriad â'r cyhoedd a oedd wedi dod i ben yn gynharach y mis hwn. Roedd hon yn broses eithriadol o anodd, ac nid ar chwarae bach y penderfynwyd ymgynghori ar y cynigion hyn. Roedd yr Arweinydd, felly, yn falch o weld bod lefelau uchel o breswylwyr Casnewydd, a rhanddeiliaid eraill, wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori hon, ac roedd yr amrywiaeth enfawr o ymatebion a gafwyd yn dystiolaeth o hynny.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu gwahanol ffynonellau'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac roedd cyfanswm o 1,800 o ymatebion wedi dod i law. Roedd hyn yn gynnydd sylweddol o gymharu â'r blynyddoedd cynt, a gefnogwyd yn rhannol gan ymatebion Wi-Fi y bysus, wedi'u hysgogi gan gynnydd yn nifer y teithwyr. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd amryw o ymarferion ymgysylltu, gan gynnwys arolwg cyn y gyllideb, ymgysylltu â'r Comisiwn Tegwch, ymgysylltu â'r Cyngor Ieuenctid, digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus a digwyddiadau â defnyddwyr y byddai'r cynigion yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Cafwyd ymatebion gan undebau llafur, pwyllgorau craffu a Fforwm Ysgolion.

 

Roedd Atodiadau 1 i 4 yn rhoi manylion yr ymatebion a gafwyd, a thynnodd yr Arweinydd sylw at rai o'r negeseuon allweddol.

 

Roedd hi'n glir o ganlyniad yr ymgynghoriad fod elfen o ddealltwriaeth ynghylch y sefyllfa yr oedd penderfynwyr o fewn y Cyngor yn ei wynebu. Darparwyd ystod o ymatebion i gynigion penodol, a oedd yn arbennig o amlwg yn y dadansoddiad ystadegol, lle gwelwyd ystod o safbwyntiau ynghylch cynigion penodol. Roedd cefnogaeth glir hefyd i rai cynigion, ac roedd hyn yn rhoi sicrwydd i'r Cabinet fod teimladau preswylwyr wedi'u hadlewyrchu wrth lunio'r cynigion hynny.

 

Roedd rhai o'r sylwadau ansoddol a wnaed yn berthnasol ac, fel cyngor a oedd yn gwrando, cymerwyd y sylwadau hyn o ddifrif gan y Cabinet, gydag ymrwymiad i weithredu ar y rheiny pan fyddai hynny'n bosibl.  Deallwyd nad oedd lleihau gwasanaethau mewn meysydd fel y Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd i fod yn boblogaidd, gan mai dyma'r gwasanaethau sy'n diogelu rhai o'n pobl sydd yn fwyaf agored i niwed. Ein hymagwedd oedd osgoi gostyngiadau i wasanaethau hanfodol, a dim ond lleihau neu roi terfyn ar wasanaethau lle byddai modd rheoli effaith hynny. Roedd angen gwneud penderfyniadau anodd, ac roedd y Cabinet am geisio cydbwyso'r effaith ar draws gwasanaethau hyd y bo modd.

 

O ran y Dreth Gyngor, roedd hi'n glir ac yn braf gweld cydnabyddiaeth nad oedd modd osgoi cynnydd, a thrwy gynyddu cyfradd y Dreth Gyngor y gallai'r gwasanaethau mwyaf hanfodol gael eu diogelu.

 

Roedd yr Arweinydd am sicrhau'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill fod adborth yn cael ei ystyried a'i ddefnyddio wrth benderfynu ynghylch ein cynigion terfynol. Byddai'r Cabinet yn parhau i adolygu dull y Cyngor o ymgynghori a'r wybodaeth a oedd wedi'i chynnwys yng nghynigion y gyllideb i sicrhau y gallai cynifer o bobl ag sy'n bosibl gymryd rhan yn llawn yn y broses.

 

Roedd llunio'r gyllideb yn broses a oedd yn newid o hyd o'r naill flwyddyn i'r nesaf, a bu nifer o newidiadau allweddol ers cyhoeddi'r cynigion drafft ym mis Rhagfyr. Y newid pwysicaf o blith y rhain, fel y cyhoeddwyd yng nghyfarfod y Cabinet ei hun, oedd cyhoeddi setliad drafft Llywodraeth Cymru, a ddarparodd £11.7m o gyllid yn ychwanegol at yr hyn a ragdybiwyd eisoes. Yn ogystal â hynny, ymgorfforodd y Cabinet y cyfraniad drafft gan ysgolion, yn ogystal â nifer o newidiadau cadarnhaol eraill i ragdybiaethau cyllidebol, ee, llai o bwysau mewn rhai meysydd, arbedion newydd nad oeddent yn gysylltiedig â gwasanaethau a chyllid grant penodol a fyddai ar gael i wrthbwyso pwysau y tybiwyd yn flaenorol y byddai'r Cyngor yn eu hysgwyddo.

 

Er bod y newidiadau hyn wedi lleihau bwlch sylweddol yn y gyllideb, ac yn rhywbeth i'w croesawu, roedd hi'n anochel y byddai rhai newidiadau na fyddent ond yn ychwanegu at y pwysau, fel yr angen i gynyddu'r rhagdybiaethau ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol, yn ogystal â phwysau eraill a oedd yn dod i'r amlwg mewn gwasanaethau penodol. Roedd yr adroddiadau'n rhestru'r rhagdybiaethau cyfredol.

 

Penllanw'r newidiadau hyn oedd bod gennym bellach falans mewn llaw o oddeutu £2.5m. Manylodd yr Arweinydd ar y modd y bwriadwyd targedu'r balans mewn llaw mor effeithiol ag a oedd yn bosibl, ar ôl ystyried adborth o'r ymgynghoriad.

 

Roedd hi'n amlwg o'r adborth a gafwyd fod ymdeimlad cryf o blaid y ddarpariaeth seibiannau byr a gynigir ar hyn o bryd yn Oaklands a Spring Gardens. Cydnabu'r Cabinet fod angen gwarchod gwasanaethau hanfodol fel y rhain, a oedd yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, hyd yr eithaf. Cyhoeddodd yr Arweinydd felly y byddai'r cynnig yn gysylltiedig ag Oaklands yn cael ei dynnu'n ôl ar gost o £485k. O ran Spring Gardens, byddai’r cynnig yn cael ei ostwng i £300k ar sail barhaol fel y byddai peth o'r ddarpariaeth yn parhau, ac yn ogystal â hynny ymrwymodd y Cabinet swm untro o £200k o gronfeydd wedi'u hailflaenoriaethu ar gyfer 2023/24, i gynnig capasiti ar gyfer darpariaeth barhaus bellach, ac i ganiatáu amser i adolygu'r gwasanaeth a'i ddatblygu i fod yn fwy cynaliadwy.

 

Hefyd, ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd yn ofalus, y penderfyniad  dynnu'r cynnig yn ôl i gyflwyno taliadau maes parcio mewn pedwar maes parcio gwledig. Yn ogystal â hynny, ni fyddai unrhyw daliadau am finiau newydd yn ystod 2023/24, ar ôl ystyried yr effaith ar breswylwyr a oedd yn profi'r mwyaf o anhawster gyda'r argyfwng costau byw. Byddai'r cynnig yn cael ei ailystyried a'i adolygu, ac ond yn cael ei gyflwyno mewn blwyddyn yn y dyfodol, os oeddem yn teimlo bod hynny'n deg â'r holl breswylwyr. Cost tynnu'r ddau gynnig hwn yn ôl oedd £90k.

 

Mewn perthynas â'r Dreth Gyngor, o wrando ar safbwyntiau preswylwyr Casnewydd ynghylch y cynnig am gynnydd o 9.5%, deallwyd bod cynnydd o'r maint hwn yn heriol iawn i'r preswylwyr, ar adeg pan oedd costau biliau eraill y cartref hefyd yn codi. Roedd y Cyngor hefyd yn wynebu'r un pwysau o ran costau, ynghyd â chyfradd gymharol isel o Dreth Gyngor o gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Er hynny, roedd y Cabinet yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei allu i helpu'r preswylwyr, a chynigiodd ostwng y cynnydd i'r Dreth Gyngor i 8.5% er mwyn sicrhau ei fod yn is na'r gyfradd chwyddiant gyfredol. Ar gyfer Bandiau A i C, y rhai mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd, roedd hyn yn gyfystyr â chynnydd o £1.39 i £1.85 yr wythnos. Byddai hyn yn dal i olygu bod gan Gasnewydd un o'r cyfraddau Treth Gyngor isaf ledled Cymru a'r DU, a byddai'r preswylwyr hynny a oedd yn derbyn cymorth i dalu eu biliau Treth Gyngor drwy 'Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor' yn parhau i dderbyn cymorth gan fod y Cabinet yn cyllido'r cynllun hwnnw'n llawn i fod yn gyson â'r cynnydd hwn, ac roedd y Cyngor eisoes wedi penderfynu cymhwyso'r cynllun ar raddfa Cymru mewn perthynas â hyn.

 

Yn sgil lleihau'r cynnydd i'r Dreth Gyngor, a lleihau neu dynnu'n ôl o'r cynigion arbed a amlinellwyd uchod, roedd y balans mewn llaw yn gostwng i £937k. Credai'r Cabinet mai'r defnydd gorau o'r swm hwn a oedd yn weddill oedd lleihau'r swm yr oedd angen i ysgolion ei gyfrannu at fwlch y gyllideb. Roedd y Cabinet yn cydnabod bod hyn yn dal i adael her i'r ysgolion ar ddechrau 2023/24, ac i'w helpu gyda'r her hon, roedd yn ymrwymo i ddefnyddio bron £1.9m o gronfeydd clustnodedig wedi'u hailbwrpasu i dargedu cymorth ariannol at yr ysgolion â'r angen mwyaf. O gymryd hyn i ystyriaeth, roedd yn golygu ymrwymiad o £9m tuag at y pwysau o flaen ysgolion yn 2023/24.

 

Yn ogystal â defnyddio cronfeydd wrth gefn wedi’u hailbwrpasu i gefnogi Spring Gardens a'r ysgolion, roedd y Cabinet yn bwriadu rhoi cymorth dros dro i Growing Space  am y ddwy flynedd nesaf a rhoi cymorth dros dro i'r GCA fel bo modd gohirio'n rhannol yr arbediad a gynigiwyd ar ein cyfraniad blynyddol. Unwaith eto, roedd yr arbedion hyn yn galluogi adolygiadau a newidiadau i wasanaethau a fyddai'n fodd i gynnig gwasanaethau gwell a mwy cynaliadwy o hyn allan, yr oedd rhai ohonynt yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardal.

 

Yn ogystal â hyn, byddai £150k o'n cronfeydd wrth gefn presennol yn cael eu defnyddio fel bo modd adolygu newidiadau i wasanaethau i bobl ag anabledd dysgu, a'u cyflwyno dros y flwyddyn a oedd i ddod.

 

Ar ben hynny, ar gyfer Cwtsh a phartneriaeth Barnardo's, bu swyddogion yn gweithio i ailfodelu'r gwasanaeth drwy ddefnyddio cyllid grant ar gyfer diwygio radical. Byddai'r staff cyfredol a'u holl brofiad a'u sgiliau yn cael eu cynnwys yn rhan o'r gwaith ailfodelu hwn. I bob pwrpas, golygai hyn y byddai'r cynnig i arbed yn cael ei ohirio am ddwy flynedd.

 

Byddai cronfeydd wrth gefn wedi'u hailbwrpasu yn cynnig buddsoddiad untro pellach i ganol y ddinas, gan sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn cynnal adferiad canol y ddinas wrth ddod allan o'r pandemig. Roedd hyn yn cynnwys cymorth Ardrethi Busnes y Cyngor ar gyfer y busnesau cymwys hynny yng nghanol y ddinas fel na fyddai ganddynt ardrethi busnes i'w talu yn 2023/24, ochr yn ochr â chynllun cymorth ardrethi LlC. 

 

Drwy ddyrannu'r balans mewn llaw, roedd hynny'n golygu bod y Cabinet yn cynnig balans cytbwys ar gyfer 2023/24, yn unol â'r gofyniad deddfwriaethol. Roedd hyn wedi'i gyflawni heb wneud defnydd cyffredinol o gronfeydd clustnodedig i fantoli'r gyllideb. Roedd hyn oherwydd y byddai'r defnydd o'r cronfeydd wrth gefn wedi'u hailbwrpasu naill ai'n ddefnydd untro neu i roi cymorth am flwyddyn i ddwy flynedd yn unig, fel y gellid adolygu a newid gwasanaethau i sicrhau arbedion yn y dyfodol, ac fel y gallent fod yn fwy cynaliadwy gan gynnig gwasanaeth a chanlyniad gwell. Efallai y bydd rhai’n amheus o'r dull hwn, yn enwedig ac ystyried rhai o'r arbedion anodd a gynigiwyd. Fodd bynnag, fel Cyngor cyfrifol, rydym yn ystyried rheolaeth ariannol yn fater difrifol iawn. Byddai defnyddio'r cronfeydd wrth gefn yn opsiwn hawdd, ond ni fyddai hynny ond yn golygu bod problemau'n cronni i'r flwyddyn nesaf a thu hwnt. Byddai'r Cyngor yn y pen draw yn dal i sicrhau'r un lefel o arbedion, ond byddai wedyn angen inni hefyd ail-lenwi unrhyw gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd. Y cam gywir am eleni felly oedd ymddwyn yn gyfrifol a sicrhau bod y Cyngor ar seiliau cynaliadwy'n ariannol.

 

Er bod y broses o ddatblygu cyllideb ar gyfer 2023/24 yn hynod heriol, yn anffodus nid oedd y rhagolygon ar gyfer y tymor canolig yn edrych yn haws o gwbl. Roedd Oaklands, Atodiad 7 yr adroddiad, yn amlygu bwlch posibl o £15m yn y gyllideb yn 2024/25 a bwlch arall o £12m yn 2025/26. Er bod y ffigurau hyn yn is na’r bwlch cychwynnol yn 2023/24, roedd cryn ansicrwydd yn parhau, o ran pwysau chwyddiant parhaus a’r galw am wasanaethau, yn ogystal â’r cyllid a fyddai'n cael ei dderbyn gan y llywodraeth ganolog. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi setliad dangosol ar gyfer 2024/25, roedd hwnnw'n dibynnu ar y setliad y byddai'n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU, a allai newid. Roedd posibilrwydd y gallai’r bwlch tymor canolig fod yn waeth na’r hyn a fodelwyd. Ar ben hynny, byddai'n dilyn y penderfyniadau heriol a wnaed eisoes yn barod am 2023/24.

 

Roedd yn debygol iawn felly y byddai angen gwneud penderfyniadau heriol pellach yn gysylltiedig â'r Dreth Gyngor ac arbedion yn y dyfodol. I fynd i'r afael â hyn, roedd angen i'r Cyngor barhau i fyfyrio ar ei ddull o weithredu ac ystyried sut i ddarparu gwasanaethau'n wahanol. Roedd angen trawsnewid gwasanaethau i sicrhau profiadau gwell i ddinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth, ar sylfaen gostau is. O hyn allan, roedd angen inni edrych ar bethau’n wahanol er mwyn sicrhau cyngor cynaliadwy, modern, addas ar gyfer y 21st ganrif.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd fod y broses hon yn hynod anodd, a diolchodd i'w gyd-aelodau o fewn y Cabinet a'r swyddogion a oedd wedi gweithio'n ddi-flino i sicrhau bod y cynigion yn creu cyllideb gytbwys. O dan yr amgylchiadau, roedd y gyllideb hon yn deg, yn gynaliadwy a chyfrifol.

 

Dim ond y Cyngor llawn a allai gymeradwyo cyfradd gyffredinol y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd argymell cyllideb net gyffredinol a'r Dreth Gyngor yn sgil hynny i'w cymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor ar 28 Chwefror 2023.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd D Davies i'r preswylwyr hynny a gymerodd ran yn y broses ymgynghori, a diolchodd hefyd i'r swyddogion fu'n gweithio'n hynod o galed er mwyn cyfrannu i'r adroddiad hwn.  Roedd y Cabinet wedi cyfarfod ag arweinwyr yr undebau a'r athrawon - bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Gobeithiwyd y byddent yn cytuno bod y Cabinet wedi gwrando'n ofalus. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, er y byddai'r Dreth Gyngor yn codi, mai Casnewydd oedd â'r Dreth Gyngor isaf yng Nghymru.  Yn y Cyngor yn ddiweddar, cytunwyd yn unfrydol ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, i ganiatáu esemptiad o'r Dreth Gyngor i rai anghenus; roedd hyn yn cynnwys myfyrwyr, pobl a oedd yn byw ar eu pen eu hunain, gofalwyr a rhai ag anableddau ymhlith eraill a oedd hefyd yn gynnwys, gan gynnwys rhai ar incwm isel.   Gan droi at Addysg yn olaf, croesawyd y £937,000 yn ychwanegol a oedd yn cael ei roi i gefnogi ein hysgolion, a gobeithiwyd drwy graffu'n ofalus y byddai ysgolion Casnewydd yn cydbwyso eu cyllidebau eleni.

 

§  Roedd y Cynghorydd Harvey wedi cyfarfod â phreswylwyr a fynegodd eu hanfodlonrwydd ynghylch y cynigion gwreiddiol yn Oaklands. Dywedodd wrthynt am lenwi'r ffurflen ymgynghori, ac roedd yn falch iddynt wneud hynny gan eu bod wedi cael llais.  Roedd hi'n braf gweld bod preswylwyr wedi llenwi'r ymgynghoriad, a bod pobl yn deall y pwysau ar gyllideb y Cyngor.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Hughes ei fod ef a’i gyd-aelod ar y Cabinet wedi cyfarfod â gwasanaethau allweddol a allai wynebu'r canlyniadau mwyaf anodd yn ystod yr ymgynghoriad, ac achubodd ar y cyfle i ddiolch i'r rhai hynny a oedd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad, yn enwedig y rhai yn Spring Gardens a Growing Spaces.  Diolchodd yr Aelod Cabinet i'r uwch dîm rheoli yn y gwasanaethau cymdeithasol a'r gweithwyr cymdeithasol.  Roedd unigolion a gyfrannodd i'r ymgynghoriad, fel preswylwyr Oaklands, wedi cael effaith emosiynol, ac roedd hynny'n dangos bod gwerth i ymgynghori yng Nghasnewydd, a bod gwrando ar eu storïau wedi gwneud gwahaniaeth. Y ffocws o'r dechrau i'r diwedd fu diogelu'r rhai sy'n agored i niwed, ac roedd y Cynghorydd Hughes felly'n falch bod prosiectau a olygai gymaint i bobl Casnewydd wedi'u diogelu. 

 

§  Roedd y Cynghorydd Lacey yn croesawu'r gyllideb, a ddangosai fod y Cabinet wedi ystyried yr ymgynghoriad cyhoeddus, y enwedig mewn perthynas â Spring Gardens ac Oaklands.  Er y bu cynnydd o 8.5% i'r Dreth Gyngor, roedd y cynnydd yn is wrth gymharu â chynghorau eraill yn enwedig yn Lloegr lle'r oedd y cynnydd dros £100, o gymharu â'r cyfartaledd o £96.20 bob blwyddyn.  Roedd hefyd yn golygu y byddai'r cynnydd yn caniatáu i rai na allent dalu eu Treth Gyngor i fod yn gymwys i dderbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, fel y soniwyd gan y Dirprwy Arweinydd.  Roeddem yn gyngor a oedd yn gwrando, ac yn gwrando ar ein preswylwyr mwyaf agored i niwed.

 

§  Ychwanegodd y Cynghorydd Marshall ei bod yn braf gweld y cydweithio a gafwyd i ddiogelu addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol wrth ystyried y gyllideb.  Gwnaethom wrando ar breswylwyr, rhieni a staff a phwyllgorau craffu.  Cynigiodd preswylwyr lawer o awgrymiadau da yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd Aelodau Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wirioneddol ddiolchgar am gyfraniad rhieni preswylwyr Oakland.  Mynegodd y Cynghorydd Marshall hefyd ei werthfawrogiad i bawb a gymerodd ran, ac o ganlyniad teimlai ein bod mewn sefyllfa decach, a bod addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol wrth galon yr hyn a oedd yn cael ei wneud.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Forsey fod yr ystod o gynigion yn eang, a bod y penderfyniad i lunio'r gyllideb hon yn un anodd, ond yn rhesymegol a gofalgar. Wrth ystyried lleihau casgliadau bin neu gadw Oaklands ar agor, nid oedd unrhyw gymhariaeth. Atgoffodd yr Aelod Cabinet bawb o'r ystod o gyfleusterau ailgylchu a fyddai o gymorth i gefnogi'r casgliadau bin teirwythnosol.

 

§  Roedd y Cynghorydd Batrouni hefyd o blaid y cynigion yn adroddiad y gyllideb.

 

§  Diolchodd yr Arweinydd i gyd-aelodau'r Cabinet a'r swyddogion fu'n gweithio'n ddiflino i gyflwyno'r gyllideb a gynigiwyd heddiw.  Adleisiodd yr Arweinydd y cyfeiriad gan y Cynghorydd Davies at nosweithiau di-gwsg, a deallai mai dyna fu profiad y swyddogion hefyd, a diolchodd iddynt unwaith eto.  Roedd y gyllideb yn gyllideb deg, gynaliadwy a chyfrifol, a oedd yn rhoi'r flaenoriaeth i'r rhai a oedd yn fwyaf agored i niwed.

 

Penderfyniad:

 

Roedd y Cabinet, mewn perthynas â chynigion y gyllideb a'r cynllun tymor canolig (adran 3-5)

 

1.    Yn nodi'r ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb, fel yr amlinellwyd yn adran 4, a'r adborth a gafwyd, ac a ddangoswyd yn Atodiadau 1 i 4.

 

2.    Yn nodi'r materion cydraddoldeb a'r Asesiad Effaith Tegwch a Chydraddoldeb ar gynigion y gyllideb, a ddangoswyd yn Atodiad 9.

 

3.      Wedi adolygu a chadarnhau cynigion y gyllideb (atodiadau 5-6) yn unol â'r crynodeb yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, ar wahân i'r newidiadau canlynol:

 

§  Byddai'r cynnig yn gysylltiedig ag Oaklands yn cael ei dynnu'n ôl ar gost o £485k

§  O ran Spring Gardens, byddai'r cynnig yn cael ei ostwng £300k ar sail barhaol fel bo modd i beth o'r ddarpariaeth barhau, ac yn ogystal â hynny roeddem yn ymrwymo swm untro o £200k o gronfeydd wedi'u hailbwrpasu ar gyfer 2023/24 yn unig, i greu capasiti ar gyfer darpariaeth barhaus bellach, ac i ganiatáu amser i adolygu'r gwasanaeth a'i ddatblygu i fod yn fwy cynaliadwy.

§  Tynnu'r cynnig i gyflwyno taliadau parcio mewn pedwar maes parcio gwledig yn ôl.

§  Tynnu taliadau am fin newydd yn ôl.

§  Gostyngiad o £937k i'r swm yr oedd angen i'r ysgolion ei gyfrannu at fwlch y gyllideb.

§  Darparu swm untro o £1.87m i gefnogi'r ysgolion sydd angen cymorth fwyaf yn ystod 2023/24 o gronfeydd wedi'u hailbwrpasu.

§  Rhoi cymorth dros dro o £100k i Growing Space am y ddwy flynedd nesaf, a rhoi cymorth dros dro o £79k ar gyfer 2023/24 yn unig i'r GCA fel bo modd gohirio'n rhannol yr arbediad a gynigiwyd i'n cyfraniad blynyddol.

§  Cwtsh a phartneriaeth Barnardo's  - mae swyddogion wedi gweithio i ailfodelu'r gwasanaeth drwy ddefnyddio cyllid grant ar gyfer diwygio radical. I bob pwrpas, bydd hyn yn golygu gohirio'r cynnig i arbed am 2 flynedd.

§  Bydd cronfeydd wedi'u hailbwrpasu hefyd yn darparu buddsoddiad untro pellach yng nghanol y ddinas, i sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn cynnal adferiad y ddinas.    

 

4.      Yn cytuno ar ffioedd a thaliadau'r cyngor ar gyfer 2023/24, fel y dangoswyd yn atodiad 11.

 

Roedd y Cabinet, mewn perthynas â'r gyllideb refeniw gyffredinol a threth gyngor 2023/24 yn sgil hynny

(adran 6 a 7)

 

5.      Yn nodi'r risgiau a'r ansicrwydd sylweddol o fewn cynlluniau'r gyllideb, a'r problemau penodol a amlygwyd yn adran 6 yr adroddiad hwn, a'r camau lliniaru ar waith i'w rheoli.

 

6.      Yn adolygu a chytuno i ailbwrpasu cronfeydd clustnodedig penodol, fel y nodwyd yn Atodiad 10a

 

7.      Yn cynnig gostwng y cynnydd arfaethedig i'r Dreth Gyngor i 8.5% i sicrhau ei fod yn is na'r gyfradd chwyddiant gyfredol, ac yn cyllido gofyniad y gyllideb.

 

8.     Yn argymell cyllideb net gyffredinol a threth gyngor yn deillio o hynny i'r Cyngor llawn, gan nodi y byddai penderfyniad ffurfiol, gan gynnwys praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r Cynghorau Cymuned yn cael ei gyflwyno gerbron y Cyngor ar 28 Chwefror.

 

Yn cymeradwyo'r gwariant a'r defnydd o'r cronfeydd wrth gefn yn unol â'r crynodeb a ddangoswyd yn atodiad 10b, gan nodi eu bod yn seiliedig ar gynigion manwl a adolygwyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022.

 

Dogfennau ategol: