I roi cyfle i Gynghorwyr ofyn cwestiynau i Arweinydd y Cyngor yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.
Proses:
Ni neilltuir mwy na 15 munud yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i Arweinydd y Cyngor.
Rhaid cyfeirio’r cwestiwn drwy’r Maer neu’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y sawl sy’n cael ei holi.
Cofnodion:
Cyn cychwyn ar gwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:
Agor y bont newydd
Yr wythnos ddiwethaf, yr oedd yr Arweinydd gyda’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AoS, a’r Maer, yn agoriad swyddogol pont teithio llesol newydd canol y ddinas.
Yr oedd y bont yn cymryd lle’r hen danffordd ac yn rhoi i drigolion ac ymwelwyr lwybr mwy diogel a hygyrch ar draws y rheilffordd. Yr oedd yn cysylltu cymunedau a chanol y ddinas, rhywbeth y dywedodd y trigolion yn glir eu bod eisiau wrth ymateb i’r ymgynghoriadau ar deithio llesol.
Yr oedd hwn yn brosiect cymhleth, wedi ei arwain gan Gyngor Dinas Casnewydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru. Codwyd y bont ar y safle gan gontractwyr ac isgontractwyr oedd oll yn gwmnïau Cymreig, oedd o les uniongyrchol i’r economi lleol a chymunedau.
Yr oedd adeiladu’r bont newydd yn gam arall ymlaen i gyflwyno cynlluniau adfywio ehangach i ganol y ddinas, a gwnaeth lawer i wella’r fan gyhoeddus o gwmpas y ganolfan drafnidiaeth bwysig hon, gan wneud yr ardal yn fwy deniadol o lawer i’r holl ddefnyddwyr. Yr oedd y gwelyau plannu yn gynaliadwy, diolch i system ddraenio oedd yn dal ac yn cyfeirio d?r atynt.
Marathon
Yr oedd yn bleser gan Gyngor Dinas Casnewydd groesau miloedd o redwyr a gwylwyr i’r ddinas ychydig dros wythnos yn ôl i farathon ABP Casnewydd Cymru a’r 10k. Nid oedd y tywydd ar ei orau yn ystod y dydd, ond yr oedd yn berffaith i’r cystadleuwyr, gan osod tair record newydd.
Yr oedd Casnewydd ar y sgrin fach eto pan gafodd y ras a’r pigion eu darlledu ddydd Gwener. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, i’r holl wirfoddolwyr lleol a’r sawl fu’n gweithio’n galed i wneud y digwyddiad yn llwyddiant.
Coroni
Yr oedd penwythnos y Coroni ar y gorwel; felly hefyd y cynlluniau am ddigwyddiadau cymunedol. Yr uchafbwynt eleni oedd y Cinio Mawr ym Mharc Beechwood, ar ddydd Sul, Mai 7 o hanner dydd tan 4pm.
Gyda chefnogaeth gan Radio Dinas Casnewydd, Gr?p Parc Beechwood a Chasnewydd Fyw, byddai cerddoriaeth fyw, diddanwyr ar grwydr, cyfleusterau chwaraeon a chrefft i’r teulu cyfan.
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi y byddai’r Cyngor yn gallu cefnogi partïon stryd eto eleni. Yr oedd ceisiadau yn cael eu prosesu, a byddai’r rhai llwyddiannus yn cael eu cefnogi gyda rheoli traffig ar y dydd.
Yr oedd mwy o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau adeg y Coroni ar gael ar ein gwefan.
Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru
Wedi’r coroni, y digwyddiad mawr nesaf oedd Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru.
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi mai yng Nghasnewydd y cynhelid y digwyddiad eleni ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau.
Byddai’r diwrnod yn cychwyn am 10am gydag arddangosfeydd milwrol ar lan yr afon, a mudiadau fel y Lleng Brydeinig, y Gymdeithas Forwrol Frenhinol, Help for Heroes, Canolfan Cyn-Filwyr Casnewydd, GAVO a llawer mwy, gyda stondinau yn y theatr a’r ganolfan gelfyddydau.
Byddai gorymdaith yng nghanol y ddinas dan arweiniad Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Gatrawd Gymreig Frenhinol, a byddai Tîm Arddangos Parasiwtiau Tigers y Fyddin yn “galw i mewn” i rywle yng nghanol y ddinas.
Byddai gweithgareddau canol y ddinas yn gorffen am 3pm ond byddai cyngerdd am ddim yn Rodney Parade o 4pm tan 6pm.
Croesawodd yr Arweinydd gefnogaeth cydweithwyr i’r diwrnod clodfawr hwn pryd y gallai’r cyngor, ei gymunedau, a phobl o fannau y tu hwnt ddangos eu diolchgarwch i bawb sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’r cyn-filwyr. Byddai cydweithwyr yn y Cyngor yn edrych ymlaen at i aelodau o’r lluoedd arfog, cyn-filwyr, trigolion, ac ymwelwyr ymuno a hwy ar yr achlysur pwysfawr.
Am fwy o wybodaeth a’r cyhoeddiadau diweddaraf, awgrymodd yr Arweinydd gadw golwg ar wefan y Cyngor a’r cyfryngau cymdeithasol.
Digwyddiad costau byw a thlodi ysgolion
Ar ddydd Mercher, 26 Ebrill, byddai’r Cyngor yn cynnal digwyddiad costau byw arall i gynnig cefnogaeth i drigolion Casnewydd.
Cynhelir hyn yn Theatr y Riverfront a’r Ganolfan Gelfyddydau, a gallai aelodau’r cyhoedd alw heibio ar unrhyw adeg rhwng 10am a 6pm.
Bu cannoedd o bobl leol mewn digwyddiad cyffelyb fis Tachwedd diwethaf. Yr oedd y Cyngor eto wedi ymuno â mudiadau gan gynnwys Cyngor ar Bopeth Casnewydd, Age Cymru Gwent, Cartrefi Melin, Undeb Credyd Casnewydd, Wastesavers a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Byddai’r digwyddiad yn groesawgar, cynhwysol ac anffurfiol. Gallai pobl bicio i mewn i gael sgwrs gyda rhywun neu ddim ond edrych o gwmpas, a byddai te a choffi am ddim, a gweithgareddau i’r plant.
Yn yr un modd, roedd y Cyngor hefyd yn gweithio gydag ysgolion i wneud gwahaniaeth i fywydau plant o aelwydydd incwm isel.
Cafodd strategaeth newydd ei lansio yn ddiweddar i gymryd agweddau unswydd, wedi eu targedu, a rhai cyffredinol i fynd i’r afael â phob agwedd o dlodi oedd yn cael effaith ar blant a’u teuluoedd.
Nod y strategaeth oedd dileu’r rhwystrau a allai effeithio ar addysg plentyn. Cafodd pob ysgol gyflwyniad gan Blant yng Nghymru am gymryd agwedd ysgol-gyfan, a thrwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, byddai llawer o gyngor a chefnogaeth ar gael i ysgolion, disgyblion a theuluoedd.
Cafodd yr Arweinydd y fraint o fynd i Ysgol Gynradd St Julian yr wythnos ddiwethaf, lle cyflwynodd y plant yr Arweinydd i’r Big Box Void. Archfarchnad fechan oedd hon, mewn cynhwysydd allforio ar safle’r ysgol. Yr oedd y cynhwysydd a nwyddau trydanol mawr wedi eu cyflenwi gan Lywodraeth Cymru. Ymunodd ysgolion eraill yng Nghasnewydd â’r fenter hon, oedd â dau nod: lleihau gwastraff bwyd, a gwneud bwyd yn fforddiadwy i’r gymuned. Daeth y rhoddion gan staff a theuluoedd a chan siopau lleol. Yr oedd yno hefyd gnydau a dyfwyd yn y twneli poly, oedd yn golygu bod y plant wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorwyr D Davies ac M Spencer am eu hymwneud. Yr oedd y siop hefyd yn cadw clytiau babanod, past dannedd, nwyddau hylendid ac eitemau eraill i’r cartref, a siop talu-fel-y-teimlwch ydoedd. Yr oedd hyn yn ymdrech gymunedol enfawr gan Ygsol Gynradd St Julian, ac yr oedd yr Arweinydd yn falch o ymdrechion yr holl ysgolion yng Nghasnewydd.
Ail-agor y Llyfrgell, Amgueddfa a’r Oriel Gelf
Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, y mae adeilad y Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn Sgwâr John Frost wedi ail-agor wedi rhaglen waith fawr a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru i greu lle i dimau ychwanegol o’r Cyngor.
Gall trigolion yn awr gyrchu amrywiaeth o wasanaethau yng nghanol y ddinas.
Gan wneud llawer gwell defnydd o adeilad oedd ym meddiant y Cyngor, yr oedd y cynllun yn cynnwys swyddfeydd newydd; ystafelloedd lle gellid cynnal apwyntiadau gyda’r trigolion, a chyntedd llawer mwy golau a mwy croesawgar.
Yr oedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar beth o waith celf unigryw yn yr adeilad. Llwyddodd Urban Circle i gael cyllid i’r prosiect, ac yr oedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at weld arddangos y gwaith hwn yn fuan.
Cwestiynau i’r Arweinydd
Cynghorydd M Evans:
Mae un o bob saith o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth, ac y mae hyn yn cynnwys miloedd o bobl Casnewydd. A oedd yr Arweinydd felly yn erbyn neu o blaid cynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth twristiaeth, ac a allai esbonio’r rhesymau pam.
Ymateb:
Teimlai’r Arweinydd fod twristiaeth yn agwedd bwysig o economi Cymru a bod lletygarwch yn rhan o dwristiaeth. Yr oedd gan Gasnewydd lawer i’w gynnig, ac yr ydym hefyd yn cefnogi datblygu mwy o lefydd gwelyau, a’r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol. Mae gennym hefyd ein hasedau treftadaeth gan gynnwys y Bont Gludo a Chaerllion, ac y mae ein hanes Rhufeinig yn ddi-ail. O ran y dreth twristiaeth, byddai hyn yn cael ei adael i ddoethineb bob awdurdod lleol unigol; yr oedd hwn yn bwynt allweddol gan ei fod yn galluogi’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i benderfynu ar hyn fesul achos. Mater i’r Cyngor llawn oedd trafod a ddylid cyflwyno treth twristiaeth.
Ategol:
Mae cynghorau eraill yng Nghymru wedi gwneud datganiadau cyhoeddus am dreth twristiaeth, pam nad ydym ni wedi gwneud hyn eto?
Ymateb:
Ni fyddai’r Arweinydd yn gwneud datganiad hyd nes y ceid dadansoddiad llawn o’r holl dystiolaeth, gan gynnwys y wybodaeth ariannol am hyn. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr Arweinydd y gefnogaeth wych a roddir gan y Tîm Cefnogi Busnes i bob busnes ledled Casnewydd, gan gynnwys y rhai mawr, bach a chanolig. Y mae’n bwysig cydnabod fod y Cyngor hwn yn cefnogi busnesau, ac y mae hyn yn cael ei ddangos trwy elfen ddewisol y dreth fusnes, a’r ad-daliad gan Lywodraeth Cymru. Byddai’n rhaid i’r wybodaeth ar y pwnc a godwyd gan y Cynghorydd Evans fod yn seiliedig ar dystiolaeth.
Cynghorydd Morris:
Ai’r unig ffordd i wneud apwyntiad ar gyfer y domen oedd ar-lein?
Ymateb:
Dywedodd yr Arweinydd nad dyma’r unig ffordd ac y gallai trigolion hefyd wneud apwyntiad wyneb yn wyneb. Gallai trigolion fynd i’r llyfrgell, yr amgueddfa a’r hybiau i gael gwybodaeth.
Cynghorydd Hourahine:
Ym mis Ionawr, cafwyd dau ddiwrnod o ymwneud â’r cyhoedd yng Nghasnewydd, yn ystod y broses gyllidebu. A oedd yr Arweinydd yn ystyried y byddai unrhyw fudd o fabwysiadu agwedd o’r fath gyda dosbarthu cyllid?
Ymateb:
Byddai llawer o gynghorwyr yn ymwybodol o’r gwaith cyfranogol ar y gyllideb a arweiniwyd gan y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf, a diolchodd yr Arweinydd i gydweithwyr ar y cyngor am waith a wnaed o ran amlygu a chadarnhau ceisiadau a wnaed gan drigolion.
Cytundeb partneriaeth oedd hwn gyda BIPAB a Phartneriaeth Un Casnewydd. Ffordd ydoedd o alluogi cymunedau i gyrchu adnoddau nad oeddent yn cael eu cyfarwyddo gan y Cyngor. Cychwynnodd hyn tua dechrau’r pandemig. Byddai cydweithwyr yn cofio, ar ddiwedd y pandemig, fod y Cyngor wedi cyflwyno gwerth £0.5M o gynllun cymunedol i adfer o covid, wedi ei ddosbarthu trwy’r cynllun cyllidebu cyfranogol. Eleni, nod y rhaglen oedd adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn, gwella iechyd a lles pobl, ymdrin ag anghydraddoldeb, mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd, a gwneud Casnewydd yn lle gwell i fyw. Cwblhawyd pedair rhaglen mewn cyllidebu cyfranogol, ac awgryma’r dystiolaeth fod hon yn ffordd dda iawn o neilltuo arian. Yr oedd sefydliadau oedd yn bartneriaid hefyd wedi darparu arian ychwanegol. Yr oedd hon yn ffordd bwysig o hwyluso cyfranogi, ac yn ddull o gael dinasyddion i benderfynu lle’r oedd arian cyhoeddus yn mynd, ac yr oedd yn helpu partneriaid a chynrychiolwyr cymunedol i gymryd rhan. Bu’r Arweinydd yn ddiweddar yn Fforwm Menywod Casnewydd lle’r amlygwyd storïau o lwyddiant. Yr oedd gwaith prosiect hefyd yn digwydd ym Mhilgwenlli, gyda rhai a lwyddodd i dderbyn yr arian hwn. Nid yn unig y mae’n ffordd effeithiol o ddosbarthu arian, ond y mae’n ddull o adeiladu cyfalaf cymdeithasol ac yn cynyddu hyder mewn sefydliadau cyllido a grwpiau cymunedol. Bu hyn yn boblogaidd, ac yr oedd ymhell dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y sesiynau hyn, ac yr oedd yr Arweinydd yn falch o’r Tîm Partneriaethau, a arweiniodd y ffordd yn hyn. Yr oedd yn esiampl o ran dosbarthu cyllid ledled Cymru a’r DU.