Agenda item

TOMs (Themâu, Canlyniadau a Mesurau) Craidd Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer Mesur Gwerth Cymdeithasol mewn Contractau

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o ‘Themâu, Canlyniadau a Mesurau’ neu ‘TOM’s’ ar weithgaredd caffael wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, a fwriadwyd i gyflwynogwerth cymdeithasoli gymunedau a’r ddinas.  

 

Yroedd yr adroddiad yn gosod allan restr faith o’r mesurau craidd i’w defnyddio wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.

 

Yroedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod y gallai’r ffordd y mae’n rheoli gwariant gyda chyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a chontractwyr wneud cryn wahaniaeth i flaenoriaethau o ran gwella lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol y ddinas trwy sicrhau gwerth ychwanegol yn y tymor hir a buddion cymdeithasol trwy wneud hyn.

 

Llwyddodd y TOMs i gael y gwerth cymdeithasol ychwanegol hwn trwy fframwaith fesur oedd yn caniatáu datgloi gwerth cymdeithasol trwy ei integreiddio i weithgaredd caffael. Datblygwyd y fethodoleg ar y cyd â Rhwydwaith Caffael Cenedlaethol CLlLC a Thasglu Cenedlaethol Gwerth Cymdeithasol Cymru, gweithgor traws-sectorol sydd yn cyfuno mudiadau o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

 

O restr o dros 90 o fesurau yn y fframwaith cenedlaethol, gweithiodd tîm caffael y Cyngor gyda swyddogion o bob adran o’r Cyngor i ddatblygu rhestr graidd o ryw 45 mesur, sefrhestr hir’ y Cyngor hwn o fesurau i’w defnyddio yn lleol.

 

Byddaitendrau’r Cyngor am gontractau yn ymgorffori nifer llai o’r rhain (rhyw 2-5 yn bennaf) sydd yn addas i natur y gwasanaethau a’r nwyddau a gafaelir,  a bydd y rhain yn cael eusgorioochr yn ochr â’r meini prawf eraill, pris ac ansawdd. Dangosir y rhain yn yr Atodiad i’r adroddiad.

 

Byddangen defnyddio mesurau yng nghyswlltôl troed carbon’ ein cyflenwyr, a’i ostwng, fel diofyn. Trwy wneud hyn, mae neges glir yn cael ei roi i’n holl gyflenwyr a phartneriaid ein bod am gynnwys gwerth cymdeithasol a buddion allweddol eraill wrth wario’r bunt yng Nghasnewydd.

 

Yn ychwanegol at y mesurau penodol hyn, byddai ein tendrau yn dweud yn glir ein bod, fel Cyngor, yn annog ein cyflenwyr yn gryf i dalu i’w staff o leiaf y ‘cyflog byw go-iawn’, ac yr oedd gwybodaeth a gasglwyd trwy TOM’s ar berfformiad cyflenwyr yn hyn o beth yn ogystal â sicrhau eumeini prawf gwaith teg’ yn gadarn, o ran sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg.  

 

Gofynnwydi’r Cabinet gymeradwyo Rhestr Graidd Cyngor Dinas Casnewydd o TOMs a gymeradwywyd ar gyfer mesur cyflwyno Gwerth Cymdeithasol trwy Gomisiynu, Caffael a Rheoli Contractau, ac adrodd yn gysylltiedig â hynny.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Yroedd y Cynghorydd D Davies yn croesawu’r adroddiad oedd yn sicrhau cyflwyno gwerthoedd cymdeithasol, yn hyrwyddo datblygu cadwyni cyflenwi lleol, ac yn ateb amcanion lles y Cyngor. Rhoddodd y  Dirprwy Arweinydd enghraifft o hyn ar waith wrth flaenoriaethu cadwyni cyflenwi lleol gyda phwyslais ar gyflogi gweithwyr lleol. Byddai hyn yn helpu’r Cyngor i gwrdd â’i amcanion niwtraledd  carbon yn y ddinas. Byddai hefyd yn cryfhau amcan allweddol un, o ran addysg a gwaith. Yr oedd mesur gwerth cymdeithasol mewn termau ariannol yn golygu bod modd gweithio allan gymhareb yr elw ar y buddsoddiad, a bod modd mesur canlyniadau mewn termau real a dealladwy.

 

§  Cofiodd y Cynghorydd Hughes gymeradwyo yn wreiddiol y fframwaith cyffredinol a aeth i’r Cyngor yn gynnar yn early 2022 ac yr oedd yn falch gyda’r adroddiad a roddwyd gerbron y Cabinet, i gefnogi gwerth gofal cymdeithasol.  Yr oedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi’r thema gomisiynu a fyddai’n creu perthynas gryfach ac yn hyrwyddo gofal cymdeithasol a gwaith gyda mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol.  Yr oedd yr adroddiad yn canoli fwy ar gymuned nac ar arian, a chymunedau iachach a mwy diogel yng Nghasnewydd. Yr oedd yn erfyn fyddai’n cydnabod uchelgais y cyngor fel sbardun i’r economi a chaffael lleol, felly yr oedd y Cynghorydd Hughes yn cefnogi’r adroddiad.

 

§  Croesawodd y Cynghorydd Forsey gyflwyno’r mesurau hyn. Nid oedd caffael yn ôl pris yn ystyried agweddau pwysig fel cefnogi pobl yn lleol. Yr oedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth hefyd yn ystyried fod yr adroddiad yn cefnogi swyddi, cyfleoedd hyfforddi ac amodau gwaith da. Tynnodd y Cynghorydd Forsey sylw at fanteision amgylcheddol y mesurau hyn. Caffael oedd un o’r ffynonellau anoddaf i daclo nwyon t? gwydr; rhai o’r gweithgareddau gwerthfawr yn y cynllun oedd effeithlonrwydd adnoddau, arbedion CO2, rheoli ecosystemau cynaliadwy a gwarchod bywyd gwyllt brodorol a bioamrywiaeth.

 

§  Yroedd y Cynghorydd Batrouni eisiau pwysleisio sut yr oedd a wnelo’r adroddiad ag amcanion lles y cynllun corfforaethol, ac yr oedd hyn yn arddangosiad o ymrwymiad cryf y Cabinet. Atgoffodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol gydweithwyr o dri o’r amcanion: economi a sgiliau addysg, amgylchedd a seilwaith, a chyngor cynhwysol, teg a chynaliadwy. Yr oedd y Cynghorydd Batrouni felly yn cefnogi’r adroddiad.

 

Penderfyniad

 

Cymeradwyodd y Cabinet Restr Graidd CDC o TOMs a gymeradwywyd ar gyfer mesur Gwerth Cymdeithasol trwy Gomisiynu, Caffael a Rheoli Contractau a’r adrodd cysylltiedig.

 

Dogfennau ategol: