Agenda item

Adroddiad Diogelu Blynyddol

Cofnodion:

Yreitem nesaf a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd yr Adroddiad Diogelu Blynyddol. Yr oedd yr adroddiad hwn yn werthusiad o berfformiad 2022/23 gan yr awdurdod lleol gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.

 

Cadarnhaoddyr Arweinydd mai adroddiad interim oedd hwn oherwydd newidiadau yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru  a chydamseru’r cylch adrodd. Byddaiadroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn gynnar y flwyddyn nesaf, a ychwanegir at y Rhaglen Waith.

 

Diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion bregus yw’r flaenoriaeth uchaf i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn gosod allan ddyletswydd ac ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu a hyrwyddo iechyd, lles a hawliau dynol oedolion a phlant mewn perygl.

 

Mae’radroddiad hwn felly yn asesu’r camau a gymerodd y Cyngor a’u hymateb i ddiogelu.

 

Cyflwynwydyr adroddiad i’r Pwyllgor Goruchwylio a Rheoli Craffu ar 2 Mehefin 2023. Yr oedd yr Arweinydd  yn falch o adrodd fod trafodaeth adeiladol a buddiol ymysg aelodau’r Pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad.

 

Nododdyr adroddiad yr heriau oedd yn cael eu hwynebu ledled y Cyngor ynghylch diogelu oherwydd bod pwysau Covid a chyfyngiadau’r pandemig yn dal i gael effaith.

 

Parhaodd Hwb Diogelu y Gwasanaethau Plant i weld cynnydd mewn cyfeiriadau yn ystod y cyfnod hwn. Y mae hyn yn adlewyrchu’r problemau mewn ysgolion, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau ieuenctid, ac i asiantaethau sy’n bartneriaid i’r Cyngor. I’r plant a’u teuluoedd, mae agwedd ddiogelu effeithiol a chadarn yn hanfodol ac fe allai newid bywydau. Yr oedd cyfeiriadau yn dod yn bennaf o’r heddlu ac addysg/ysgolion.

 

Arwaethaf y pwysau, dangosodd canlyniadau’r hunanasesiad diogelu lefel uchel iawn o gydymffurfio â gofynion statudol a phenderfyniad i barhau i roi’r flaenoriaeth uchaf i ddiogelu i’n holl ddinasyddion ym mhob maes o’r Cyngor.

 

Mae’rCyngor yn parhau i werthuso Diogelu Corfforaethol, gan sicrhau bod y strwythurau llywodraethu ac adrodd yn gadarn ac yn addas at y diben ar y rhagdyb fod diogelu yn fusnes i bawb yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Llongyfarchodd y Cynghorydd Marshall swyddogion am lunio’r adroddiad, a oedd yn ei farn ef yn ein hatgoffa nid yn unig o gyfrifoldeb y Cyngor i amddiffyn aelodau bregus cymdeithas, ond cyfrifoldeb pawb yn y Cyngor hefyd. Teimlai’r Cynghorydd Marshall mai peth da oedd gweld trefniadau cadarn yn eu lle, i gefnogi’r hwb diogelu a’r modd yr oedd ymchwiliadau yn cael eu cynnal. Tynnodd y Cynghorydd Marshall sylw hefyd at y mesurau atal ac ymyrryd oedd yn effeithiol, ac yn helpu’r Cyngor i fynd ati i ymdrin â phroblemau cyn iddynt waethygu. Crybwyllodd y Cynghorydd Marshall hefyd waith oedd yn cael ei wneud ar lefel Ranbarthol Gwent; gyda’r adroddiad  yn canolbwyntio ar gydweithredu mewn partneriaethau a chynllun gweithredu ar y cyd am ddiogelu corfforaethol trwy gyfarfodydd rheolaidd. Dywedodd y Cynghorydd Marshall fod hwn yn faes anodd i weithio ynddo, a diolchodd i’r staff.

 

§  Ategodd y Cynghorydd Hughes eiriau’r Cynghorydd Marshall fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb, a diolchodd i staff y cyngor am eu holl ymdrechion. Soniodd yr Aelod Cabinet fod Casnewydd yn dal i fyw yng nghysgod covid fel yr amlygwyd yn yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Hughes, ar waetha’r heriau hyn, ei fod yn falch o weld bod yr ymrwymiad i ddiogelu yn dal yn gadarn.

 

§  Ychwanegoddyr Arweinydd fod hwn yn adroddiad pwysig, a nodwyd yr heriau o sicrhau bod yr holl staff a’r gwirfoddolwyr yn cyrchu ac yn defnyddio’r hyfforddiant, ynghyd â’r angen i ddangos ymrwymiad cadarn wrth arwain yr awdurdod.

 

Penderfyniad

 

Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad Diogelu Blynyddol (Interim) gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.

 

 

Dogfennau ategol: