Agenda item

Alldro Cyllideb Refeniw 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar yr agenda, oedd yn esbonio alldro’r Cyngor am gyllideb refeniw 2022/23 a’r materion allweddol oedd yn codi.

 

Yn erbyn cyllideb net o £343miliwn, cynhyrchodd alldro refeniw 2022/23 danwariant net, wedi trosglwyddiadau a gynlluniwyd yn ôl ac ymlaen o’r cronfeydd wrth gefn o £5.1m, sef amrywiad o 1.5% yn erbyn y gyllideb.

 

Yr oedd y sefyllfa derfynol hon yn welliant ar y sefyllfa yr adroddwyd arni yn flaenorol i’r Cabinet, yn bennaf oherwydd cyllid grantiau a ddaeth yn hwyr, incwm ychwanegol, a gostyngiad bychan mewn galw yn rhai meysydd.

 

Esboniodd yr Arweinydd, yn 2022/23, fod y tanwariant o £5.1m wedi ei achosi gan y canlynol:

 

(i)               Tanwariantyn erbyn cyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth, yn benodol y gyllideb gyffredinol ac wrth gefn ar gyfer covid. Cynyddwyd y cyllidebau wrth gefn dros dro yn 2022/23 yn dilyn Covid, ac nid oedd angen cydbwyso’r gyllideb eleni.

 

(ii)              Derbynmwy o log oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau llog, balansau buddsoddi uwch na’r disgwyl a mwy o arbedion ar y llog taladwy oherwydd oedi cyn gorfod benthyca, a achoswyd gan lithriad yn y rhaglen gyfalaf. Hefyd bu tanwariant ar y cynllun gostyngiadau Treth Cyngor.

 

(iii)             Er hynny, gwrthweithiwyd y tanwariannau hyn gan orwariant mewn meysydd gwasanaeth oherwydd mwy o alw a chostau cynyddol yn sgil pwysau chwyddiant. Lleoliadau brys yn y Gwasanaethau Plant a’r galw am lety dros dro mewn tai a Chymunedau oedd y ddau faes lle bu’r galw drymaf. Yr oedd y dyfarniad tâl uwch na’r disgwyl i staff y Cydgyngor Cenedlaethol (CGC) ledled y cyngor hefyd wedi cyfrannu llawer at y sefyllfa hon.

 

Mae esboniadau manwl o’r gorwariant a’r tanwariant yn erbyn cyllidebau yn adran 2 yr adroddiad.

 

Er bod yr alldro yn gyffredinol yn gadarnhaol o ran cyllid y Cyngor, yr oedd materion penodol oedd â’r potensial i gael effaith am y flwyddyn i ddod. Ymdriniwyd â nifer o’r materion hyn fel rhan o broses gosod cyllideb 2023/24, er y gallai rhai ddal i gael effaith yn ystod y flwyddyn. Esboniwyd y risgiau hyn yn adran 4 yr adroddiad ac y maent yn dal i gael eu monitro gan y Tîm Gweithredol.

 

Oherwydd bod amrywiadau yng nghyllidebau ysgolion yn cael eu rheoli trwy falansau ysgolion unigol, nid oedd y tanwariant cyffredinol o £5.1m yn cynnwys sefyllfa’r ysgolion. Yn 2022/23, gorwariodd ysgolion gyda’i gilydd o £1.3m, a gostyngodd balansau ysgolion o £15.7m i £14.4m fel ar 31 Mawrth 2023.

 

Yngngoleuni’r lefel sylweddol o arbedion y mae’n rhaid i ysgolion wneud yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24, mae swyddogion yn dal i fonitro balansau ysgolion yn agos dros y tymor canol fel rhan o strategaeth y Cyngor i osgoi ac atal diffyg.

 

Felrhan o’r cyfarfod hwn, gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo’r defnydd o’r tanwariant hwn.

 

Cynsymud ymlaen i ystyried, gwahoddodd yr Arweinydd gydweithwyr i wneud sylwadau cyffredinol am yr adroddiad.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Davies i’r ysgolion am eu gwaith caled yn gosod cyllideb gytbwys yn ystod yr amseroedd hynod heriol hyn. Dywedodd y Cynghorydd Davies fod staff ysgolion yn gweithio’n agos gyda swyddogion cyllid i sicrhau fod cyllidebau cytbwys yn cael eu gosod, ac y maent yn benderfynol o wario’u cyllidebau yn ddoeth ac yn ofalus.

 

§  Ychwanegodd y Cynghorydd Batrouni, er bod croeso i’r tanwariant, fod y Cyngor yn dal i wynebu heriau at y dyfodol. Yr oedd cyfraddau llog, pwysau ar wasanaethau’r cyngor ac aelwydydd yn golygu mwy o bwysau ar y Cyngor yn y man. Yr oedd yn ystyried nad oedd y pwysau gorwario ar dai, gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymdeithasol a lleoliadau allsirol yn debyg o leihau. Rhannodd y Cynghorydd Batrouni y rhagolygon ledled Cymru o ddiffyg o rhwng £300 a £400 miliwn, ac y dylai’r Cyngor ystyried hyn.

 

Er bod cyllid unwaith-am-byth yn hynod ddefnyddiol eleni ac yn y blynyddoedd i ddod, er mwyn cefnogi’r Cyngor i gyflwyno ei flaenoriaethau corfforaethol, dylai’r Cabinet, fel y soniodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol, fod heriau yn parhau.

 

Dywedadran 5 yr adroddiad sut y bwriedir defnyddio’r £5.1m:

 

?       £947k i gefnogi cyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys darparu cludiant i ddisgyblion ysgolion cynradd St Andrews a Millbrook ac ymyriadau gorfodi tai gwag, cymorth ariannol, ac adennill dyledion,

 

?       £1.9m i reoli risgiau gweithredol yng nghyd-destun llai o argyfyngau a phwysau ar y gyllideb, a

     

?       Dyrannu’rbalans gweddilliol o £2.17m i’r arian cyfalaf wrth gefn i hybu lefel gyffredinol yr arian cyfalaf rhydd, a thrwy wneud hynny roi mwy o allu i gefnogi sawl prosiect unigol yng nghyswllt y rhaglen gyfalaf.

 

?       Bydd y Cabinet yn rhoi manylion am y prosiectau yn y man, ond mae ymrwymiad i sicrhau y bydd o leiaf hanner hyn yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer yr adran briffyrdd i ymdrin â’r meysydd mwyaf problemus, sef tyllau yn y ffordd a materion eraill.

 

O ystyried yr amgylchedd allanol fel y mae, yr oedd yr Arweinydd hefyd am i’r Cabinet gymeradwyo symud cyfran o’r arian hwnnw i bartneriaid y trydydd sector er mwyn lliniaru newyn adeg y gwyliau am chwe wythnos ar draws Casnewydd, hyd nes y pennir y ffigwr terfynol.

 

Byddaicyfanswm balans yr arian wrth gefn ar 31 Mawrth 2023, yn dilyn y trosglwyddiadau a osodir allan yn yr adroddiad, yn gostwng i £138.9m o’r balans o £151.9m flwyddyn yn ôl. Crynhoir y symudiadau arwyddocaol yn adran 5 yr adroddiad.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Harvey fod newyn adeg y gwyliau yn real iawn, a bod 95% o deuluoedd mewn tlodi er eu bod yn gweithio, a bod hyn yn debyg o waethygu, felly yr oedd yr Aelod Cabinet dros Gymuned a Lles yn llawn gefnogi’r cyllido.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Davies hefyd yn cefnogi’r cynnig. Arferai teuluoedd yng Nghasnewydd dderbyn talebau gwyliau ysgol, ac yr oedd plant wedi dod i ddibynnu ar brydau ysgol am ddim, ac yr oedd teuluoedd fell yn trefnu eu harian yn ôl hynny. Nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn gallu darparu’r talebau hyn, ond yr oedd yn dal yn flaenoriaeth, felly ystyriai’r Aelod Cabinet dros Addysg yn tybio ei bod yn newyddion gwych fod y Cyngor yn cefnogi’r teuluoedd hyn yn ystod gwyliau’r ysgol.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

 

1.       Nosi’rsefyllfa alldro, fyddai’n cael ei harchwilio, a’r amrywiadau mwyaf am y flwyddyn (adrannau 1-3);

2.       Cymeradwyodefnyddio’r tanwariant ac arian arall wrth gefn a drosglwyddwyd, fel sydd wedi ei osod allan yn adran 5 yr adroddiad, gan nodi lefel arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor a’r hyn a glustnodwyd;

3.       Nodi sefyllfa alldro’r ysgolion a sefyllfa arian wrth gefn ysgolion yn unigol a chyffredinol (adran 3).

 

Dogfennau ategol: