Agenda item

Diogelu Swyddogion sy'n cyflawni eu dyletswydd gyhoeddus

Cofnodion:

Dywedodd cynrychiolydd Gwynll?g fod Cadeirydd blaenorol Gwynll?g wedi bod yn delio â thipio anghyfreithlon ar eu tir.

Esboniodd Cynrychiolydd Maerun fod y tirfeddiannwr newydd yn ardal Gwynll?g wedi rhoi giât ar draws yr hawl tramwy ar lwybr.  Aeth y mater i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru (PCAC) a'r Arolygydd Cynllunio i wneud penderfyniad. Honnwyd bod tirfeddiannwr penodol y gymuned wedi bygwth y Cadeirydd, ac roedd cyfarfod cymunedol diwethaf Gwynll?g lle'r oedd y Tirfeddiannwr dan sylw wedi mynychu yn anodd, ac roedd yn gyfarfod anodd ei lywodraethu. Roedd Cadeirydd Gwynll?g wedi derbyn bygythiadau ac roedd difrod wedi’i wneud i'w eiddo ac ni chafodd gefnogaeth gan yr Heddlu. 

 

Trafodwyd nad oedd yr Heddlu fel arfer yn mynychu cynghorau cymuned yn bersonol, a oedd yn anffodus, fodd bynnag, roedd yr Heddlu’n cefnogi cymorthfeydd yr heddlu.

Trafododd cynrychiolwyr y Cynghorau Cymuned p’un a ddylid galw'r Heddlu yn y sefyllfaoedd hynny lle mae cyfarfodydd cyngor cymuned yn mynd yn afreolus gan nad oedd cynghorau cymuned yn derbyn unrhyw hyfforddiant i ddelio â'r mathau hynny o sefyllfaoedd. Mynegwyd fod y sefyllfa hon yn atal pobl rhag ymuno â Chyngor Cymuned.  Mae Cynghorau Cymuned wedi ceisio ymgysylltu â'r cyhoedd i geisio annog mwy o bobl i ymuno â chynghorau cymuned.  Fodd bynnag, os yw pobl yn teimlo y byddent yn cael eu bygwth ni fyddent yn ymuno.  

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol ei bod yn sefyllfa heriol ond bod cefnogaeth dda ar gael trwy CLlLC. Trafodwyd y gellid darparu canllawiau i gynghorau cymuned mewn cyfarfod yn y dyfodol ac y gallai cynrychiolydd yr Heddlu fynychu cyfarfod cyngor cymuned yn y dyfodol o bosibl.

Dywedodd cynrychiolydd Maerun fod angen i gynghorau cymuned ymgysylltu â'r Heddlu a chyfleu'r neges eu bod nhw, fel Cynghorwyr Cymuned, yn yr ardal gyhoeddus ac y gallen nhw hefyd fod mewn perygl.

Dywedodd Cynrychiolydd Maerun fod Cynghorydd arall, C. Roberts, wedi bod yn y cyfarfod dan sylw ac wedi dweud ei fod yn eithaf brawychus. 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol y gellid cael trafodaethau gyda Chynghorau Cymuned Maerun a Gwynll?g y tu allan i'r cyfarfod ar y mater hwn.

Trafodwyd bod Cadeirydd blaenorol Cyngor Cymuned Gwynll?g yn gadeirydd gweithgar iawn, a gallai'r digwyddiadau hyn ei gwneud hi'n anoddach cael pobl i ymuno â chynghorau cymuned ac yn anodd eu cadw. 

Dywedodd cynrychiolydd Maerun fod cynghorwyr y ddinas hyd yn oed yn fwy agored i niwed heb unrhyw reolaeth dros bwy sy'n dod i gyfarfod cyngor cymuned cyhoeddus. 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol fod natur rolau'r cynghorau cymuned yn ymwneud ag ymgysylltu yn y gymuned. Bydd canllawiau CLlLC yn cael eu cyflwyno i Gynghorau Cymuned ar gyfer y cyfarfod nesaf. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Reynolds fod yr hyn yr oedd Cynrychiolwyr Maerun wedi'i ddisgrifio yn peri gofid a bod hynny wedi rhwystro pobl rhag ymuno â chynghorau cymuned ac na chafwyd unrhyw beth fel y lefel honno o fygythiadau yn ei gyfarfod cyngor cymuned ef, ond roedd wedi bod yn bresennol mewn cyfarfodydd blaenorol lle'r oedd pobl wedi bod yn angerddol eu barn. Dywedodd y Cynghorydd Reynolds mai'r gwahaniaeth mawr gyda chyfarfod cyhoeddus mewn cynghorau cymuned hefyd oedd y gallai pobl fod yn bresennol ac y gallent fod yn rhan o'r cyfarfod a chyfrannu at y cyfarfod a gofynnodd lle mae’r llinell yn stopio gyda chyfranogiad y cyhoedd gan ei fod yn anodd ei reoli ar adegau. Fodd bynnag, roedd ymgysylltu â'r heddlu mewn ffordd gadarnhaol yn bwysig.

 

Dywedodd Cynrychiolydd Maerun fod yr Heddlu wedi ymddiheuro am gyfarfod cynghorau cymuned blaenorol ac mewn Cymhorthfa Heddlu blaenorol dywedodd y sarsiant nad oedd eisiau parhau i gynnal cymorthfeydd gan ei fod yn teimlo bod amser Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cael ei dreulio’n well mewn mannau eraill. Nododd Cynrychiolydd Maerun mai ward Maerun oedd â'r boblogaeth fwyaf, ac roedd yn bwysig cael y gymhorthfa heddlu hon ac roedd wedi newid o gyfarfod misol i bob yn ail fis.

 

Dywedodd y Cynghorydd Reynolds bod yr Heddlu bob amser yn mynychu'r Cyngor llawn lle mae'r heddlu'n siarad ar ddechrau'r cyfarfod ac mae Materion yr Heddlu bob amser yn eitem 3 ar yr Agenda.

Awgrymodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y gallai'r mater o’r Heddlu’n mynychu cynghorau cymuned gael ei godi gyda'r aelod etholedig o'r ward ac yna gellid ei godi yn fforwm yr Heddlu yn rhan o eitem Cwestiynau'r Heddlu yng nghyfarfod y Cyngor.

 

Gwnaeth y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol sylwadau ar sut yr oedd pob cyngor cymuned yn ymdrin â chyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd.  

Dywedodd Cynrychiolydd Maerun fod Llan-bedr Gwynll?g ger cymuned fawr felly roedd hyn yn broblem iddyn nhw, ond doedd gan gynghorau eraill ddim yr un problemau. 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol efallai na fydd dull a oedd yn gweithio mewn un ardal yn gweithio mewn un arall oherwydd demograffeg a daearyddiaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Forsey fod ymgysylltiad da gan yr heddlu yn Nh?-du ac roedd presenoldeb yr Heddlu mewn cyfarfodydd cymunedol yn eithaf rheolaidd, ond roedd wedi llithro i bob yn ail fis.  Yn yr ardal darparwyd diweddariadau rheolaidd gan yr heddlu i gynghorwyr y ddinas gyda chyfarfodydd ar gyfer Shaftsbury, T?-du a Betws gyda 3 chyfarfod wedi cael eu cynnal hyd yn hyn.

 

Dywedodd Cynrychiolydd Maerun fod gan dîm plismona Gorllewin Casnewydd 8 SCCH ond nad oedd yn si?r faint o ardaloedd yr oedden nhw'n eu cwmpasu. Pan oedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn bresennol mewn cyfarfodydd Cynghorau Cymuned roedden nhw'n dweud nad Swyddogion Heddlu ydyn nhw felly doedden nhw ddim yn gallu helpu ond fe wnaethon nhw addo diweddariadau gan yr heddlu, ond dydyn nhw ddim wedi cael unrhyw adborth. Roedd yr adborth a gafwyd yn ôl wedi bod yn anghyson gyda rhifau ffôn wedi'u darparu ond gyda chyfarwyddiadau i alw mewn argyfwng yn unig. Roedd problemau wedi bod gyda fandaliaid yn neuadd y pentref ac roedd hi'n hawdd adrodd ar Facebook, ond roedd gan yr Heddlu adnoddau cyfyngedig. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies fod T?-du yn cael cyfarfodydd misol yr heddlu a nododd ei bod yn syniad da gweld eu cynghorydd dinas yn derbyn mwy o wybodaeth gan yr Heddlu i weld beth allen nhw ei wneud yn yr ardal. Mae'r cyngor cymuned wedi cael 3 chyfarfod misol sydd wedi bod yn dda iawn, a dydyn nhw ddim wedi cael yr un digwyddiadau â Maerun.

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y gellid gwahodd swyddog o'r Tîm Iechyd a Diogelwch i gyfarfod yn y dyfodol i gynorthwyo i gwblhau asesiadau risg ar gyfer Cynghorau Cymuned.  Trafodwyd bod camau y gallai cynghorau cymuned eu cymryd pe bai'r cyfarfodydd yn dod yn anodd megis galw cyfarfod i ben pe bai person trafferthus yn mynychu. Gellid edrych ar opsiynau eraill ac roedd asesiad risg yn lle da i ddechrau. 
Dywedodd Cynrychiolydd Maerun fod yr ystafell yr oedd cyfarfodydd y cyngor cymuned yn cymryd lle ynddi yn ystafell anodd i fynd allan ohoni os oedd rhywun yn dreisgar ac nad oedd llwybr dianc gyda dim ond un allanfa oedd yn peri pryder yn y digwyddiadau hynny.

 

Camau Gweithredu:

·         Cysylltu â chynghorau cymuned Gwynll?g a Maerun i drafod materion yn eu wardiau. 

·         Rhannu gwybodaeth a chanllawiau ar ddiogelwch personol gyda chynghorau cymuned.

·         Cynghorwyr Cymuned i godi’r mater o’r Heddlu'n mynychu cyfarfodydd y Cyngor Cymuned gyda'r aelod etholedig o'r ward a allai godi'r mater yn fforwm yr Heddlu yn eitem Cwestiynau'r Heddlu yng nghyfarfod y Cyngor.

·         Gwahodd yr Heddlu i ddod i gyfarfod nesaf y cynghorau cymuned.

·         Edrych ar ganllawiau a chymorth penodol Casnewydd a gofyn i bob cyngor cymuned weld sut maent yn gwahodd y cyhoedd i'w cyfarfodydd.

·         Cwblhau asesiadau risg ar gyfer pob cyngor a gwahodd y tîm iechyd a diogelwch i'r cyfarfod nesaf.