Agenda item

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd a'r Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid Hinsawdd.

Cwestiynau:

Canmolodd y Pwyllgor yr adroddiad gan ofyn beth oedd y ffigwr go iawn ar gyfer pwyntiau gwefru yng Nghasnewydd.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd fod gwefan cyfrannu torfol yn ogystal â gwefan gan y llywodraeth a oedd yn tracio’r wybodaeth hon ond efallai bod anghysondebau rhwng y rheini.

·       Dwedodd Rheolwr y Gwasanaeth wrth y Pwyllgor fod y Cyngor hefyd yn cadw golwg drwy gyfrwng eu gwefan nhw.

Holodd y Pwyllgor ynghylch y wybodaeth yn yr adroddiad a amlygodd rentu ceir trydan fesul awr.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd nad yw hyn wedi cael sylw fel nod penodol o'r strategaeth ond i ystyried hyfywedd clybiau ceir trydan.

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Swyddogion yn gwneud unrhyw beth i gael ateb pendant ar nifer y pwyntiau gwefru yng Nghasnewydd.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd y gellir cymryd hwn fel cam gweithredu.

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd dyletswydd statudol i ddarparu pwyntiau gwefru trydan.

·       Dwedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd wrth y Pwyllgor nad oes gofyniad statudol.

Gofynnodd y Pwyllgor a oes dyletswydd ar gwmnïau preifat i ddarparu pwyntiau gwefru trydan.

·       Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd fod cyfanswm nifer y pwyntiau gwefru hefyd yn cynnwys pwyntiau preifat a oedd wedi'u gosod a nododd fod y cwmnïau preifat yn gweithio gyda siopau manwerthu.

·       Dwedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd hefyd nad yw'r sector preifat wedi teimlo'r angen i symud i mewn i'r parth cyhoeddus, yn enwedig gyda chodi tâl ar y stryd.

Holodd y Pwyllgor ynghylch y broses lle mae trigolion yn gofyn am bwynt gwefru trydan ar eu stryd.

·       Dwedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn cadw cofnod o unrhyw un ofynnodd am bwynt gwefru ac yn defnyddio'r wybodaeth honno i weld lle mae'r galw.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd nad ydynt yn delio ag eiddo penodol ac amlygodd na all preswylwyr osod eu gwefrydd eu hunain y tu allan i'w heiddo pe byddai wedyn yn disgyn ar ffordd gyhoeddus neu briffordd.

Gofynnodd y Pwyllgor pa integreiddiad oedd wedi digwydd rhwng pwyntiau gwefru trydan a'r diwydiant trydan.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd y cysylltir â'r grid lleol gyda phob pwynt gwefru a gaiff ei osod, er mwyn gweld a yw'r lleoliad yn ddichonadwy neu a oes rhaid iddo fod yn wefru arafach er mwyn peidio ag achosi unrhyw broblemau.

Holodd y Pwyllgor sut fydd Swyddogion yn sicrhau y byddai'r ymgynghoriad yn cyrraedd cynulleidfa eang yn ogystal â'r metrigau ar gyfer mesur pa mor llwyddiannus y bydd.

·       Nododd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid fod amrywiaeth o fforymau yn cael eu defnyddio i ledaenu cyrhaeddiad yr ymgynghoriad fel cyfryngau cymdeithasol, trwy'r Wi-Fi bws am ddim. Yna byddai'r adborth o unrhyw arolygon ymgynghori llwyddiannus yn cael ei ddadansoddi.

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw fesurau i gynyddu'r defnydd o gerbydau trydan ymhlith gyrwyr tacsi.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd fod astudiaethau wedi'u cynnal gan Gyngor Caerdydd, yn ogystal â thynnu sylw at waith ar wahân y bydd angen ei wneud i gefnogi tacsis allyriadau isel.

Gofynnodd y Pwyllgor sut fyddai trigolion yn cael eu hannog i brynu cerbydau trydan a sut fyddai manteision cerbydau trydan yn cael eu hamlygu.

·       Dwedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd mai'r nod yw gwneud seilwaith yn yr ardal yn fwy dichonadwy a rhoi gwybod i'r cyhoedd am hyn er mwyn tynnu sylw at y manteision.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd ymhellach ei bod ar hyn o bryd yn rhatach rhedeg cerbydau trydan na rhai petrol neu disel.

Gofynnodd y Pwyllgor am well eglurhad ar enwau gwahanol fathau o bwyntiau gwefru.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd y gellir ychwanegu hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol.

Gofynnodd y Pwyllgor o le mae'r 90,000 o geir trydan erbyn 2040 yn dod.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd fod y rhain yn seiliedig ar ffigurau'r Adran Drafnidiaeth, gyda'r data ar geir trydan yn seiliedig ar ymchwil genedlaethol sydd wedi ei seilio ar y niferoedd a ragwelir.

Gofynnodd y Pwyllgor faint o gerbydau sydd yng Nghasnewydd.

·       Roedd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd yn ansicr o unrhyw nifer o gerbydau nad oeddent yn benodol yn geir.

Sylwadau ac Argymhellion:

Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth ynghylch a oedd ansawdd aer yn gwella drwy'r cynnydd mewn cerbydau trydan.

Gofynnodd y Pwyllgor am ateb pendant ar nifer y pwyntiau gwefru yng Nghasnewydd.

Teimlai'r Pwyllgor y byddai'n fuddiol i faterion a godwyd mewn adroddiadau gael eu hamlygu yn adroddiad y flwyddyn ganlynol i roi adborth ar gynnydd a phenderfyniadau. 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r adroddiad. 

 

Dogfennau ategol: