Agenda item

Pwysau allanol NCC - Costau Byw

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd y cyfoesiad misol am y prif bwysau allanol sy’n wynebu’r cyngor, busnesau,  trigolion, a chymunedau.

 

Yroedd aelodau yn ymwybodol fod yr argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar y ddinas, a bod hyn wedi ei waethygu gan filiau bwyd ac ynni uwch, oed dyn effeithio ar lawer o drigolion a busnesau.

 

Er bod prif achosion yr argyfwng costau byw y tu hwnt i reolaeth y cyngor, yr oedd yr adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y modd yr oedd y Cyngor yn helpu i hwyluso, cydgordio a gweithio gyda’i bartneriaid a chymunedau i liniaru rhai o’r effeithiau.

 

Anogoddyr Arweinydd drigolion oedd yn cael anhawster i gysylltu â’r cyngor am wybodaeth a chael eu cyfeirio at y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ymweld â’r tudalennu cefnogaeth a chyngor ar y wefan.

 

Byddaiaelodau’n gweld o’r adroddiad fod y cyngor yn gweld cryn nifer o ymholiadau am drigolion yn gysylltiedig â’r pwysau cyson yn dilyn cyhoeddi biliau treth cyngor.

 

Byddaibiliau trethi Annomestig Cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi toc, yn dangos y gwerthoedd trethadwy yn dilyn yr ail-brisio a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Amcangyfrifir y byddai tua chwarter y trethdalwyr yn gweld gostyngiad yn eu biliau ac y byddai nifer tebyg yn gweld cynnydd.

 

Cyflwynwydyr adroddiad hwn yng nghyd-destun codi cyfraddau llog gan Fanc Lloegr y mis diwethaf, ac nid oedd llawn effaith hyn wedi ei deimlo eto.

 

Fel Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd ein partneriaeth UnCasnewydd, yr oedd yr angen i ni weithio ar y cyd yn glir.

 

Yroedd gan Gasnewydd bartneriaethau cryf, ac yr oedd y rhain yn dal i liniaru rhai o’r effeithiau a deimlid gan y trigolion.

 

Yroedd yr adroddiad yn rhoi manylion am rai o’r ymyriadau a hwyluswyd yn ystod y cyfnod, a gwybodaeth am ymgynghoriadau gyda thrigolion, a chydweithio yn y cyfnod sydd i ddod.

 

Tynnoddyr Arweinydd sylw’r Aelodau at y digwyddiad costau byw yn Theatr y Riverfront ar 26 Ebrill oedd yn cael ei gefnogi gan lawer o bartneriaid a mudiadau, i gynnig cyngor a chefnogaeth i’r trigolion wrth reoli arian a chael yr incwm mwyaf.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Yroedd y Cynghorydd Harvey yn edrych ymlaen at y digwyddiad yn Theatr y Riverfront ar 26 Ebrill. Yr oedd digwyddiad llynedd yn llwyddiant, gyda D?r Cymru yn bresennol ac yn rhoi help ariannol i’r trigolion.  Yr oedd costau byw ar flaenau meddyliau pawb, gyda rhai teuluoedd yn cael trafferth bwydo eu plant a banciau bwyd yn mynd yn brin o fwyd. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Les Cymunedol i’r Arweinydd am gefnogi trigolion trwy eu cyfeirio at y Cyngor a’r Aelodau Cabinet er mwyn rhoi cyngor am lle i gael cefnogaeth ariannol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Harvey ei bod yn bwysig i drigolion gysylltu â’r cyngor a gofyn am gymorth oherwydd bod rhywun yno yn wastad i helpu, ac efallai nad oedd pawb yn gwybod fod ganddynt hawl i rai buddion ariannol. Anogodd y Cynghorydd Harvey y cyhoedd i fynd i’r digwyddiad yn y Riverfront i weld pa fuddion ariannol oedd ar gael.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Cynghorydd Harvey ac yr oedd am ganolbwyntio ar blant mewn ysgolion o ran amddifadedd. Bydd gan holl blant y Cyfnod Sylfaen hawl i brydau ysgol am ddim, a byddai hyn yn wir am blant CA2 ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd. Yr oedd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar, fodd bynnag, eisiau nodi, pan fo rhieni yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim, y gallent hefyd fynd at y grant amddifadedd disgyblion, oedd yn golygu y gellid cael gwisg ysgol am ddim. Gallai teuluoedd ddal i wneud cais am fuddion ysgol ychwanegol, er eu bod yn derbyn prydau ysgol am ddim. Y gobaith hefyd oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu prydau ysgol am ddim dros y gwyliau oherwydd bod teuluoedd angen y gefnogaeth hon o hyd.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn falch fod cydweithredu yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad ac yr oedd yn teimlo fod banciau bwyd y ddinas yn haeddu eu crybwyll yn arbennig wrth i’r heriau gynyddu. Soniodd yr Aelod Cabinet dros wasanaethau Cymdeithasol hefyd y gwaith eithriadol oedd yn cael ei wneud yn y Gyfnewidfa Garedigrwydd yng Nghaerllion oedd yn dosbarthu bwyd yn lleol, a hefyd waith Partneriaeth Werdd Caerllion oedd yn lansio rhandiroedd dros y penwythnos. Yr oedd yr enghreifftiau hyn o waith yn digwydd ledled y ddinas, ac yr oedd yn dangos ochr ofalgar y ddinas.

 

§  Dilynodd y Cynghorydd Lacey ymlaen o’r Cynghorwyr Harvey a Hughes i ddiolch i bawb am eu gwaith caled gyda banciau bwyd. Adleisiodd yr Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau sylwadau’r Cynghorydd Harvey am annog trigolion i fynd i’r digwyddiad yn y Riverfront ar 26 Ebrill. I’r sawl na allai fynd i’r digwyddiad hwn, yr oedd y Cynghorydd Lacey a’i chydweithwyr yn y ward yn ddiweddar wedi cyfeirio trigolion at Gyngor ar Bopeth i roi help a chyngor gyda’u harian; yr oedd hyn hefyd yn golygu y gall rhai trigolion a aeth at CAB ateb i’w problemau ariannol yn syth, ac efallai na fyddai angen cefnogaeth gan y Cyngor na banciau bwyd, oedd yn gam cadarnhaol.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Clarke ei fod ef a’r Arweinydd wedi ymweld â’r ganolfan gymunedol ym Malpas i gyflwyno wyau Pasg, ac er bod y plant wedi mwynhau’r digwyddiad, yr oedd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai yn ystyried y straen ar rieni gyda chostau byw, ac yr oedd felly am ailadrodd fod y digwyddiad yn y Riverfront ar 26 Ebrill yn bwysig iawn. Fe allai hyn leihau’r straen ac ysgafnhau peth o bryder rhieni. Os na allai trigolion ddod i’r digwyddiad, byddai modd iddynt gysylltu â’r cyngor.

 

§  Pwysleisioddyr Arweinydd fod pawb wedi ymrwymo i roi gwybodaeth i drigolion ac y byddai’r Aelodau Cabinet yn cyfeirio trigolion at gefnogaeth a ddarperid gan y Cyngor.

 

Penderfyniad

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgaredd y Cyngor i ymateb i’r ffactorau allanol ar gymunedau, busnesau, a gwasanaethau cyngor Casnewydd.

 

Dogfennau ategol: