Agenda item

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y gweithgaredd rheoli trysorlys am 2022/23 a chadarnhaodd fod gweithgareddau’r trysorlys yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio â’r Strategaeth Trysorlys a ystyriwyd ac a osodwyd yn flaenorol gan Aelodau.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cymharu gweithgaredd gyda’r sefyllfa diwedd-blwyddyn am 2021/22 ac yn rhoi manylion am symudiadau trwy gydol 2022-23, ynghyd â’r rhesymau dros y symudiadau hynny. Dyma’r ail o ddau adroddiad y mae’r Cabinet yn dderbyn ar reoli’r trysorlys yn ystod y flwyddyn.

 

Cyflwynodd yr adroddiad y wybodaeth a ganlyn:

 

·                Y strategaeth trysorlys y cytunwyd arni yn flaenorol.

·                Manylion am weithgaredd benthyca a buddsoddi trwy gydol y flwyddyn

·                Ystyriaethau economaidd ehangach fel y pandemig a’r hinsawdd economaidd

·                Cyfoesiad ar god Rhyngwladol y Trysorlys ar dalu am fuddsoddi masnachol

·                Golwg tymor canol i hir ar yr angen am fenthyca.

a

·                gorffen gydag archwiliad o weithgaredd yn erbyn dangosyddion darbodus, gan gadarnhau cydymffurfio.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn cadarnhau fod y Cyngor wedi buddsoddi mewn tri o fondiau gorchudd yn y flwyddyn 2022-23, cyfanswm o £10m, yn unol â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mai ac fe’i cadarnhawyd i’w ystyried gan y Cabinet, a’r Cyngor yn y pen draw.

 

Ymysg uchafbwyntiau allweddol yr oedd lefel y benthyca, sef £138.6m ar 31 Mawrth 2023, a’i fod wedi gostwng o £3.5m o gymharu â lefelau 2021-22.

 

Yr oedd y gostyngiad hwn yng nghyswllt sawl benthyciad a ad-dalwyd fesul dipyn dros einioes y benthyciad, ac adbrynu benthyciad aeddfedu Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus (PWLB) bychan ar ddiwedd Medi, nad oedd angen ei ail-gyllido.

 

Gostyngodd lefel y buddsoddiadau hefyd o £11m i £47.2m, wrth i’r Cyngor ddefnyddio’r cyfryw adnoddau fel dewis mwy cost-effeithiol i drefnu benthyca allanol newydd.

Yn yr adroddiad yr oedd dangosydd blaengar o’r enw’r Meincnod Atebolrwydd, oedd yn darlunio gofyniadau benthyca’r Cyngor yn awr ac at y dyfodol. Yn y dyfodol, byddai hyn yn cael ei rannu gyda’r Cabinet yn rheolaidd yn dilyn newidiadau diweddar yn y canllawiau. Yr oedd hwn yn ddangosydd pwysig gan ei fod yn dangos yr effaith mae penderfyniadau cyfredol ynghylch gwariant cyfalaf yn gael ar y gofyniad benthyca tymor-hir.

 

I amlygu rhai o’r pwyntiau pwysig, yr oedd y dangosydd yn dangos, rhwng 2023 a 2025, mai cynyddu wnaeth yr angen gros am fenthyca, ond fod yr angen am fenthyca gwirioneddol wedi cynyddu’n gyflymach. Y rheswm am hyn oedd bod ymrwymiadau’r Rhaglen Gyfalaf wedi ychwanegu at yr angen i fenthyca, ond ar yr un pryd, rhagwelwyd y byddai’r gallu benthyca mewnol yn gostwng wrth i gronfeydd wrth gefn gael eu defnyddio ac i lefelau buddsoddi ostwng.

 

Yn ystod yr un cyfnod, gostwng wnaeth benthyciadau mewn gwirionedd wrth i fenthyciadau gael eu had-dalu. Golyga fod cyfuniad o hyn, a’r cynnydd llym yn yr angen i fenthyca, y gall fod angen benthyciadau newydd o ryw £50m erbyn diwedd 2025.

 

Mae angen y Cyngor i fenthyca yn y tymor hir, ynghyd â’r angen i ail-gyllido benthyciadau, yn golygu y gallai’r Cyngor wynebu lefel uwch o gyfraddau llog na’r hyn a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf. O’r herwydd, bydd y Cyngor yn parhau i ohirio’r angen i gymryd benthyciadau tymor-hir cyhyd ag sy’n bosib. Y gobaith oedd, trwy gymryd yr agwedd hon, y gallai cyfraddau llog fod wedi gostwng o’u lefelau cyfredol erbyn yr amser y byddai angen benthyca o’r newydd, gan leihau rhywfaint ar yr effaith ar y gyllideb refeniw. Gwneir unrhyw benderfyniad ynghylch cymryd mwy o fenthyciadau tymor-hir pellach yn unol â chyngor  gan ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor ac yn unig lle’r oedd budd ac angen ariannol pendant o wneud hynny.

 

Yr agwedd derfynol i’w hamlinellu oedd Dangosyddion Darbodus. Yr oedd yr awdurdod wedi mesur y graddau yr oedd yn agored i risgiau rheoli trysorlys a’u rheoli trwy ddefnyddio gwahanol ddangosyddion sydd i’w gweld yn Atodiad A. Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’r Dangosyddion Darbodus a osodwyd ar gyfer 2022/23.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r staff cyllid a chyllidebu am eu gwaith yn ystod cyfnod o lawer her.

 

§  Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau’r Cynghorydd Hughes a diolchodd i’r tîm am eu rheolaeth ariannol.

 

Penderfyniad

 

Nodi’r adroddiad ar weithgareddau rheoli’r trysorlys am y cyfnod 2022-23 a rhoi sylwadau i’r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: