Agenda item

Alldro Cyfalaf ac Ychwanegiadau 2022/23

Cofnodion:

Yr adroddiad nesaf a gyflwynodd yr Arweinydd oedd adroddiad alldro y Rhaglen Gyfalaf am 2022/23. Dyma adroddiad terfynol y flwyddyn ar weithgaredd cyfalaf oedd yn rhoi trosolwg o swm terfynol y gwariant cyfalaf a ddaeth i’w rhan yn y flwyddyn, o gymharu â’r gyllideb a ddyrannwyd. Fel rhan o hyn, yr oedd yr adroddiad yn amlinellu lefel y llithriad a’r tanwariant, ac yn rhoi cyfoesiad am lefel yr arian rhydd cyfalaf oedd ar gael.

 

Yn ychwanegol at hyn, yr oedd yr adroddiad yn amlinellu’r ychwanegiadau at y rhaglen a nodwyd, ac yn gofyn i’r Cabinet am yr hawl i’w cynnwys.

 

o   Yr oedd yr adran gyntaf yn amlinellu’r symud yn y gyllideb gyfalaf ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Chwefror.

 

o   Yr oedd cyfanswm gwerth yr ychwanegiadau a’r gwelliannau yn £51m, ond cafodd mwy na hanner hyn ei gymeradwyo’n ffurfiol fel rhan o gytuno ar y Strategaeth Gyfalaf am 2023/24. Felly, yr oedd gwerth yr ychwanegiadau oedd angen eu cymeradwyo, a’r rhan fwyaf ohonynt yn grantiau allanol, yn £18.5m. Mae’r ychwanegiadau hyn yn dod â chyfanswm y gyllideb am  y flwyddyn i £91.8m.

 

o   Mae dadansoddiad pellach o’r ychwanegiadau hyn yn Atodiad A.

 

Yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig, cafwyd cyfanswm gwariant o £61.2m, sef amrywiad o £30.6m.

 

Yr oedd yr amrywiad hwn yn danwariant neu o £47,000 ac, yn fwy arwyddocaol, cyfanswm llithriad o £30.553m. Rhaid oedd cario’r llithriad hwn ymlaen i’r blynyddoedd i ddod er mwyn gallu cwblhau cynlluniau sydd eisoes yn mynd rhagddynt a rhai a gymeradwywyd eisoes.

 

Cynyddoddgwerth cyffredinol y llithriad o £3m ers yr adroddiad diwethaf. A siarad yn gymharol, cynnydd bychan oedd hwn o gymharu â’r hyn a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Yr oedd hyn yn bennaf oherwydd bod nifer o gynlluniau mawr bellach yn mynd rhagddynt, ond hefyd oherwydd ail-broffilio a wnaed yn ystod y misoedd a aeth heibio.

 

Nodwyd, serch hynny, fod lefel gyffredinol y llithriad yn dal yn arwyddocaol, a bod angen rheoli hyn yn gadarn yn y dyfodol.

 

Hefyd, yr oedd angen adolygiad pellach o gyllideb gyfalaf 2023/24, er mwyn gwneud yn si?r ei bod yn adlewyrchu proffil realistig. Ar hyn o bryd, yr oedd y gyllideb bron yn £95m a byddai cyflwyno hyn yn her. Rhaid oedd felly ail-broffilio hyn ar draws gweddill y rhaglen er mwyn cynyddu’r siawns o gyflwyno yn erbyn y gyllideb a lleihau lefel y llithriad yr adroddir amdano yn y blynyddoedd i ddod.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am lefel yr arian cyfalaf rhydd sydd ar gael ar hyn o bryd, y gellid ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau newydd.

 

Mae hwn yn awr yn £9.774m, wedi caniatáu am ddau ymrwymiad blaenorol yn erbyn y cyllid hwn.

 

Yr oedd y rhan fwyaf o’r balans yn cael ei ddal yn y gronfa gwariant cyfalaf wrth gefn, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Chwefror i drosglwyddo gwerth llawn tanwariant  refeniw gweddilliol 2021/22 (£7.9m) i’r gronfa honno wrth gefn. 

 

Er y cynyddwyd yr arian rhydd yn sylweddol yn ddiweddar, yr oedd angen o hyd cadw rheolaeth lem dros y defnydd ohono, fel y byddai ar gael yn unig i’r materion pwysicaf, fel y deuant i’r golwg.

 

Hefyd, byddai angen manteisio ar unrhyw gyfle i gynyddu swm yr arian rhydd, er mwyn cefnogi cymaint o brosiectau ag sydd modd, a sicrhau hefyd bod digon o arian ar gael i ymateb i unrhyw godiadau cost mewn cynlluniau sy’n bod eisoes, yn sgîl cynnydd mewn costau adeiladu.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Batrouni yn croesawu elfen yr arian rhydd yn yr adroddiad, gan adlewyrchu fod cyfraddau llog yn uchel, a chan gofio hyn, mai doeth fyddai cynyddu swm yr arian rhydd er mwyn rhoi lle a hyblygrwydd i’r Cyngor at y dyfodol. Yr oedd yr adroddiad felly i’w groesawu.

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Davies gyda sylwadau ei chydweithwyr am yr arian cyfalaf rhydd, yn ogystal â dangos lefel o fod yn ddarbodus gyda phrosiectau at y dyfodol.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

1.           Cymeradwyo’rychwanegiadau i’r Rhaglen Gyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad (Atodiad A).

2.           Nodi sefyllfa alldro y gwariant cyfalaf am 2022/23.

3.           Cymeradwyollithriad o £30.553m o gyllideb 2022/23 at y blynyddoedd i ddod.

4.           Nodi’radnoddau cyfalaf gweddilliol oedd ar gael (‘arian rhydd’) a chlustnodi’r defnydd o’r adnoddau hynny.

 

Dogfennau ategol: