Agenda item

Strategaeth Ddigidol

Cofnodion:

Yradroddiad nesaf a gyflwynodd yr Arweinydd oedd y Strategaeth Ddigidol am 2023 i 2027.  Pwrpas yr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r strategaeth newydd.

 

Dyma oedd ail Strategaeth Ddigidol y Cyngor, a ddatblygwyd ar adeg pan oedd technoleg ddigidol yn gynyddol bwysig i gyflwyno gwasanaethau.

 

Yroedd y strategaeth yn dilyn datblygu a chytuno ar y Cynllun Corfforaethol newydd, ac fe’i datblygwyd yn unol â dyheadau’r Cynllun Corfforaethol. Datblygwyd y strategaeth yn dilyn ymwneud helaeth â dinasyddion, busnesau, gweithwyr ac Aelodau Etholedig Casnewydd.

 

Yroedd pedair thema i’r strategaeth, gyda chamau oedd yn cefnogi un neu fwy o’r themâu:

 

§  TrawsnewidDigidol - Byddwn yn trawsnewid gwasanaethau trwy ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol sy’n effeithiol, yn hawdd i’w ddefnyddio ac wedi ei gynllunio o gwmpas anghenion y defnyddwyr.

 

§  SgiliauDigidol a Chynhwysiant - Byddwn yn datblygu sgiliau digidol ein dinasyddion, gweithwyr a’n haelodau, ac yn cefnogi gwell mynediad at dechnoleg ddigidol.

 

§  Data a Chydweithredu -Byddwn yn gwella cyflwyno gwasanaethau trwy well defnydd o ddata a mwy o gydweithredu wedi ei adeiladu ar systemau a phrosesau diogel.

 

§  SeilwaithDigidol a Chysylltedd -Byddwn yn anfon seilwaith digidol a chysylltedd gwych i’r ddinas a’r cyngor.

 

Llywiwyd y strategaeth gan egwyddorion pwysig:

 

§  Arloesol derbyn ffyrdd newydd o weithio a thechnoleg newydd

§  Gyrrir dan ddata - penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth gadarn

§  Canoli ar y defnyddiwr - defnyddwyr wrth galon yr hyn a wnawn

§  Cynhwysol gwasanaethau ar gael i gwrdd ag anghenion unigol

§  Cydweithredol cydweithio yn fewnol ac allanol

§  Diogel systemau a data yn cael eu gwarchod

§  Gwyrdd technoleg ddigidol yn cynnal dyheadau sero net y cyngor

 

Mae’rstrategaeth yn gosod allan weledigaeth y cyngor am sut y defnyddiodd dechnoleg i drawsnewid cyflwyno gwasanaethau, cefnogi gwella lles y trigolion, gwella sgiliau digidol y trigolion a galluogi busnesau i ffynnu yng Nghasnewydd.

Mae hon yn weledigaeth ddigidol uchelgeisiol sydd yn croesawu arloesedd wedi ei gyflwyno mewn partnership a’r Cyd-Wasanaeth Adnoddau a phartneriaid allweddol eraill.

 

Mae’ncydnabod yr angen am fod yn gyson wyliadwrus i warchod data’r cyngor rhag seibr-ymosodiadau a bygythiadau eraill.

 

Datblygwydcynllun gweithredu, a cheir adroddiadau blynyddol am gynnydd yn yr Adroddiad Digidol.

 

Dyma rai camau cychwynnol i’w nodi:

 

§  Gweithreduprosiect y  Gronfa Band Eang Leol (CBEL) yng nghartrefi gofal preswyl y cyngor i oedolion

§  Ail-ddatblygu gwefan y cyngor

§  Datblygudefnydd y sefydliad o ddata fel ased ar y cyd â Hwb Gwybodaeth Casnewydd (HGC)

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Yroedd y Cynghorydd Batrouni yn falch iawn o’r Strategaeth Ddigidol; bu’n broses faith, a chafwyd llawer o drafodaethau gyda chydweithwyr, ac yr oedd yn hanfodol i’r Cyngor a’i wasanaethau at y dyfodol. Yr oedd newid yn digwydd yn sydyn, ac yr oedd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol eisiau gofalu bod Casnewydd ar flaen y gad ymhlith yr awdurdodau lleol. Nid oedd y dechnoleg yn cael ei defnyddio i’r eithaf mewn llawer o sefydliadau, ond nid oedd hyn yn wir am Gyngor Dinas Casnewydd. Byddai’n drawsnewidiad diwylliannol i bawb, gan gynnwys aelodau etholedig ac uwch swyddogion.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Batrouni rôl Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gyda busnesau, i’w gwneud yn haws cyflwyno gwasanaethau i bobl. Yr oedd y Cabinet, yr Arweinydd ac uwch swyddogion wedi ymrwymo  i gynnal safle Casnewydd fel arweinydd yn y maes hwn. Yr oedd y Cyngor ar y blaen gyda Hwb Gwybodaeth Casnewydd a gallant yn hawdd arwain y DU yn y dyfodol agos. Yr oedd y  Cynghorydd Batrouni  am bwysleisio fod cynnwys y rhai nad oeddent yn gyfarwydd â thechnoleg ddigidol yn hanfodol i hyn. Gan Gasnewydd y mae’r boblogaeth ifanc sydd yn tyfu gyflymaf, ac y mae angen i’r Cyngor fod yn barod am y genhedlaeth nesaf. Y mae’r Cabinet wedi ymrwymo i’r agenda hon.

 

§  Croesawodd y Cynghorydd Davies y Strategaeth Ddigidol ynghylch cynhwysiant fel modd o gyrchu technoleg ddigidol a’r sgiliau angenrheidiol i’w ddefnyddio’n effeithiol. Yr oedd yr Amcanion lles yn canoli ar wella sgiliau, cyfleoedd am addysg a gwaith er mwyn ceisio lleihau anghydraddoldeb cyfle. Y flaenoriaeth oedd cael plant i allu cyrchu dyfeisiadau a gallu cymryd rhan mewn dysgu arlein. Gyda hyn, rhaid oedd cael y seilwaith i ganiatáu defnyddio technoleg newydd. Dylai plant fod yn ddysgwyr uchelgeisiol er mwyn dysgu sgiliau i fynd i’r farchnad swyddi o fewn ffiniau’r gymuned, oherwydd bod cwmnïau mawr rhyngwladol gydag arbenigedd digidol yng Nghasnewydd.  Yr oedd y Strategaeth Ddigidol yn hanfodol felly i beri i hyn ddigwydd.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i bawb fu’n rhan o lunio’r adroddiad, gan gynnwys y swyddogion, yr Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet. Yr oedd datblygiadau digidol yn y ddinas yn cefnogi’r trigolion mwyaf bregus a difreintiedig. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol hefyd y timau iechyd a gofal galwedigaethol oedd yn  ymwneud a’r maes gwaith hwn. Yr oedd cyfarfodydd lle’r oedd yr Aelod Cabinet yn bresennol gyda thimau gwasanaethau cymdeithasol yn aml yn crybwyll cefnogaeth ddigidol  ac AI, sy’n arwydd o’r modd mae’r Cyngor yn defnyddio hyn. Yr oedd y Cynghorydd Hughes felly’n cefnogi’r adroddiad.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Clarke at drawsnewid fel allwedd i symud ymlaen at ffyrdd newydd o weithio. O edrych ar y Strategaeth Ddigidol, yr oedd meysydd yn yr adroddiad yn cynnwys: datblygu gwefan newydd, gwella hygyrchedd dylunio yn system TG y Cyngor, gwneud y mwyaf o atebion digidol er mwyn lleihau’r defnydd o bapur, hyrwyddo a chyfeirio trigolion at wasanaethau ar-lein, cyflwyno’r cynllun benthyca dyfeisiadau tabled a chefnogi ysgolion i gyrchu dyfeisiadau. Yr oedd y rhain oll yn gamau cadarnhaol ac yn rhan fechan yn unig o’r strategaeth, oedd yn golygu bod y Cabinet, hyd yn oed mewn cyfnodau caled, yn benderfynol o symud ymlaen.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad a theimlai ei fod yn ffordd ymlaen. Yr oedd Covid wedi golygu bod llawer o’r datblygiadau digidol yn y Cyngor wedi digwydd yn gynt. Soniodd yr Aelod Cabinet dros Les Cymunedol y gall rhai pobl fod yn ofnus ynghylch defnyddio neu gyrchu systemau digidol. Yr oedd rhai â dyslecsia wedi dod yn ddiweddar at y Cynghorydd Harvey i ofyn sut y gallent ddefnyddio’r cyfarpar. Cynghorodd y  Cynghorydd Harvey hwy i ymweld â hwb cymunedol, neu holi ffrindiau neu deulu, neu ymweld â’r llyfrgell, fod rhywun yno o hyd i helpu. Y fantais gyda gwasanaethau arlein oedd eu bod yn gyflym, ac nad oedd angen aros i rywbeth ateb neu ddigwydd, ac mai’r Strategaeth Ddigidol felly oedd y ffordd ymlaen.

 

Penderfyniad

 

Cymeradwyodd y Cabinet y Strategaeth Ddigidol am 2023 i 2027.

 

Dogfennau ategol: