Agenda item

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Ch4)

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd gyfoesiad am GofrestrRisg Gorfforaethol y

Cyngorar gyfer diwedd Chwarter 4 (1 Ionawr 2023 hyd at 31 Mawrth 2023).

 

Gofynnwydi Aelodau’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn a monitro’r risgiau hyn yn y GofrestrRisg Gorfforaethol.

 

Mae Polisi Rheoli Risg y Cyngor a’r GofrestrRisg Gorfforaetholyn galluogi’r weinyddiaeth a swyddogion i nodi, rheoli a monitro yn effeithiol risgiau a allai atal y Cyngor rhag cyflawni blaenoriaethau strategol a chynnal dyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Bydd yr adroddiadrisgChwarter 4 hefyd yn cael ei gyflwyno i  Bwyllgor y Cyngor yn nes ymlaen y mis hwn i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’r trefniadau llywodraethiant.

 

Arderfyn Chwarter 4, cofnododd Cyngor Dinas Casnewydd 45 o risgiau ar draws unarddeg maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Anfonwyd y risgiau hynny y tybiwyd oedd yn rhoi’r risg mwyaf i gyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor at y Gofrestr Risg Gorfforaethol i’w monitro. 

 

Arderfyn Chwarter 3, cofnodwyd 14 risg ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

·        8 Risg Ddifrifol (15 i 25).

·        6 Risg Fawr (7 i 14).

 

O gymharu â Chwarter 3, yr oedd un risg, DileuElw o Ofal Cymdeithasol oedd wedi ei hanfon i fyny o’r Gwasanaethau Plant:

 

o    Yr oedd y Cyngor yn cychwyn ar raglen arwyddocaol o waith i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru o ddileu elw o ofal cymdeithasol plant. 

 

o    Mewnymateb, gwelodd y Cyngor ddarparwyr yn tynnu’n ôl o’r farchnad, oedd yn golygu bod y Cyngor yn gorfod gwneud lleoliadau gyda chwmnïau oedd yngweithredu heb drwyddedoedd yn drosedd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

o    Yr oedd y Cyngor yn llawn ymwybodol o’r risg ac yn cytuno mai risg gorfforaethol ydoedd. Yr oedd y Cyngor yn gweithio’n galed iawn gyda darparwyr, Arolygiaeth Gofal Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod plant yn derbyn gofal gan y darparwyr gorau ar gyfer eu hanghenion. 

 

Cafodd un risg, Clefyd Marwolaeth yr Ynn hefyd ei thynnu o’r GofrestrRisg Gorfforaetholi fynd ar y gofrestr risg Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd ar derfyn Chwarter 4.

 

o    Yn dilyn nodi ac asesu Clefyd Marwolaeth yr Ynn ar draws Casnewydd, gweithredodd y Cyngor ar unwaith i dorri coed oedd â Chlefyd Marwolaeth yr Ynn o ardaloedd risg uchel.

 

o    Defnyddiwydcyllid a neilltuwyd gan y Cyngor hefyd i blannu coed o’r newydd, gan sicrhau yr atebwyd ac y gwellwyd yr ymrwymiad ecolegol y Cyngor i amddiffyn a gwella amgylchedd Casnewydd.

 

o    Byddai’rmaes gwasanaeth yn dal i fonitro ac adrodd yn erbyn y risg hon ac yn gweithio i symud coed a heintiwyd a chyda’r rhaglen o blannu coed o’r newydd.

 

Dangosodd yr adroddiad risg hefyd fod dwy risg yng nghyswllt sefydlogrwydd darparwyr gwasanaethau cymdeithasol a phwysau ar wasanaethau oedolion wedi gwella ers Chwarter 3. 

 

o    Gostyngodd y ddwy sgôr risg o 25 i 20 ar ddiwedd Chwarter 4.

 

o    Bu gwelliannau i sefydlogrwydd darparwyr Gwasanaethau Cymdeithasol gyda gwasanaethau oedolion yn llif y pecynnau gofal. 

 

o    Er hynny, yr oedd gwasanaethau darparwyr yn dal mewn sefyllfa ansicr, a bydd y Cyngor yn dal i gadw llygad ar y sefyllfa yn 2023/24.

 

o    Gwellahefyd wnaeth y pwysau ar wasanaethau oedolion yn dilyn recriwtio i swyddi allweddol yn y gwasanaeth. Yr oedd yn bwysig parhau i gefnogi gweithwyr cymdeithasol a swyddogion yn y gwasanaethau cymdeithasol wrth iddynt chwarae rôl hanfodol o ran diogelu’r trigolion a’r gofalwyr mwyaf bregus yng Nghasnewydd.

 

Adroddwyd bod i’r 12 risg oedd weddill yr un sgôr risg ag yn chwarter tri.

 

I gloi, gofynnwyd i’r Cabinet gytuno ar gynnwys y GofrestrRisg Gorfforaethol (Chwarter 4), i barhau i fonitro’r risgiau hyn a’r camau sy’n cael eu cymryd i ymdrin â’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Tynnodd y Cynghorydd Marshall sylw at yr anawsterau a gaed yn y Gwasanaethau Plant, oedd yn amgylchedd heriol. Yr oedd y rheolwyr yn rhoi’r gofal gorau bosib i blant, a chan gadw hynny mewn cof, yr oedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant) eisiau diolch i’r staff am eu holl waith yn cefnogi plant.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y ffaith fod cyllidebau ysgolion yn y safle oren, a’r cynnydd mewn risg o ran cyllidebau. Pwysleisiodd mai cyfrifoldeb allweddol pawb oedd cefnogi ysgolion yn eu penderfyniadau ariannol. Aeth ymlaen i ddweud fod y galw am gefnogaeth ADY ac AA yn dal yn ganolbwynt, oherwydd bod y galw’n cynyddu Teimlai’r  Cynghorydd Davies fod yr anghenion hyn yn cael eu trin, a rhoes enghraifft yr ehangu diweddar fu yn Ysgol Bryn Derw, a sefydlwyd yn unswydd i blant ag ASA. Sylwodd hefyd ar y ddarpariaeth ADY newydd fyddai’n cael ei agor toc yn Ysgol Llanwern yn yr hydref. Rhoddwyd sicrwydd i’r Cynghorydd Davies y byddid yn ymdrin â’r materion hyn, ond bod lleoliadau y tu allan i’r ysgol yn dal yn bryder. Yn gyffredinol, byddai’r risgiau hyn yn cael eu monitro’n gyson.

 

§  Adleisiodd y Cynghorydd Harvey sylwadau’r Cynghorydd Marshall o ran gwaith caled y staff. O ran lleoliadau allsirol, yr oedd hyn allan o ddwylo’r Cyngor, gan mai barnwr mewn llys fyddai’n gwneud y penderfyniad.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Hughes hefyd fod y pwysau yr oedd y timau danynt yn bennaf yn rhai allanol.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys cyfoesiad chwarter pedwar ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Dogfennau ategol: