Agenda item

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg

Cofnodion:

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno’r adroddiad blynyddol oedd yn rhoi manylion am gynnydd y Cyngor i gydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg fel rhan o fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o gynnydd y Cyngor i gwrdd â’r safonau, yn cynnwys gwybodaeth oedd angen ei gyhoeddi yn flynyddol, crynodeb o lwyddiannau allweddol yn ystod y flwyddyn, a meysydd blaenoriaeth am waith at y dyfodol.

 

Er mai adroddiad gan Gyngor Dinas Casnewydd oedd hwn, yr oedd ymwneud, datblygu a chyd-gynhyrchu wrth galon yr holl weithgareddau a’r digwyddiadau. Da iawn pawb.

 

Nododd Aelodau’r uchafbwyntiau o’r flwyddyn, gan gynnwys:

 

o   Y cynnydd sylweddol yng nghyflwyno sesiynau Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg i weithlu’r cyngor, gyda 99 aelod o staff wedi eu hyfforddi.

 

o   Mabwysiadu Cynllun Strategol Addysg Gymraeg (CSAG) 2022-2032 y Cyngor a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

o   Lansio Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg y Cyngor, sy’n dangos ymrwymiad y Cyngor i’r Gymraeg trwy recriwtio a hyfforddi.

 

Mae’r adroddiad hefyd wedi nodi’r blaenoriaethau allweddol am 2023-24, gan gynnwys:

 

o   Adeiladu ar y trefniadau partneriaeth creadigol a ddatblygwyd y tu hwnt i’r sector cyhoeddus a gwirfoddol i godi proffil y Gymraeg ledled Casnewydd, gyda chyfleoedd yn rygbi’r Dreigiau a CPD Casnewydd.

 

o   Datblygu agwedd gydlynus at sgiliau iaith Gymraeg ar draws ein partneriaid Casnewydd yn Un trwy’r Bwrdd Sgiliau Cywir.

 

o   Canolbwyntio fwy fyth ar recriwtio, cadw a datblygu siaradwyr Cymraeg ar draws holl feysydd gwasanaeth y cyngor, a

 

o   Hwyluso a chefnogi digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn ac edrych ar y themâu trawsdorri ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol ac sy’n arwain ar Gydraddoldeb a’r Iaith Cymraeg i roi sylwadau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Batrouni i’r Arweinydd a nodi ei fod, fel yr Aelod Cabinet sy’n arwain ar yr iaith Gymraeg, ei fod yn croesawu’r Adroddiad Monitro blynyddol hwn ar yr Iaith Gymraeg sydd yn adlewyrchu ein llwyddiannau, perfformiad a chydymffurfio â’n dyletswyddau statudol.

 

Mae eleni eto wedi dangos ymrwymiad y cyngor i’r iaith Gymraeg tra’n bod wedi ymaddasu i lacio cyfyngiadau’r pandemig byd-eang a’r galwadau cyson ar ein cyllideb i wneud cynnydd pendant yn erbyn ein hymrwymiadau i’r Gymraeg yn y ddinas. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol  na allai’r Cyngor wneud hyn ar eu pennau eu hunain a bod angen cefnogaeth y gymuned a siaradwyr Cymraeg yn y ddinas i ddod ynghyd, ac na fu modd gwneud hyn yn ystod y pandemig. Dywedodd y Cynghorydd Batrouni mai’r gobaith at y dyfodol oedd gweithio mewn partneriaeth i gynyddu’r math hwn o weithgaredd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Batrouni a manteisiodd ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r Cynghorydd John Harris am gefnogi’r gwaith yn ei rôl fel Pencampwr yr Iaith Gymraeg.  Diolch yn fawr iawn.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Anerchodd y Cynghorydd Hughes ei gydweithwyr yn y Cabinet yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Mwy nag ugain mlynedd yn ôl pan gyrhaeddais i Gasnewydd, roedd bron iawn bopeth i’w ymwneud â’r iaith Gymraeg yn frwydr i fyny’r allt.

 

Erbyn hyn rydym yn gweld nawr ymwybyddiaeth o’r Ddinas yn tyfu – gan Gyngor rhagweithiol sy’n cysylltu â’r gymuned.

 

Mae’n gywir y bydd ein ffocws y flwyddyn nesaf ar bartneriaethau a datblygu staff ein hunain.

 

Mae'r gwaith hwnnw gwaith ein ffrindiau yn y ddinas yn gwneud gwahaniaeth mawr.

 

Ysgolion Cymraeg, bandiau Cymraeg, gwyliau Cymraeg fel Mari Lwyd a gwaith gwych y Fenter a Chapel Seion ac eraill yng nghanol y ddinas.

 

Diolch i’r aelod cabinet a’i swyddogion am eu gwaith i baratoi’r adroddiad a thrwy gydol y flwyddyn am eu gwaith i helpu sicrhau dyfodol llwyddiannus i’r iaith Gymraeg yn ein cyngor.

 

Dros ugain mlynedd yn ôl pan gyrhaeddais i yng Nghasnewydd am y tro cyntaf roedd bron popeth mewn perthynas â'r Gymraeg yn frwydr. 

 

Yr hyn yr ydym yn ei weld nawr yw dinas y mae ei hymwybyddiaeth ar gynnydd a gefnogir gan gyngor sy'n ymgysylltu'n rhagweithiol â'r gymuned.  Mae'n dda y bydd ein ffocws yn y flwyddyn i ddod ar bartneriaethau a datblygu ein staff ein hunain ym mhob un o'n gwasanaethau.

 

Mae'r gwaith a wnawn fel cyngor a chyda'n ffrindiau a'n partneriaid yn cael effaith ar y ddinas.  Rydym wedi gweld ymrwymiad Casnewydd i addysg Gymraeg, a’n tafarndai yn cael bandiau Cymraeg a gwyliau Cymreig fel Mari Lwyd yn dod â'r hen draddodiadau a chaneuon i strydoedd ein dinas. Rwy'n falch fel siaradwr Cymraeg i fod yn rhan o gyngor sy'n cofleidio elfennau cadarnhaol ein hiaith hardd.

 

Diolch i'r Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol, yr Arweinydd a'n swyddogion am eu hymdrechion i lunio'r adroddiad hwn a thrwy gydol y flwyddyn wrth gefnogi'r iaith i dyfu yn ein dinas.

 

§  Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Hughes ac yr oedd wrth ei bodd yn ei glywed yn rhoi ei ymateb yn Gymraeg.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Davies fod y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg wedi ei fabwysiadu llynedd. Yr oedd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar wedi cwrdd yn ddiweddar â Gweinidog Addysg Cymru, a’r hyn oed yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru oedd ein cryfder a’n ffocws strategol yn yr adroddiad; yn benodol o ran datblygu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg ledled Casnewydd. Byddai hyn yn cael ei ddatblygu dros y 10 mlynedd nesaf, ac yr oedd yn gynllun cryf i ymfalchïo ynddo. Nodwyd mai’r blaenoriaethau allweddol yn ysgolion Casnewydd oedd sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o’r dewisiadau o ran addysg Gymraeg, a’u bod yn deall manteision addysg ddwyieithog. Yr oedd yr Aelod Cabinet ei hun wedi gweld rhieni yn cael eu gwahodd i’r ysgol ac yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu, megis helpu gyda gwaith cartref, a hwy eu hunain yn dysgu Cymraeg. Yr oedd yn wych gweld Adroddiad Blynyddol y Gymraeg eleni, ac yr oedd y Cynghorydd Davies yn edrych ymlaen at adroddiad y flwyddyn nesaf, a fyddai’n well fyth.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Marshall ei fod yn adroddiad diddorol, a bod dulliau a chyfleoedd eraill i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Bu mewn digwyddiad yn ddiweddar i blant Hwngaraidd ym Maendy, lle’r oedd cymysgedd o ieithoedd yn cael eu siarad, gan gynnwys y Gymraeg. Dywedodd y Cynghorydd Marshall ei fod wedi sylw cynnydd yn y denfydd o’r iaith Gymraeg gan bobl ifanc yn y ddinas. I fwrw ymlaen gyda’r cynllun i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, teimlai’r Cynghorydd Marshall mai’r ffocws oedd i’r rhai oedd yn siarad Cymraeg mewn cyd-destun ffurfiol hefyd allu siarad yr iaith yn gymdeithasol. Dywedodd y dylai aelodau etholedig ac Aelodau Cabinet sylwi ar yr effeithiau yn eu wardiau eu hunain, a gweld cyfleoedd at y dyfodol.

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Forsey ei fod yn adroddiad diddorol dros ben a bod amrywiaeth o weithgareddau ar gael i gefnogi’r iaith Gymraeg megis canu, coginio a gweithgareddau i’r teulu. Yr oedd yn teimlo mai agwedd bwysig o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg oedd hyrwyddo diwylliant Cymru, a bod nifer o ddolenni i fideos yn yr adroddiad y dylid eu gwylio. Crybwyllodd y Cynghorydd Forsey hefyd ar nifer isel iawn y cwynion am yr iaith Gymraeg; tri yn unig i Gyngor Dinas Casnewydd, a dau at Gomisiynydd y Gymraeg, ac yr oedd yn gadarnhaol iawn gweld camau yn cael eu cymryd a phroblemau’n cael eu datrys. Teimlai fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i hyrwyddo’r Gymraeg, fel gyda Casnewydd Fyw oedd yn darparu cardiau fflach yn y Gymraeg i’w staff.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad monitro blynyddol, ac yn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn unol â’r terfynau amser statudol.

 

Dogfennau ategol: