Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Croesawodd yr Aelod Llywyddol y Prif Uwch-Arolygydd Carl Williams, Comander Plismona Lleol dros Gasnewydd a Sir Fynwy, a roddodd ddiweddariad i aelodau’r cyngor ar faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i holi cwestiynau i’r Prif Uwch-Arolygydd Williams.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Uwch-Arolygydd ar ran yr holl aelodau etholedig am ymwneud a chynghorwyr a gweithio mewn partneriaethau ar lefel ward. Yr oedd yn gynhyrchiol iawn ac o gymorth mawr ar yr adeg hon. Diolchodd hefyd i’r Prif Arolygydd Davies am y wybodaeth a anfonwyd at yr holl gydweithwyr, a’i cafodd o gymorth mawr.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at droseddau casineb, a dweud ei bod hi a’i chydweithwyr wedi mynychu gwylnos y tu allan i Westy’r Westgate i goffau a thalu teyrnged i fywyd Brianna Ghey. Yr oedd yn brofiad dwys gweld cynrychiolwyr o bob cymuned ond yn enwedig ein cymuned draws, a gwrando arnynt yn talu teyrnged ond hefyd yn sôn am eu hofnau; yr oedd hynny yn cynnwys mamau yn siarad am y plant a’r bobl ifanc hefyd. Yng ngoleuni hyn, pa sicrwydd allai’r Prif Uwch-Arolygydd roi fod yr holl gymunedau yng Nghasnewydd yn ddiogel. 

 

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd mai’r rhain yw rhai o’r digwyddiadau mwyaf dirdynnol, ac mai safbwynt Heddlu Gwent yw na ddylid goddef ymddygiad fel hyn. Yr oedd swyddogion yn arbenigo mewn troseddau casineb ar gael adeg digwyddiadau i roi mwy o gefnogaeth. Mae’r polisi o ddim goddefgarwch yn fodd o ddwyn y bobl hyn i gyfrif, ac y mae sicrwydd gan y tîm plismona cymdogaeth yn hanfodol er mwyn dangos fod yr heddlu yn cyd-sefyll ac y cymerir y camau llymaf. Yn ddiweddar, rhoddwyd y cynllun gweithredu hil a chynllun gweithredu ar drais yn erbyn menywod ar y gofyniad plismona statudol. Mae angen heddlu sy’n cynrychioli ac yn gweithredu’n briodol a heb oddef y math hwn o ymddygiad ym mhob ardal.

 

Cwestiynau i’r Heddlu gan Gynghorwyr:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Harvey y bu rhai digwyddiadau o geisio byrgleriaeth yn wardiau Alway a Somerton.  Bu’r Cynghorydd mewn cysylltiad â’r tîm plismona lleol, ond yr oedd yr arolygydd i ffwrdd ar hyn o bryd, a gofynnodd felly am dimau ychwanegol i batrolio Alway, Somerton a chyffiniau ward Ringland. Sicrhaodd y Prif Uwch-Arolygydd  y Cynghorydd Harvey nad oed dyr heddlu yn goddef byrgleriaeth, a byddai’n ystyried rhoi patrolau ychwanegol yn yr ardal. Tra byddai’r arolygydd i ffwrdd, gallai swyddogion eraill gynorthwyo. Bu gostyngiad mewn byrgleriaeth o dai ledled Casnewydd, ond er hynny, mae un yn ormod.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Routley at dyllau yn ffordd yr A48, cylchfan Coldra wrth Hillcroft. Gofynnodd yr Aelod Llywyddol am i hyn gael ei godi gyda’r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau, nid yr Heddlu.

 

§  Cododd y Cynghorydd Cleverly fater y problemau o gwmpas adeilad Betws yn ei Blodau. Ers mis Hydref diwethaf, digwyddodd fandaliaeth gan gr?p o bobl ifanc, ac fe ddigwyddodd eto dros y penwythnos. Yr oedd Cynghorwyr y Betws wedi dod i gysylltiad â’r SCHH lleol, ond wedi gofyn hefyd am fwy o batrolau yn yr ardal. Yr oedd grwpiau mawr hefyd yn ymgynnull yn y parc a Chlwb y Betws. Yr oedd y Prif Uwch-Arolygydd yn ymwybodol fod hyn yn broblem; yr oedd rhai o’r llanciau wedi eu hadnabod, a chyhoeddwyd llythyrau. Yr oedd cynllun ar waith i ddatrys y broblem, gan weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i leihau hyn, ac fe fyddid yn cael mwy o batrolau.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorwyr Reeks a Morris at e-sgwteri ac e-feiciau sydd yn broblem gyson, a bu digwyddiad yn ddiweddar gyda char a pherson ifanc ar e-feic. Beth oedd yr oblygiadau i’r gyrrwr a beth fyddai’n digwydd o ran yswiriant y llanc ar y sgwter? Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd fod hyn yn broblem ym mhobman; mae’n cael ei chymryd o ddifrif, a’r gred yw y dylai e-feiciau gael eu trethu a’u defnyddio ar gyfer defnydd ar y ffyrdd. Y mae’r heddlu yn gweithredu ac yn atafaelu e-feiciau, a bu’r Prif Uwch-Arolygydd wedi delio a digwyddiad o’r fath yn ddiweddar. Y mae strategaeth glir ar gael, ac y mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi dweud pa gamau i’w cymryd os bydd trais difrifol yn digwydd. Yr oedd angen cadw cydbwysedd rhwng yr hyn allai ddigwydd gan y gallant fod yn beryglus i ddefnyddwyr y ffyrdd, ond os nad oedd trosedd ddifrifol yn cael ei chyflawni, nid gwaith yr heddlu oedd eu herlid.

 

§  Ategodd y Cynghorydd Whitehead sylwadau’r Cynghorydd Cleverly ac yr oedd wedi gweld fideo diweddar o lanciau yn eu harddegau yn difrodi adeilad Betws yn ei Blodau, oedd yn agos iawn at yr orsaf heddlu, ac er bod ceir yr heddlu y tu allan, ni chymerwyd unrhyw gamau. Yr oedd llanciau hefyd yn ymladd a hefyd yn loetran y tu allan i Ysgol Gynradd Monnow ac yn malu ffenestri yn ystod y dydd. Gofynnodd y  Cynghorydd Whitehead am fwy o batrolau’r heddlu ar droed. Yr oedd y llanciau fel petaent yn fwy hy ar benwythnosau ac yn dychryn trigolion oedrannus. Yr oedd y Cynghorydd hefyd wedi siarad â’r SCHH lleol ac yn ystyried rhoi cais i mewn am arian i gael TCC i ardal yr ysgol. Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd eto fod cynllun datrys problemau ar waith. Ar fater ceir yr heddlu y tu allan, byddai’n gwirio i weld pwy oedd yno ar y pryd, gan gynnwys swyddogion ymateb, a byddai’n gofalu bod y materion hyn yn cael eu cynnwys mewn briffiadau.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Reynolds yn cefnogi sylwadau’r Arweinydd am yr agwedd gydweithredol. Yng Ngorllewin y T?-Du, bu problemau hanesyddol gyda chyffuriau ac e-feiciau. Er hynny, yr oedd yr SCHH a’r heddlu lleol yn gweithio’n agos gyda chynghorwyr y ward, yn mynd i gymorthfeydd y ward ac wedi mynd gyda hwy i gerdded o gwmpas, oedd yn gwneud gwahaniaeth. Adroddwyd yn ddiweddar am ddigwyddiad wrth yr heddlu, a phan welodd y trigolion fod yr heddlu yn gweithredu, fe wnaeth wahaniaeth ac ennyn hyder y trigolion. Diolchodd y Prif Uwch-Arolygydd i’r Cynghorydd Reynolds am ei sylwadau.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Hourahine am ddigwyddiad annifyr yn St Julian’s cyn y Nadolig lle bu ymosodiad gan gi ‘bwli’, ac y lladdwyd dau gi bach. Yr oedd y gymuned leol wedi gwylltio, a daeth preswylydd i gysylltiad â’r Cynghorydd Hourahine a rhoi enw a chyfeiriad y person fu yn yr ymosodiad, a phasio hyn ymlaen wedyn i’r Arolygydd Cawley.  Yr oedd y Cynghorydd Hourahine am ddiolch i’r aelod o’r cyhoedd am roi’r wybodaeth hon, gan ychwanegu fod pawb yn adnabod neu’n byw’n agos at rywun a droseddodd. Petae pobl yn dod ymlaen i sôn am y problemau hyn, buan iawn y caent eu datrys. Ategodd y Prif Uwch-Arolygydd sylwadau’r Cynghorydd, ac wrth gyfeirio at e-feiciau a beiciau oddi-ar-y-ffordd, petai trigolion yn gwybod am y perchenogion, y dylent ddweud wrth yr heddlu, a gwneud hynny’n ddienw pe mynnent.

 

§  Ategodd y Cynghorydd Horton sylwadau’r Cynghorydd Reynolds a diolchodd i’r Arolygydd Cawley a’i dîm ar ran ward Maendy am eu presenoldeb a’u help i drigolion gyda’u problemau.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Watkins at Operation Absorb ym Mharc Tredegar a Marshfield a gofynnodd a oedd modd anfon data i’r aelodau lleol er gwybodaeth. Cytunodd y Prif Uwch-Arolygydd i wneud hyn.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Mogford ei fod ef yn berchen e-feic, a gofynnodd i’r Prif Uwch-Arolygydd esbonio ai sôn yr oedd am feiciau trydan cyfreithlon neu e-sgwteri. Cadarnhaodd y Prif Uwch-Arolygydd fod e-feiciau sy’n defnyddio p?er pedalau yn gyfreithlon, ond bod y rhai sy’n defnyddio botwm i gychwyn y peiriant trydan yn anghyfreithlon. Dywedodd y Cynghorydd Mogford fod gan e-feiciau cyfreithlon sglodyn cyflymder y gellid ei ddefnyddio i ddyblu’r cyflymder i 30 mya. Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd y byddai unrhyw un oedd yn torri’r gyfraith yn cael ei stopio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at fater a godwyd yn y Cyngor o’r blaen am ‘gogio’ a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Cartrefi Dinas Casnewydd a’r cyngor i godi ymwybyddiaeth pobl a allai fod yn fregus. Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd y bu rhai canlyniadau da ledled Gwent  a bod hyn yn aml yn digwydd i unigolion bregus. Yr oedd yr heddlu yn gwneud eu gorau i addysgu pobl fregus pan fyddent yn cael eu hadnabod, gan weithredu’n gadarn gan ddefnyddio gwybodaeth am hyn. Yr oedd yr heddlu wedi gweithio ym Mharc Broadmead yn ddiweddar gyda LCC a llwyddasant i nodi eiddo oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol a chogio.  Y mae’r heddlu yn gweithio gyda LCC a phob asiantaeth briodol gan gynnwys y trydydd sector i amddiffyn pobl fregus yn y cymunedau.