Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf ar yr agenda, y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion y  Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd gwerth £2.6bn oedd â’r nod o gynnal amcanion Codi’r Gwastad y Llywodraeth.

 

Yr amcanion yw:

Hybu cynhyrchedd, tâl, swyddi a safonau byw trwy dyfu’r sector preifat

Creu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus

Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, a

Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny lle nad oes cyrff lleol.

 

I wneud hyn, yr oedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn canoli ar dair blaenoriaeth buddsoddi, sef:

 

o   Cymunedau a Lle

o   Cefnogi Busnesau Lleol

o   Pobl a Sgiliau

o   Yr oedd hefyd gronfa o’r enw Multiply, oedd yn canoli ar wella sgiliau rhifedd oedolion.

 

Dyrannwyd arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar draws y DU ar sail angen a aseswyd, a derbyniodd y 10 awdurdod lleol yn Ninas-Ranbarth Caerdydd gyfanswm dyraniad o  ychydig dros £230m, a £48m yn ychwanegol ar gyfer Multiply.  Cafodd Casnewydd ychydig dros £27m ar gyfer gwariant craidd a £5.6m ymhellach ar gyfer Multiply, am y cyfnod o Ebrill 2022 tan ddiwedd Mawrth 2025.

 

I gael yr arian hwn, roedd gofyn i bob awdurdod lleol yn Ninas-Ranbarth Caerdydd ddatblygu un cynllun buddsoddi rhanbarthol. Cytunodd y Cabinet ym mis Gorffennaf 2022 i gadarnhau cyflwyno’r cynllun buddsoddi rhanbarthol gan yr Awdurdod Arweiniol.

 

Er i’r penderfyniad gael ei gymryd ym mis Gorffennaf llynedd, bu cryn oedi o du Llywodraeth y DU cyn cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi rhanbarthol a datblygu cytundebau ffurfiol ar gyfer y trefniadau llywodraethiant.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y problemau hyn wedi eu datrys, ond y collwyd rhyw 10 mis o gyflwyno Blwyddyn 1 y rhaglen. Serch hynny, gwariwyd peth o arian CFfG yn 2022/23.  Nododd yr adroddiad fod bron i £700,000 yn cael ei hawlio am Flwyddyn 1 ar gyfer sawl prosiect, a gofynnwyd i’r Cabinet gadarnhau’r gwariant hwn.

 

Er y nodwyd fod yr oedi sylweddol wedi golygu fod y gwariant yn is na chyfanswm dyraniad Blwyddyn 1, yr oedd Llywodraeth y DU wedi cydnabod hyn ac wedi cadarnhau y byddai’r tanwariant yn cael ei gludo drosodd i Flwyddyn 2.  Mae gofyn i’r Awdurdod Arweiniol gyflwyno cynllun credadwy sy’n dangos sut y gwerir yr arian a gariwyd drosodd yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae manylion pellach am hyn yn yr adroddiad.

 

Gwnaed llawer o waith i sicrhau bod y gronfa’n cael ei rheoli a’i monitro’n briodol trwy drefniadau llywodraethiant mewnol cadarn,

 

O gofio’r angen i fwrw ymlaen â chyflwyno’r Cynllun Buddsoddi Lleol, gofynnwyd i’r Cabinet gytuno i amrywiaeth o swyddogaethau dirprwyedig i swyddogion penodol, a chreu bwrdd mewnol o uwch-swyddogion perthnasol o bob rhan o’r Cyngor. Byddid yn cytuno ar brosiectau penodol trwy ymgynghori â’r Arweinydd, gan y byddai’r Aelod Cabinet dros Dwf Economaidd a Buddsoddi Strategol ac Aelodau Cabinet eraill yn cael y newyddion diweddaraf trwy gael eu briffio gan arweinyddion y meysydd gwasanaeth perthnasol.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw cydweithwyr at y Cynllun Buddsoddi Lleol arfaethedig yn Atodiad 1. Mae’r cynllun hwn yn rhestru’r prosiectau dan bob blaenoriaeth fydd yn cyflawni’r amcanion a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU.  Mae arian CFfG yn bennaf yn arian refeniw, gyda gwariant cyfalaf wedi ei gyfyngu i uchafswm o 44% o’r holl ddyraniad. Nid yw cynllun buddsoddi lleol Casnewydd ar hyn o bryd yn cynnig mwy na 40% o wariant ar brosiectau cyfalaf.

 

Ochr yn ochr â nifer o brosiectau a gyflwynir ar lefel leol, yr oedd prosbectws Llywodraeth y DU hefyd yn annog cydweithredu gyda phartneriaid allanol ar gyfer prosiectau lleol a rhanbarthol. Mae’r Cynllun Buddsoddi Lleol   yn cynnwys prosiectau a gyflwynir gan bartneriaid allanol, yn ogystal â dyraniad i brosiectau a gyflwynir ar lefel ranbarthol. Yr oedd hyn yn cynnwys comisiynu cyflogadwyedd rhanbarthol ac arloesedd busnes, Twf Ymchwil a Datblygu, a thwristiaeth.

 

Mae’r Cabinet wedi gwrando ar farn trigolion a rhanddeiliaid ac yn cydnabod fod pobl am weld buddsoddi mewn cymunedau a lle. Mae’r Cynllun Buddsoddi Lleol yn cynnig buddsoddi mewn mannau fel Parc Tredegar a Chamlas Mynwy ac Aberhonddu, yn ogystal â chefnogaeth i bartneriaid sydd eisiau buddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau chwaraeon pwysig gan gynnwys Rodney Parade a maes Criced Sir Casnewydd. Bwriedir buddsoddi yn helaeth hefyd mewn Pobl a Sgiliau i gefnogi pobl ifanc, helpu trigolion i waith a chynyddu sgiliau’r gweithlu presennol er mwyn sicrhau y gall y trigolion gyrchu swyddi da, a bod gan fusnesau weithlu gwydn gyda’r sgiliau addas. 

 

Mae Cefnogi Busnesau Lleol yn flaenoriaeth ar wahân gyda chynnig i ymestyn ac adeiladu ar y gefnogaeth a gynigir gan Grantiau Datblygu Busnes Dinas Casnewydd. Byddwn hefyd yn cefnogi busnesau trwy wreiddio egwyddorion yr economi gylchol, a hybu’r cadwyni cyflenwi ôl-ffitio fel y gall y Cyngor gadw at ei ymrwymiadau newid hinsawdd.

 

Nododd cydweithwyr y deilliannau arwyddocaol oedd i fod i ddod o’r gwahanol brosiectau. Ymysg y rhain yr oedd plannu 750 o goed newydd, creu 66 swydd newydd yn y sector celfyddydau/treftadaeth, creu 50 o fusnesau newydd, a chefnogi o leiaf 400 o fusnesau sy’n bodoli eisoes. Ymysg enghreifftiau eraill mae cefnogi dros 950 o bobl i waith a chefnogi dros 1000 o bobl i gael cymwysterau, trwyddedau a sgiliau. Dywedodd y Cabinet fod y niferoedd hyn yn rhyfeddol, gan nodi fod gan yr arian y potensial i wneud cryn wahaniaeth i’r mannau lle mae trigolion yn byw, gwytnwch busnesau a bywydau’r trigolion.  Mae nifer o ffynonellau cyllid hefyd fyddai’n grymuso grwpiau lleol i gynnal digwyddiadau ac ehangu eu gweithgareddau.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Ystyriodd y Cynghorydd Davies fod y newydd fod arian am gael ei fuddsoddi yn y ddinas yn wych, a bod ymgynghori yn digwydd gyda’r trigolion i weld beth oedd arnynt eisiau, yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau. Dywedodd y Cynghorydd Davis fod amcanion llesiant Casnewydd yn rhoi blaenoriaeth i’r economi, lles, swyddi, addysg a chynaliadwyedd. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar ei bod yn wych gweld cyflwyno’r amcanion hyn gyda buddsoddiadau mewn mannau gwyrdd, busnesau lleol a swyddi.  

 

§  Soniodd y Cynghorydd Harvey fod gan y cynllun buddsoddi lleol ar hyn o bryd 47 o brosiectau, heb gynnwys y rhai dan Multiply, sydd yn cynyddu graddau mewn mathemateg trwy 900 ymyriad. Dywedodd y Cynghorydd Harvey fod hyn yn adlewyrchu’r hyn y bu’r trigolion yn gofyn amdano, a bod y CFfG yn ymdrin â chymaint o agweddau gwahanol, o barc gwib i astudiaeth dichonoldeb am lle i gadw Llong Casnewydd. Byddai cymunedau yn gweld gwerth £30M o fuddsoddiad dros y tair blynedd nesaf, ac yr oedd y Cabinet yn ddiolchgar am hyn.

 

§  Teimlai’r Cynghorydd Hughes ei bod yn bwysig fod y cyllid yn cyd-fynd â Chynllun Buddsoddi Lleol Casnewydd a bod trigolion lleol a rhanddeiliaid yn cyfrannu. Gwelodd y Cynghorydd Hughes fod hyn wedi ei adlewyrchu yn amrywiaeth y prosiectau sy’n cryfhau cymunedau yng Nghasnewydd, a nododd hefyd fod y gefnogaeth i fusnesau lleol hefyd yn bwysig. Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol trwy alluogi’r Cyngor i wella eu cyfleusterau ac amgylchedd y ddinas yn gyffredinol, gan gefnogi egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yr oedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol felly yn llawn gefnogi’r adroddiad.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Forsey hefyd yn cefnogi dyraniad y CFfG, gan ystyried bod y rhain yn brosiectau gwych sy’n dangos yr hyn y gall y cyngor wneud, o gael y buddsoddiad. Aeth y  Cynghorydd Forsey ymlaen i ddweud y byddai’r gwaith ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu, gan gynnwys mesurau i wella’r cyflenwad d?r, bioamrywiaeth, mynediad i’r anabl ac uwchraddio’r ganolfan ymwelwyr yn cael ei werthfawrogi gan drigolion y T?-Du. Dywedodd y Cynghorydd Forsey fod llawer o’r prosiectau yn rhai da, gan gynnwys y datblygiad ym Mharc Tredegar, fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r trigolion hynny sy’n defnyddio’r parc. Yr oedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth felly yn cefnogi’r holl brosiectau ac yn croesawu’r adroddiad.

 

§  Ychwanegodd y Cynghorydd Marshall fod yr adroddiad yn gadarnhaol a’i fod yn hapus i weld ei fod yn bwrw ymlaen, gan ei fod yn dangos beth ellid ei wneud gyda’r buddsoddiad iawn. Nododd y  Cynghorydd Marshall fod y cynlluniau yn hybu nifer y swyddi yn y ddinas ac yn helpu incwm, sydd yn arbennig o fuddiol o gofio’r argyfwng costau byw, ac y byddai 400 o fusnesau yn elwa o’r CFfG. Ystyriai’r Cynghorydd Marshall mai’r peth pwysig yma oedd gwrando ar y trigolion, a fyddai yna ?r yn gweld y gwahaniaeth a ddeuai’r ychwanegiadau hyn i’r ddinas, gan gynnwys yr Academi Ieuenctid, Parc Tredegar, a hyrwyddo diwylliant y ddinas, gan gynnwys Llong Casnewydd a thwristiaeth.

 

§  Diolchodd yr Arweinydd i’r cydweithwyr am eu sylwadau, gan nodi hefyd faint yr her a’r angen i gyflwyno yn fuan. Dywedodd fod oblygiadau refeniw fyddai’n parhau unwaith i arian y CFfG ddod i ben. Fel y crybwyllwyd eisoes, mae angen trefniadau llywodraethiant a gweinyddu cadarn er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei reoli a’i fonitro’n gywir, a bod risgiau yn cael eu nodi a’u lliniaru.

 

Dewis arall yw penderfynu fod graddfa’r her yn rhy fawr, a pheidio â chyflwyno unrhyw rai o’r prosiectau a restrir yn y Cynllun Buddsoddi Lleol. Fodd bynnag, byddai hyn yn golygu colli cyfle i fuddsoddi mewn ardaloedd, cymunedau a  busnesau lleol.

 

Cynigiodd yr Arweinydd felly fod y Cabinet yn cadarnhau argymhellion yr adroddiad, a gofynnodd i’r swyddogion fwrw ymlaen gyda’r Cynllun Buddsoddi Lleol arfaethedig yn ddi-oed.

 

Penderfyniad

 

Cabinet:

1.    Cadarnhau’r cyflwyno ym mlwyddyn gyntaf y CFfG am 2022/2023 yn unig.

2.    Cymeradwyo’r trefniadau gweinyddu a llywodraethiant arfaethedig.

3.    Cadarnhau Cynllun Buddsoddi Lleol Casnewydd arfaethedig sydd yn cynnwys ystod gynhwysfawr o brosiectau a gyllidir dan CFfG am flynyddoedd 2 a 3. Nodi’r deilliannau a’r allbynnau disgwyliedig ar gyfer y ddinas, ac awdurdodi’r Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd a’r pennaeth Cyllid i hawlio’r cyllid perthnasol gan yr Awdurdod Arweiniol. 

4.    Dirprwyo awdurdod i Fwrdd mewnol CFfG, dan gadeiryddiaeth y Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd, trwy ymgynghori â’r Aelod Cabinet dros Dwf Economaidd a Buddsoddi strategol, i gytuno ar brosiectau penodol dan bob un o dair blaenoriaeth y CFfG a Multiply, ail-drefnu ac ail-asio yn ôl y galw er mwyn cyrraedd y deilliannau a’r allbynnau yn erbyn ymyriadau CFfG.

5.    Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyfraith a Safonau i baratoi, cwblhau a gweithredu’r ddogfennaeth gyfreithiol angenrheidiol er mwyn galluogi trydydd partïon sy’n gyflenwyr/darparwyr i gael eu penodi ar gyfer prosiectau mewnol a rhai a gomisiynir yn allanol, a darparu grantiau i drydydd partïon sy’n gwneud cais.

6.    Awdurdodi Bwrdd CFfG i weithredu o fewn y fframwaith ariannol a awgrymir er mwyn rheoli’r risg ariannol sy’n gysylltiedig â rhaglen y CFfG.

 

Dogfennau ategol: