Agenda item

Strategaeth Gyfranogi: Cyfarfodydd Ward

Cofnodion:

Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r Fframwaith arfaethedig ar gyfer ail-gyflwyno Cyfarfodydd Ward fel dull gwerthfawr o ymwneud â thrigolion.

 

Yroedd yr adroddiad yn ceisio caniatâd y Cyngor i fabwysiadu’r  fframwaith fyddai’n gosod allan amlder, trefn busnes a darparu cefnogaeth i Gyfarfodydd Ward.

 

Ym mis Mai 2022, gwnaeth y Cyngor ymrwymiad i gefnogi trigolion i ymwneud mwy mewn penderfyniadau, ac annog mwy o amrywiaeth yn y sawl sy’n gwneud penderfyniadau trwy fabwysiadu Strategaeth Gyfranogi.

 

Dan y strategaeth hon, nod y Cyngor oedd adeiladu ar y rhaglen bresennol o ymwneud ac ymgynghori â’r cyhoedd i gael gwell cyfranogiad  yn y prosesau democrataidd.

 

Dangosodd adborth o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyfranogi fod y trigolion eisiau i’r Cyngor ymchwilio i ddulliau amgen o ymgynghori, ac yr oedd Cyfarfodydd Ward yn un o’r sawl ffordd y gall y Cyngor gefnogi dwyn y cyhoedd i mewn i wneud penderfyniadau.

 

Wrthddatblygu’r fframwaith arfaethedig, amlygodd aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y nodweddion allweddol a oedd yn eu barn hwy yn rhan hanfodol o drefniadau cyfarfodydd ward; yr oedd y nodweddion hyn yn helpu i sicrhau bod trigolion yn cael cyfle i ymwneud  â phenderfyniadau pwysig, ac i osod eu hagenda eu hunain, gan adlewyrchu’r materion oedd yn bwysig i bob cymuned.

 

Mae diffinio fframwaith y cytunir arno am y cyfarfodydd ward, sydd yn cynnwys dau Gyfarfod Ward y flwyddyn gyda chefnogaeth lawn i bob ward, yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i ymwneud â’r trigolion ar benderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar eu cymunedau mewn modd amserol.

 

Byddaidefnyddio un o’r cyfarfodydd ward rheolaidd i ganolbwyntio ar osod cyllidebau a chefnogi trigolion i ymwneud â’r r broses hon wyneb yn wyneb yn annog adborth gwerthfawr ac ystyrlon fyddai’n llunio canlyniadau’r penderfyniadau a wneir.

 

Hefyd, byddai ai gyfarfod ward gyda chefnogaeth, oddeutu chwe mis wedi’r cyfarfod ward i osod cyllideb, yn gyfle pellach i hyrwyddo ymwybyddiaeth o swyddogaethau’r Cyngor gan gynnwys crynodeb o gynnydd yn erbyn amcanion a phrosiectau allweddol.

 

Lle byddai Aelodau yn dymuno cynnal trydydd cyfarfod mewn blwyddyn, byddai cefnogaeth weinyddol yn cael ei roi o ran archebu lleoliadau addas mewn cymunedau i gyfarfodydd ward, ond ni fyddai cefnogaeth gan swyddogion yn y cyfarfodydd hyn.

 

Pwyntpwysig yw y byddai’r ddau gyfarfod ward gyda chefnogaeth yn gyfle i’rtrigolion osod eu pwyntiau trafod eu hunain, felly gallai’r gymuned helpu i osod agenda fyddai’n llwyfan i drafod yr hyn sydd o bwys yn eu cymuned.

 

Tra byddai’r fframwaith arfaethedig yn cefnogi cyfarfodydd ym mhob ward petae angen, mater i aelod/au y ward fyddai pennu a ddylid  cynnal cyfarfodydd ward yn eu cymuned hwy.

 

Efallai y byddai’n well gan Aelodau gyfathrebu gyda’u trigolion mewn ffordd wahanol, megis cymorthfeydd ward, gwaith achos, e-byst neu gyfryngau cymdeithasol, er enghraifft.

 

Yroedd Cyfarfodydd Ward yn ddewis y gellir ei ddefnyddio i wella cyfathrebu, ond ni fyddant yn cymryd lle unrhyw ddulliau eraill o ymwneud â chymunedau oedd ar gael i’r Cynghorwyr.

 

Yroedd y fframwaith arfaethedig yn cefnogi datblygu mwy o ymwneud â’r trigolion yn y tymor hir fel y gall y Cyngor barhau i rymuso’r gymuned fel rhan o wneud penderfyniadau ac o’r prosesau democrataidd.

 

Yroedd y Cynghorydd Al-Nuaimi yn falch fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi penderfynu ail-gychwyn y cyfarfodydd ward wedi i’r pandemig dorri ar eu traws a’u hatal. Yr oedd gan y Cyngor hwn record falch o arloesi gyda chyflwyno’r cyfarfodydd hyn, dros 25 mlynedd yn ôl. Yr oeddent yn fforymau trafod ac ymwneud gyda’n trigolion, gan ganiatáu iddynt ddweud eu dweud ar faterion yn eu cymunedau, gan gynnwys materion plismona a chyflwyno gwasanaethau’r Cyngor.

Serchhynny, yr oedd y Cynghorydd Al-Nuaimi braidd yn siomedig gyda’r hyn oedd yn ymddangos fel cyfyngiadau ar reoli pwrpas cyfarfodydd ward, eu hamseru, a chefnogaeth gan swyddogion i’r trydydd cyfarfod.

 

Yn ei ward ef o Stow Hill, yr oedd y trigolion wedi gweld colli’r cyfarfodydd dros y 3 blynedd ddiwethaf fel fforymau ymwneud ac fel ffynhonnell o wybodaeth.

 

Trwyddefnyddio’r fformat newydd a argymhellir yn yr adroddiad, yr oedd y trigolion a’r Cynghorydd Al-Nuaimi yn edrych ymlaen at ail-gydio yn y cyfarfodydd ward, i gymryd rhan ac i ymwneud at y dyfodol.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Evans.

 

Penderfynwyd:

 

Derbyniodd y Cyngor yr adroddiad a chymeradwyo’r fframwaith arfaethedig i’w mabwysiadu, fel y nodir yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: