Agenda item

Cyllideb 2023/24 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol yr adroddiad a dweud mai dyma un o’r cyllidebau mwyaf anodd a welodd, a gofynnodd i gydweithwyr y cyngor drin yr eitem hon â pharch.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad am y gyllideb a Threth y Cyngor 2023/24 i’w chydweithwyr. Yr oedd yn rhan annatod o brosesau gosod  cyllideb y Cyngor ac yn dilyn cynigion manwl y gyllideb y cytunodd y Cabinet arnynt yn ein cyfarfod ym mis Chwefror, pryd y gwnaethom argymell codiad o 8.5% yn Nhreth y Cyngor.

 

Atgoffodd yr Arweinydd bawb, fel y weinyddiaeth, mai’r Cabinet oedd yn gwneud penderfyniadau am ddyrannu adnoddau, a’r Cyngor llawn yn gwneud y penderfyniad terfynol am lefel Treth y Cyngor yn unig. Bydd y Cyngor yn cytuno ar Dreth y Cyngor am 2023/24 a thrwy hyn, cyfanswm cyllideb net y Cyngor.

 

Yr oedd yr argymhellion manwl wedi eu gosod allan yn yr adroddiad ei hun. I grynhoi, gofynnir i’r Cyngor:

 

Nodi’r ymarferiad ymgynghori helaeth a gwblhawyd ac a ystyriwyd gan y Cabinet wrth roi manylion y gyllideb derfynol.

 

Nodi argymhellion y Pennaeth Cyllid am isafswm balans y Gronfa Gyffredinol a chadernid y gyllideb yn gyffredinol.

 

Yn fwyaf pwysig, ystyried a chymeradwyo codiad Treth y Cyngor i Gyngor Dinas Casnewydd o 8.5%, cyfradd treth Band D o £1,380.13, a’r gyllideb refeniw gyffredinol a welir yn Atodiad 1.

 

Wrth wneud hynny, cymeradwyo cynnig ffurfiol treth y cyngor sydd yn Atodiad 3 ac sy’n ymgorffori praeseptiau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a Chynghorau Cymuned.

 

Yn ogystal â hyn, gofynnwyd i’r Cyngor nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r cyd-destun, nodi’r ffaith fod y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynllun a’r ffaith fod hyn yn destun adolygu cyson, a nodi a chymeradwyo strategaeth arian wrth gefn y Cyngor a phrotocol y gronfa drawsnewid.

 

Aeth yr Arweinydd yn gyntaf trwy gynigion y gyllideb gyda’r Cyngor.

 

Proses y gyllideb arbennig hon oedd un o’r rhai mwyaf heriol yn ddiweddar. Yr oedd lefelau uchel o chwyddiant, oedd yn effeithio ar drigolion a busnesau fel ei gilydd, hefyd yn effeithio’n sylweddol ar gyllid y Cyngor. Yr oedd hyn yn amlwg o ran dyfarniadau cyflog a chostau ynni, yn ogystal â’r taliadau a wnawn i’n darparwyr gwasanaeth. Ynghyd â chynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau, rhai yn arbennig, arweiniodd at gyllideb lom a bwlch sylweddol rhwng costau a ragwelir a’r cyllid sydd ar gael.

 

Ymdriniwyd â’r bwlch cyllideb  hwnnw, a chael cyllideb gytbwys, mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, arbedion ar draws amryw o wasanaethau, a’r cynnydd a argymhellir yn Nhreth y Cyngor.

 

Er bod angen arbedion i gydbwyso’r gyllideb, fe wnaethom geisio lleihau’r effaith ar wasanaethau gymaint ag oedd modd, yn ogystal â buddsoddi’n helaeth mewn nifer o wasanaethau. Gosodwyd y buddsoddiadau hanfodol hyn allan yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Chwefror, gan ystyried yr adborth o’r ymgynghori cyhoeddus.

 

Byddai’r blaenoriaethau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn gweld cryn fuddsoddi wrth i ni barhau i adfer o’r ddwy flynedd  ddiwethaf. Maent yn cynnwys yr isod:

 

·        Gan gynnwys y cyllid ychwanegol a amlinellwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet, byddwn yn ymrwymo cyfanswm o £9m tuag at y pwysau a wynebir gan ysgolion yn 2023/24. Mae’r arian hwn yn bennaf yn gyllid sy’n digwydd yn gyson, wedi’i ategu gan ddefnydd wedi’i dargedu o arian wrth gefn am unwaith;

 

·        £13.9m o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol, oedd yn cynnwys arian i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal o Ebrill 2023, darpariaeth ychwanegol ar gyfer risg o gostau uwch yn y sector a galw sylweddol uwch am Wasanaethau Plant ac Oedolion;

 

·        £3.6m am ddarpariaeth digartrefedd yn dilyn cyfarwyddeb Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na fyddai neb yn cysgu allan yng Nghasnewydd;

 

·        £1.7m i wneud iawn am y diffyg yn nyfarniad cyflog yr NJC am 2022/23.

 

Yr oedd nifer o’r buddsoddiadau hyn, ynghyd a thynnu’n ôl rai arbedion yr ymgynghorwyd arnynt, yn dangos fod y Cabinet wedi gwrando ar farn trigolion Casnewydd ac yn gwneud eu gorau dros ddinasyddion mwyaf bregus ein dinas.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw’r Cyngor at y codiad a argymhellir yn Nhreth y Cyngor am 2023/24. Fel y cyhoeddwyd ym mis Chwefror, argymhellodd y Cabinet gynnydd o 8.5%, oedd yn is na’r ffigwr yr ymgynghorwyd arno. Gwrandawodd y Cabinet ar farn trigolion Casnewydd ac y mae’r cynnydd llai yn arwyddo hyn

 

Er ein bod yn deall fod cynnydd o’r maint hwn yn her i’r trigolion ar adeg pan oedd biliau eraill aelwydydd yn cynyddu, mae’r Cyngor yn wynebu’r un pwysau cost, ynghyd â chyfradd gymharol isel o Dreth y Cyngor o gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Cyn dod i benderfyniad ar lefel Treth y Cyngor oedd yn cael ei gynnig heddiw, amlinellodd yr Arweinydd y pwyntiau isod:

 

-         Yr oedd y canolbwynt yn aml ar y cynnydd canrannol, a hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gymharu’r codiadau cymharol mewn ardaloedd eraill. Yr oedd y gwerth ariannol, serch hynny, yn fwy perthnasol. Yn hyn o beth respect, Casnewydd o hyd oedd ag un o’r cyfraddau Treth y Cyngor isaf yng Nghymru ar DU, ac yr oedd y gwerth ariannol a gynhyrchwyd gan y codiad yn llai na’r gwerth y byddai codiad canrannol cyfatebol  yn ei gynhyrchu ym mhob un, bron, o’r cynghorau eraill yng Nghymru.

 

-         I esbonio’n fanylach, i werth ariannol yr 8.5% a gynhyrchwyd, sef £2.08 yr wythnos am eiddo Band D, byddai’n rhaid i bron i ddwy ran o dair o gynghorau Cymru gynyddu Treth y Cyngor o 7.5% a llai i gael yr un cynnydd mewn gwerth.

 

-         Y mae mwyafrif yr eiddo yng Nghasnewydd ym Mandiau A – C a byddai cynnydd canrannol o 8.5% yn cynyddu biliau wythnosol o £1.39, £1.62, a £1.85. Mewn termau ariannol, codiadau gweddol gymedrol oedd y rhain, ond yr oedd angen cyfanswm y gwerth ariannol fyddai’n cael ei gynhyrchu ar gyfer y gyllideb, er mwyn cynnal gwasanaethau pwysicaf y Cyngor. 

 

-         Ers dros ddegawd, bu ein sefyllfa yn gyson wrth i ni aros ar lefelau Treth y Cyngor ail/trydydd isaf yng Nghymru. Hyd yn oed gyda chynnydd o 8.5%, nid oedd y sefyllfa hon yn debyg o newid.

 

Er bod nifer o bwysau ariannol dros y tymor canol, yr oedd yr Arweinydd yn falch fod y Cabinet wedi llwyddo i ymateb i bryderon y trigolion a lleihau’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn unol â hynny.

 

Ar waetha’r heriau a wynebwyd, daethpwyd o hyd i ffordd drwy’r broses hon i gydbwyso cyllideb eleni heb fod angen defnyddio’r arian cyffredinol wrth gefn. Gall rhai gwestiynu’r penderfyniad i beidio â defnyddio’r arian wrth gefn, ond ni fyddai hynny ond yn creu problemau at y blynyddoedd i ddod. Er nad oedd y penderfyniadau a gymerwyd ynghylch arbedion yn hawdd, cydbwyso’r gyllideb heb ddefnyddio arian wrth gefn oed dy peth cyfrifol i’w wneud, a byddai hyn yn well i’r Cyngor at y dyfodol ac yn ein rhoi mewn lle mwy cynaliadwy at y tymor canol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’w chydweithwyr yn y Cabinet, i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad, a’r swyddogion a gyfrannodd at gydbwyso’r gyllideb. Teimlai’r Arweinydd fod hon yn gyllideb deg, cynaliadwy a chyfrifol.

 

Eiliodd y Cynghorydd D Davies yr adroddiad a chadw ei hawl i siarad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Morris am welliant i’r cynnig:

 

Gwelliant i’r cynnig a roddwyd gerbron gan yr Arweinydd fel y’i gosodwyd allan yn adroddiad y gyllideb

 

Mae’r gwelliant am gyfeirio’r gyllideb yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar sail yr awgrymiadau isod.

 

§  Buddsoddi £160k ymhellach yn y gwasanaeth Amgylchedd a gwarchod y Cyhoedd gydag awgrym o ddileu’r cynnig am arbediad trwy symud i gasglu gwastraff preswyl a gardd bob tair wythnos.

 

Sylweddolwn mai’r Cabinet yn y pen draw fydd yn penderfynu sut i ddefnyddio’r buddsoddiad hwn, ond gofynnwn iddo gael ei ystyried ar gyfer y casgliad gwastraff tair-wythnos.

 

§  Gostwng cynnydd Treth y Cyngor o’r 8.5% a gynigir ar hyn o bryd i lefel fwy derbyniol

 

§  Cadw’r gyllideb yn gytbwys wedi costau hyn trwy ddefnyddio arian wrth gefn ar gyfer 2023/24. Bydd angen i’r Cabinet nodi’r arian wrth gefn.   

 

Eiliodd y Cynghorydd M Howells y cynnig a chadw ei hawl i siarad ar derfyn y ddadl.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr am y gwelliant:

 

§  Holodd y Cynghorydd Harvey lle’r oedd y ffigyrau am yr arian wrth gefn a sut y byddai gr?p Annibynnol Lliswerry yn cydbwyso’r gyllideb.

 

§  Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Morris i siarad am y gwelliant.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Morris yn sylweddoli sefyllfa’r Cyngor ac yn pryderu am bobl Casnewydd yn yr amseroedd anodd hyn. Yr oedd yn derbyn y byddai’r casgliad biniau bob tair wythnos yn dod i Gasnewydd oherwydd newid hinsawdd ond teimlai ei fod yn rhy gynnar gan na allai’r trigolion ymdopi â’r system.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Morris at gymariaethau’r biniau bychain a maint aelwydydd, a llai o fynediad at y domen. Gofynnodd am oedi hyn hyd nes bod y cyngor yn barod ac a phrosesau yn eu lle ar gyfer y casgliadau bob tair wythnos.

 

Yna trafododd y Cynghorydd Morris y gyllideb amgen arfaethedig. Yr oedd y DU yn gweld gostyngiad o £69 y mis mewn incwm oherwydd yr argyfwng costau byw. Yr oedd banciau bwyd i blant yn cael eu trefnu yn ei ward leol, ac yr oedd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth i’r trigolion. 

 

§  Dywedodd yr Aelod Llywyddol wrth y Cynghorydd Morris fod ei dair munud ar ben a gwahoddodd ef i siarad ar ddiwedd y ddadl.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Batrouni ei fod, gyda’i gydweithwyr yn y Cabinet, ei fod wedi ei herio gan ei gydweithwyr ar gr?p y cyngor i gwrdd â’r swyddogion i drafod sut y gellid cydbwyso’r gyllideb, ac yr oedd yn cytuno bod y rhain yn amseroedd tywyll iawn. Holodd hefyd o lle deuai’r arian, gan ei bod yn bwysig fod y gyllideb yn gytbwys. Dywedodd y Cynghorydd Batrouni, trwy ddefnyddio £160K o’r arian wrth gefn, y byddai hyn yn golygu defnyddio’r mecanwaith benthyca mewnol, y byddai’n rhaid i’r Cyngor fenthyca yn allanol a thalu mwy o log, na ellid ei fforddio.

 

§  Gofynnodd y Cynghorydd Reynolds am eglurhad o’r buddsoddiadau ychwanegol a’r toriadau yn y casgliadau bob tair wythnos: pam nad oedd esboniad o lle deuai’r arian? Yr oedd y Cynghorydd Reynolds a’i gydweithwyr yn ymwybodol o faint dioddefaint y trigolion. 

 

§  Teimlai’r Cynghorydd Whitehead, o’r adborth yn ei ward ef, fod y cynnig i gasglu biniau bob tair wythnos yn peri braw, a’r ofn oed dy byddai cost delio â thipio anghyfreithlon ychwanegol yn ddrud, er y gallai’r arbediad gymryd tipio anghyfreithlon i ystyriaeth. Yr oedd y Cynghorydd yn deall ei fod yn anodd iawn i’r Cabinet a’r swyddogion gydbwyso’r gyllideb a theimlodd fod y Cynghorwyr Morris, Batrouni a Reynolds wedi gwneud pwyntiau dilys a chydnabod ei bod yn dasg anodd.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Harvey na roddwyd ffigwr gerbron, a dywedodd eto fod y cynghorwyr yn cymryd y gyllideb o ddifrif. Byddai’r cynnydd yn nhreth y cyngor hefyd yn helpu’r cynllun gostwng treth y cyngor ac yn gymorth i’r trigolion hynny oedd mewn anhawster ariannol. Dywedodd ei bod yn sefyllfa anodd a bod yr ymgynghoriad ar y gyllideb wedi bod yn helaeth, gan ystyried barn y cyhoedd yn ogystal ag amddiffyn gwasanaethau fel addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol, oedd yn fwy o flaenoriaeth.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Sterry at gasgliadau biniau a dweud fod gan Gasnewydd enw fel prifddinas tipio anghyfreithlon Cymru, ac y byddai symud i gasglu biniau bob tair wythnos yn gwneud pethau’n waeth. Teimlai hefyd nad dyma’r amser i godi Treth y Cyngor o 8.5%.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Howells yn cydnabod ein bod yng nghanol argyfwng costau byw, a bod chwyddiant ar i fyny. Teimlai y byddai cynigion y gyllideb yn taro’r trigolion  yn eu pocedi ar amser anodd. Yn gynharach eleni, bu tanwariant yn 2021/22 o £7.8M a neilltuwyd gan y Cabinet i helpu trigolion gyda’r argyfwng costau byw. Yn y Cabinet ym mis Chwefror, neilltuwyd yr arian hwn i fod wrth gefn i’w ddefnyddio at ddibenion cyfalaf. Byddai defnyddio’r arian i dalu am y diffyg cyfan wedi golygu na fyddai cynnydd yn Nhreth y Cyngor.  Er nad oedd y Cynghorydd Howells yn dweud mai dyma’r ffordd iawn, fe fyddai defnyddio £2M o’r arian i ostwng y cynnydd yn nhreth y cyngor i 5.68%  a thalu am gasglu biniau bob tair wythnos, gan ddefnyddio hanner yr arian wedi gostwng arian Treth y Cyngor o 6%.  Yr oedd yn deall y pwysau o ran newid hinsawdd i leihau gwastraff a chynyddu ailgylchu er lles y cenedlaethau i ddod, ac yr oedd Casnewydd yn dda am ailgylchu. Rhaid i ni felly fanteisio ar y cyfle i weithio gyda chymunedau a busnesau i adeiladu gwytnwch, hwyluso ymwneud go-iawn a gweithredu strategaeth dair-blynedd o reoli newid, yn hytrach nag ymateb ar y pryd na fyddai ond yn symud y broblem o finiau i ffyrdd gwledig a stadau tai. Dywedodd y Cynghorydd Howells unwaith eto ei fod yn eilio’r gwelliant am gyllideb amgen ac i’r Cabinet ystyried y ffigyrau a ddarparwyd, a gostwng Treth y Cyngor i 5.68% trwy ddefnyddio £2M o arian cyfalaf wrth gefn.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at y toriad o £69 y mis yn y DU fyddai’n ychwanegu at broblem costau byw. Ni fyddai’r cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor yn dod yn agos at hynny, ac ni fyddai’n effeithio ar drigolion Casnewydd islaw band D.

 

§  Siaradodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yn erbyn y gwelliant ac er ei fod yn teimlo fod aelodau Ward Lliswerry wedi cyflwyno cyllideb amgen gyda theimlad tuag at drigolion, yr oedd yn mynd yn erbyn Rheolau Sefydlog y Cyngor am mai’r cyngor sydd yn gosod cyfradd treth y cyngor, nid y Cabinet. Gallasai’r Cynghorydd Morris fod wedi dod â ffigwr amgen i’w drafod. Nid oedd pawb yn ystyried hon yn gyllideb deg, ond dan yr amgylchiadau, dyma’r gorau y gellid ei gynnig. Yr oedd yn bwysig cydbwyso cyllideb a rhaid gwneud hyn yn y Cyngor heno. Diolchodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr holl swyddogion a’r Cabinet am eu gwaith caled a’u cyfraniad, gan gydbwyso’r gyllideb ar yr amser anodd hwn. Ychwanegodd yr Aelod Llywyddol mai mater i’r Cabinet oedd ystyried y gyllideb ac yna ei dwyn yn ôl i’r Cyngor  i’w hail-ystyried.

 

§  Teimlai’r Cynghorydd Marshall fod y cynnig yn amwys, ac er bod cyllideb arfaethedig y Cabinet yn benderfyniad anodd, yr oedd yn gyllideb deg.  Yr oedd hefyd yn un o’r trethi cyngor isaf yn y rhanbarth. Byddai felly yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant. Yn olaf, byddai oblygiadau ariannol wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru pe na bai Cyngor Dinas Casnewydd yn cwrdd â’r meini prawf tair-wythnos.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Forsey y bydd yr arbedion gyda chasgliadau bin bob tair wythnos yn £320K yr wythnos, a byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn cael eu dirwyo £500K y flwyddyn pe na fyddwn yn cwrdd â thargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru, ac ni allwn fforddio hyn. Byddai rhaglen o weithio gyda’r trigolion, a rhaglen gyfathrebu ac addysg. Byddai cynwysyddion ailgylchu newydd yn cael eu rhoi i helpu’r trigolion gyda’r casgliadau bin tair wythnos. Ar hyn o bryd, yr oedd dros 1.5M o bobl yng Nghymru ar gasgliadau bin bob tair neu bedair wythnos. Yr oedd 18 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru naill ai ar gasgliadau tair wythnos neu yn ymgynghori ar hynny. O ran rheoli, yr oedd y Cynghorydd Forsey wedi gweld tipio anghyfreithlon tra’n codi sbwriel, a theimlai fod a wnelo hyn fwy â chymeriad y person sy’n tipio’n anghyfreithlon yn hytrach na thrigolion yn cael eu gorfodi i dipio’n anghyfreithlon.

 

§  Casgliad y Cynghorydd Morris oedd mai swm bychan oedd yr 8.5%, ond yr oed dyn ddewis, ac yr oedd yn gofyn a allai’r Cabinet ystyried ei ostwng, fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r trigolion hynny sy’n cael trafferthion ac yn defnyddio banciau bwyd. 

 

Yr oedd y Cynghorydd Morris felly am gynnig y gwelliant a gofynnodd am bleidlais wedi ei chofnodi i adlewyrchu hyn.

 

Am nad oedd pum cynghorydd yn cefnogi’r gwelliant, ni chymerwyd pleidlais wedi ei chofnodi.

 

Caeodd yr Arweinydd y ddadl trwy ddweud fod yr holl aelodau yn cytuno fod cydbwyso’r gyllideb yn anodd iawn a bod y rhain yn amseroedd digynsail, a chytunodd â’r Cynghorwyr Morris a Howells yng ngoleuni’r argyfwng costau byw. O ran y gwelliant, cytunodd yr Arweinydd gyda sylwadau’r Cynghorydd Whitehead fod dyletswydd a chyfrifoldeb ar holl aelodau’r cyngor i gefnogi’r gyllideb. Dan y canllawiau ariannol, yr oedd y strategaethau a ystyriwyd gan y Cabinet yn ddarbodus, fforddiadwy a chynaliadwy ac y mae angen i ni fod yn gyfrifol ar y cyd am hynny. O ran cynnig y gwelliant, awgrymwyd fod y Cabinet yn cyfeirio’r gyllideb i fuddsoddi £160K.  Yr oedd hyn yn arbediad o £320K dros ddwy flynedd, a’r cynnig oedd defnyddio arian wrth gefn i dalu am hyn. Byddai cynnig i ostwng treth y cyngor o 1% yn cymryd £651K allan o’r gyllideb refeniw.  Byddai hyn yn gostwng Treth y Cyngor ar d? Band D o 24 ceiniog  yr wythnos. Ystyriodd yr Arweinydd fod cadw Oaklands a Spring Gardens ar agor ac amddiffyn pobl fregus yn bwysicach, ac felly gwrthododd y gwelliant.

 

Yr oedd y Cynghorwyr Mogford, Morris, Howells a Sterry eisiau defnyddio Rheol Sefydlog 7.5, yr hawl i gofnodi pleidleisiau unigol.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y Cyngor na chafodd y bleidlais ar y gwelliant ei chario trwy fwyafrif, felly aeth y Cyngor yn ôl i’r cynnig gwreiddiol.

 

Penderfynwyd:

 

Fod y Cyngor yn gwrthod y gwelliant i’r cynnig ar y gyllideb.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr ar gynigion y gyllideb:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at gyllidebau a osodwyd gan Lafur yn y gorffennol, a soniodd am yr effaith y byddai codiad Treth y Cyngor yn gael ar aelwydydd Band D, ac yng Nghasnewydd yn ystod 2013-14, y cyfartaledd i B a D oedd £855 y flwyddyn, ac yn awr byddai yn £1,380 y flwyddyn. Yr oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi codi eu Treth Cyngor o 2%.  Hefyd, dilëwyd dyledion o £6M dros y pum mlynedd a aeth heibio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans hefyd at dâl am uned wag yn Friars Walk. Gofynnodd am bleidlais wedi ei chofnodi ar derfyn y ddadl. 

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Evans y byddai angen i bum aelod o’r Cyngor gefnogi pleidlais wedi ei chofnodi. Gofynnodd y Cynghorwyr Routley, Fouweather, Reeks, Jones a Sterry hefyd am bleidlais wedi ei chofnodi.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Clarke yn cefnogi cyllideb y Cyngor.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Corten hefyd.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Reynolds at y cynnydd o 2% yn Nhorfaen; byddai hyn yn golygu, er hynny, y byddai tai  Band D yn Nhorfaen yn talu oddeutu £200 y mis yn fwy na thrigolion Casnewydd. Yr oedd yn bwysig cynnal pobl fwy bregus yng Nghasnewydd ac yr oedd y Cynghorydd Reynolds yn falch o’i gydweithwyr yn y Cabinet am osod y gyllideb dan amgylchiadau anodd.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Cocks yn cydnabod gwaith rhyfeddol y Cabinet a swyddogion y Cyngor yn cydbwyso’r gyllideb.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Screen yn cefnogi cyllideb y Cyngor.

 

§  Aeth y Cynghorydd Forsey trwy’r rhesymau cadarnhaol dros ailgylchu gan ystyried yr amgylchedd, a’r ffaith fod y Cyngor wedi cyhoeddi argyfwng amgylcheddol ac ecolegol yn y gorffennol. Hefyd, yr oedd modd ailgylchu 30% o’r hyn oedd yn mynd i’r biniau, a 20% o hyn yn fwyd y gellid hefyd ei ailgylchu.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Fouweather yn erbyn y codiad o 8.5% yn Nhreth y Cyngor a chyfeiriodd at y sawl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad oedd yn erbyn y casgliadau bin bob tair wythnos, a gofynnodd am ail-ystyried y gyllideb.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Routley at Spring Gardens oedd â 33 ystafell wely gofal seibiant tymor byr, a dim darpariaeth nyrsio. Yr oedd dementia yn effeithio ar dros 2,000 o drigolion yng Nghasnewydd, a dyma ddinas gyfeillgar i ddementia yn torri’r gyllideb o £300K.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad. Mae’r codiad yn Nhreth y Cyngor yn amddiffyn y mwyaf bregus, gwasanaethau dementia a gwasanaethau iechyd meddwl. 

 

§  Teimlai’r Cynghorydd Reeks fod y Cyngor yn achosi straen i ugeiniau o deuluoedd sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol hanfodol a chyfeiriodd at y gostyngiad mewn gwasanaethau gan gynnwys y casgliad biniau bob tair wythnos. Nid oedd felly yn cefnogi’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ac anogodd y Cabinet i ail-ystyried.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd James yn ddiolchgar am gynnig gwell y Cabinet, ond yn teimlo nad oedd yn mynd yn ddigon pell. Yr oedd y trigolion mwyaf bregus yn dal i deimlo baich y gyllideb hon. Dywedodd y Comisiwn Tegwch na chafodd y cyhoedd ddigon o wybodaeth am effaith y cynigion, ac nad oedd y Cyngor yn cwrdd â’i ofynion sylfaenol ei hun dan Ddeddf Cydraddoldeb o ran Asesiadau Effaith tegwch a Chydraddoldeb. Teimlai nad oedd yn wir fod y Cyngor heb ddewis arall. Yr oedd Cyngor Castell Nedd Port Talbot, clymblaid enfys, wedi cynnig cyllideb heb doriadau mewn gwasanaethau, diswyddiadau, a chynnydd o 4.5% yn Nhreth y Cyngor gan ddefnyddio arian wrth genf. Dywedwyd fod arian wrth gefn y Cyngor hwn llynedd yn £130M, felly yr oedd modd cynnig cyllideb gan ddefnyddio hyn. Er bod gofyniad cyfreithiol i gydbwyso’r gyllideb nid oedd rheswm dros bleidleisio am y gyllideb arfaethedig hon, a byddai’n rhaid i’r Cyngor weithio’n galed i gyflwyno cyllideb y byddai pob plaid yn cytuno arni. Yr oedd y Cynghorydd James felly yn erbyn cynnig y gyllideb, a chynigiodd hefyd bleidlais wedi ei chofnodi.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at ddatganiad blaenorol am fenthyca mewnol, ac yr oedd yn cefnogi Cyllideb y Cyngor a gynigiwyd gan y Cabinet.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Lacey nad oedd yr un aelod o’r wrthblaid wedi dod ati i drafod arbedion yn erbyn ei phortffolio hi.

 

§  Ystyriodd y Cynghorydd Hourahine nad oedd y gyllideb amgen yn rhesymol, a chanmolodd gydweithwyr a’r swyddogion am eu gwaith caled.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Davies am y toriadau llym oedd wedi cael effaith ar y Cyngor, a bod gwasanaethau cymdeithasol ac addysg wedi eu hystyried yn y gyllideb a bod y Cabinet yn ymboeni am drigolion Casnewydd.  Mewn ymateb i’r Cynghorydd James, soniodd y  Cynghorydd Davies hefyd fod y Comisiwn Tegwch wedi methu ag ystyried y mecanweithiau cefnogi oedd gan Gyngor Dinas Casnewydd. Enghraifft o hyn oedd Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, y pleidleisiwyd drosto yn unfrydol yn y Cyngor diwethaf.

 

§  Atebodd y Cynghorydd Morris bwynt y Cynghorydd Lacey nad oedd neb wedi cysylltu â’r Aelod Cabinet. Dywedodd eu bod wedi ymwneud â’r trigolion, felly yr oedd y cynnig amgen yng ngoleuni trafodaethau gyda’r trigolion.

 

§  Diolchodd yr Arweinydd i’r holl gydweithwyr a gymerodd ran yn y ddadl a siarad ar ran dinasyddion Casnewydd. Cyllideb Cyngor Dinas Casnewydd oedd hon, ac yr oedd yr Arweinydd am nodi natur agored a thryloyw. Holodd un aelod o’r wrthblaid am bostiad ar YouTube oedd fel petai’n codi dychryn, a dywedodd yr Arweinydd mai rhoi gwybod i’r cyhoedd am wirionedd y sefyllfa yng Nghasnewydd ydoedd am y gyllideb.  Clywsom gyfeiriad at gyllidebau gwahanol gynghorau, a nodwyd fod partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru lle’r oedd y llywodraeth yn gweithio’n agos gyda’r undebau llafur a’r gweithlu. Tynnodd yr Arweinydd sylw at y gwasanaethau a roddir i ddinasyddion o’r crud i’r bedd, o wasanaethau cofrestru, safonau masnach, iechyd amgylchedd, safonau tai, ysgolion, parciau, mynwentydd, etc. Y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu dros 800 o wasanaethau i ddinasyddion Casnewydd - mae pobl yn talu am fwy na chasglu biniau. Bydd Casnewydd yn dal i ddarparu llywodraeth leol gryf, gytbwys a chyfrifol, i roi Casnewydd decach a mwy gwyrdd. Yr oedd yr Arweinydd felly yn cymeradwyo’r gyllideb i’r Siambr.

 

Cymerodd yr Aelod Llywyddol y bleidlais isod wedi ei chofnodi:

 

 

Enw’r Cynghorydd

Ymddiheuriadau

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

1

Paul Cockeram

 

 

 

 

2

Allan Morris

 

 

1

 

3

David Mayer

 

1

 

 

4

Miqdad Al-Nuaimi

 

1

 

 

5

Matthew Evans

 

 

1

 

6

Malcolm Linton

 

1

 

 

7

David Fouweather

 

 

1

 

8

William Routley

 

 

1

 

9

Martyn Kellaway

 

 

1

 

10

Trevor Watkins

 

1

 

 

11

Ray Mogford

 

 

1

 

12

Kate Thomas

 

1

 

 

13

Deb Harvey

 

1

 

 

14

Jane Mudd

 

1

 

 

15

Kevin Whitehead

 

 

1

 

16

Deb Davies

 

1

 

 

17

Mark Spencer

 

1

 

 

18

Carmel Townsend

 

 

1

 

19

Janet Cleverly

 

 

1

 

20

Stephen Marshall

 

1

 

 

21

Jason Jordan

 

 

1

 

22

Laura Lacey

 

1

 

 

23

Phil Hourahine

 

1

 

 

24

Jason Hughes

 

1

 

 

25

James Clarke

 

1

 

 

26

Yvonne Forsey

 

1

 

 

27

Farzina Hussain

 

1

 

 

28

John Jones

 

 

1

 

29

Gavin Horton

 

1

 

 

30

Andrew Sterry

 

 

1

 

31

Mark Howells

 

 

1

 

32

James Peterson

 

 

1

 

33

Pat Drewett

 

1

 

 

34

Claire Baker-Westhead

 

1

 

 

35

Stephen Cocks

 

1

 

 

36

Rhian Howells

 

1

 

 

37

Beverly Perkins

 

1

 

 

38

Dimitri Batrouni

 

1

 

 

39

Matthew Pimm

 

1

 

 

40

Paul Bright

 

1

 

 

41

Allan Screen

 

1

 

 

42

John Reynolds

 

1

 

 

43

Emma Stowell-Corten

 

1

 

 

44

Tim Harvey

 

1

 

 

45

Alex Pimm

 

1

 

 

46

Saeed Adan

 

1

 

 

47

Debbie Jenkins

 

1

 

 

48

Chris Reeks

 

 

1

 

49

John Harris

 

 

 

 

50

Beverly Davies

 

1

 

 

51

Lauren James

 

 

1

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm

 

33

16

 

 

Penderfynwyd:

 

Fod y Cyngor yn

 

Cyllideb refeniw a threth y cyngor 23/24 (adran 2-8)

1             Nodi y cynhaliwyd ymarferiad ymgynghori helaeth yn 2023/24 ar gynigion y gyllideb. Mae’r Cabinet wedi ystyried hyn wrth argymell manylion terfynol eu cyllideb.

 

2             Nodi argymhellion y Pennaeth Cyllid y gellid cynnal isafswm balansau’r Gronfa Gyffredinol ar lefel o £6.5miliwn o leiaf; cadarnhau cadernid y gyllideb gyffredinol sy’n sail i’r cynigion, yn amodol ar y materion allweddol a amlygwyd yn adran 7.

 

3            Ystyried a chymeradwyo codiad yn nhreth y cyngor  i Gyngor Dinas Casnewydd o 8.5%, treth Band D o £1,380.13; a’r gyllideb refeniw gyffredinol a welir yn Atodiad 1.

 

4            Cymeradwyo cynnig ffurfiol treth y cyngor sydd yn Atodiad 3 ac sy’n ymgorffori praeseptiau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a Chynghorau Cymuned.

 

Cynllun ariannol tymor canol (CATC) (adran 5)

5             Nodi’r CATC a’r heriau ariannol ansicr dros y tymor canol yng nghyd-destun heriau economaidd, mwy o alw mewn meysydd gwasanaeth a phroblemau ariannol posib ar gyllidebau ysgolion.

 

6             Nodi fod y Cabinet wedi cymeradwyo gweithredu’r cynllun tair-blynedd, gan gynnwys  holl gynigion y gyllideb fel y’u crynhoir yn y cynllun ariannol tymor canol (Atodiad 4).  O ystyried pwynt 5 uchod, dylid nodi fod rhagamcanion ariannol yn destun adolygu a chyfoesi cyson.

 

7             Nodi a chymeradwy strategaeth arian wrth gefn y Cyngor a’r protocol ar gyfer y gronfa trawsnewid. Mae amcangyfrifon yr arian wrth gefn fel ar 31 Mawrth yn Atodiad 5a.

 

Dogfennau ategol: