Agenda item

Pwysau allanol NCC - Costau Byw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y cyfoesiad diweddaraf am y prif bwysau allanol oedd yn wynebu’r cyngor, busnesau, trigolion, a chymunedau.

 

Parhau y mae’r argyfwng costau byw, gydag adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf yn dweud fod 95% o 450 o eitemau bwyd yn y fasged chwyddiant brisiau cwsmeriaid wedi codi o ran pris dros y flwyddyn a aeth heibio, a rhai o gymaint â 50%. 

 

Hefyd, yr oedd y gyfradd sylfaen yn uwch na chyfartaledd llynedd.

 

Yng nghyd-destun yr ardaloedd a nodwyd yn yr adroddiad, yr oedd gweithio ar y cyd gyda phartneriaid ledled y ddinas yn dal yn flaenoriaeth. Denodd y digwyddiad costau byw amlasiantaethol yn y Riverfront ar 26 Ebrill tua 180 o drigolion a allodd fynd at gyngor a chyfarwyddyd ar reoli arian, gwneud y mwyaf o incwm, a chael cefnogaeth gyda threuliau’r cartref.

 

Anogodd yr Arweinydd drigolion oedd yn cael anawsterau i gysylltu â’r cyngor am wybodaeth a chael eu cyfeirio at y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael: yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ymweld â’r tudalennau cefnogaeth a chynghori ar wefan y Cyngor. 

 

Fel y byddai’r Aelodau yn gweld yn yr adroddiad, canfu arolwg diweddar o banel dinasyddion Involve fod tua thri chwarter y bobl a ymatebodd (164) wedi dweud eu bod ychydig yn bryderus neu’n bryderus iawn am yr argyfwng costau byw.

 

Mae ysgolion Casnewydd yn dal i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc fwyaf bregus, ac yn cynllunio ffyrdd o gefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau hanner tymor Mai a gwyliau banc. Byddai ysgolion hefyd yn hwyluso dosbarthu gwerth saith diwrnod o dalebau bwyd i’r teuluoedd hynny sydd â hawl i ginio ysgol am ddim.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod yn fraint ymweld ag Ysgol Gynradd St Julian, lle’r oedd ganddynt y Big Bocs Bwyd oedd yn helpu i gefnogi’r teuluoedd hynny mewn angen yn yr ysgol ac yn y gymuned. Roedd y fenter yn addysgu pobl ifanc, nid yn unig am wastraff bwyd ond hefyd am gyfrifoldeb cymdeithasol a datblygu sgiliau rhifedd. Dywedodd yr Arweinydd fod hon yn fenter wych ac yr oedd wrth ei bodd gweld y byddai ysgolion cynradd eraill yng Nghasnewydd  yn rhoi menter debyg ar waith. Bu’r Arweinydd yn ymweld yn ddiweddar ag ysgol Gynradd Maendy ac yr oeddent bron yn barod i agor eu siop. Ar bob lefel, yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi ac yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu pobl. Os oedd unrhyw un yn wynebu heriau, anogodd yr Arweinydd hwy i ddod ymlaen gan fod help ar gael iddynt.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Harvey am y ffaith sobreiddiol fod 77% o drigolion yn pryderu am gostau byw, a phwysleisiodd fod yn rhaid i’r trigolion estyn allan am help gan y Cyngor. Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Arweinydd am gydnabod y gwaith sy’n digwydd yn ei phortffolio, ac yr oedd hefyd am gydnabod y gefnogaeth gan staff oedd yn gwneud eu heithaf i ofalu am bawb yng Nghasnewydd.  Gallai trigolion ffonio 01633 656656 neu gysylltu â chynghorydd eu ward am help a chefnogaeth i wneud bywyd ychydig yn llai o straen.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Davies i’r Arweinydd am grybwyll Ysgol St Julian; bu’r Aelod Cabinet yn llywodraethwr yno ers 2002 ac yn Gadeirydd ers 2007 ac yn falch iawn o hynny, yn ogystal â bod yn rhan o’r Big Bocs Bwyd. Yr oedd cefnogaeth y gymuned i’w weld ledled y ddinas, gyda llawer o ysgolion yn cefnogi teuluoedd ac yn gweithredu fel hwb cymunedol, gan ddarparu bwyd, dillad a chyngor. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch fod Llywodraeth Cymru yn darparu talebau bwyd dros ?yl banc mis Mai. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i’r Cyfnod Sylfaen, fydd yn cael ei ehangu i CA2 ym mis Medi, ond dylai rhieni wneud cais i dderbyn eu talebau. Y gobaith yw y bydd LlC yn gwrando ar anghenion trigolion ac yn parhau i beri bod y ddarpariaeth hon ar gael dros wyliau’r haf. Mae’r Aelod Cabinet yn lobïo’r Gweinidog addysg ynghylch y ddarpariaeth ychwanegol.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Forsey am ffoaduriaid Wcráin, a dweud fod y taliadau i deuluoedd oedd yn eu lletya wedi codi i £500 y mis, oedd yn gryn dipyn o help a phe teimlai unrhyw un eu bod mewn sefyllfa i gynnal teuluoedd, y gallant ddod at y Cyngor am fwy o wybodaeth.

 

Penderfyniad

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgaredd y Cyngor i ymateb i’r ffactorau allanol ar gymunedau, busnesau a gwasanaethau Casnewydd.

 

Dogfennau ategol: