Agenda item

Adroddiad Blynyddol Craffu 2021/22

Cofnodion:

Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu, y Cynghorydd Hourahine, i gyflwyno AdroddiadBlynyddol Craffu 2021/2022 i’r Cyngor. Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i’r Cyngor ac eraill sydd â diddordeb am rôl pwyllgorau craffu, a’u gwaith yn ystod blwyddyn fwrdeistrefol 2021/22.

 

Y mae Craffu yn swyddogaeth Cynghorau yng Nghymru a Lloegr ac fe’i cyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a gyflwynodd swyddogaethau Cabinet a Chraffu ar wahân mewn awdurdodau lleol.

 

Cryfhawydrôl craffu gyda phasio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Y mae’r Ddeddf hon yn mynnu bod y Pwyllgor yn adrodd yn flynyddol i’r Cyngor ar y gwaith a wnaed dros y 12 mis a aeth heibio, a’i raglen waith at y dyfodol. Ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gan graffu hefyd rôl statudol o graffu ar waith y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.

 

Egwyddorsylfaenol trefniadau Craffu oedd sicrhau fod y broses o wneud penderfyniadau yn agored, atebol a thryloyw.

 

Roedd y swyddogaeth graffu yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn cael ei gyflawni gan bedwar pwyllgor craffu, gydag Aelodau Etholedig nad oeddent yn rhan o bwyllgor gwaith y Cyngor. Yr oedd a wnelo tri o’r pwyllgorau hyn â pherfformiad dan Lle a Chorfforaethol, Pobl, a Phartneriaethau. Mae Rheoli Trosolwg a Chraffu yn ystyried polisïau, strategaethau a chynlluniau sy’n trawstorri ac yn cael effaith ar y Cyngor cyfan.

 

Yroedd yr adroddiad blynyddol yn ymdrin â’r cyfnod o Fai 2021 tan fis Ebrill 2022 a hwn oedd adroddiad blynyddol olaf y tymor pum-mlynedd yn arwain at yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, bu ail-strwythuro a olygodd fod ffurf y Cyngor wedi newid; fodd bynnag, ni chafodd hyn effaith sylweddol ar y meysydd gwasanaeth yr oedd pob Pwyllgor yn craffu arnynt.

 

Amlygoddyr adroddiad y gwaith pwysig a wnaed gan Graffu dros y flwyddyn, pan gyfarfu’r pedwar pwyllgor yn rheolaidd.

 

Yroedd Pwyllgorau Perfformiad yn ystyried cyfoesiadau rheolaidd ar gynlluniau gwasanaeth ar gyfer eu meysydd perthnasol, a defnyddiwyd y sylfaen hon o dystiolaeth i graffu ar berfformiad mewn cyd-destun ehangach. Mae cyfoesiadau’r cynlluniau gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth ariannol, cysylltiadau  ag amcanion corfforaethol, nodau lles a gwaith tuag at nodau a osodwyd y tu allan i’r Cyngor.

 

Yroedd cyfoesiadau diwedd blwyddyn hefyd yn cynnwys manylion am y modd yr ymaddasodd y Cyngor ac ymateb i’r heriau a wynebwyd gan wasanaethau a chymunedau oherwydd y pandemig, a sut y darparwyd cefnogaeth i drigolion a busnesau.

 

Gwnaednifer o argymhellion i’r Cabinet yn canmol ansawdd y cyfoesiadau, ac i hyrwyddo llwyddiannau allweddol yng Nghasnewydd fel bod trigolion yn cael gwybod am gamau oed dyn rhoi cefnogaeth yn ystod y pandemig ac ar ei ôl. 

 

Yn ystod y cyfnod hwn, derbyniodd Pwyllgorau adroddiadau am ymatebion y Cabinet i argymhellion a wnaed Pwyllgorau yn flaenorol i gynigion y Gyllideb Ddrafft, gan gynnwys buddsoddiadau, fel rhan o gylch gorchwyl Craffu o fesur ac asesu effaith a gwerth yr awdurdod.

 

Y tu allan i’r cylch adolygu perfformiad, ystyriodd y Pwyllgorau Craffu ar Berfformiad hefyd adroddiadau ar bynciau gan gynnwys Gofal Preswyl Mewnol yng Nghasnewydd gyda’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth leol oedd ar gael i blant yn derbyn gofal, y Strategaeth Adfer Economaidd sy’n rhoi manylion am gynnydd yn erbyn y cynllun i gefnogi busnesau a buddsoddiad yng Nghasnewydd, a’r gefnogaeth lles a ddarparwyd i’r staff yn y cyfnod heriol hwn. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor Craffu ar Berfformiad am Bartneriaethau Adroddiad Blynyddol y Cynllun Lles a gyflwynwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a chyflwyno’r sylwadau i’w rhannu gyda’r BGC. Yn yr un modd, craffodd y Pwyllgor hefyd y perfformiad yn erbyn Cynllun Lles 2020-21 a chyflwyno argymhellion i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w hystyried. Yr oedd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau hefyd yn asesu’r gwaith cydweithredol rhwng y Cyngor a’r Gwasanaethau Asesu Addysg, Gwasanaeth Cyd-Adnoddau a Barnardo’s fel rhan o’u hagenda.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu strategaethau allweddol a’u llunio o ran gosod allan flaenoriaethau i’r Cyngor dros y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys y Strategaeth Newid Hinsawdd a’r Strategaeth Pum-Mlynedd i Gymru, yn ogystal â chyfoesiadau ynghylch diogelu, rheoli risg a gwasanaethau digidol.

 

Gwnaedcryn gynnydd yn erbyn camau a gynlluniwyd ar gyfer y cyfnod adrodd yn ystod yr amser hwn, gan gynnwys adolygiadau i wneud yn si?r fod trefniadau craffu yn dal i gwrdd â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Gwnaeth hyn yn si?r fod craffu yn parhau i weithio’n effeithiol wrth ystyried newidiadau deddfwriaethol diweddar. Byddai hyn hefyd yn ganolbwynt i Graffu yn y cyfnod adrodd nesaf i gydnabod newidiadau i’r trefniadau craffu yn rhanbarthol ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Yroedd y Cynghorydd Hourahine yn edrych ymlaen at gadeirio’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am weddill y flwyddyn fwrdeistrefol, gan weithio gydag aelodau’r pwyllgor i roi her wrthrychol a chynhyrchiol i benderfyniadau’r awdurdod lleol. Manteisiodd y Cynghorydd Hourahine hefyd ar y cyfle i ddiolch i gydweithwyr craffu, Aelodau Cabinet, swyddogion yr awdurdod lleol a phartneriaid am eu cefnogaeth gyson.

 

Eiliodd y Cynghorydd Routley y cynnig a llongyfarch yr aelodau craffu am eu cefnogaeth.

 

Penderfynwyd:

 

Cytunodd y Cyngor ar gynnwys yr adroddiad blynyddol fel sail i waith y Pwyllgorau Craffu yn y flwyddyn i ddod.

Dogfennau ategol: