Agenda item

Pwysau allanol NCC - Costau Byw

Cofnodion:

Rhoddoddyr adroddiad hwn gyfoesiad i aelodau am y prif bwysau allanol sy’n wynebu’r cyngor, busnesau, trigolion a chymunedau dros y mis a aeth heibio.

 

Parhau a wnaeth yr argyfwng costau byw, gyda Banc Lloegr yn cyhoeddi codiad mewn cyfraddau llog ar ddiwedd Mai, a’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol yn adrodd am gynnydd cyson ym mhrisiau bwyd a diodydd di-alcohol ym mis Ebrill.

 

Yng Nghasnewydd, yr oedd pwysau trwm ar dai a gwasanaethau digartrefedd yn y ddinas, a achoswyd gan amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys effaith yr argyfwng costau byw ar gyllid aelwydydd, rhenti uchel yn y sector rhentu preifat, a heriau wrth ddatblygu prosiectau tai newydd.

 

Yroedd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Casnewydd yn Un yn parhau i eirioli dros weithio mewn partneriaeth fel elfen hanfodol o gefnogi trigolion a busnesau.

 

Yroedd yr Arweinydd yn falch o groesawu busnesau i Gasnewydd yn ddiweddar iawn fel rhan o’r rhaglen gwneud lle, i ystyried rhai o’r heriau a wynebir.

 

Yroedd yr adroddiad yn gyfle arall i gydweithwyr yn y Cabinet i annog trigolion a allai fod yn wynebu trafferthion i gysylltu â’r cyngor am wybodaeth a chyfeirio at y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae modd gwneud hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu trwy fynd at y tudalennau cyngor a chefnogaeth ar wefan y Cyngor.

 

Yroedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sut yr oedd swyddogion a phartneriaid yn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau i hwyluso a hyrwyddo cefnogaeth leol a chenedlaethol.

 

Mae swyddogion yn dal i weithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i hyrwyddo gwybodaeth gywir i deuluoedd ac unigolion, gan gynnwys ymwybyddiaeth o becyn cymorth Costau Byw i Randdeiliaid.

 

Yn dilyn y digwyddiad Costau Byw yn y Riverfront, mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i drafod sut y gellir cynnal y rhain mewn mannau eraill ledled y ddinas, ac y mae cyfeiriad e-bost unswydd i drigolion anfon ymholiadau a chael eu cyfeirio at y mudiad gorau i’w cefnogi. 

 

Yn ychwanegol, cadarnhawyd Cyllid Lluosog trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi trigolion i wella lefelau rhifedd, gan ganolbwyntio ar gynhwysiant ariannol.

 

Mae’rCyngor hefyd yn recriwtio tîm penodol yn y gwasanaeth tai i helpu i atal digartrefedd a sicrhau fod gan bobl y sgiliau a’r gwytnwch ariannol i symud ymaith o ddigartrefedd yn y tymor hir.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Harvey ei bod wedi bod mewn cyfarfod cynllunio strategol yn gynharach y diwrnod hwnnw am ddigartrefedd a’r argyfwng costau byw ac yr oedd am ddiolch i’r staff  am eu gwaith caled. Diolchodd y Cynghorydd Harvey hefyd i’r Arweinydd am ei chefnogaeth.

 

§  Diolchoddyr Arweinydd i’r Cynghorydd Harvey am ei gwaith i fwrw ymlaen â’r agenda hon yn yr awdurdod.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Marshall i’r cysylltwyr cymunedol a’r staff yn y cyngor a allai helpu’r sawl oedd â phryderon am y dyfodol. Ychwanegodd y Cynghorydd Marshall y dylai’r rhai oedd yn profi anhawster geisio cefnogaeth a chyfarwyddyd y Cyngor, a pheidio â bod ofn estyn allan at staff y cyngor am gefnogaeth a gwybodaeth.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Clarke at y cynnydd mewn cyfraddau morgais a data o Fanc Lloegr, oedd yn awgrymu fod perchenogion tai wedi gweld cynnydd ar gyfartaledd o £500 dros y 12 mis diwethaf i’w biliau misol, a bod cynnydd hefyd yn y defnydd o fanciau bwyd. Adleisiodd y Cynghorydd Clarke sylwadau ei gydweithwyr, gan ddweud y dylai’r sawl sydd yn cael trafferth ymdopi gysylltu â’r Cyngor am gefnogaeth.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Hughes fod Peter Hill yn ymddeol fel rheolwr Raven House a chydnabu ei waith fel gwirfoddolwr, yna fel rheolwr. Dywedodd y Cynghorydd Hughes mai Ymddiriedolaeth Raven House yw un o’r elusennau bwyd mwyaf yng Nghasnewydd, a bod hyn yn enghraifft o sut y gallai gwirfoddoli arwain at waith gyda lefel uchel o foddhad personol. Dymunodd y Cynghorydd Hughes y gorau i Peter yn ei ymddeoliad, a dymuno’r gorau oll i’w olynydd yn y gwaith pwysig.

 

Penderfyniad

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgaredd y Cyngor i ymateb i’r ffactorau allanol ar gymunedau, busnesau a gwasanaethau cyngor Casnewydd.

Dogfennau ategol: