Agenda item

Datganiad tâl a gwobr

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, gadawodd yr uwch-swyddogion y cyfarfod.

 

Cyfeirioddyr Uwch-Gyfreithiwr (Cyfreithia) ar Ddeddf Lleoleiddio 2011, oedd yn mynnu bod awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn cynhyrchupolisi datganiad tâlyn flynyddol. Y mae’r ddeddfwriaeth yn gosod allan nifer o ofynion statudol y mae’n rhaid eu cynnwys mewn unrhyw ddatganiad polisi tâl. Mae’r Polisi Tâl a Gwobr yn amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran tâl a gwobrwyo yn y Cyngor. Mae hyn yn cael ei adolygu a’i adrodd wrth y Cyngor bob blwyddyn er mwyn sicrhau ateb egwyddorion tegwch, cydraddoldeb, atebolrwydd a gwerth am arian i’r awdurdod a’i drigolion. Adolygwyd Polisi Tâl a Gwobr 2023/24, ac ni chynigiwyd unrhyw newidiadau eleni ar wahân i’r codiadau arferol mewn gwerth. Nodwyd y gwnaed  newidiadau i beth darpariaeth yn 2022/23 gyda chytundeb yr Aelod Cabinet priodol; adroddwyd am y newidiadau hyn wrth y Cabinet ac yna’r Cyngor. Byddai’r datganiad hwn yn dod i rym yn syth wedi iddo gael ei gadarnhau’n llawn gan y Cyngor. Yn ychwanegol at y cyfoesiad polisi tâl blynyddol, gofynnwyd i’r Cabinet ac yna’r Cyngor ystyried alinio’r cynnydd mewn gwyliau blynyddol a geir yn nyfarniad tâl yr NJC, a roed ddiwrnod yn ychwanegol o wyliau blynyddol i’r rhai oedd yn dod dan ddyfarniad tâl yr NJC o Ebrill 2023, i gynnwys hefyd brif swyddogion, er mwyn cysondeb.

 

Ychwanegoddyr Arweinydd fod dwy eitem yn yr adroddiad i’w hargymell i’r Cyngor llawn, oedd yn gofyn i’r Cabinet adolygu ac argymell y Polisi Tâl a Gwobr ac alinio Gwyliau Prif Swyddogion i’r Cyngor.

 

Yroedd Polisi Tâl a Gwobrwyo’r Cyngor am y gweithlu yn adroddiad blynyddol yr oedd yn rhaid i’r Cyngor ei fabwysiadu. Y mae’r polisi yn gosod allan y mecanweithiau mewnol o ran talu swyddogion y Cyngor ac yn rhoi cyfoesiad am unrhyw newidiadau ers ei fabwysiadu ddiwethaf yn 2022.

 

Yroedd unrhyw newidiadau a wnaed dros y 12 mis diwethaf wedi eu cefnogi gan y prosesau democrataidd priodol lle byddai angen, a’u nodi yn yr adroddiad.

 

Y mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor yn dal i gymharu’n ffafriol â Chynghorau eraill ledled Cymru a’r DU, a rhagwelir y byddai hyn yr un fath pan fydd y Cyngor hwn yn cyfoesi ‘r data tâl yn nes ymlaen y mis hwn. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd y gwelodd y Cyngor ostyngiad yng nghymhareb y tâl rhwng y swyddogion sy’n derbyn y cyflogau isaf a’r rhai uchaf, sydd yn golygu llai o fwlch.

 

Yroedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sut yr oedd y Cyngor yn alinio gwyliau swyddogion, a thelerau ac amodau eraill, fel rhan o ymrwymiad y  Cyngor i gytundeb statws sengl yn 2015.   Yn nyfarniad cyflog 2022/23, cafodd yr holl swyddogion, ac eithrio am Brif Swyddogion, ddiwrnod ychwanegol o wyliau fel rhan o’r dyfarniad cyflog. Er mwyn sicrhau parhad o ymrwymiad y Cyngor i statws sengl, lle bo modd, argymhellwyd y dylid alinio gwyliau Prif Swyddogion hefyd i gynnwys y diwrnod ychwanegol o wyliau a ddyfarnwyd i swyddogion y Cyngor.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Batrouni gyda’r ddwy eitem oedd gerbron y Cabinet i’w cymeradwyo. Fel y dywedodd yr Arweinydd, yr oedd lluosydd y gymhareb rhwng yr aelod staff oedd yn derbyn y tâl isaf a’r Prif Weithredwr wedi gostwng, a’r gobaith oedd mai gostwng a wnaent eto gyda’r codiadau cyflog arfaethedig, fyddai’n gwneud pethau’n fwy cyfartal i’r holl weithwyr. Soniodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol hefyd y dylai’r Cyngor ymfalchïo gyda lleihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Yr oedd pob chwartel, o’r isaf, y canol a’r uchaf â’r ganran o’r staff oedd yn derbyn y cyflog uchaf bron yn 70% yn fenywod, gyda 71% ar y canol uwch, oedd yn llwyddiant mawr. Ni fyddai’r Cyngor yn gorffwys ar eu rhwyfau, fodd bynnag, gan wneud yn si?r y byddant yn cynnal y safon uchel at y dyfodol.

 

§  Yroedd y Cynghorydd Davies yn cefnogi sylwadau cydweithwyr, a chofiodd yr adolygiad ailraddio Total Reward a gynhaliwyd yn 2015; darn mawr o waith oedd yn sicrhau’r tegwch a’r cydraddoldeb oedd wrth galon y Polisi Tâl a Gwobr. Yr oedd y ffaith fod hwn yn bolisi tryloyw a adolygwyd yn flynyddol yn rhoi hyder i’r Cabinet fod y staff yn cael eu cydnabod ym mhopeth a wnaent. Yr oedd hefyd yn dangos mwy o amrywiaeth yn y gweithlu. Gobaith yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar oedd y byddai hyn yn gosod safon i fusnesau lleol ei ddynwared.

 

Penderfyniad

 

Cabinet

1.         Adolygu ac argymell i’r Cyngor y Polisi Tâl a Gwobr er mwyn cwrdd â’r gofyniad statudol am ddatganiad polisi tâl i’w gymeradwyo a’i gyhoeddi gan y Cyngor yn flynyddol.

2.         Adolygu ac argymell i’r Cyngor alinio gwyliau Prif Swyddogion.

Dogfennau ategol: