Agenda item

Rhybudd o Gynnig: City of Sanctuary

This Council is concerned by the UK government’s illegal immigration bill which proposes to detain and later remove anyone who arrives in the UK on a small boat, meaning the Home Office will not consider any of their Asylum claims regardless of whether they have fled war or persecution for being a minority.

 

These people seeking sanctuary will then be deported back to the country they have fled from or a ‘safe’ third country. This third country could be Rwanda or another country deemed safe by UK Government but which may have a questionable record on human rights. The likely effect of this legislation will be to punish the most vulnerable people from across the world.

 

Questions have been raised surrounding the legality of the Bill and whether it is compliant with the European Convention on Human Rights (ECHR) and consistent with the 1951 Refugees Convention. The Prime Minister has also stated in writing that if you come to the UK illegally “You can’t benefit from our modern slavery protections”.

 

This Council also notes the language which has been used to support this Bill, which has the potential to cultivate and provide a platform for a culture of abuse, racism and even violence against refugees and minorities.

 

As an experienced dispersal area this council has made a firm commitment in our Corporate Plan to establish Newport as a City of Sanctuary. This Council and the people of Newport have welcomed and accepted refugees and asylum seekers. We have a proud history of integration and inclusion. Our city is a more interesting, diverse and tolerant city because of this.

 

This Council calls in to question the action of the UK Government in bringing forward this legislation, and calls upon the prime minister and his ministers to withdraw these proposals.

 

We call upon the Leader of Council to write to the prime minister in the strongest possible terms to outline our concerns.

 

We would also request the Leader of the council commits to ensuring that Newport City Council gives full support to all partners and stakeholders in Newport currently working towards City of Sanctuary status.

 

Cofnodion:

Gwahoddoddyr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Corten i gyflwyno’r cynnig, gyda’r Cynghorydd Clarke i eilio.

 

Mae’rCyngor hwn yn pryderu am Fesur Mewnfudo Anghyfreithlon llywodraeth y DU sydd yn cynnig cadw ac yna symud unrhyw un sy’n cyrraedd y DU ar gwch bychan, sy’n golygu na fydd y Swyddfa Gartref yn ystyried unrhyw rai o’u ceisiadau am loches, hyd yn oed os ydynt wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth am fod yn perthyn i leiafrif.

 

Bydd y bobl hyn sy’n ceisio lloches wedyn yn cael eu hanfon yn ôl i’r wlad y maent wedi ffoi ohoni neu i drydedd wladddiogel’. Gallai’r wlad hon fod yn Rwanda, neu wlad arall y tybia Llywodraeth y DU sydd yn ddiogel, ond a all fod â record amheus o ran hawliau dynol. Effaith debygol y ddeddfwriaeth hon fydd cosbi’r bobl fwyaf bregus o bob cwr o’r byd.

 

Codwydcwestiynau am gyfreithlondeb y Mesur ac a yw’n cydymffurfio â Chonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop (CHDE) ac yn gyson â Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi nodi’n ysgrifenedig, os dewch i’r DU yn anghyfreithlon “Na allwch elwa o’n mesurau gwarchod rhag caethwasiaeth fodern”.

 

Mae’rCyngor hwn hefyd yn nodi’r iaith a ddefnyddiwyd i gefnogi’r Mesur hwn, sydd â photensial i feithrin a rhoi llwyfan i ddiwylliant o ddifenwi, hiliaeth a hyd yn oed drais yn erbyn ffoaduriaid a lleiafrifoedd.

 

Fel ardal wasgaru brofiadol, mae’r cyngor hwn wedi ymrwymo’n gadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i sefydlu Casnewydd fel Dinas Noddfa. Mae’r Cyngor hwn a phobl Casnewydd wedi croesawu a derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae gennym hanes balch o integreiddio a chynhwysiant. Mae ein dinas yn fwy diddorol, amrywiol a goddefgar o’r herwydd.

 

Mae’rCyngor hwn yn cwestiynu gweithred Llywodraeth y DU yn dwyn y ddeddfwriaeth hon gerbron a geilw ar y Prif Weinidog a’i weinidogion i dynnu’r cynigion hyn yn ôl.

 

Galwnar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i leisio ein pryderon yn y modd cryfaf posib.

 

Gofynnwnhefyd i Arweinydd y Cyngor ymrwymo i sicrhau bod Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi cefnogaeth lawn i bob partner a rhanddeiliad yng Nghasnewydd sydd ar hyn o bryd yn gweithio tuag at statws Dinas Noddfa.

 

Sylwadaugan Gynghorwyr:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Drewett am hanes ei deulu fel un sy’n ddisgynnydd i fewnfudwyr. Cyfeiriodd y Cynghorydd Drewett am ddigwyddiad gan y Groes Goch yn Ngwesty’r Westgate ddwy neu dair blynedd yn ôl dan y teitl Rhoi Llais. Siaradodd ceiswyr lloches yn y digwyddiad am eu profiadau ers cyrraedd Casnewydd a’u balchder gyda’r croeso cynnes a gawsant, y cyfeillgarwch a wnaed, a’r cyfleoedd oedd ar gael. Dywedodd y  Cynghorydd Drewett fod gan Gasnewydd draddodiad balch o gefnogi mewnfudwyr, a’i fod yn cefnogi’r cynnig yn gryf.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Davies am ymchwil i hanes ei theulu ei hun, lle’r oedd ei hynafiaid wedi symud i’r DU am resymau economaidd, ac ar adegau eraill i ddianc rhag gwrthdaro ac erledigaeth. Dywedodd y Cynghorydd Davies nad oedd ei hanes yn anghyffredin, a’i bod yn falch o’i threftadaeth. Crybwyllodd y Cynghorydd Davies yr amgylchiadau presennol pan fo Casnewydd wedi croesawu pobl o Wrcain ac Afghanistan. Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies hefyd at y dagfa o ran prosesu ceisiadau am loches, ac yr oedd felly’n cefnogi’r cynnig.

 

§  Yroedd y Cynghorydd Lacey hefyd yn cefnogi’r cynnig ac adleisiodd sylwadau ei chydweithwyr. Dywedodd y Cynghorydd Lacey fod y dagfa o brosesu ceisiadau ym mis Chwefror wedi cyrraedd 160,000.  Yr oedd y Cynghorydd Lacey yn falch fod Casnewydd yn gweithio tuag at statws Dinas Noddfa, am ei bod yn ystyried fod Casnewydd yn ddinas drugarog oedd yn ystyried cyfraniadau a hawliau’r sawl sy’n gweithio ac yn byw yn y ddinas. Yr oedd y Cynghorydd Lacey yn llawn gefnogi’r cynnig.

 

§  Ystyriodd y Cynghorydd Whitehead fod hwn yn fater emosiynol a’i gwnaeth yn anodd i’w drafod. Dywedodd y Cynghorydd Whitehead fod Casnewydd yn ddinas amrywiol gyda record wych; fodd bynnag, mae gwasanaethau sy’n sylfaen i gymdeithas dan bwysau, gyda thai yn brif bryder. Awgrymodd y Cynghorydd Whitehead y dylid cynnal proses ymgynghori i ddwyn y trigolion i mewn. Crynhodd y Cynghorydd Whitehead y mater trwy ddweud, oherwydd bod gan y Cyngor ddyletswydd i bawb, y dylid ei drafod yn deg a thrugarog; er bod hwn yn achos teilwng, mae angen ymgynghori â’r trigolion.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Marshall fod gan Gasnewydd hanes balch o integreiddio a chynhwysiant a’i fod ef wedi gweld y ddinas yn amrywiol a goddefgar. Nododd y Cynghorydd Marshall y gwaith pwysig mae tîm rhyngwladol y Cyngor yn wneud i gefnogi pobl ifanc heb oedolion gyda hwy ac sy’n ceisio lloches, a thrwy bartneriaethau. Dywedodd y Cynghorydd Marshall y bu Casnewydd yn ddinas noddfa ers canrifoedd, a galwodd felly ar i’r Arweinydd gefnogi’r cynnig.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Forsey y cynnig ac adleisio sylwadau’r Cynghorydd Marshall, gan werthfawrogi gwaith y Prosiect Noddfa. Rhoddodd y Cynghorydd Forsey ystadegau am geisiadau yn ogystal â chwalu chwedlau am geisiadau am loches yn y DU. Teimlai’r Cynghorydd Forsey fod ceisio lloches yn hawl sylfaenol a gobeithiai y byddai pobl yn agor eu calonnau a’u ffiniau i greu cymdeithas fwy cynhwysol.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Cocks at Blac Glas ar adeilad yn Stryd Cross yng Nghaerllion oedd yn coffau plant o ffoaduriaid o Wlad y Basg yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yr oedd y Cynghorydd Cocks yn ystyried fod trigolion Caerllion yn falch o hyn.

 

§  Lleisiodd y Cynghorydd Reynolds ei wrthwynebiad i’r Mesur, gan ystyried y sefyllfaoedd yr oedd ffoaduriaid yn ffoi oddi wrthynt, ac yr oedd felly yn cefnogi’r cynnig.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Mogford ei bod yn bwysig trafod y pwnc a gwrando ar yr hyn oedd yn cael ei ddweud. Cyfeiriodd y Cynghorydd Mogford at y pwynt yn y cynnig am i’r Arweinydd ysgrifennu at y Prif Weinidog, a holi a allai’r Arweinydd ysgrifennu at ASau Casnewydd i ddechrau yn hytrach na mynd heibio iddynt a mynd yn syth at y Prif Weinidog. Ychwanegodd y Cynghorydd Mogford fod Casnewydd yn ddinas gydag adnoddau cyfyngedig, a holodd pa gefnogaeth fyddai’n cael ei gynnig i drigolion Casnewydd oedd mewn argyfwng.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Al-Nuaimi y cynnig yn llawn, gan ddweud fod Casnewydd eisoes yn ddinas noddfa. Cyfeiriodd y Cynghorydd Al-Nuaimi at ei gyfnod fel Maer yn 2006, pan ddywedodd ei fod wedi cyfarfod ag ASau i dderbyn statws Casnewydd fel dinas wasgaru. Cefnogodd y Cynghorydd Al-Nuaimi y cynnig, gan ddweud mai mewnfudwyr ddoe oedd dinasyddion da heddiw; fodd bynnag, yr oedd yn cytuno fod y cyfleusterau yn gyfyngedig, a bod yn rhaid ystyried hyn. Daeth i’r casgliad fod gan Gasnewydd ddyletswydd o ofal dros y trigolion, yn ogystal â’r rhai oedd yn ceisio noddfa.

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Morris gyda’r rhan fwyaf o’r sylwadau a wnaed, a chadarnhaodd y byddai ef a’i gydweithwyr yn y ward yn ymatal rhag pleidleisio ar y cynnig yng ngoleuni’r pwysau yr oedd trigolion yn wynebu. Argymhellodd y Cynghorydd Morris na ddylai’r Cyngor anfon llythyr at y Prif Weinidog.  Teimlai’r Cynghorydd Morris fod mewnfudwyr yn cael eu croesawu a’u cefnogi gan y trigolion, a dyfynnodd enghraifft o gynulleidfa eglwys mae’n ei mynychu, ond ei gasgliad oedd y byddai’r cynnig  yn cael effaith ar bobl Casnewydd ac y byddai felly’n ymatal.

 

§  Adleisiodd y Cynghorydd Evans y sylwadau a wnaed eisoes am y pwysau yr oedd trigolion yn eu hwynebu, a’r effaith andwyol, a soniodd am gwynion yr oedd wedi eu derbyn gan drigolion am wasanaethau’r cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Evans fod Casnewydd wedi cynnig lloches i dros 450,000 o bobl ers 2015 trwy wahanol gynlluniau, ac awgrymodd y dylai’r Cyngor gynnal refferendwm i drigolion Casnewydd i ganfod eu barn, ac yn y cyfamser, y dylai’r Cyngor ganolbwyntio ar ddarparu gwell gwasanaethau i ddinasyddion.

 

§  Cyfeirioddyr Arweinydd at y Rheolau Sefydlog sy’n caniatáu esbonio cynnwys y cynnig yn iawn, ac eglurodd y cynnig wrth gydweithwyr. Dywedodd yr Arweinydd fod Amcan 3, pwynt 6 y Cynllun Corfforaethol yn datgan y byddai Casnewydd yn ddinas noddfa, yn ceisio cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid o wahanol rannau o’r byd i ymgartrefu a dod yn rhan o gymuned Casnewydd. Yr oedd yr ymrwymiad wedi ei wreiddio yn y cynllun y cytunwyd arno ym mis Tachwedd 2022 gan holl aelodau’r Cyngor, gan gynnwys arweinwyr y gwrthbleidiau.

 

§  Aethyr Arweinydd ymlaen i ddweud ei bod yn falch o fod yn ddinesydd o Gasnewydd, a’i bod yn caru ei dinas, ei chymuned a’r fan lle’i ganed; ac adlewyrchodd am ei phrofiad cadarnhaol mewn ysgol amrywiol. Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud fod ei chydweithwyr yng Nghyngor Casnewydd oll yn caru eu cartref, cyfoeth ac amrywiaeth y cymunedau, a nododd mai braint oedd ei rôl arweinyddol, gyda’r cyfle i gwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd. Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn golygu croesawu ffoaduriaid i’n dinas fawr a gwrando ar eu hanesion o oroesi ac o wytnwch. Dywedodd yr Arweinydd y byddai yn cael mynd i Ysgol Gynradd Maendy yr wythnos hon, a oedd yn Ysgol Noddfa. Esboniodd mai ystyr hyn oedd ei bod yn cael ei chydnabod fel ysgol o groeso ac o ddiogelwch, lle’r oedd  empathi ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn cael ei feithrin. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod tua 520 o ddisgyblion yn yr ysgol, a bod tua 93% o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, gyda thros 42 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad. Dywedodd yr Arweinydd fod yr ysgol yn ddiweddar wedi derbyn achrediad fel yr ysgol Noddfa gyntaf yng Nghasnewydd. Yr oedd yr Arweinydd wedi elwa o amrywiaeth ddiwylliannol wrth dyfu i fyny ac edrychodd ar blant Casnewydd oedd hefyd yn cael yr un profiad, ac oherwydd y plant hynny a’u teuluoedd yr oedd yr Arweinydd yn falch o dderbyn y cynnig hwn.

 

§  Yroedd y Cynghorydd Reeks yn falch o gefnogi’r ddinas a chroesawodd ffoaduriaid oedd yn dod trwy’r sianeli cywir, ac ychwanegodd fod gan hyd yn oed Ddinas Noddfa derfynau. Yr oedd y seilwaith mewn argyfwng, a chyfeiriodd at yr ysgolion gorlawn. Teimlai’r Cynghorydd Reeks fod angen canolbwyntio ar dasgau beunyddiol normal y cyngor, ac felly nid oedd yn cefnogi’r cynnig.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod, fel cynghorydd, yno i gynrychioli pobl Casnewydd a chytunodd ei fod yn lle croesawgar. Lleisiodd y Cynghorydd Jones hefyd bryderon am ddiffyg cyfleusterau, oedd yn bryder i’r trigolion.

 

§  Yroedd y Cynghorydd Routley yn ystyried ei bod yn hollbwysig i’r Cyngor ymdrin â digartrefedd, tai a gofal meddygol, ac adleisiodd sylwadau cydweithwyr, ac yr oedd felly yn gwrthwynebu’r cynnig.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Hourahine hefyd am sylwadau blaenorol cydweithwyr ar y cyngor, a chefnogodd y cynnig yn gryf.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Batrouni i’r Cyng. Stowell-Corten am gyflwyno’r cynnig hwn, ac fe’i cefnogodd.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Clarke y cynnig ac amlinellodd bryderon yn y Mesur yn ogystal â’r effaith negyddol trwy gyfryngau cymdeithasol Casnewydd.  Yr oedd y Cynghorydd Clarke yn falch o fyw yng Nghasnewydd ac yn falch o’i dinasyddion.

 

§  Yroedd y Cynghorydd Stowell-Corten yn falch o gloi’r ddadl a chyflwynodd ei dadleuon, gan atgoffa pawb o bwrpas y cynnig. Adlewyrchodd y Cynghorydd Stowell-Corten ar sylwadau cydweithwyr, ac ystyriodd sefyllfa ffoaduriaid, gan ddychmygu sut y buasent hwy yn teimlo yn eu sefyllfa hwy. Manteisiodd y Cynghorydd Stowell-Corten ar y cyfle i roi gwybodaeth am y dagfa o 138,000 o geisiadau ac ystadegau a ffeithiau eraill, gan chwalu unrhyw chwedlau fyddai gan gynghorwyr am fewnfudwyr anghyfreithlon, llwybrau diogelach, a llwybrau fisa unswydd. Cyfeiriodd hefyd at sylwadau gan gynghorwyr o ran tai, ysgolion llawn, meddygon a deintyddion dan bwysau. Y mae Casnewydd yn ardal wasgaru, ac yr ydym wedi croesawu nyrsys, meddygon a deintyddion oedd gynt yn geiswyr lloches. Nid oedd ceiswyr lloches yn neidio’r ciw, ac yr oedd y rhan fwyaf o bobl a ddadsefydlwyd yn aros mewn gwlad agos i’w gwlad wreiddiol er mwyn gallu dychwelyd adref cyn gynted ag oedd modd.  Yr oedd y rhai a ddaeth i Gasnewydd yn gwneud hynny oherwydd bod ganddynt gysylltiadau yma. Mae dros 30 o ieithoedd yn cael eu siarad yn ysgolion Casnewydd a’r ardaloedd cyfagos, ac yr oedd y Cynghorydd Stowell-Corten yn falch o hyn, a’r ffaith fod ein plant yn oddefgar, yn cydymdeimlo ac yn ddinasyddion â meddyliau agored.  Gallai llawer o gydweithwyr olrhain tras eu teuluoedd yn ôl at fewnfudwyr a ffurfiodd gymysgedd o ddiwylliannau, ieithoedd a syniadau i greu Prydain a Chasnewydd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt heddiw. Yr oedd rhyfeloedd a gwrthdaro yn creu argyfyngau dynol. Byddai plant sydd yn ffoi o ryfel yn Swdan heddiw yn cael eu cadw a’u hanfon o’r wlad. Yn ffodus, ni fyddai neb sydd yma heddiw yn gorfod chwilio am noddfa yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

§  Pleidleisioddmwyafrif y Cynghorwyr o blaid y cynnig, Cafodd y cynnig felly ei basio. 

§  Galwodd y Cynghorwyr hefyd ar  i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at y Prif Weinidog yn amlinellu pryderon y Cyngor.