Agenda item

2023/24 Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad.

 

Adroddiad blynyddol oedd hwn, yn canoli ar gynlluniau gwario cyfalaf y Cyngor, eu heffaith ariannol o ran benthyca, a’r strategaeth fuddsoddi am y flwyddyn.

 

Yr oedd yn bwysig nodi, er i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglen gyfalaf fanwl, mai’r Cyngor llawn yn y pen draw oedd yn cymeradwyo’r terfynau benthyca a’r dangosyddion cynghorus oedd yn yr adroddiad.

 

Mae’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio hefyd wedi ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod diweddaraf, ac wedi rhoi sylwadau, Yn yr achos hwn, yr oedd eu sylwadau yn cefnogi’r strategaethau arfaethedig, heb godi pryderon.

 

Yr oedd y Cyngor yn dechrau ar raglen gyfalaf newydd, gyda’r rhaglen bresennol yn dod i ben ym Mawrth eleni. Byddai rhaglen bum-mlynedd newydd mewn grym o fis Ebrill.

 

Er bod y rhaglen yn cael ei hadolygu bob pum mlynedd, y bwriad oedd symud at agwedd dreigl at reoli’r rhaglen gyfalaf, sy’n golygu y bydd y rhaglen gyffredinol, a fforddiadwyedd benthyca, yn cael ei adolygu yn flynyddol.

 

Byddai’r newid yn rhoi mwy o hyblygrwydd i reoli’r rhaglen, gyda threfniadau llywodraethiant cryfach, ac y mae’r manylion yn yr adroddiad.

 

Oherwydd y cyd-destun ariannol heriol iawn, yr oedd y rhaglen yn cynnwys yn unig gynlluniau sydd eisoes yn digwydd a rhai a gymeradwywyd eisoes, oedd wedi eu dwyn ymlaen o’r rhaglen bresennol, a symiau blynyddol, gan gynnwys gweithgareddau fel rheoli asedau yn flynyddol ac adnewyddu’r fflyd.

 

Oherwydd heriau fforddiadwyedd, nid oedd unrhyw arian rhydd benthyca newydd wedi ei gynnwys yn y strategaeth, sy’n golygu mai cyfyngedig yw’r arian cyfalaf rhydd (a ddefnyddir i gyflawni cynlluniau newydd neu i dalu costau cynyddol cynlluniau presennol). O’r herwydd, rhaid manteisio ar bob cyfle i gynyddu’r arian rhydd o ffynonellau unwaith-am-byth er mwyn dal i ymateb i bwysau fel y maent yn ymddangos.

 

Yr oedd yn bwysig i’r Cyngor nodi, er nad oedd unrhyw fenthyca newydd wedi ei gynnwys yn y rhaglen, y byddai benthyca a gymeradwywyd eisoes yn dod i’w rhan dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hyn yn cynyddu’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf cyffredinol, a lefel dyledion y Cyngor. Mae’r terfynau benthyca a gynigir yn yr adroddiad, y mae gofyn i’r Cyngor gymeradwyo heddiw, yn cadw hyn mewn cof.

 

Hefyd, cyllidebwyd eisoes ar gyfer canlyniadau refeniw benthyca ychwanegol (e.e., llog taladwy ar fenthyciadau) yn dilyn buddsoddiad cyllideb a wnaed yn 2021/22.

 

Yr oedd yn hanfodol i’r strategaeth arfaethedig fod yn fforddiadwy, darbodus a chynaliadwy. Yr oedd y gyllideb refeniw fyddai ei hangen i dalu costau cyllido cyfalaf yn cadarnhau fod y strategaeth yn fforddiadwy.

 

Gellid sicrhau darbodaeth trwy sicrhau bod lefel y gwariant cyfalaf yn gymesur yng nghyd-destun y gyllideb yn gyffredinol. Hefyd, mae’r terfynau benthyca a argymhellir yn cyd-fynd â’r cynlluniau gwario cyfalaf ehangach.

 

Llwyddwyd i gael cynaliadwyedd trwy sicrhau bod yr ymrwymiad tymor-hir i gael costau cyllido cyfalaf wedi ei adlewyrchu yn y cynllun ariannol tymor canol a bod y cyllid refeniw angenrheidiol ar gael tra byddai’r ymrwymiad ariannol yn parhau.

 

O ran Rheoli’r Trysorlys, yr oedd yr adroddiad yn rhoi manylion am  agwedd y Cyngor at fenthyca a buddsoddi. Byddid yn dal i ddilyn strategaeth fenthyca fewnol trwy ddefnyddio’r arian sydd ar gael i ohirio benthyca allanol cyhyd ag sydd modd. Byddid yn benthyca yn unig cyn bod angen yn codi lle mae rhesymeg ariannol glir dros wneud hynny.

 

O ran buddsoddi, mae’r Cyngor yn dal i flaenoriaethu diogelwch, hylifedd ac elw yn y drefn honno a chadw cydbwysedd priodol rhwng risg ac elw.

 

Yr oedd angen isafswm o falans buddsoddi o £10m, a byddid yn dal i ymchwilio i fuddsoddiadau tymor hwy, yn aml gydag elw uwch.

 

Yr oedd yn bwysig talu sylw manwl i sylw’r Pennaeth Cyllid yn yr adroddiad, oedd yn ymdrin yn uniongyrchol â chwestiwn fforddiadwyedd, darbodaeth a chynaliadwyedd  a chadarnhau fod y strategaeth a’r rhaglen arfaethedig yn cwrdd â’r holl feini prawf.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Davies.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr

 

§  Yr oedd y Cynghorydd D Davies yn croesawu’r cynllun strategol newydd, yn enwedig am ei fod yn golygu agwedd symlach at adolygu blynyddol, o gofio’r cyd-destun ariannol anodd presennol. Fel Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar, yr oedd yn edrych ymlaen at weld y byddai’r cynllun i wella ysgolion yn parhau.

 

Penderfynwyd:

 

Fod y Cyngor yn unfrydol yn:

 

§  Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf (Atodiad 2), sydd yn ymgorffori’r rhaglen gyfalaf a gym, a’r terfynau/gofynion benthyca fydd eu hangen i gyflwyno’r rhaglen.

 

§  Cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r Dangosyddion Rheoli Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi a’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (IDR) am 2023/24. (Atodiad 3)

 

§  Fel rhan o’r uchod:

 

·          Nodi’r ddyled gynyddol, a chost refeniw yn sgil hyn, i gyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf newydd, ac oblygiadau hyn dros y tymor byr a chanol, o ran fforddiadwyedd, darbodaeth a chynaliadwyedd.

·          Nodi sylwadau’r Pennaeth Cyllid fod angen cyfyngu benthyca i’r hyn sydd ei angen i dalu am gynlluniau sydd yn digwydd yn awr a rhai a gymeradwywyd eisoes wedi eu dwyn ymlaen o’r Rhaglen Gyfalaf bresennol yn unig, a’r dangosyddion cynghorus a argymhellir ar derfynau benthyca i gyrraedd hyn.

·          Nodi’r cynnig i flaenoriaethu symiau blynyddol dros dalu am unrhyw gynlluniau newydd, oni fydd hyn yn anorfod.

·          Nodi adborth y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar 26 Ionawr 2023 (paragraff 5).

 

Dogfennau ategol: