Agenda item

Prif Gynllun Pillgwenlli

Cofnodion:

Trodd yr Arweinydd at yr adroddiad nesaf ar yr agenda, Prif Gynllun Pilgwenlli. Yr oedd yr adroddiad a dolen i ddogfen y Prif Gynllun wedi eu cynnwys ym mhecyn yr agenda.

 

Comisiynodd Un Casnewydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, fudiad dylunio trefol a phrif gynllunio o’r enw The Urbanists i weithio gyda phartneriaid, busnesau, a’r gymuned, i ddatblygu Prif Gynllun heriol ac uchelgeisiol ar gyfer Pilgwenlli.

 

Yroedd hyn yn dilyn pryderon a godwyd gan drigolion Pilgwenlli am nifer o broblemau yn y Ward.

 

Yroedd menter gymdeithasol o’r enw MELA Cymru hefyd yn rhan o’r gwaith ac wedi cynnal ymarferiad dwys o ymwneud â’r gymuned yn yr ardal.

 

Yroedd y cynllun yn canolbwyntio ar gyfres o Uchelgeisiau Cymunedol a hefyd yn cydnabod gwaith oedd eisoes yn digwydd yn yr ardal.

 

Gofynnwydi’r Cabinet gymeradwyo’r bwriadau strategol y Prif Gynllun,  a ddatblygwyd wedi llawer o ymwneud â thrigolion, busnesau, a phartneriaid Pilgwenlli.

 

Dechreuodd y gwaith ar y Prif Gynllun ym mis Tachwedd 2021 ac yr oedd yn cynnwys llawer o ymwneud cymunedol, gyda 51 o gyfweliadau unigol gyda rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned, 14 o ddigwyddiadau ymwneud gyda grwpiau a dargedwyd, 2650 o unigolion a gyrhaeddwyd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, a Chyswllt Pilgwenlli,  a barn a gasglwyd gan 605 o bobl o wahanol gefndiroedd.

 

Yn dilyn dadansoddi’r gofod daearyddol, darpariaeth manwerthu a gwasanaethau, mannau gwyrdd, a dangosyddion diogelwch cymunedol, ffurfiwyd tri Uchelgais Cymunedol o ganlyniad i adborth gan y gymuned a busnesau:

 

·         Gwellmannau gwyrdd a chyhoeddus

·         Gwellcynnig gan fusnesau a siopau a’r amgylchedd

·         Cymysgedd o gyfleusterau i’r gymuned ac ieuenctid

 

 

Yroedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod y gwaith oedd eisoes yn digwydd, ac a ddatblygodd dros y cyfnod. Mae hyn yn cynnwys Pilgwenlli Ddiogelach, oedd yn ail-flaenoriaethu gwaith o ganlyniad i’r ymwneud cymunedol ac sy’n dal ymlaen, dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd a Heddlu Gwent ar y cyd.

 

Yroedd y Prif Gynllun hefyd yn cynnwys gwaith i wella cyfathrebu, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, gwella tai, rhoi gwell cefnogaeth i fusnesau, a gwella’r amgylchedd ffisegol a mannau gwyrdd.

 

Cytunodd Un Casnewydd â’r Prif Gynllun a rhaid yn awr ei fabwysiadu gan bob partner.

 

Teimlai’rArweinydd ei bod yn bwysig ail-bwysleisio fod y Cabinet yn cytuno a bwriadau strategol y Prif Gynllun ac i asio penderfyniadau a wneid â dyheadau’r gymuned, fel y manylir arnynt yn y Prif Gynllun.

 

Ychwanegoddyr Arweinydd fod yn rhaid i’r Cabinet sicrhau eu bod yn dal i gydweithio fel partneriaid i nodi a denu cyllid allanol i helpu i gefnogi cyflwyno’r prosiectau allweddol a nodwyd yn y Prif Gynllun. Ymrwymiad tymor-hir yw hwn, a rhaid i’r Cabinet sicrhau eu bod yn parhau i ymwneud â’r gymuned i ddatblygu cynlluniau a pheri newid.

 

Yn bwysig iawn, ni wnaiff y Cabinet wneud addewidion rhy hael na thangyflawni i’r trigolion.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Davies fod hyn yn waith hanfodol i wella Pilgwenlli a’i wneud yn lle ffyniannus i fyw. Dywedodd ei fod yn wych gweld gwireddu uchelgeisiau’r gymuned, a chanolbwyntio ar ansawdd bywyd oedolion a phlant. Croesawodd y Cynghorydd Davies hyn, gan gynnwys blaenoriaethu cyfleusterau chwarae a rhai i ieuenctid, yn ogystal â blaenoriaethu swyddi a chreu cyfleoedd i bobl leol. Daeth y Cynghorydd Davies i’r casgliad fod hwn yn brosiect uchelgeisiol, a’i bod yn gyffrous bod yn rhan o’r daith.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Harvey at y derminoleg a ddefnyddiwyd, sefcryf nid cam’, a oedd yn ei barn hi yn chwa o awel iach, o ystyried y sylwadau negyddol a gyfeirid fel arfer at Bilgwenlli.  Dywedodd fod ei theulu hi yn byw yno, a’i fod yn wastad wedi bod yn lle bywiog. Ystyriai’r Aelod Cabinet dros Les Cymunedol fod hyn yn syniad gwych i Bilgwenlli a’i bod yn llawn gefnogi’r adroddiad.

 

§  O brofiad personol, cytunodd y Cynghorydd Hughes mai Pilgwenlli oedd un o’r llefydd mwyaf cyffrous ac amrywiol i fyw yng Nghasnewydd, o ran y bwyd, y gerddoriaeth a’r bobl. Yr oedd yn cydnabod fod heriau mawr yn bodoli, ond fod cyfle hefyd i bobl Pilgwenlli rymuso eu hunain a chyrraedd eu llawn botensial.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Clarke at yr amgylchiadau economaidd anodd, ac ystyried yr effeithiau cadarnhaol a gâi’r prif gynllun yng Nghasnewydd. Yr oedd yn falch o weld fod ymwneud cymunedol ar flaen y cynllun, a chyfeiriodd at onestrwydd dy ddogfen. Dywedodd yr Aelod Cabinet ei fod mewn cyfarfod yn gynharach yn y dydd, yn siarad ag un o’r partneriaid oedd yn rhan o’r prosiect ac a groesawodd y cyfle i roi eu barn, a theimlo fod y cyngor yn gwrando.

 

§  Dywedoddyr Arweinydd nad ymrwymiad oedd hyn i fuddsoddi ariannol, ond un oedd yn gofyn i bartneriaid asio eu penderfyniadau am wasanaethau a/neu ddatblygiadau yn ardal Pilgwenlli gyda dyheadau ac uchelgais y Prif Gynllun. Yr oedd y Cynllun yn mynnu bod partneriaid yn parhau i ymrwymo i ddefnyddio adnoddau ym Mhilgwenlli mewn ffordd fyddai’n cefnogi’r uchelgais hwn orau, ac i nodi ffyrdd o fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan y gymuned. Dywedodd yr Arweinydd fod swyddogion i fod i barhau i weithio gyda phartneriaid  i nodi a chyrchu cyllid allanol er mwyn cyflawni nod y Prif Gynllun.

 

Teimlai’r Arweinydd y dylid hefyd cydnabod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r prif gynllun, gan gynnwys y cyllid.

 

Penderfyniad

 

Cytunodd y Cabinet i fabwysiadu’r Prif Gynllun fel y sbardun strategol allweddol ar gyfer gwneud penderfyniadau a chyflwyno gwasanaethau yn ward Pilgwenlli a gofynnwyd i’r swyddogion barhau i weithio gyda phartneriaid i nodi a chyrchu cyllid allanol i gyflwyno’r Prif Gynllun.

 

Dogfennau ategol: