Agenda item

Pwysau allanol NCC - Costau Byw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y diweddariad diweddaraf ynghylch effaith pwysau allanol ar wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd, gan roi crynodeb hefyd o gamau a gymerwyd â phartneriaid lleol.

 

Roedd yr adroddiad misol hwn yn rhoi trosolwg cyfredol o'r effaith economaidd ehangach yn y DU ac yng Nghymru ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Ionawr 2023.

 

I lawer o breswylwyr dyma oedd un o'r cyfnodau mwyaf anodd yr oeddent wedi'u profi, ac roedd y Cabinet yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol ar draws y ddinas.   

 

Gan y byddai'r pwysau hyn yn parhau, anogodd yr Arweinydd yr holl breswylwyr a oedd yn profi anawsterau i gysylltu â'r cyngor i gael gwybodaeth am y cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i'w helpu gyda biliau'r cartref a rhwymedigaethau ariannol eraill.    

 

Ar adegau fel hyn, roedd y gallu i weithio mewn partneriaeth i gefnogi ein preswylwyr, ein busnesau a'n staff o'r pwys mwyaf.

 

Roedd ymrwymiad swyddogion a'n partneriaid i gydweithio i wneud gwahaniaeth, ac i helpu pobl i dderbyn cymorth, cyngor a chefnogaeth yn glir yn yr holl drafodaethau a gynhaliwyd â'r Arweinydd yn fewnol, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ei rôl fel Arweinydd y Cyngor ac fel Cadeirydd partneriaeth Casnewydd yn Un.

 

Roedd y mater hwn yn cael ei deimlo ledled Cymru a thu hwnt. Parhaodd yr Arweinydd i godi’r angen i sicrhau cymorth ar bob cyfle, ac i sicrhau, fel cyngor, cefnogaeth i fentrau lleol a mentrau Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cymorth y gallai'r Cyngor a'i bartneriaid ei gynnig hyd yr eithaf. 

 

Wrth i'r cyfryngau'n adrodd bod elusennau yn amcangyfrif cynnydd o 30% yn y nifer a oedd yn defnyddio banciau bwyd, roedd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â GAVO i roi cymorth i'r banciau bwyd ar draws y ddinas. 

 

Roedd yr adroddiad yn esbonio sut roedd yr ysgolion yn cynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth y gallent fanteisio arnynt a'u darparu i blant a phobl ifanc er mwyn helpu teuluoedd mewn angen ar draws Casnewydd.

 

Yn ystod cyfnodau o dywydd oer, roedd preswylwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio mannau cynnes ar draws y ddinas i gadw'n gynnes ac i gael cymorth a chyngor.

 

Fel dinas â hanes hir o groesawu pobl sy'n ceisio lloches, drwy gynnig lle diogel i rai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, roedd y Cyngor yn parhau i helpu ffoaduriaid i ganfod llety a derbyn cymorth.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Davies am hanner tymor yr wythnos nesaf a diolch i LlC am ei chynllun talebau, gan werthfawrogi ei bod hi'n anodd i deuluoedd ar incwm isel ac o ran darpariaeth gofal plant, i dalu'r gost tra byddai'r ysgolion ar gau am yr wythnos.  Roedd angen canolbwyntio ar gyfnod sylfaen yr ysgolion yr haf nesaf, byddai gan bob plentyn hawl i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim, drwy gynllun a fyddai'n cael ei weithredu ym mis Medi.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at gefnogaeth GAVO a banciau bwyd, a diolchodd i Raven House a banciau bwyd eraill am eu cymorth o fewn y ddinas. Roedd nifer yn manteisio ar y banciau bwyd, a rhwng wardiau Alway a Ringland roedd y Cynghorwyr Lacey a Harvey yn ymdrin â 50 o barseli bwyd bob wythnos. Roedd nifer hefyd yn manteisio arnynt mewn wardiau eraill, a phwysleisiodd y Cynghorydd Lacey na ddylai preswylwyr oedi cyn cysylltu ag unrhyw aelod ward, os oedd angen parseli bwyd arnynt, hyd yn oed os oeddent y tu allan i'w ward.

 

§  Roedd y Cynghorydd Hughes wedi treulio amser yn Hafan Isga yng Nghaerllion. Roedd y prosiect wedi dod i ben heddiw, ac felly achubodd yr Aelod Cabinet ar y cyfle i ddiolch i'r deg gwirfoddolwr ar hugain fu'n helpu gyda phroblemau cyllid ac ynni o fis Hydref i fis Chwefror. Yn ogystal â hynny, diolchodd y Cynghorydd Hughes i asiantaeth newydd a sefydlwyd yn ddiweddar yng Nghaerllion, sef y Kindness Exchange, am ddarparu bwyd a oedd wedi mynd heibio'i ddyddiad gwerthu i'r gymuned leol a'r cyhoedd ehangach. Yn olaf, os oedd ar bobl angen bwyd neu asiantaethau a allai roi cymorth iddynt, dywedwyd wrthynt am gysylltu ar unwaith.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Forsey am effaith Brexit, gan ddweud bod preswylwyr £1,000 y flwyddyn yn dlotach a'r angen am fannau cynnes wedi cynyddu.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgarwch y Cyngor i ymateb i effaith ffactorau allanol ar gymunedau a busnesau Casnewydd, a gwasanaethau'r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: