Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Aelod Llywyddol yr Uwch-Arolygydd Jason White, a roddodd gyfoesiad i aelodau’r cyngor ar faterion yr Heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Llongyfarchoddyr Aelod Llywyddol yr Uwch-Arolygydd White ar ei ddyrchafiad.

 

Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i annerch yr Uwch-Arolygydd White.

 

Llongyfarchoddyr Arweinydd yr Uwch-Arolygydd ar ei ddyrchafiad.

Cyfeirioddyr Arweinydd  at nodyn briffio a anfonwyd yn ddiweddar at aelodau gan y Prif Arolygydd Davies, a oedd yn fuddiol iawn. Yr oedd yn tynnu sylw at y mannau lle’r oedd cysylltiadau’r heddlu, ac yn amlinellu’r prif faterion ledled y ddinas. Yr oedd cefnogaeth i hyn, gyda’r cynghorwyr yn cytuno fod y nodyn briffio yn dra defnyddiol. Gofynnodd yr Arweinydd a oedd yr Heddlu yn bwriadu parhau a hyn. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd y byddai’r fformat briffio yn parhau, ond y byddai rhai newidiadau ymhlith y swyddogion; yr oedd Carl Williams yn parhau fel Prif Uwch-Arolygydd , a’r Uwch-Arolygydd White yn cymryd lle Vicki Townsend.  Byddai’r Prif Arolygydd Davies yn aros yng Nghasnewydd ond yn cymryd drosodd rôl flaenorol yr Uwch-Arolygydd. Byddai Amanda Thomas hefyd yn delio a materion cymdogaeth.

 

Cwestiynaui’r Heddlu a godwyd gan y Cynghorwyr:

 

§  Yroedd y Cynghorydd Jordan am gyfleu ei ddiolch i’r Arolygydd Hannah Welty a’r tîm a fu’n delio â lladrad o siop bapur newydd yn y Betws yn ddiweddar, a arweiniodd at arést. Yr oedd Ysgol Millbrook yn y Betws wedi ei thargedu gan lanciau a dorrodd i mewn ac achosi difrod. Yr oedd y Pennaeth yn yr ysgol ar un achlysur pan dorrwyd i mewn, a llwyddodd i seinio’r larwm, gan beri i’r llanciau ffoi. Gollyngodd un llances ei phwrs, ac felly roedd modd gwybod pwy ydoedd. Torrwyd i mewn hefyd i adeilad Dechrau’n Deg, ac Ysgol Ifor Hael. Gofynnodd y  Cynghorydd Jordan am fwy o bresenoldeb yr heddlu ar droed o gwmpas yr ardal. Cytunodd yr Arolygydd i gynyddu nifer patrolau’r heddlu yn ôl y cais. Cadarnhaodd y Ditectif Arolygydd fod yr heddlu yng Nghasnewydd yn awyddus iawn i nodi troseddwyr yn fuan, a bod ganddynt record dda o ymdrin â lladradau a throseddau treisgar. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd, dros y 4-6 wythnos yng Nghanol a Gorllewin Casnewydd, fod yr Heddlu wedi nodi ac arestio 12 o unigolion, a bod gwaith atal ac ymyrryd yn mynd rhagddo. O ran y byrgleriaethau ym Millbrook a Dechrau’n Deg, dywedodd yr Uwch-Arolygydd fod yr Heddlu wedi buddsoddi’n drwm mewn system o’r enwWnawn ni Ddim Prynu Trosedd’, oedd wedi  ei hanelu at atal troseddau. Yr oedd swyddogion yn helpu i atal troseddau a chadw cymunedau’n ddiogel, gan roi cyngor ar atal troseddau a lleihau aildroseddu.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd M Howells at gerbydau’n ymgasglu a cheir yn rasio ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Yr oedd hyn yn arfer digwydd ar safle Tesco yn Spytty, a bu swyddogion yn gweithio’n galed iawn gyda chynghorwyr i ymdrin â hyn. Dywedodd y  Cynghorydd M Howells fod hyn wedi digwydd eto dros y chwe mis diwethaf, gyda llanciau yn ymgasglu yn y Velodrome ac yn rasio eu ceir. Gofynnodd y Cynghorydd M Howells i’r heddlu ymateb i hyn, a chadarnhaodd ei fod yn hapus i gwrdd â Chasnewydd Fyw i gael eu cefnogaeth. Yr oedd yr Uwch-Arolygydd yn falch o gyhoeddi fod galwadau wedi lleihau yn yr ardal honno. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd fod y cyn-Brif Arolygydd Blakemore yn arwain ar blismona oedd yn canolbwyntio ar ddatrys problemau ac yn edrych yn benodol ar broblemau ceir yn ymgynnull ar draws Casnewydd, a gwaith partneriaeth i ddatrys hyn mewn cymunedau.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Mogford ei fod yn falch o glywed fod Operation Harley yn ail-gychwyn. Aeth y Cynghorydd Mogford ymlaen i drafod e-sgwteri oedd yn teithio o gwmpas heb reolaeth, a holodd pa flaenoriaeth oedd yn cael ei roi i hyn. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd fod e-sgwter wedi ei atafaelu yr wythnos ddiwethaf yn St Julian’s, ac i unigolyn gael ei arestio am fwriadu cyflenwi sgwter. Mae hyn yn broblem i’r DU gyfan, gan fod y sgwteri hyn yn cael eu defnyddio’n aml i gyflawni troseddau. Mae e-sgwteri yn gerbydau modur, felly gellid defnyddio tactegau dan Adran 165 Deddf Traffig y Ffyrdd i atafaelu’r cerbyd lle nad oes trwydded nac yswiriant. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd fod yn rhaid ystyried cymesuredd wrth ymyrryd. Yr oedd cael darlun cyflawn trwy wybodaeth hefyd yn bwysig, gan ddefnyddio’r Timau Cymdogaeth i gael gwybodaeth er mwyn atafaelu cerbydau dan Adran 59: defnyddio e-sgwter mewn dull gwrthgymdeithasol.

 

§  Yroedd y Cynghorydd Harvey am ymddiheuro i’r Prif Uwch-Arolygydd Carl Williams am roi gwybodaeth anghywir iddo. Yr oedd y Cynghorydd Harvey wedi ymddiheuro trwy e-bost, ond eisiau datgan hyn yn y Cyngor llawn gan i’r mater gael ei godi yn y cyfarfod diwethaf.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Marshall fod yr Hwb wedi agor ddoe, gan hyrwyddo technoleg a Gwybodaeth Artiffisial (AI) i helpu pobl mewn cymunedau i aros yn eu cartrefi dan Operation Herbert. Mae hyn wedi arwain at lai o ddefnydd o adnoddau’r heddlu, er enghraifft, pan fo angen dod o hyd i rywun â dementia, neu ddefnyddio dyfeisiadau i fwrw golwg ar les pobl. Gofynnodd y  Cynghorydd Marshall a allai’r heddlu ddod draw i’r Hwb i weld y dechnoleg a’r modd y mae’n cefnogi’r heddlu a Chynghorwyr i gydweithredu a helpu cymunedau. Croesawodd yr Uwch-Arolygydd White y cyfle i staff yr heddlu ddod i’r Hwb, a chytunodd fod technoleg newydd yn allweddol i blismona ymatebol. Mae’r heddlu bellach yn cael gliniaduron, sydd wedi lleihau’r angen iddynt ddychwelyd i’r orsaf, a bod hyn yn eu helpu i fod yn fwy gweledol mewn cymunedau. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd White y gallai’r heddlu hefyd yn awr gymryd datganiadau rhithiol, yn ogystal ag wyneb yn wyneb.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at bwysigrwydd cael presenoldeb yr heddlu mewn cymunedau, sy’n tawelu meddyliau trigolion, a gofynnodd i’r Uwch-Arolygydd White roi cyfoesiad ar fod yn amlwg yn y gymuned. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd White, er bod Casnewydd yn ardal fawr i’w phlismona, petai problem arbennig mewn ward, byddai swyddogion yn cael eu galw a byddant yn amlwg yn yr ardaloedd hyn. Ychwanegodd fod ceir yr heddlu yn aml yn cael eu gweld mewn galwadau blaenoriaeth, ond rhywbeth llai amlwg i’r cyhoedd oedd y timau cymdogaeth, swyddogion traffig y ffyrdd, a swyddogion uned drylliau ar y cyd. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd fod cynlluniau patrol ar gael, yn ogystal ag elfennau eraill megis SCCH. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd White fod Operation Uplift yn golygu fod niferoedd y llu yng Ngwent wedi cynyddu o 167 o swyddogion, ac y mae Casnewydd wedi elwa o hyn.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at Deer Park House, hen adeilad ger Cyfleuster Chwaraeon Whitehead. Aeth ymlaen i ddweud fod ffens o gwmpas yr adeilad, ond fod pobl ifanc yn eu harddegau wedi malu’r ffens, ac ymddwyn yn anghymdeithasol gan gynnwys trais, tân, ymladd a chyffuriau, a’r ymddygiad anghymdeithasol wedyn yn lledaenu i Gwrt Carnegie. Holodd y Cynghorydd Jones a allai’r heddlu ymweld â’r eiddo. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd White y byddai’n siarad â’r arolygydd lleol i sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Adan am gau eiddo preswyl cysylltiedig â llinellau sirol, a gofynnodd faint o dai a gaewyd yn ardal Casnewydd oherwydd hyn. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd nad oedd ganddo’r wybodaeth, ond y byddai’n e-bostio’r manylion; fodd bynnag, yr oedd yr Uwch-Arolygydd White yn ymwybodol fod un eiddo wedi ei gau ddiwedd Mawrth yn ardal Pilgwenlli o Gasnewydd a bod gwaith ar y gweill i gau lleoliad arall.

 

Soniodd y Cynghorydd Morris fod aelodau ward Lliswerry wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar lle mynegodd trigolion bryder am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn siopau Pontfaen. Yr oedd y Cynghorydd Morris wedi esbonio i’r trigolion fod adrodd wrth yr heddlu am bob digwyddiad yn golygu y byddai mwy o wybodaeth yn cael ei gasglu a byddai modd gweithredu. Dywedodd y Cynghorydd Morris fod trigolion wedi dweud nad oedd modd iddynt gysylltu â’r heddlu, ac a allai’r Uwch-Arolygydd felly roi gwybod am ddulliau eraill o gysylltu. Dywedodd yr Uwch-Arolygydd fod gan yr holl swyddogion ward ffonau symudol, a bod manylion y swyddogion ward ar wefan Heddlu Gwent a sut i gysylltu â hwy, yn hytrach na defnyddio’r gwasanaeth 101. Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd fod patrolau unswydd yn yr ardal hon, a bod yr heddlu yn gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned i roi mesurau ataliol ar waith, megis ymwneud â phobl ifanc. Awgrymodd y Cynghorydd Spencer y gellid cysylltu â’r heddlu hefyd trwy Facebook.  Cadarnhaodd yr Uwch-Arolygydd White fod adnoddau ar gael i hyn 24/7 a’i fod yn ymatebol iawn.