Agenda item

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cabinet.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol dynodedig, ei dyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fel y’i diwygiwyd, i gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cyngor.

 

Yn unol â’r uchod, yr oedd yr adroddiad yn gosod allan asesiad personol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gofal cymdeithasol dros y 12 mis a aeth heibio.

 

Adegyr adroddiad, yr oedd  y canllaw ynghylch ei fformat yn cael ei ystyried mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â’r cyfnod 2022/2023, ac ymgorfforodd y Cyfarwyddwr gymysgedd o astudiaethau achos ac enghreifftiau gan y staff i ddangos gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd yr Uwch-dîm Rheoli a ail-strwythurwyd ei wreiddio yn y gwasanaeth. Effeithiwyd yn drwm ar gyflwyno gofal cymdeithasol yn ystod 2022/2023 gan waith i adfer o’r pandemig covid, a materion costau byw.

 

Arwaethaf problemau a heriau sylweddol 2022/2023, yr oedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio a’i ddyletswyddau statudol.

 

Yroedd yr Arweinydd yn falch o nodi, ar waethaf anawsterau 2022/2023, y gallodd staff y gwasanaethau cymdeithasol edrych y tu hwnt i’r galwadau lu, a pharhau i arloesi wrth ddatblygu gwasanaethau rhagorol.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol am gynhyrchu’r adroddiad, ynghyd â phawb a gyfrannodd, gan gynnwys y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl. Dywedodd y Cynghorydd Hughes y bu hon yn flwyddyn heriol dros ben i ofal cymdeithasol, gyda chanlyniadau Covid, a galwadau ar y gwasanaethau yn cynyddu, tra nod heriau i gyllidebau a’r gweithlu yn genedlaethol. Ar waethaf hyn, teimlai’r Cynghorydd Hughes fod Casnewydd yn parhau yn arloesol ac wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau, a chanolbwyntio ar yr un pryd ar atal a chynhwysiant, a chydweithredu gyda phartneriaid, ac ar les y staff. Dywedodd y Cynghorydd Hughes mai elfen allweddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd i gefnogi trigolion yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd, a bod hyn yn amrywio o gael plant i aros gyda’u teuluoedd, i gefnogi oedolion i fyw yn annibynnol, a rhoi cefnogaeth i’r sawl sy’n gadael yr ysbyty. Yr oedd y galw am ofal a chefnogaeth yn erbyn cefndir o doriadau yn y gyllideb yn golygu ei bod yn amser anodd i’r staff, trydydd partïon a’r sector wirfoddol wrth ymdrin â phroblemau cenedlaethol fel yr argyfwng costau byw. Tynnodd y Cynghorydd Hughes sylw at y ffaith fod yr adroddiad yn rhoi sawl enghraifft lle mae Casnewydd yn arwain y ffordd ac yn cael eu cydnabod yn genedlaethol am eu cyfraniad eithriadol i ofal cymdeithasol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Hughes fod y Cyngor wedi ennill Achrediad Gofalwyr, a diolchodd i’r Cynghorydd Cockeram am ei gyfraniad tuag at hyn. Cyfeiriodd hefyd at yr Hwb Clyfar ym Marchnad Dan Do Casnewydd fel enghraifft arall o arloesi wrth ddefnyddio technoleg i gefnogi gofal a helpu i gadw trigolion allan o ysbytai. Tynnodd y Cynghorydd Hughes sylw hefyd at D? Oakland, a gafodd gydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith eithriadol, a theimlai fod y teuluoedd a’r gofalwyr yno yn haeddu clod. Manteisiodd y  Cynghorydd Hughes hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Arweinydd a chydweithwyr, yn enwedig y Cynghorydd Marshall, am eu hymrwymiad i’r agenda gofal cymdeithasol. Teimlai mai cryfder y gwasanaeth oedd brwdfrydedd ac ymrwymiad y 870 aelod staff, sydd yn dîm gwych ac yn haeddu diolch. Cadarnhaodd y  Cynghorydd Hughes mai blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor oedd edrych ar ôl y staff, gan nad oedd llawer o bobl yn deall cymhlethdod gwaith mewn gofal cymdeithasol ac effaith hyn ar staff a’u teuluoedd. Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol asiantaethau gwych sy’n bartneriaid, a sector wirfoddol ym maes gofal yn y ddinas. Yn yr amseroedd heriol hyn, dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn falch o’r gwasanaeth a diolchodd eto i Sally-Ann Jenkins, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r tîm arweinyddol, am bopeth a wnaed eleni.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Marshall hefyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol am adroddiad cynhwysfawr. Soniodd y Cynghorydd Marshall fod gan y Cyngor dîm ymroddedig a rhagorol dan arweiniad Cyfarwyddwr effeithiol. Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol rai pwyntiau o’i bortffolio, sef cefnogi plant i aros yn ddiogel gyda’u teuluoedd, edrych ar waith ataliol sy’n cael ei wneud fel awdurdod lleol, partneriaethau effeithiol, gofal maeth, a chefnogi mudiadau fel Barnardo’s a phartneriaid eraill. Aeth y Cynghorydd Marshall ymlaen i ddweud fod y gwobrwyon a amlinellir yn yr adroddiad yn destament gwirioneddol i’r adran. Dywedodd y Cynghorydd Marshall, er y bu’n 12 mis anodd, fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cymryd agwedd drawsnewidiol at wasanaethau a chynnal prosiectau cyffrous at y dyfodol gan ddefnyddio arian grant. Soniodd y Cynghorydd Marshall am brosiectau fel ail-ddatblygu gwasanaethau teulu dan oruchwyliaeth yn Cwtch, a gwella’r ymateb sydyn fel enghreifftiau o ddiwygio radical.

 

§  Diolchoddyr Arweinydd Aelodau’r Cabinet am Wasanaethau Cymdeithasol am eu stiwardiaeth a’r adroddiad ei hun; dywedodd fod hyn yn rhoi llawer o wybodaeth, a bod yr astudiaethau achos yn gweithio’n dda i amlinellu’r gwaith a wnaed. Ystyriodd yr Arweinydd fod yr adroddiad hwn yn dangos gwir werth y timau ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol. Soniodd yr Arweinydd hefyd am waith caled gofalwyr a’u rôl yn y ddinas, yn ogystal â’r holl wirfoddolwyr am eu cyfraniad gwerthfawr, yn enwedig gan ei bod yn Wythnos Gofalwyr. Yn gyffredinol, roedd yn dda nodi, ar waethaf yr heriau, fod y staff yn edrych y tu hwnt i’r galw tymor-byr ac yn parhau i ddatblygu gwasanaethau. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei chyfarwyddyd a’i harweiniad.

 

Penderfyniad

 

Cabinet:

 

1.    Nodi adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.    Sylwiar gynnwys adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ategol: