Agenda item

Pwysau allanol NCC - Costau Byw

Cofnodion:

Yr adroddiad olaf ar yr agenda a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd yr adroddiad misol oedd yn rhoi i’r aelodau y cyfoesiad am y prif bwysau allanol oedd yn wynebu’r cyngor, busnesau, trigolion a chymunedau.

 

Yr argyfwng costau byw oedd un o’r prif feysydd pryder o hyd i drigolion, busnesau a gwasanaethau. Am yr ail fis yn olynol, yr oedd cyfradd chwyddiant y DU ym Mai yn 8.7% , gyda phrisiau bwyd a diodydd di-alcohol yn codi rhwng Ebrill a Mai.

 

Yr oedd dolen yn yr adroddiad i arolwg Cyngor ar Bopeth a ganfu fod cymaint â miliwn o bobl wedi cael eu band llydan wedi ei dorri ymaith llynedd, wrth i’r argyfwng costau byw olygu nad oeddent yn gallu fforddio cyrchu’r rhyngrwyd. Yr oedd effaith hyn yn arwyddocaol o ran cyrchu’r gefnogaeth mae ar deuluoedd ei angen.

 

Yr oedd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Casnewydd yn Un yn parhau i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth fel elfen hanfodol i gefnogi trigolion a busnesau, ac anogodd yr Arweinydd i drigolion oedd yn cael anawsterau i gysylltu â’r cyngor am wybodaeth am y gefnogaeth oedd ar gael, naill ai yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ymweld â thudalennau’r wefan.

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y modd yr oedd swyddogion yn y cyngor a’r asiantaethau oedd yn bartneriaid yn dal i gydweithio i gydgordio a rhoi cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i’r trigolion.

 

Yr oedd digwyddiadau costau byw yn cael eu cynnal ledled y ddinas i roi cyfle i’r trigolion gael help, cefnogaeth, a chyngor am ddim ar reoli dyledion a chael y mwyaf o’u hincwm.

 

O Fedi 2023 ymlaen, byddai ysgolion Casnewydd wedi gweithredu cynllun Llywodraeth Cymru o gael prydau ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghyfnod Allweddol 2, sy’n golygu y bydd pob disgybl cynradd yn elwa o’r fenter hon.

 

Felrhan o ymrwymiad y Cyngor i’r cymunedau Wcrainaidd, a’r bwriad i gau’r cynllun uwch-noddwyr, yr oedd swyddogion yn canolbwyntio ar ddatblygu mentrau tai i gwrdd â’r galw. Anogwyd cydweithwyr yn y Cabinet i hyrwyddo’r cynllun i drigolion ledled Casnewydd ddod ymlaen i fod ynwestywyr’.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Harvey fod yr argyfwng costau byw yn erchyll, ac yr oedd yn pryderu fod pobl yn troi at fenthyciadau diwrnod tâl a chardiau credyd, pan fo mathau eraill o help ar gael. Anogodd bobl i ddod i gysylltiad â’u cynghorydd lleol, a thynnodd sylw at y digwyddiadau cymunedol a gynhelir gan y Cyngor i helpu teuluoedd. Gallai teuluoedd hefyd ofyn am barseli bwyd fel cefnogaeth ychwanegol. Anogodd y Cynghorydd Harvey drigolion i beidio â chwympo i fagl dyled ychwanegol, ond i gysylltu â’r cyngor a alli ddweud wrthynt pa gefnogaeth sydd ar gael.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Marshall mai peth cadarnhaol oedd gweld nifer o ddigwyddiadau yng Nghasnewydd, o gefnogaeth i ofalwyr, i ddigwyddiad yn Tesco, Heol Caerdydd. Dywedodd hefyd fod caffi cysylltwyr cymunedol ar gael yn y Riverfront, lle gallai gofalwyr gael help a chyngor, a bod hyn yn mynd ymhell i helpu pobl i fod yn annibynnol.

 

§  Canolbwyntiodd y Cynghorydd Davies ar flaenoriaeth Casnewydd mewn addysg o fynd i’r afael â phob agwedd o dlodi. Yr oedd prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ym mhob ysgol ar ddechrau Tymor yr Hydref. Yr oedd y Cyngor yn gwneud yn well na disgwyliadau Llywodraeth Cymru, ac yr oedd y Cynghorydd Davies am ddiolch i’r swyddogion oedd yn gweithio mor galed i sicrhau y byddai hyn yn digwydd. Dywedodd fod nifer y plant oedd angen prydau ysgol am ddim yn y Cyfnod Sylfaen wedi cynyddu’n sylweddol, ac aeth ymlaen i ddweud fod y Cyngor yn cefnogi plant trwy ddatblygu strategaeth i daclo tlodi, oedd yn mynd rhagddo ac a fyddai’n parhau i ddatblygu dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’r cynllun gwasanaeth. Dywedodd y Cynghorydd Davies fod athrawon wedi croesawu’r lefel hon o ymrwymiad a chefnogaeth, a bod hyn yn cael ei gefnogi hefyd gan Plant yng Nghymru. Datblygwyd partneriaeth yn ddiweddar gyda Banc Lloegr, i ddwyn ymwybyddiaeth ariannol i mewn i’r cwricwlwm, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid ariannol eraill yn y dyfodol. Byddai llythyr newyddion yn cael ei ddosbarthu i Benaethiaid a Llywodraethwyr i godi ymwybyddiaeth o’r blaenoriaethau allweddol o ran taclo tlodi.

 

§  Ychwanegodd y Cynghorydd Batrouni mai gwych o beth oedd clywed am holl ymdrechion anhygoel cydweithwyr yn y Cabinet a’r Cyngor, a gobeithiai y byddai’r pwysau a wynebai’r Cyngor a thrigolion yn cael eu trin fel mater o flaenoriaeth.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ar weithgareddau’r Cyngor i ymateb i ffactorau allanol ar gymunedau, busnesau a gwasanaethau cyngor Casnewydd.

 

Dogfennau ategol: