Agenda item

Ardrethi Annomestig Cenedlaethol: Cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2023/24

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r eitem nesaf ar yr agenda, oedd yn ymdrin â chynllun rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru am 2023/24. Yr oedd hyn yn gymwys i bob busnes manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y ddinas oedd yn cwrdd â’r meini prawf cymhwyso sydd yn yr adroddiad ac yn rhoi gostyngiad o 75% mewn ardrethi. Y mae’n dilyn cynlluniau rhyddhad tebyg fu ar waith ers 2020/21.

 

Gofynnwyd i’r Cyngor gytuno i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru am 2023-24 trwy wneud y penderfyniadau priodol sydd yn yr adroddiad, yn ôl gofynion Adrannau 47(1)(a) a 47(3) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

 

Fel yr awgryma’r argymhellion, ‘adroddiad trefniadol’ oedd hwn oherwydd er mai cynllun Llywodraeth Cymru ydyw, mae’n cael ei weithredu gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio eu pwerau disgresiynol eu hunain dan adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Yr oedd defnyddio’r disgresiwn hwn yn un i’r Cyngor llawn ystyried a’i arfer, oedd yn werthfawr i’r busnesau hynny oedd yn gymwys.

 

Yr oedd y cynllun yn cael ei gyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn galluogi’r busnesau hynny yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch i elwa o’r gostyngiad o 75% mewn ardrethi busnes yn 2023-24. Yr oedd y cynllun yn ymdrin â phob busnes sydd mewn eiddo yn gweithredu yn y sectorau hyn.

 

Unwaith iddo gael ei fabwysiadu, byddai’r p?er disgresiynol yn cael ei arfer gan y Pennaeth Cyllid dan bwerau dirprwyedig. Yr oedd y penderfyniad ffurfiol wedi ei ddangos yn yr adroddiad.

 

Yr oedd y rhyddhad yn gweithio mewn ffordd debyg i gynlluniau tebyg, ac yr oedd gofyn i fusnesau wneud cais am y rhyddhad ardrethi. Yr oedd yr un cais, i’r busnesau hynny yng nghanol y ddinas, hefyd yn cael ei ddefnyddio i ganiatáu iddynt gyrchu cynllun lleol y Cyngor ei hun, ac yn rhoi rhyddhad o 25%. Byddai’n cael ei ddyfarnu’n awtomatig ar yr un pryd a dyfarniad Llywodraeth Cymru. Golygai hyn y byddai busnesau cymwys yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100% dros y flwyddyn ariannol nesaf. Anogodd yr Arweinydd bob busnes manwerthu cymwys i wneud cais am y cynllun  hwn.

 

Eiliodd y Cynghorydd D Davies yr adroddiad.

 

Sylwadau Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd D Davies y byddai’r 75% o ryddhad ardrethi yn gwneud gwahaniaeth mawr yn yr amseroedd anodd hyn gyda chefnogaeth arian Llywodraeth Cymru a Dinas-Ranbarth Caerdydd ond dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd oherwydd eu gweledigaeth a’u penderfyniad. Yr oedd y  Cynghorydd D Davies felly yn croesawu’r adroddiad.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Thomas yn gobeithio y byddai busnesau yn manteisio ar hyn i’w helpu i ffynnu a gwneud yn dda yng Nghasnewydd.  Yr oedd y Cynghorydd Thomas yn arbennig o falch gan fod canol y ddinas yn ward Stow Hill.

 

§  Ar ran y gr?p Ceidwadol, yr oedd y Cynghorydd Evans yn llawn gefnogi’r adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

Cytunodd y Cyngor yn unfrydol i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru am 2023-24 trwy wneud y penderfyniadau priodol sydd yn yr adroddiad, yn ôl gofynion Adrannau 47(1)(a) a 47(3) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Dogfennau ategol: